skip to main content

Agenda item

Penderfyniad:

Awdurdodi gwneud Gorchymyn Prynu Gorfodol (CPO) mewn perthynas â Chynllun Gwella Ffordd Llanbedr yr A496.

 

Awdurdodi Pennaeth yr Adran Amgylchedd mewn ymgynghoriad ag Aelod Cabinet yr Amgylchedd a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol i gaffael yr holl fuddiannau angenrheidiol yn y tir a nodir yn Atodiad 5 yr adroddiad i gyflawni Cynllun Gwella Ffordd Llanbedr yr A496 a, lle bo angen cymryd yr holl gamau angenrheidiol i gaffael y buddion hynny trwy gyfrwng CPO gan gynnwys dilyn ei gadarnhad gyda Gweinidogion Cymru pe bai'r Cyngor yn methu â dod i setliad wedi'i negodi ar gyfer prynu'r buddion hynny o fewn amserlenni'r cynllun.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Griffith.

 

PENDERFYNIAD

 

a)    Awdurdodi gwneud Gorchymyn Prynu Gorfodol (CPO) mewn perthynas â Chynllun Gwella Ffordd Llanbedr yr A496.

 

b)    Awdurdodi Pennaeth yr Adran Amgylchedd mewn ymgynghoriad ag Aelod Cabinet yr Amgylchedd a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol i gaffael yr holl fuddiannau angenrheidiol yn y tir a nodir yn Atodiad 5 yr adroddiad i gyflawni Cynllun Gwella Ffordd Llanbedr yr A496. Yn ogystal ag hyn, lle bo angen cymryd yr holl gamau angenrheidiol i gaffael y buddion hynny trwy gyfrwng CPO pe bai'r Cyngor yn methu â dod i setliad wedi'i negodi o fewn amserlen y cynllun

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y bydd gofyn i’r cabinet awdurdodi dau beth. Yn gyntaf caniatâd i gychwyn y broses o wneud gorchymyn prynu gorfodol (sef CPO) mewn perthynas â chynllun gwella A496. Yn ail, awdurdodi Pennaeth yr Adran Amgylchedd, mewn ymgynghoriad ag aelod cabinet yr amgylchedd a’r gwasanaeth cyfreithiol, i gaffael yr holl fuddiannau angenrheidiol i gyflawni cynllun gwella ffordd Llanbedr.

 

Cofnodwyd un newid yn yr adroddiad. Ym mhwynt 2.3 - Cyllid Ewrop - noder yn yr adroddiad y byddai’r ‘gyllideb wedi ei wario erbyn diwedd mis Mawrth 2019’, dilëwyd hyn gan newid y dyddiad i Ragfyr 2022 sef y dyddiad sydd bellach wedi ei gytuno gyda Llywodraeth Cymru drwy law Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO). Dylid nodi fod swyddogion y Cyngor yn cwrdd yn fisol gyda WEFO i’w diweddaru ar gynnydd gyda’r prosiect a bod parodrwydd i ystyried ymestyn y dyddiad ymhellach wrth i’r gwaith fwrw yn ei flaen.

 

Ychwanegodd Pennaeth Adran yr Amgylchedd y byddai hynny’n rhoi sicrwydd i’r adran wireddu’r cynllun yn unol â’r amserlen ond yn y cyfamser y byddant yn parhau i negodi gyda thirfeddianwyr i ddod i gytundeb pryniant.

Parhawyd i nodi bod cyfyngiadau ar yr amserlen o ganlyniad i’r sefyllfa gyllidol a bydd y gallu i gyhoeddi gorchymyn drafft yn hwyluso unrhyw oedi.

 

Atgoffwyd yr aelodau bod y cynllun gerbron wedi bod o flaen awdurdod cynllunio'r Parc Cenedlaethol dwywaith yn y gorffennol ond mai gwedd wahanol i’r cynllun sydd o flaen y Cabinet heddiw. Dywed fod angen tiroedd er mwyn sicrhau mynediad safle at yr awyrofod fel bod unrhyw ddatblygiadau pellach yn bosib.

 

Agorwyd y drafodaeth i’r aelodau gwestiynu ymhellach. Rhoddwyd sylwadau ar y cynllun gan gynnwys cydnabod ei bod y gweill ers cyfnod hir a bod croeso i ddatblygiadau a fydd yn sicrhau bod y cynllun yn cael ei wireddu. Cynigwyd bod angen diolch i'r Adran yr Amgylchedd am eu dyfalbarhad efo’r cynllun i sicrhau bod cyllid yn cael ei ddarparu er mwyn gwireddu’r cynllun. Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod ar ddyraniad cyllid y cynllun, cyfeiriodd Pennaeth Adran yr Amgylchedd at yr adroddiad wrth nodi y byddai cost adeiladu'r ffordd osgoi /ffordd fynediad oddeutu £14.38m.Nododd bod cyfraniad gan y Cyngor ond bod gweddill yr arian fel y nodwyd ym mhwynt 2.1 yn yr adroddiad.

Adroddwyd ar ran yr Aelod Lleol ei bod yn hynod gefnogol i’r cynllun symud yn ei blaen. Adroddwyd sylwadau gan drigolion lleol sydd wedi bod yn disgwyl yn eiddgar i weld y cynllun yn cael ei gwblhau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Nodwyd y byddai gwireddu’r cynllun yma yn fuddiol i’r ardal leol ac i drigolion yr ardal oherwydd pryderon traffig.

¾    Nodwyd y byddai’r gorchymyn prynu gorfodol yn cael ei ddefnyddio pe bai’r Cyngor yn methu dod i gytundeb wedi iddynt negodi ar gyfer pryniant y tir o fewn amserlen y cynllun.

¾    Ategwyd bod y cynllun yn allweddol ar gyfer rhoi cyfleoedd i’r busnesau sydd eisoes ar faes yr awyrofod ddatblygu ymhellach.

¾    Cyfeiriwyd at gyfraniad Cyllid Ewropeaidd gan nodi pwysigrwydd manteision arno tra bod y cyfle yn parhau.

Dogfennau ategol: