YSGOL
ABERSOCH
Cyflwynwyd gan:Cyng / Cllr Paul Rowlinson
Penderfyniad:
Penderfynwyd
na ddylid addasu penderfyniad gwreiddiol
y Cabinet a wnaethpwyd ar y 15 Medi 2020 i gynnal ymgynghoriad statudol
ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch yn unol â gofynion adran 48 o
Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig arfaethedig i
gau Ysgol Abersoch ar 31 Awst 2021 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Medi 2021 ymlaena mabwysiadu hyn fel
penderfyniad terfynol.
Cofnod:
YSGOL ABERSOCH
Cyflwynwyd gan
Cyng. Paul Rowlinson
PENDERFYNIAD
Penderfynwyd
na ddylid addasu penderfyniad gwreiddiol
y Cabinet a wnaethpwyd ar y 15 Medi 2020 i gynnal ymgynghoriad statudol
ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch yn unol â gofynion adran 48 o
Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig arfaethedig i
gau Ysgol Abersoch ar 31 Awst 2021 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol
Sarn Bach o 1 Medi 2021 ymlaena
mabwysiadu hyn fel penderfyniad terfynol
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad yn gan nodi fod yr
eitem yn dod yn ôl i’r Cabinet yn dilyn penderfyniad gan aelodau Pwyllgor
Craffu Addysg ac Economi i alw mewn y penderfyniad a wnaethpwyd i gynnal
ymgynghoriad statudol ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch. Rhoddodd Gadeirydd y Pwyllgor Craffu’r rhesymeg a’r
cefndir y tu ôl i benderfyniadau’r Pwyllgor Craffu ynghyd a manylion y
bleidlais yn y pwyllgor.
Ychwanegodd yr Aelod Lleol
o ganlyniad i’r pandeimig nad yw’r cyfnod sydd i ddod yn gwbl glir o ran
cyfyngiadau pellach. O ganlyniad i nododd na fydd cyfle i bawb yn y gymdeithas
fod yn rhan o’r ymgynghoriad. Pwysleisiwyd y buasai cau’r ysgol yn golygu colli adnodd yn y gymuned ac yn risg i
addysg plant, yr iaith a diwylliant yr ardal. Nododd fod cynnal yr ymgynghoriad
yn anghyfiawn ac annheg. Gofynnwyd i’r Cabinet i ohirio’r ymgynghoriad am
flwyddyn fel bod modd gobeithio i drafod mewn cyfarfodydd wyneb i wyneb. Holwyd
os oedd yn deg parhau oherwydd sefyllfa gyda’r Pennaeth o’r ysgol ar hyn o bryd
ac yn amhosib i Lywodraethwyr roi arweiniad.
Diolchodd yr Aelod Cabinet
i’r Aelod Lleol am roi’r sefyllfa bresennol. Mynegodd fod yr adran wedi bod yn
gwbl barchus am sefyllfa’r Pennaeth gan nodi fod y trafodaethau wedi ei ohirio
unwaith yn barod. Ychwanegwyd o fewn y Ddeddf nad oes rôl statudol i
Benaethiaid o fewn yr ymgynghoriad.
Amlygodd y Swyddog Addysg y
broses gan nodi fod trafodaethau anffurfiol wedi ei gynnal a bellach yn symud
ymlaen i’r ymgynghoriad statudol. Mynegwyd y bydd sesiynau yn cael eu cynnal yn
rhithiol, ond bydd sesiynau yn cael ei gynnig, os galw yn codi dros y ffon i
ofyn unrhyw gwestiynau. Pwysleisiwyd y bydd angen i unrhyw ymatebiad i’r
ymgynghoriad ei gyflwyno yn ysgrifenedig.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
¾ Cydymdeimlwyd gyda’r pryderon o wneud ymgynghoriad yn ystod y cyfnod
sydd ohoni. Holwyd os oes unrhyw oblygiadau i ohirio’r ymgynghoriad. Nodwyd
mai’r prif oblygiadau oedd i addysg y plant. Mynegwyd fod lefel o ansicrwydd o
ran y pandemig gan nod oes pendraw ar hyn o bryd.
Ychwanegwyd fod gweithdrefnau yn ei lle ar gyfer eu cynnal yn rhithiol.
¾ Pwysleisiwyd mai addysg y plant yw’r elfen bwysicaf wrth edrych ar y
sefyllfa gan bwysleisio mai’r Egwyddorion Addysg sydd yn gyrru’r gwaith.
¾ Amlygwyd fod y penderfyniad i gau’r ysgol heb ei wneud eto ac mai
penderfyniad i fynd i ymgynghoriad sydd wedi ei wneud. Tanlinellwyd tra’n deall
dymuniad bobl i gael cyfarfodydd wyneb yn wyneb i drafod byddai angen i unrhyw
ymateb i’r ymgynghoriad fod yn ysgrifenedig.
¾ Holwyd os yw’r adran yn gwbl sicr y bydd modd i bawb allu cyfrannu a’r
ymgynghoriad. Nodwyd y bydd yr adran yn gwneud pob ymdrech i gael cyfraniad gan
bawb sydd eisiau cyfrannu. Ychwanegwyd gyda’r sylwadau sydd wedi ei derbyn yn
barod y bydd yr adran yn cysylltu â hwy yn uniongyrchol i holi os ydynt yn
fodlon i’r sylwadau gael ei defnyddio yn yr ymgynghoriad.
¾ Nodwyd fod y wlad bellach mewn pandemig ers
misoedd ac os yn gohirio am flwyddyn, nid oes modd gwarantu na fyddwn yn yr un
sefyllfa ymhen blwyddyn. Pwysleisiwyd fod modd i bawb gymryd rhan a mynegwyd
fod rôl yr aelod lleol am fod yn ganolbwynt i’r ymgynghoriad i sicrhau y bydd
llais pawb yn cael ei glywed. Nodwyd ei bod yn ofynnol i symud ymlaen a’r
penderfyniad.
¾ Mynegwyd yr angen i gadw golwg ar yr ymgynghoriad a gofynnwyd i’r adran
am adroddiad cyson ar sut mae’r broses yn symud yn ei blaen.
Yn
dilyn pwyso a mesur yr hyn a amlygwyd gan y Pwyllgor Craffu, arweiniad
swyddogion a’r rhesymau am y
penderfyniad gwreiddiol nid oedd y Cabinet yn ystyried bod y materion a godwyd
yn cyfiawnhau addasu'r penderfyniad gwreiddiol.
Dogfennau ategol: