Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid  (ynghlwm).

 

Penderfyniad:

Bod y Cyngor yn gohirio penderfyniad ynglŷn â chaniatáu disgowntiau a chodi premiwm, gan ofyn i’r Cabinet ystyried priodoldeb cynyddu y lefel i hyd at 100%. Gofynnir i'r Cabinet gynnal proses ymgynghori ar y sail yma, ystyried y ffactorau perthnasol, a dod ag argymhelliad pellach i'r Cyngor ym mis Mawrth 2021 yn unol ag Adran 12, 12B a 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

 

COFNODION:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor am gadarnhad ffurfiol am 2021/22 o’r penderfyniadau blaenorol i beidio caniatáu disgownt i ail gartrefi a pheidio caniatáu disgownt ar eiddo gwag, ac i godi premiwm o 50% ar eiddo perthnasol o’r fath.

 

Gan gyfeirio’n benodol at ail-gartrefi, nododd yr Aelod Cabinet:-

 

·         Bod y ddarpariaeth a’r amlder o gartrefi gwyliau wedi tyfu dros y blynyddoedd diwethaf, ynghyd â’r effeithiau cysylltiedig, yn gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

·         Bod poblogrwydd Gwynedd fel cyrchfan wyliau a’r defnydd o lety gwyliau fel buddsoddiad ariannol yn ffactorau, a gwelwyd twf sylweddol yn ddiweddar yn y niferoedd o unedau preswyl sy’n cael eu defnyddio fel llety gwyliau ar draws y sir gyfan.

·         Y bwriedid cyflwyno papur ymchwil ar reoli’r defnydd o dai fel tai gwyliau i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 10 Rhagfyr, gydag argymhellion penodol i’w trafod yn y Cabinet ar 15 Rhagfyr.

·         Er y cydnabyddid na fyddai modd gweithredu ar yr argymhellion hynny’n syth oherwydd yr angen am ddeddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru, roedd graddfa’r Premiwm ar eiddo yn fater roedd gan y Cyngor llawn fodd i weithredu arno.

·         Y bu gohebiaeth gyson a chyfarfodydd ffurfiol ac anffurfiol rhwng Cyngor Gwynedd, gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru, i drafod ein pryderon ynglŷn â gallu perchnogion ail-gartrefi i ddefnyddio Adran 66 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 er mwyn trosglwyddo eu heiddo o fod yn eiddo domestig, sy’n talu Treth Cyngor, i fod yn unedau hunan-ddarparu, sy’n destun ardrethi annomestig.

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd:-

 

·         Bod yr argymhelliad yn cynnig cadw at y sefyllfa bresennol o godi premiwm o 50% ar ail gartrefi a thai gweigion, ond y daeth yn amlwg o drafodaethau gydag aelodau, cynigion yn y Cyngor a galwadau cyhoeddus yn ein cymunedau, bod angen ail-ystyried y Premiwm, gyda’r bwriad o’i gynyddu.

·         Bod y sefyllfa’n argyfyngus yn y sir, gyda tai o’r stoc yn cael eu colli i fod yn ail-gartrefi a phobl leol yn methu fforddio prynu tai yn eu cymunedau.

·         Bod y Cabinet a’r aelodau wedi bod yn pwyso ar y Llywodraeth i newid y ddeddf a rhoi’r hawliau i ni reoli ail-gartrefi.  Roedd y Llywodraeth wedi dweud nad oedd gennym dystiolaeth i gyfiawnhau hynny, ond roedd y dystiolaeth wedi’i chyhoeddi bellach, a byddai’n cael ei thrafod yn fuan.

·         Yn ogystal â thrafod y papur ymchwil ar reoli’r defnydd o dai fel tai gwyliau, byddai’r Cabinet ar 15 Rhagfyr yn trafod y Cynllun Gweithredu Tai, sef cynllun uchelgeisiol a chyffrous oedd yn buddsoddi oddeutu £77m mewn darparu tai ar gyfer pobl ifanc y sir.

·         O fod yn ymwybodol o’r teimladau cryf ar y mater hwn, yr hoffai gynnig gwelliant i ddileu’r geiriau “ac yn codi premiwm o 50% ar ail gartrefi dosbarth B” yn ail bwynt bwled yr argymhelliad, gan osod y geiriau “ond yn gohirio penderfyniad ynglŷn â gosod y Premiwm a gofyn i’r Cabinet ystyried priodoldeb cynyddu y lefel i 100%.  Gofynnir i’r Cabinet gynnal proses ymgynghori ar y sail yma, ystyried y ffactorau perthnasol a dod ag argymhelliad pellach i’r Cyngor ym mis Mawrth 2021” ar ôl “dosbarth B”.  Eiliwyd y gwelliant.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau ar y gwelliant.  Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Awgrymwyd y dylid defnyddio mwy o ddisgresiwn yng nghyswllt tai sy’n wag ac yn y broses o gael eu hatgyweirio.

·         Mynegwyd pryder y gallai codi’r Premiwm ar ail-gartrefi i 100% wthio mwy o bobl i ganfod ffyrdd o osgoi talu’r dreth.  Roedd llawer o berchnogion ail-gartrefi yn datgan mai eu tŷ yng Ngwynedd oedd eu prif gartref bellach, a galwyd am edrych i mewn i hyn, gan hefyd edrych ar ddulliau o brofi nad yw’r cyfan o’r 2000 o dai sydd wedi trosglwyddo i’r ardreth annomestig yn fusnesau.

·         Pwysleisiwyd bod angen ymgyrch genedlaethol i gau’r bwlch o ran trosi tai gwyliau yn fusnesau, a bod lle i Gyngor Gwynedd arwain ar hyn.

·         Nodwyd y mawr obeithid y byddai’r Cabinet yn gefnogol i’r gwelliant, a hefyd yn cynnig syniadau y tu hwnt i’r mater treth yn unig.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan aelodau unigol, nododd y Pennaeth Cyllid:-

 

·         Bod yr egwyddor o ganiatáu eithriad Treth Cyngor am gyfnod hwy i brynwyr tro cyntaf sy’n atgyweirio hen dai yn un o’r prosiectau o fewn y Cynllun Gweithredu Tai, ac felly dylai hyn gael sylw buan.  Gallai’r Cabinet wneud penderfyniad ar y cyfnod, ond nid oedd gan y swyddogion lawer o hyblygrwydd fesul achos yn hyn o beth. 

·         Bod trefniadau casglu’r Dreth Gyngor yn effeithiol iawn, a bod perchnogion ail-gartrefi yn gallu talu’n brydlon.  Fodd bynnag, roedd y Cyngor yn colli’r dreth, yn ogystal â’r Premiwm, ar eiddo oedd yn trosglwyddo i fod yn fusnes, ac yn cael ei daro gan yr ôl-ddyddio hefyd.  Roedd y nifer a drosglwyddodd llynedd dros 400, ac roedd y ffigwr yn agos at hynny’n barod eleni.  Yn y blynyddoedd cyn hynny, roedd tua 300 y flwyddyn.

·         Bod yr Arweinydd, y Prif Weithredwr, y Pennaeth Cyllid ac eraill wedi gweithio gyda’r Llywodraeth o gwmpas Mawrth / Ebrill eleni i roi rheolau yn eu lle fel nad oedd pob eiddo oedd wedi trosglwyddo yn derbyn y grant Covid, ond yn y diwedd bu i rhwng deuparth a thri chwarter ohonynt dderbyn y grant, gan y profwyd bod yr eiddo yn cael ei osod am fwy na 140 diwrnod y flwyddyn yn yr achosion hynny.  Er y dymunid bod wedi gallu eu heithrio’n llwyr, byddai hynny wedi eithrio rhai busnesau gwyliau go iawn, a chyfaddawd oedd hyn yn y diwedd.

·         Fel casglwr y Dreth Gyngor, roedd y Cyngor yn gallu plismona’r sefyllfa o ran prif gartrefi, e.e. drwy wirio i ba gyfeiriadau roedd datganiadau banc yn cael eu hanfon, ac ati.  Fodd bynnag, gan fod y mwyafrif oedd wedi trosglwyddo yn derbyn Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bychain llawn, nid oedd diben iddynt ddatgan bod yr eiddo’n brif gartref ai peidio.

·         Mai Swyddfa’r Prisiwr, asiantaeth yn CThEM, oedd yn plismona’r mudo o’r rhestr ddomestig i’r rhestr fusnes, ond roedd yn ymddangos nad oeddent yn gwirio’r dystiolaeth yn ddwfn iawn.  Gan hynny, roedd y Cyngor yn parhau i ymgyrchu mewn ymgais i argyhoeddi Llywodraeth Cymru i newid y ddeddfwriaeth, ac roedd gwaith ar droed gan yr Adran Gyllid, a hefyd gan y Gwasanaeth Cynllunio, i symud hyn ymlaen yn y gobaith o weld cynnydd dros y misoedd nesaf.

 

Gan gyfeirio at eiriad y gwelliant, eglurodd y Prif Weithredwr fod newid ail bwynt bwled yr argymhelliad yn unig yn anghyson â’r rhan gyntaf sy’n argymell fod y Cyngor yn gwneud dim newid i’r cynllun ar gyfer 2021/22.  Gan hynny, awgrymodd fod y gwelliant yn cael ei gwmpasu ar gyfer yr holl benderfyniad, fel bod y penderfyniad yn ei gyfanrwydd yn cael ei gyfeirio yn ôl i’r Cabinet. 

 

Nododd cynigydd y gwelliant ei fod yn hapus i newid ei welliant yn unol â hynny, a chydsyniodd yr eilydd i’r newid hefyd.

 

Nododd y Cynghorydd Eryl Jones-Williams na fyddai’n pleidleisio'r naill ffordd na’r llall ar y mater hwn, gan iddo golli cysylltiad am ran helaeth o’r drafodaeth.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn gohirio penderfyniad ynglŷn â chaniatáu disgowntiau a chodi premiwm, gan ofyn i’r Cabinet ystyried priodoldeb cynyddu y lefel i hyd at 100%.  Gofynnir i'r Cabinet gynnal proses ymgynghori ar y sail yma, ystyried y ffactorau perthnasol, a dod ag argymhelliad pellach i'r Cyngor ym mis Mawrth 2021 yn unol ag Adran 12, 12B a 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

 

Dogfennau ategol: