Agenda item

Estyniad yn cynnwys codi uchder y to

AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

Gohirio er mwyn paratoi fideo a lluniau ychwanegol o’r ystâd a’r safle

 

Cofnod:

   Estyniad yn cynnwys codi uchder y to

             Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd am estyniad yn cynnwys codi uchder to i eiddo wedi ei leoli yng nghefn gwlad ardal Bwlchtocyn ac o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ategwyd ei fod hefyd oddi fewn i Dirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol ac wedi ei leoli mewn ystâd o dai . Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.

 

Eglurwyd, o edrych o flaen yr eiddo, byddai uchder brig y to yn cael ei godi o rhyw 5 medr i 6.5 medr gyda to brig hefyd i’w osod uwchben y modurdy presennol. Byddai’r estyniad cefn yn creu balconi ar lefel llawr cyntaf gyda decin yn parhau oddi tano ar lefel llawr daear.

 

Ystyriwyd fod y bwriad o ran ei ddyluniad, graddfa a maint yn dderbyniol ac yn gymesur gyda’r eiddo presennol - ni fyddai yn orddatblygiad gyda thir mwynderol digonol yn parhau ar gyfer defnydd yr eiddo.  Cydnabuwyd  y pryderon oedd wedi ei cyflwyno am godi lefel y to a’r ffaith fod gweddill y tai o fewn yr ystâd yn dai unllawr. Er yn creu eiddo uwch ystyriwyd bod y dyluniad ar y cyfan yn cadw edrychiad cyffelyb i’r presennol yn arbennig felly i’r edrychiad blaen sy’n wynebu’r ystâd nac yn cael effaith ormesol ar weddill yr ystâd.  Ategwyd bod yr eiddo wedi ei leoli ym mhen pellaf yr ystâd ble mae’r tir ar lefel is ac felly ni fyddai’r codi’r uchder yn cael effaith andwyol ar fwynderau gweledol yr ardal.  Cydnabuwyd hefyd y  pryderon y byddai’r bwriad yn creu cynsail ar gyfer datblygiadau cyffelyb ar weddill yr ystâd, fodd bynnag, bydd gofyn asesu pob cais ar ei rinweddau ei hun ac nid yw’r ffaith y byddai’r cais yma yn cael caniatâd cynllunio yn ffurfio cynsail ar gyfer gweddill yr ystâd. 

 

Cyfeiriwyd at sylwadau’r Uned AHNE gan nodi nad oedd gwrthwynebiad ganddynt o ystyried bod yr eiddo yn unllawr lled-ddiweddar ac nad ydoedd mewn lleoliad amlwg o fannau cyhoeddus. O ganlyniad, ni ystyriwyd y byddai’r addasiadau bwriededig yn gwneud i’r adeilad  amharu ar yr AHNE.  Er wedi ei leoli o fewn yr AHNE mae’r eiddo wedi ei leoli yng nghanol tai eraill ac yn ffurfio rhan o ffurf adeiledig bresennol y rhan yma o Bwlchtocyn ac yn sgil hyn ni fyddai’n sefyll allan yn y dirwedd.

 

O ganlyniad, ystyriwyd na fyddai’r bwriad yn cael effaith niweidiol andwyol ar yr ardal na’r AHNE a bod dyluniad y bwriad yn dderbyniol.  Hefyd ni ystyriwyd bod goblygiadau o ran diogelwch ffyrdd na mwynderau trigolion cyfagos.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:-

·         Nad cais i droi un llawr i dau lawr oedd y cais ond un i godi to'r er mwyn creu ystafelloedd dormer

·         Bod yr eiddo yn eistedd ar ben draw yr ystâd, ar ran isaf y stad mewn cornel ddiarffordd -  ni fydd felly yn ormesol

·         Na fyddai’r estyniad dormer yn gwneud drwg i neb; yr eiddo wedi’i osod i ffwrdd o’r eiddo eraill ac felly ni fyddai’n amharu ar adnoddau gweledol nac yn creu unrhyw achos o or-edrych dros eiddo cyfagos

·         Derbyn bod nifer o berchnogion eiddo ar y stad yn pryderu, ond nid oes sail i’w hofnau.

·         Bod rhif 10, tua 1.4medr yn uwch na rhif 12 ac felly hyd yn oed gydag estyniad dormer, byddai rhif 12 yn is na drws nesaf.

·         Na fyddai’r estyniad yn gosod cynsail - rhaid trin pob cais ar ei rinweddau ei hun

·         Gellid rheoli unrhyw aflonyddwch yn ystod y gwaith adeiladu drwy amodau cynllunio

·          Na fydd unrhyw golled o breifatrwydd i eiddo cyfagos gan fydd y bwriad, pan wedi’i gwblhau, yn creu fydd yn parhau i ymddangos fel un llawr.

·         Nad oedd gan y swyddog AHNE unrhyw wrthwynebiad  -  wedi nodi nad yw’r eiddo mewn lleoliad amlwg.

·         Nad oedd unrhyw sail cynllunio y gellid ei gyfiawnhau dros wrthod estyniad dormer

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd i’r cais y pwyntiau canlynol:

·         Ei fod yn siarad ar ran 85% o'r perchnogion eraill oedd yn byw yn y stad ac roeddynt i gyd wedi cofrestru gwrthwynebiadau i’r cais

·         Bod Lôn Cernyw yn ystâd fechan o fyngalos sydd wedi'u cynllunio'n debyg ac yn sympathetig - byddai'r datblygiad arfaethedig yn gwyro oddiar y cysyniad hwnnw.

·         Bod graddfa a maint yr eiddo arfaethedig yn or-ddatblygiad sylweddol a byddai'n ymwthiol iawn, yn ormesol, yn estron ac yn hollol groes i gymeriad yr ystâd gyda rhif 10 ac 11 Lon Cernyw yn dioddef fwyaf.

·         Bod y dyluniad gwreiddiol yn gosod lleoliad rhif 12 yn y fath fodd fel ei fod yn caniatáu agwedd agored i'r Gogledd er budd yr holl fyngalos. Byddai’r datblygiad arfaethedig yn diystyru'r egwyddor yma yn yr ystyr y byddai’r llinell do newydd yn cuddio'r agwedd agored bresennol yn sylweddol ac yn sicr yn cael effaith niweidiol ar fwynderau gweledol yr ardal.

·         Bod y cais yn groes i bolisïau PCYFF 2 a 3 oherwydd graddfa ac uchder y datblygiad ynghyd a'r effaith negyddol y bydd yn cael ar fwynderau gweledol yr ardal.

·         Bod Lôn Cernyw yn ddatblygiad hyfryd a gafodd ei ddylunio a'i adeiladu'n dda dros 40 mlynedd yn ôl a bod angen cadw’r agwedd wreiddiol yma.

ch)  Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

 

·         bod yr ystâd yn unigryw ac nad oedd wedi newid cymeriad dros y blynyddoedd

·         bod yr estyniad arfaethedig yn sylweddol - o ystyried maint a ganiateir i fforddiadwy

·         byddai addasu un yn newid golwg a chymeriad yr ystâd

·         Angen cadw’r ystâd fel ag y mae

 

d)     Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais ar sail bod y bwriad yn orddatblygiad o’r safle ynghyd a phryder y gall osod cynsail i eraill.

 

Cynigiwyd gwelliant i ohirio’r penderfyniad fel bod modd cynnal ymweliad safle neu dderbyn mwy o wybodaeth am y safle drwy fideo a lluniau ychwanegol. Byddai hyn yn fuddiol fel modd o gael syniad o effaith y bwriad ar yr ardal

 

Mewn ymateb i’r gwelliant, amlygodd yr Uwch Gyfreithiwr bod y gwelliant yn briodol ond o dan ganllawiau covid 19 nad oedd modd cynnal ymweliad safle. Ategodd, yn unol â’r protocol, mai darparu fideo a lluniau ychwanegol fyddai’r cam cyntaf i gynorthwyo’r Aelodau i ddod i benderfyniad.

 

dd)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·           Bod y safle ynghanol yr AHNE

·           Y byddai caniatáu yn beryg o osod cynsail

·           Bod angen mwy o wybodaeth am osodiad yr ystâd i geisio gwell dealltwriaeth

·           Bod ‘unllawryn gamarweiniol gan y byddai dau lawr i’r eiddo

 

PENDERFYNWYD gohirio er mwyn paratoi fideo a lluniau ychwanegol o’r stad a’r safle

 

Dogfennau ategol: