Aelod Cabinet: Cynghorydd Dyfrig Siencyn
I ystyried yr
adroddiad
Penderfyniad:
Derbyniwyd yr
adroddiad ar gynnydd gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn
gan nodi’r sylwadau.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan Arweinydd y Cyngor
yn amlinellu’r hyn a gyflawnwyd dros y cyfnod 2019/20 gan Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn (BGC).
Ymhelaethwyd ar
gynnwys yr adroddiad a rhoddwyd
diweddariad byr ar y datblygiadau o fewn y meysydd blaenoriaeth ynghyd a gwaith
yr is-grwpiau sydd yn gyfrifol am y meysydd hynny. Ers mis Mawrth 2020, yn
wyneb pandemig covid-19, eglurwyd bod cyrff cyhoeddus wedi gorfod addasu i
ymateb i’r argyfwng iechyd drwy newid eu ffordd o weithio a chysylltu gydag
eraill.
Amlygwyd bod y cyrff cyhoeddus yn symud tuag at adferiad ac yn ystyried
effeithiau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. . Nodwyd bod
y grŵp rhanbarthol a oedd yn cydgordio’r ymateb i’r argyfwng wedi gofyn i
Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar draws y gogledd edrych ar y gwaith o adfer
gyda ffocws ar safbwynt gwytnwch cymunedol. Cynhaliwyd gweithdy ar gyfer BGC
Gwynedd ac Ynys Môn yn mis Medi, rhoddwyd ystyriaeth i sut gallai’r Bwrdd
ymateb i 40 o faterion a adnabuwyd gan bartneriaid y Bwrdd. Daethpwyd i’r
casgliad bod 8 mater angen sylw pellach. Nodwyd eu bod yn ymchwilio i sut
gallai’r Bwrdd weithredu heb ddyblygu’r gwaith a wneir eisoes gan bartneriaid
unigol er mwyn ychwanegu gwerth. Byddai cylch gorchwyl yr is-grwpiau yn cael eu
diweddaru er mwyn ymateb i’r materion.
Diolchwyd am yr adroddiad
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-
·
Cartrefi i bobl leol - y farchnad dai wedi ffrwydro yn ddiweddar. Y
flaenoriaeth yw tai i bobl leol nid eu bod o ‘natur arloesol’
·
Y dylai Cymdeithas Tai ‘Cymunedol’ baratoi tai
fyddai’n gwarchod cymdeithas. Siom nad yw'r adroddiad yn cyfarch pryderon trigolion
Gwynedd o ddiffyg tai i bobl leol
·
Bod lle i lais y Bwrdd gael
dylanwad ar newid Deddfau cynllunio. Awgrym i’w gynnwys fel rhan o gylch
gorchwyl y Bwrdd i ddwyn pwysau ar y Llywodraeth i newid y maes cynllunio fel bod modd gwarchod
tai i bobl leol.
·
Angen dwyn pwysau ar y
Llywodraeth sydd ohoni i gael tai cymdeithasol o dan faner Awdurdod Lleol
·
Bod Cwmni Adra bellach yn rhywbeth na all ei reoli
·
Cynllun Hunan-adeiladu
Cymru yn faes i’w ystyried – yn gynllun arloesol
·
Bod diffyg tai i bobl leol
yn cael effaith ar yr iaith – pobl yn symud i ffwrdd
·
Bod y system pwyntiau ar gyfer rheoli'r Gofrestr
Tai Cyffredin yn aneffeithiol
·
Bod angen sicrwydd sut mae
gweithrediad a llwyddiant y cynlluniau adfer rhanbarthol yn cael eu mesur
·
Siarter Iaith – angen mwy o
asgwrn cefn a cheisio hyrwyddo a dylanwadu defnydd y Siarter yn ehangach
·
Bod angen gwarchod polisïau
rheoli tannau, gwarchod tiroedd ac amaethu yng nghyd-destun newid hinsawdd
·
Bod angen gweld gwahaniaeth
yn y maes gofal – cartrefi preswyl / nyrsio yn cau, diffyg gofalwyr yn bryder,
diffyg meddygon sydd yn siarad Cymraeg, prinder deintyddion, cynnydd mewn
iechyd meddwl
·
Bod angen sicrhau bod arian wrth gefn i ddelio gyda
thlodi
·
Mewn ymateb i’r sylwadau ynglŷn â thai i bobl
leol, nodwyd mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am newid cyfansoddiad Cwmni
Adra a'u bod wedi tanseilio penderfyniad y Cyngor. Derbyniwyd yr angen i
awdurdodau lobio i newid trefniadau cynllunio a’r awgrym i’r Bwrdd rannu
negeseuon gyda’r Llywodraeth o’r effaith mae’r sefyllfa yn gael ar gymunedau a
lles ein trigolion. Ategwyd bod cyfarfod wedi ei drefnu rhwng yr Arweinydd a
swyddogion tai a chynllunio i drafod y gwaith a wneir i geisiodwyn perswâd ar Lywodraeth Cymru ar y
materion hyn. Amlygwyd hefyd y disgwylir yn eiddgar am Gynllun Gweithredu Tai
Cyngor Gwynedd fydd yn cynnig atebion posib.
·
Bod y system pwyntiau wedi ei addasu i system
bandiau a fyddai’n rhoi blaenoriaeth i bobl leol. Ategwyd bod problemau
technegol ynglŷn â chysylltu gyda’r Tîm Opsiynau Tai yn cael sylw.
·
Adroddwyd mai’r Grŵp
Rhanbarthol sydd yn gyfrifol am fesur gwaith y cynlluniau adfer ac mai
llwyddiant tymor hir fydd yn cael ei fesur gan mai anodd fyddai gweld cynnydd
yn y tymor byr. Adroddwyd mai grŵp o swyddogion yw’r Grŵp Rhanbarthol
sydd wedi ei sefydlu yn olyniad i’r Grŵp Ymateb i’r Argyfwng. Nodwyd bod
pryder ynglŷn a diffyg cyfraniad Aelodau Etholedig i benderfyniadau’r
grŵp a bod angen gwybodaeth sydd gan wleidyddion i’w gyfrannu i’r
drafodaeth
·
Bod Polisi Amaethyddiaeth
yn rhoi blaenoriaeth i’r amgylchedd yn hytrach na cynhyrchu bwyd
·
Ym maes gofal, bod arian
wedi ei gynnig i Gartref Penrhos a bod y mater nawr yn nwylo y Bwrdd Iechyd
lleol. Y Cartref yn adnodd bwysig i’r ardal – angen parhau i roi pwysau ar y
gwasanaeth iechyd.
PENDERFYNWYD
(a) Derbyn yr adroddiad ar gynnydd gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd
ac Ynys Môn gan nodi’r sylwadau.
Dogfennau ategol: