Cyflwynwyd gan:Cyng Dyfrig Siencyn
Penderfyniad:
¾ Cadarnhawyd y
Cynllun Busnes Cyffredinol yn ffurfiol ac yn argymell i’r Cyngor ei gymeradwyo
fel y ddogfen sy'n gosod y trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd
Cymru fel sail ar gyfer ymrwymo i'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig
Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.
¾ Cadarnhawyd y
darpariaethau yng Nghytundeb Llywodraethu 2 sy’n ymwneud â swyddogaethau
gweithredol yn ffurfiol ac yn argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r
darpariaethau sy’n ymwneud â swyddogaethau anweithredol a’i fod (y Cabinet) yn
benodol yn mabwysiadu'r dirprwyaethau a'r Cylch Gorchwyl yn “Cytundeb
Llywodraethu 2: Atodiad 1” ohono fel sail ar gyfer cwblhau'r Cytundeb Terfynol
a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.
¾ Yn ddarostyngedig i
gwblhau Cytundeb Llywodraethu 2, bod Cyngor Gwynedd yn cytuno i weithredu fel
yr Awdurdod Lletya a’r Corff Atebol ac yn llofnodi'r llythyr Cynnig Cyllid
Grant ar ran y Partneriaid drwy law'r Prif Swyddog Cyllid.
¾ Cadarnhawyd
ffurfiol ac yn argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r dull a ddefnyddir i
gyfrifo cost benthyca sydd ei angen mewn egwyddor i hwyluso'r llif arian
negyddol ar gyfer y Cynllun Twf, ac i gynnwys darpariaeth o fewn Cyllideb y
Cyngor i dalu’r cyfraniad hwn a'r cyfraniadau craidd ac atodol sydd wedi’u
sefydlu fel sydd wedi'i nodi yn GA2
¾ Bod y Prif
Weithredwr mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd, y Swyddog Monitro a'r Swyddog Adran
151, yn derbyn awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i'r dogfennau
gyda'r Partneriaid fel sydd angen i gwblhau'r cytundeb.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Cyng. Dyfrig Siencyn.
PENDERFYNIAD
¾ Cadarnhawyd y Cynllun Busnes Cyffredinol yn
ffurfiol ac yn argymell i’r Cyngor ei gymeradwyo fel y ddogfen sy'n gosod y trefniadau
ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru fel sail ar gyfer ymrwymo i'r
Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a
Chymru.
¾ Cadarnhawyd y darpariaethau yng Nghytundeb
Llywodraethu 2 sy’n ymwneud â swyddogaethau gweithredol yn ffurfiol ac yn
argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r darpariaethau sy’n ymwneud â
swyddogaethau anweithredol a’i fod (y Cabinet) yn benodol yn mabwysiadu'r
dirprwyaethau a'r Cylch Gorchwyl yn “Cytundeb Llywodraethu 2: Atodiad 1” ohono
fel sail ar gyfer cwblhau'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant
gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.
¾ Yn ddarostyngedig i gwblhau Cytundeb
Llywodraethu 2, bod Cyngor Gwynedd yn cytuno i weithredu fel yr Awdurdod Lletya
a’r Corff Atebol ac yn llofnodi'r llythyr Cynnig Cyllid Grant ar ran y
Partneriaid drwy law'r Prif Swyddog Cyllid.
¾ Cadarnhawyd ffurfiol ac yn argymell bod y
Cyngor yn cymeradwyo’r dull a ddefnyddir i gyfrifo cost benthyca sydd ei angen
mewn egwyddor i hwyluso'r llif arian negyddol ar gyfer y Cynllun Twf, ac i
gynnwys darpariaeth o fewn Cyllideb y Cyngor i dalu’r cyfraniad hwn a'r
cyfraniadau craidd ac atodol sydd wedi’u sefydlu fel sydd wedi'i nodi yn
GA2
¾ Bod y Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â'r
Arweinydd, y Swyddog Monitro a'r Swyddog Adran 151, yn derbyn awdurdod
dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i'r dogfennau gyda'r Partneriaid fel
sydd angen i gwblhau'r cytundeb.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gnan odi fod yr adroddiad yn benllanw 3
blynedd o waith cael ar y Cynllun Twf. Diolchwyd i’r tîm rhaglen am weithio yn
galed i greu'r dogfennau a’r cynlluniau busnes er mwyn cwblhau’r Cytundeb
Terfynol.
Amlygodd
y Rheolwr Rhaglen prif nod y Cynllun Twf sef i adeiladu economi bywiog,
cynaliadwy a gwydn yn y Gogledd. Mynegwyd y bydd y dulliau gweithredu yn
cyflawni twf mewn ffordd gynhwysol gynaliadwy y gellir eu hymestyn unol a Deddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Pwysleisiwyd y ffynonellau ariannu a oedd yn
cynnwys buddsoddiad gan y Sector Breifat a’r Sector Gyhoeddus.
Tynnwyd
sylw ar y buddion rhanbarthol o Gynllun Twf a oedd yn cynnwys twf mewn ffyniant
rhanbarthol a chreu swyddi o ansawdd gwell ar gyfer y farchnad lafur.
Pwysleisiwyd y buddion a fydd i Wynedd yn benodol a oedd yn cynnwys gwella
cysylltedd digidol ar gyfer busnesau, trigolion ac ymwelwyr, mynediad at
ymchwil arloesol a chefnogaeth gyda thechnegau ffermio cynaliadwy, buddsoddiad
£20m yn isadeiledd safle Trawsfynydd a chyfleodd i ddatblygu safleoedd
strategol fel rhan o’r rhaglen Tir ac Eiddo hirdymor.
Amlygwyd
y Cynllun Busnes Cyffredinol gan bwysleisio ei fod yn gosod allan y trefniadau
ar gyfer gweithredu Cynllun Twf Gogledd Cymru, gan gynnwys trosolwg o’r
rhaglenni a phrosiectau er mwyn cael cymeradwyaeth pob partner i’r gofynion
Ariannol ar gyfer gweithredu’r cynllun. Ychwanegwyd fod y Swyddfa Rhaglen wedi
ymgynghori gyda Llywodraeth y Du a Chymru drwy’r broes o ddatblygu’r dogfennau.
O
ran y Cytundeb Terfynol, nodwyd ei fod yn gytundeb a grëwyd ar y cyd rhwng y
Bwrdd Uchelgais a’r ddwy Lywodraeth. Pwysleisiwyd mai drafft sydd ar hyn o bryd
a'i fod yn parhau i gael ei addasu dros yw wythnosau nesaf. Nodwyd fod y
swyddfa raglen wedi bod yn gweithio yn ddiwyd ar y dogfennau perthnasol, ac y
bydd y cytundeb Terfynol yn cael ei ddiogelu ar sail Achos Busnes Portffolio ac
5 Achos Busnes Rhaglen.
Nododd
y Pennaeth Cyfreithiol fod Cytundeb Llywodraethu 2 yn mynd a’r bartneriaeth i'r
cyfnod gweithredu ar gyfer y Cynllun Twf. Ychwanegwyd fod y parhau a’r model
llywodraethu a fabwysiadwyd yn GA1, sef Cydbwyllgor a gefnogir gan awdurdod
lletya ac yn darparu ar gyfer ymrwymiadau a chyfrifoldebau’r Partneriaid a’r
bartneriaeth. Tynnwyd sylw a threfniadau gan amlygu y bydd y gwaith craffu yn
cael ei rannu rhwng y 6 awdurdod lleol i ysgwyddo’r baich.
Mynegodd
y Pennaeth cyllid bwysigrwydd GA2 yn hanfodol ar gyfer corf atebol. Amlinellwyd
yr Incwm a Gwariant gan nodi fod y proffil gwario dros tua 6 mlynedd, ac
ariannu’r llywodraethau yn gyfartal dros 15 mlynedd, felly y bydd y gost o
ariannu’r llif arian negyddol. Er hyn,
nodwyd fod yr awdurdod lletya am hwyluso
hynny i’r partneriaid ac wedi gwneud rhagdybiaethau rhesymol cyn lledaenu’r
gost yn gyfartal dros 15 mlynedd y cynllun, er mwyn cynnig cost flynyddol
gyraeddadwy. Ategwyd y bydd hyn yn ymrwymo’r partneriaid i’r Cynllun Twf am 15
mlynedd.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
¾ Diolchwyd
am y gwaith a chroesawyd yr arian ar gyfer Parc Glyn Cegin ym Mangor. Holwyd o
ran cysylltiad we ffibr i gwmnïau os bydd yn cael ei ddatblygu ar gyfer holl
drigolion Gwynedd. Mynegwyd fod gwaith mapio wedi ei wneud i weld ble nad oes
ffibr ar gael gan nodi bydd yr ardaloedd yma yn cael ei dargedu gan y cynllun
twf.
¾ Holwyd
o ran cael cyfraniad gan y ddwy Lywodraeth ac os yw hyn yn golygu fod y cynllun
yn atebol i’r ddwy Lywodraeth. Nodwyd y bydd ond fod y cynllun yn ogystal yn
atebol i holl gynghorau yn rhanbarth ac i etholwyr. Pwysleisiwyd mai
atebolrwydd trigolion y sir fydd yn cael y flaenoriaeth.
¾ Croesawyd
yr adroddiad gan y bydd cyfle i adeiladu economi gryfach a bod cyfle i greu
swyddi gwerth uchel a fydd yn gwbl angenrheidiol i bobl ifanc Gwynedd.
¾ Nodwyd mai dyma’r tro
cyntaf i awdurdodau i wirfoddoli gweithio gyda’i gilydd i greu rhywbeth er budd
y trigolion. Diolchwyd i Bennaeth Cyllid a’r Swyddog Monitro am eu gwaith.
Awdur:Sioned Williams ac Alwen Williams
Dogfennau ategol: