Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng Nia Jeffreys

Penderfyniad:

Cytunwyd am angen i wneud gwaith pellach ar ystyried opsiynau posib yn y dyfodol ar gyfer Hunaniaith – Menter Iaith Gwynedd.

 

Sefydlu tasglu o swyddogion y Cyngor i adnabod y camau angenrheidiol sydd angen eu dilyn i greu achos busnes cadarn ar gyfer yr opsiynau posib.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd am angen i wneud gwaith pellach ar ystyried opsiynau posib yn y dyfodol ar gyfer Hunaniaith - Menter Iaith Gwynedd.

 

Sefydlu tasglu o swyddogion y Cyngor i adnabod y camau angenrheidiol sydd angen eu dilyn i greu achos busnes cadarn ar gyfer yr opsiynau posib.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Gymraeg yn agos iawn at galon yr aelod Cabinet. Mynegwyd fod Hunaniaith yn gwneud gwaith arbennig o dda yn gwarchod yr iaith ac mae'r Siarter Iaith wedi amlygu’r gwaith da sydd wedi ei wneud. Pwysleisiwyd bellach fod angen ail edrych ar y ffocws gan symud o weithio yn strategol i weithio o fewn y gymuned.

 

Nodwyd fod Grŵp Strategol wedi bod yn edrych ar y sefyllfa ac wedi comisiynu cwmni Iaith i fwrw ymlaen a'r gwaith o adolygu gwaith Hunaniaith. Mynegwyd fod yr adroddiad y Cwmni yn ddiddorol a chyffroes ac ai fod yn cydnabod y gwaith da sydd wedi ei wneud. Ychwanegwyd fod yr adroddiad yn rhoi Sylfaen gadarn i symud ymlaen ac yn argymell creu tasglu fel bod modd trafod a chynllunio gwaith i symud ymlaen ac i weithio yn effeithiol ac effeithlon.

 

Ychwanegodd Cadeirydd y Grŵp Strategol fod adroddiad y Cwmni Iaith yn un cynhwysfawr a chytbwys ac amlygwyd y tri opsiwn sydd yn yr adroddiad. Nodwyd cefnogaeth i opsiwn 3 sef i greu endid annibynnol. Esboniwyd fod oblygiadau ariannol a staffio i hyn. Nodwyd yr angen i symud ymlaen a drwy hyn leihau pwysau ar y Cyngor ynghyd a chyfle i ychwanegu arian cwbl angenrheidiol fel bod modd i’r mudiad ledaeni i weithio o fewn y cymunedau, Pwysleisiwyd yr angen am amserlen dynn i’r tasglu fel bod gwaith yn symud ymlaen.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Nodwyd yr angen i fenter iaith fod yn gweithio o fen y gymuned  ac i fod yn gynaliadwy i barhau a’r gwaith da mae Hunaniaith yn ei wneud. Pwysleiswyd mai cyfle i adeiladu ar y gwaith da yw hwn ac nid i gael gwared â Hunaniaith.

¾  Amlygwyd trefn gyllido Hunaniaith gyd 70% o’r gyllideb yn dod gan y Llywodraeth a’r 30% gan Gyngor Gwynedd. Gan fod y gyllideb gan y Llywodraeth yn grant ei bod yn anodd ar hyn o bryd i gynllunio i’r dyfodol.

¾  Mynegwyd cefnogaeth i edrych ar y sefyllfa gan nodi ei bod yn amserol i symud ymlaen ac i roi cyfle i Hunaniaith i sefyll ar ei draed ei hun.

¾  Nodwyd cefnogaeth i greu endid bychan o fewn cymunedol. Nodwyd blynyddoedd yn ôl ei bod wedi bod yn syniad da i’r menter iaith fod o fewn y Cyngor ond bellach fod angen esblygu.

¾  Diolchwyd i’r gwaith caled mae Tîm Hunaniaith yn ei wneud.

¾  Pwysleiswyd fod llawer o waith angen ei wneud cyn gwneud y penderfyniad ar ba opsiwn ond angen ystyried y ffordd orau ymlaen.

¾  Pwysleiswyd y gwaith da sydd wedi ei wneud ond angen edrych ar esiamplau da o waith mentrau iaith eraill ac i symud ymlaen o fewn amserlen dynn.

 

Awdur:Llywela Owain

Dogfennau ategol: