Cyflwyno
adroddiad y Swyddog Monitro (i ddilyn).
Cofnod:
Cyflwynwyd –
adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y pwyllgor i ystyried cynnwys y Protocol
ar gyfer Cyfarfodydd Rhithiol, a baratowyd mewn ymateb i gyflwyno Rheoliadau
Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020 ar 22ain Ebrill
2020.
Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
·
Mynegwyd pryder nad oedd rhai cynghorau cymuned yn
cyfarfod fel y dylent, ac y deellid bod yna enghreifftiau o gynghorau cymuned
yn rhoi eu rheolau eu hunain o’r neilltu, e.e. drwy ganiatáu i aelod sy’n
datgan buddiant aros yn y cyfarfod. Nodwyd
y dylid anfon y protocol at y cynghorau cymuned a thref, gan danlinellu’r
sefyllfa o ran datgan buddiant, a sut i symud aelodau i’r ystafell aros, ac
ati. Mewn ymateb, eglurwyd bod y
protocol eisoes yn gyhoeddus, gan ei fod ar raglen y cyfarfod hwn. Eglurwyd hefyd, er bod Zoom yn caniatáu symud
pobl i ystafell aros, ayb, nad oedd pob corff yn defnyddio Zoom. Er hynny, nodwyd y byddai’r swyddogion yn
hapus i ddarparu canllawiau ymarfer da ar gyfer y cynghorau cymuned a thref,
sy’n cyfarch ysbryd y gofyn, os nad y llythyren.
·
Awgrymwyd y gallai symud materion lle mae
buddiant i ddiwedd y rhaglen fod yn ffordd ymarferol o ddatrys y broblem, gan y
golygai hynny bod aelod â buddiant yn gadael y cyfarfod yn llwyr.
·
Nodwyd bod angen i aelodau cynghorau cymuned a thref
gael cyfle i ymarfer â’r dechnoleg a dod yn ôl i’r drefn o gynnal cyfarfodydd
yn rheolaidd. Hefyd, i roi hyder i
glercod sydd heb gefnogaeth, efallai bod angen mwy na’r protocol, ac y gallent
elwa o dderbyn canllaw cam wrth gam ar ffurf sgrin luniau yn egluro sut yn
union mae creu cyfarfod, cyfrannu, rhoi pobl ar ‘mute’, gadael, ayb.
·
Awgrymwyd y gallai natur y materion sy’n
ofynnol i’r Pwyllgor Safonau edrych arnynt newid petai’r drefn o gynnal cyfarfodydd
cynghorau cymuned a thref yn rhithiol yn parhau i’r dyfodol. Mewn ymateb, eglurwyd bod y drafodaeth yn
mynd rhagddi o ran dal gafael ar yr elfennau gorau o’r rheoliadau presennol a’u
hadeiladu i mewn i reoliadau mwy parhaol yn y Bil Llywodraeth Leol. Nodwyd hefyd bod cyfarfodydd rhithiol yn ei
gwneud yn haws i bobl mewn gwaith, ac ati, gymryd rhan.
·
Diolchwyd i’r Gwasanaeth Democratiaeth am eu
gwaith yn hwyluso mynediad aelodau i gyfarfodydd, a diolchwyd i’r Cyngor am
ddarparu Zoom fel bod modd parhau i gynnal cyfarfodydd yn ddwyieithog.
·
Holwyd a oedd yna broblemau na ragwelwyd wedi
codi. Mewn ymateb, nodwyd bod y
cyfarfodydd wedi mynd yn dda iawn o ran trefn yn gyffredinol, a bod pawb wedi
cydweithio’n dda. Ni ellid cyfarch pob
senario, ond yn hytrach ymateb i’r hyn sy’n codi, fel mae’n codi. Roedd rhai problemau technegol wedi codi o
ran cael mynediad i gyfarfodydd, ond roedd y canllaw yn ceisio datrys hyn, ac
roedd rhai problemau band eang wedi codi hefyd.
Nodwyd ymhellach, gan fod y rheoliadau’n hepgor yr angen i bobl fod yn
weladwy yn ystod cyfarfod, nad oedd modd gwirio pwy’n union oedd yn bresennol
ar unrhyw adeg, ond os oedd yr enw yn ymddangos ar y rhestr “participants”, yna cymerid bod y person
yna’n bresennol. Hefyd, gan ei bod yn anodd
gweld pwy sy’n bresennol, gofynnid i aelodau roi gwybod pe byddent yn gadael y
cyfarfod.
·
Nodwyd bod y protocol wedi gweithio’n dda, a
bod yr aelodau wedi cael digon o hyfforddiant cyn mynychu cyfarfodydd ffurfiol.
·
Nodwyd bod cyfarfod rhithiol yn fwy blinedig na
chyfarfod mewn ystafell gyfarfod, a’i bod yn bwysig cymryd seibiant yn ystod
cyfarfod maith.
Dogfennau ategol: