I ystyried yr
adroddiad
Penderfyniad:
Derbyn
yr adroddiad
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Ymgynghorydd Iaith yn rhoi diweddariad bras
ar y gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo dros y misoedd diwethaf yng
nghyd-destun y Safonau Iaith a’r dyletswyddau adrodd. Amlygwyd bod y Gwasanaeth
yn gyffredinol, yn parhau i lwyddo i gydymffurfio gyda gofynion y Safonau, ond
bod rhai meysydd o bryder yn codi, gyda themâu pendant yn amlygu eu hunain sydd
yn gosod meysydd gwaith penodol.
Adroddwyd bod y Gwasanaeth wedi bod yn rhagweithiol wrth gysylltu gyda’r
Comisiynydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i drafod pryderon ynghyd a’r
rhwystrau wrth gomisiynu systemau ac apiau allanol.
Ategwyd bod cynnal sgyrsiau agored yn datblygu dealltwriaeth a chydweithio da
sydd yn cael effaith bositif wrth geisio dylanwadu ar gyrff allanol sydd ar
brydiau yn anwybodus am statws yr iaith a gofynion y Safonau yng Nghymru -
enghraifft o hyn yw’r templed asesiad effaith.
Cyfeiriwyd at yr heriau ynghyd a’r meysydd datblygol gan dynnu sylw at
yr adroddiad sgiliau sydd yn mynegi bod canran gallu'r Gymraeg o fewn y Cyngor
yn ‘uchel iawn’ gyda 99.1% yn cyrraedd gofynion y swydd. Tynnwyd sylw pellach
at Adroddiad Sicrwydd Comisiynydd Gymraeg 2019-20 - Cau’r Bwlch ac y byddai’r
adroddiad yn cael ei rannu gyda’r Aelodau drwy e-bost. Amlygwyd bod bwriad
adolygu’r Polisi Iaith ym mis Ionawr gan nad oedd rhai cymalau yn ddigon cadarn
mewn rhai meysydd. Nodwyd y byddai’r gwaith yn cael ei rannu i ddau gategori -
newidiadau gweinyddol, sydd yn golygu man newidiadau i olygu geiriad, er mwyn
gwneud gofynion yn fwy eglur, a newidiadau mawr / egwyddor sydd yn golygu’r
angen i drafod a chael cytundeb i weithredu rhai cyd-destunau. Adroddwyd y byddai
eitem yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf ar ddiwygiadau posib i’r Polisi.
Diolchwyd am yr adroddiad
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau
canlynol gan Aelodau:
·
Bod angen
cyflwyno delwedd Gymreig ar draws y Cyngor
·
Cais am adroddiad
cwynion iaith - holiadur halenu wedi ei anfon allan i weithwyr Adran Priffyrdd yn
uniaith Saesneg
·
Bod defnydd o
gyfryngau cymdeithasol yn cael effaith ar y blynyddoedd cynnar - awgrym i
ymchwilio i mewn i hyn
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chael ‘default’
Cymraeg ar wefannau cymdeithasol adroddwyd bod gwaith ymchwil ar ddefnydd y
cyhoedd o’r wefan yn cael i wneud gyda thîm y we a’r uned gyfathrebu. Ategodd y
r Aelod Cabinet bod hyn yn her dechnegol, ond bod nifer yr ymwelwyr i’r wefan
sydd yn defnyddio Cymraeg yn galonogol.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â thempled asesu effaith nodwyd bod
pob penderfyniad Cabinet yn gofyn am asesiad cydraddoldeb gydag iaith yn cael
ei gynnwys fel un elfen o’r asesiad hwn. Nodwyd bod Swyddfa’r Comisiynydd yn
datblygu canllawiau fyddai’n edrych yn benodol ar rai meysydd i sicrhau
cydymffurfiaeth.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chyfeiriad medrusrwydd iaith a
dyletswydd y sefydliad i gyrraedd y safon gyda chyfleoedd ar gael i hyrwyddo
dysgu Cymraeg os nad yw’n ofynnol i’r swydd, nodwyd bod y safon yn cyrraedd ac
yn pasio'r gofynion a bod cyfrifoldeb i warchod hyn.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad
Dogfennau ategol: