Cyflwynwyd gan:Cyng. Craig ab Iago
Penderfyniad:
a) Cymeradwywyd
y prosiectau a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu Tai ar gyfer y cyfnod o hyn tan
2026/27.
b) Cymeradwywyd
ymhellach y dyraniad a argymhellwyd ar gyfer y prosiectau unigol, o fewn yr
amlen ariannol sydd eisoes wedi ei gymeradwyo ar gyfer y maes gwaith hwn, a hyd
at gyfanswm yr adnoddau fydd eisoes wedi’u casglu.
c) Er
mwyn caniatáu hyblygrwydd wrth ymateb i newidiadau yn y farchnad dai dros
amser, awdurdodwyd y Pennaeth Tai ac Eiddo, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet
Tai ac Eiddo a’r Pennaeth Cyllid, i amrywio’r union ddyraniad ar gyfer
prosiectau unigol wrth i wybodaeth am gostau prosiectau unigol, a’r galw am
fathau gwahanol o gefnogaeth, ddod yn fwy cadarn dros amser.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab
Iago.
PENDERFYNIAD

TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y maes
tai mewn argyfwng bellach. Nododd yr Aelod Cabinet er ei fod wedi swnian ar y
Llywodraeth Cymru i wneud rhywbeth am y mater ei fod yn bleser cynnig y Cynllun
Tai ar gyfer Cyngor Gwynedd. Mynegodd fod y Cynllun Gweithredol yn amlygu sut y
bydd yr Adran yn gweithredu’r weledigaeth. Ychwanegodd fod y ddogfen yn cael ei
gyflwyno ac yno i ysbrydoli pobl.
Nododd Pennaeth yr
Adran Tai ac Eiddo fod Cynghorwyr a phartneriaid yn y maes Tai wedi bod yn rhan
o’r trafodaethau ar gyfer creu'r ddogfen ar hyd y daith. Pwysleisiodd ei bod yn
adroddiad cyfansawdd ac y bydd adroddiad pellach ar rai achosion busnes mwy
manwl yn cael ei chyflwyno yn y flwyddyn newydd. Mynegwyd fod yr adran wedi
gweithio yn galed i greu dogfen ddealladwy i bawb. Amlinellwyd y prif feysydd o
fewn y Cynllun gan nodi’r prif amcan o fewn y cynllun fydd i’r Cyngor adeiladau
tai ei hunain i’w rhentu am bris teg o fewn y sir ac i uwchraddio
tai gwag er mwyn dod a hwy yn ôl i ddefnydd.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Croesawyd y Cynllun Tai gan amlygu ei fod yn waith arbennig sydd yn glir
ac yn amlygu beth mae’r adran am ei wneud. Pwysleisiwyd fod gwaith ymchwil wedi
ei wneud i weld beth yw gwir angen o fewn y sir. Holwyd o ran y cynllun i’r
dyfodol faint o hyblygrwydd sydd i addasu’r cynllun wrth i’r flynyddoedd fynd
heibio. Mynegwyd fod y cynllun yn sylfaen dda ond y bydd yr adran yn parhau i
edrych a newid yn ystod y cyfnod. Pwysleisiwyd fod y cynllun yn hyblyg ond os
bydd newid mawr i’w gweld y byddant yn dod yn ôl i’r Cabinet.
¾ Nodwyd fod heriau i’w gweld yn y maes tai a bod y cynllun yn mynd i’r
afael a hwy mewn amrywiol ffyrdd. Holwyd o ran amserlenni cynlluniau grantiau
ac os oes modd ôl-ddyddio grantiau tai gweigion. Nodwyd y bydd rhai cynlluniau
yn cael eu gweithredu yn gynt nac eraill a bydd yr adran yn edrych ar y
cysyniad o ôl ddyddio grantiau os oes angen gwneud hynny i ateb trafferthion y
mae trigolion yn eu wynebu.
¾ Mynegwyd fod y cynllun yn un uchelgeisiol a holwyd os ydynt yn ffyddiog
i dderbyn grantiau. Amlygwyd fod yr adran wedi derbyn pob grant maent wedi
ymgeisio amdanynt hyn yma ac mae’r cynllun yn un chwe blynedd fel bod
cynlluniau yn barod os unrhyw grantiau yn codi.
¾ Bu i’r aelodau longyfarch yr adran gan amlygu fod creu'r adran wedi
dangos fod y Cyngor yn cymryd y maes tai o ddifri. Amlygwyd llwyddiant yn barod
i’r adran.
¾ Canmolwyd yr adran am y cynllun gan bwysleisio mai gwireddu’r cynllun
fydd y gwir gamp. Nodwyd fod sylfaen yno
gan ganmol yr adran am greu asesiadau cydraddoldeb.
¾
Amlygwyd yr amrywiaeth o brosiectau a bod yr adran
wedi edrych am fwy nac un ateb i broblemau amrywiol.
Awdur:Dafydd Gibbard
Dogfennau ategol: