Agenda item

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

-       Derbyn yr adroddiad gan ddatgan diolch i’r Swyddogion Iaith am eu holl waith dros y cyfnod

-       Ysgrifennu llythyr at y Comisiynydd Iaith yn datgan pryder nad oes modd i staff Cyngor Gwynedd gyfrannu trwy’r Gymraeg bob amser mewn cyfarfodydd rhithiol a drefnir gan sefydliadau allanol oherwydd nad ydynt yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer cyfarfodydd rhithiol.

-       Ysgrifennu llythyr at Gwmni Microsoft yn eu hannog i ddarparu cyfieithu ar y pryd i gyfrwng Teams

-       Derbyn diweddariad ar waith yr Is grŵp Cenedlaethol sydd yn trafod materion technoleg gwybodaeth yn y cyfarfod nesaf

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Ymarferydd Iaith a Chraffu yn crynhoi'r cyfleoedd a’r heriau mae adrannau amrywiol wedi eu hwynebu o ran parhau i weithredu'r polisi iaith yn sgil Covid 19. Cyflwynwyd hefyd ddiweddariad ar brosiectau amrywiol sydd wedi eu cyflawni er gwaetha’r sefyllfa, er mwyn hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yng Ngwynedd.

 

Adroddwyd, yn gyffredinol bod pawb yn nodi nad oedd y feirws wedi amharu ar eu gallu i ddarparu gwasanaeth cyfrwng Cymraeg gan eu bod wedi addasu eu ffordd o ddarparu gwasanaeth a pharhau i gynnig gwasanaethau trwy’r Gymraeg. Fodd bynnag, amlygwyd rhai bod posibilrwydd o ddiffyg cyfle anffurfiol i sgwrsio yn y Gymraeg mewn swyddfa, ar y coridor neu yn y gegin, yn arbennig y rhai sydd ddim yn cael cyfle i siarad Cymraeg llawer tu allan i’r gwaith. Mewn ymateb, nodwyd bod y Cynllun Cyfeillion Cymraeg yn cynnig y cyfleoedd anffurfiol hynny i ddysgwyr allu cadw’r momentwm wrth weithio gartref ynghyd a sesiynau ychwanegol o hyfforddiant ar-lein sydd wedi bod yn gadarnhaol.

 

Amlygwyd mai un pryder a ddaeth i’r amlwg yn yr arolwg oedd nad oedd posib i staff gyfrannu trwy’r Gymraeg bob amser mewn cyfarfodydd allanol rhithiol a oedd wedi eu trefnu gan sefydliadau eraill oherwydd diffyg defnyddio technoleg sy’n galluogi defnydd rhwydd o’r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. Eglurwyd nad oedd pob sefydliad allanol yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer cyfarfodydd rhithiol gyda rhai yn amharod i ddefnyddio Zoom oherwydd pryderon diogelwch.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Ei bod yn ofynnol ar gyrff cyhoeddus yn Gymru i ddarparu cyfleoedd Cyfieithu mewn cyfarfodydd - bod darpariaeth ar gael i wneud hyn - angen tynnu sylw’r Comisiynydd Iaith at y broblem

·         Awgrym i gynnal cwis i hybu cyfleodd i ymarfer siarad Cymraeg

·         Byddai’n fuddiol derbyn gwybodaeth am y nifer sydd wedi mynychu / cyfranogi digwyddiadau ar-lein.

·         Rhoi pwysau ac ymgyrchu ar Microsoft i roi adnodd cyfieithu ar y pryd i mewn i Teams (sydd yn cael ei ffafrio gan Gynghorau eraill)

·         Y Gymraeg yn datblygu fel cyfrwng cyfoes, modern mewn technoleg ac yn cael ei ddefnyddio ymysg yr ifanc - angen manteisio ar hyn

·         Angen sicrwydd  bod y gwasanaeth ‘Tracio ac Olrhain’ ar gael yn y Gymraeg

Mewn ymateb i’r sylwadau, amlygwyd bod y Comisiynydd Iaith yn ymwybodol o’r rhwystrau ynglŷn â darparu cyfleoedd Cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd. Amlygwyd bod is -grŵp cenedlaethol wedi ei sefydlu i geisio datrysiadau. Ategwyd bod Cyngor Gwynedd yn rhannu ymarfer da gyda Chynghorau a Phartneriaethau i wella’r ddarpariaeth os nad ydynt yn cael defnyddio zoom. Cynigwyd rhoi diweddariad ar waith yr is-grŵp yn y cyfarfod nesaf

 

Mewn ymateb i gadw momentwm gyda gwersi Cymraeg, nodwyd bod ‘Cynllun Cymraeg i Gefnogi’ wedi ei sefydlu sydd yn llwyddiannus iawn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynlluniau sirol Arfor a pharhad ymrwymiad y Llywodraeth i’r cynllun, adroddwyd bod y misoedd diwethaf mewn gwirionedd wedi bod yn gyfnod prysur iawn i’r cynllun gyda’r cynlluniau yn cael eu haddasu i gyd-fynd a’r sefyllfa. Adroddwyd na fydd ymrwymiad pellach gan y Llywodraeth ac y byddai’r Cynghorau yn cymryd perchnogaeth. Awgrymwyd cyflwyno diweddariad ar y sefyllfa yn y cyfarfod nesaf.

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac i’r staff am addasu’r ddarpariaeth yn effeithiol iawn dros y cyfnod.

 

PENDERFYNWYD:

-       Derbyn yr adroddiad gan ddatgan diolch i’r Swyddogion Iaith am eu holl waith dros y cyfnod

-       Ysgrifennu llythyr at y Comisiynydd Iaith yn datgan pryder nad oes modd i staff Cyngor Gwynedd gyfrannu trwy’r Gymraeg bob amser mewn cyfarfodydd rhithiol a drefnir gan sefydliadau allanol oherwydd nad ydynt yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer cyfarfodydd rhithiol.

-       Ysgrifennu llythyr at Gwmni Microsoft yn eu hannog i ddarparu cyfieithu ar y pryd i gyfrwng Teams

-       Derbyn diweddariad ar waith yr Is grŵp Cenedlaethol sydd yn trafod materion technoleg gwybodaeth yn y cyfarfod nesaf

 

Dogfennau ategol: