skip to main content

Agenda item

Alwen Williams i gyflwyno y pecyn o’r dogfennau allweddol sydd eu angen ar gyfer cyrraedd Cytundeb Terfynol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU ac Llywodraeth Cymru.

Penderfyniad:

¾    Cymeradwywyd cyflwyno'r Achos Busnes Portffolio a'r pum Achos Busnes Rhaglen i Lywodraethau'r DU a Chymru am Gytundeb Terfynol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru.

¾    Cytundwyd bod pob un o'r Partïon yn unigol yn cymeradwyo'r Cynllun Busnes Cyffredinol sy'n nodi'r trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru fel sail ar gyfer cwblhau'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.

¾    Cytunwyd bod pob un o'r Partïon yn unigol yn cymeradwyo ac yn ymrwymo i Gytundeb Llywodraethu 2 ac yn benodol yn mabwysiadu'r dirprwyadau a'r Cylch Gorchwyl yn “Atodiad 1 o Gytundeb Llywodraethu 2” ohono fel sail ar gyfer ymrwymo i'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.

¾    Cymeradwywyd y dull a ddefnyddir i gyfrifo cost benthyca mewn egwyddor sydd ei angen i hwyluso'r llif arian negyddol ar gyfer y Cynllun Twf, a'r cyfraniadau partner blynyddol cyfatebolsydd eu hangen i gwrdd â'r gost hon a’r cyfraniadau craidd ac atodol sydd wedi’u sefydlu, fel sydd wedi'i nodi yn GA2 (ac ym mharagraffau 5.5 - 5.7 o’r adroddiad).

¾    Cytunwyd bod y Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd Uchelgais, Swyddog Monitro'r Corff Atebol a Swyddog Adran 151 y Corff Atebol, yn derbyn awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i'r dogfennau fel sydd angen i gwblhau'r cytundeb.

¾    Cymeradwywyd ailenwi'r Swyddfa Rhaglen yn Swyddfa Rheoli Portffolio yn unol ag arfer gorau ac o ganlyniad i hynny, newid teitl swydd y Cyfarwyddwr Rhaglen yn Gyfarwyddwr Portffolio.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen.

 

PENDERFYNWYD

 

¾     Cymeradwywyd cyflwyno'r Achos Busnes Portffolio a'r pum Achos Busnes Rhaglen i Lywodraethau'r DU a Chymru am Gytundeb Terfynol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru.

¾     Cytunwyd bod pob un o'r Partïon yn unigol yn cymeradwyo'r Cynllun Busnes Cyffredinol sy'n nodi'r trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru fel sail ar gyfer cwblhau'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.

¾     Cytunwyd bod pob un o'r Partïon yn unigol yn cymeradwyo ac yn ymrwymo i Gytundeb Llywodraethu 2 ac yn benodol yn mabwysiadu'r dirprwyadau a'r Cylch Gorchwyl yn “Atodiad 1 o Gytundeb Llywodraethu 2” ohono fel sail ar gyfer ymrwymo i'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.

¾     Cymeradwywyd y dull a ddefnyddir i gyfrifo cost benthyca mewn egwyddor sydd ei angen i hwyluso'r llif arian negyddol ar gyfer y Cynllun Twf, a'r cyfraniadau partner blynyddol cyfatebolsydd eu hangen i gwrdd â'r gost hon a’r cyfraniadau craidd ac atodol sydd wedi’u sefydlu, fel sydd wedi'i nodi yn GA2 (ac ym mharagraffau 5.5 - 5.7 o’r adroddiad).

¾     Cytunwyd bod y Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd Uchelgais, Swyddog Monitro'r Corff Atebol a Swyddog Adran 151 y Corff Atebol, yn derbyn awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i'r dogfennau fel sydd angen i gwblhau'r cytundeb.

¾     Cymeradwywyd ailenwi'r Swyddfa Rhaglen yn Swyddfa Rheoli Portffolio yn unol ag arfer gorau ac o ganlyniad i hynny, newid teitl swydd y Cyfarwyddwr Rhaglen yn Gyfarwyddwr Portffolio.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Yn 2016, mabwysiadodd partneriaid y Bwrdd Uchelgais Weledigaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru. Yn seiliedig ar Strategaeth y Weledigaeth Twf, yn Hydref 2018 cytunwyd ar y Cynllun Twf gan holl bartneriaid y Bwrdd Uchelgais drwy weithio gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a’r sector breifat.

 

 Yn Nhachwedd 2019 cytunodd y Bwrdd Uchelgais a’r ddwy Lywodraeth i Benawdau’r Telerau, gyda Chytundeb Terfynol i’w gwblhau yn 2020.

 

Mae’r Bwrdd Uchelgais wedi ymrwymo i gyrraedd Cytundeb Terfynol gyda’r ddwy Lywodraeth cyn diwedd Rhagfyr 2020.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad hwn yn garreg filltir yn nhaith y Bwrdd Uchelgais. Tynnwyd sylw tuag at yr argymhellion oedd yn cael ei amlygu ar ddechrau’r adroddiad.  Amlygwyd yr amserlen gan nodi fod llawer wedi digwydd o fewn y 10 mis diwethaf.

 

Nodwyd fod y swyddfa raglen wedi bod yn gweithio yn ddiwyd ar y dogfennau perthnasol, ac y bydd y cytundeb Terfynol yn cael ei ddiogelu ar sail Achos Busnes Portffolio ac 5 Achos Busnes Rhaglen. Mynegwyd fod yr Achos Busnes Portffolio yn amlygu’r prif amcanion yn rhoi crynodeb o’r cynnig ariannu ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru, ar gyfer cynnwys yn y Cytundeb Terfynol. Pwysleisiwyd fod yr achosion busnes yn rhai byw sydd yn cael eu hadolygu yn gyson. Tynnwyd sylw at bob achos busnes yn unigol.

 

Amlygwyd y Cynllun Busnes Cyffredinol gan bwysleisio ei fod yn gosod allan y trefniadau ar gyfer gweithredu Cynllun Twf Gogledd Cymru, gan gynnwys trosolwg o’r rhaglenni a phrosiectau er mwyn cael cymeradwyaeth pob partner i’r gofynion Ariannol ar gyfer gweithredu’r cynllun. Diolchwyd i’r tîm rhaglen am ddod a chyfanswm y prosiectau i £240miliwn sydd cyfystyr a lefel grant y Llywodraethau. Amlinellwyd yr Incwm a Gwariant gan nodi fod y proffil gwario dros tua 6 mlynedd, ac ariannu’r llywodraethau yn gyfartal dros 15 mlynedd, felly y bydd y gost o ariannu’r llif arian negyddol.  Er hyn, nodwyd  fod yr awdurdod lletya am hwyluso hynny i’r partneriaid ac wedi gwneud rhagdybiaethau rhesymol cyn lledaenu’r gost yn gyfartal dros 15 mlynedd y cynllun, er mwyn cynnig cost blynyddol cyraeddadwy. Ategwyd y bydd hyn yn ymrwymo’r partneriaid i’r Cynllun Twf am 15 mlynedd.

 

Tynnwyd sylw at Gynllun Llywodraeth 2 a fydd yn mynd a’r bartneriaeth i’r cynllun gweithredu ar gyfer y Cynllun Twf. Nodwyd  y bydd yn parhau â'r model llywodraethu a fabwysiadwyd yn GA1, sef Cydbwyllgor a gefnogir gan awdurdod lletya ac yn darparu ar gyfer ymrwymiadau a chyfrifoldebau'r Partneriaid i'r bartneriaeth. Ychwanegwyd ei fod yno gystal yn diffinio'r berthynas rhwng y Bwrdd a'i sefydliadau Partner cyfansoddol, cyfyngiadau dirprwyo ac atebolrwydd.

 

O ran y Cytundeb Terfynol, nodwyd ei fod yn gytundeb a grëwyd ar y cyd rhwng y Bwrdd Uchelgais a’r ddwy Lywodraeth. Pwysleisiwyd mai drafft sydd ar hyn o bryd a'i fod yn parhau i gael ei addasu dros yw wythnosau nesaf. Amlygwyd y camau nesaf sydd i gael cymeradwyaeth ddemocrataidd gan y 6 Awdurdod Lleol a’r Partneriaid. Nodwyd yn ystod y cyfnod y bydd Proses AOR yn cael ei gynnal dros gyfnod o bum wythnos gyda’r Llywodraethau ac amlinellwyd yr amserlen, gyda’r adroddiad terfynol yn cael ei chyhoeddi ddiwedd Tachwedd.  Pwysleiswyd ei bod yn broses manwl tu hwnt.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

·    Pwysleiswyd fod y Tîm yn barod ac yn ffyddiog y bydd y 2 Lywodraeth yn barod ac yn cadw ar eu haddewi. Mynegwyd os bydd cytundeb yn ei erbyn diwedd 2020 y bydd modd ei arwyddo ddechrau 2021. Mynegwyd os na fydd yn cael ei gwblhau y gall y cyfraniad gael ei roi ym mis Medi 2021 ond y buasai hyn yn rhoi effaith domino a bod angen y fargen orau.

·    Pwysleiswyd fod y tîm yn ffyddiog unwaith y bydd yr arian yn cael ei dderbyn y bydd gwaith yn y cynlluniau busnes yn cychwyn yn syth.

·    Bu i’r aelodau longyfarch y tîm am eu gwaith caled a phwysleisiwyd ei fod yn gyffroes ac yn amlygu'r gyriad sydd i’w gweld tu ôl i’r Cynllun Twf. Pwysleiswyd fod y cyfnod hir wedi dwyn ffrwyth ac iddynt obeithio am lwyddiant cyn diwedd y flwyddyn.

·    Holwyd pa lefel craffu fydd gan y Bwrdd Uchelgais  o ran y Llywodraethau. Mynegwyd y bydd lefel uchel o graffu ac y bydd ffocws mae’r rhanbarth i gwblhau'r cytundeb terfynol.

·         · Diolchwyd am y gwaith a phwysleisiwyd yr her bellach fydd i wneud y gwaith fod bod modd i ni brofi ein hunain.

 

Dogfennau ategol: