Cyflwynwyd gan:Cyng. Gareth Griffith a Cyng. Craig ab Iago
Penderfyniad:
Yn wyneb yr angen i gael gwell rheolaeth ar dai sydd yn cael
eu tynnu allan o’r cyflenwad sydd ar gael i bobl leol, a thrwy hynny i roi
buddiannau trigolion lleol yn gyntaf, cymeradwywyd y gwaith ymchwil i’w
gyflwyno i Lywodraeth Cymru ac y dylid:
a)
Galw ar y Llywodraeth ar fyrder i efelychu'r hyn
sydd yn digwydd yn yr Alban a diwygio’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref
(Dosbarthiadau Defnydd) er mwyn cynnwys dosbarth defnydd ychwanegol ar gyfer
llety gwyliau tymor byr. Byddai hynny yn ei dro yn caniatáu i awdurdodau
adnabod ‘ardaloedd rheoli’ lle byddai’n ofynnol derbyn hawl cynllunio ar gyfer
newid defnydd tŷ preswyl i’w ddefnyddio fel llety gwyliau tymor byr o fewn
yr ‘ardal rheoli’ penodedig.
b)
Er mwyn cynorthwyo i gadw rheolaeth dylid hefyd
galw am gyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer llety gwyliau tymor byr
fyddai’n gyfrifoldeb i’r awdurdod lleol ei weithredu.
c)
Tra byddai’r uchod yn cynorthwyo’r Cyngor i gael
gwell rheolaeth ar dai sy’n cael eu defnyddio at ddibenion gwyliau, ni fyddai
modd osgoi/rheoli tai yn cael eu troi yn ail gartrefi (oni bai am y rhai sydd
yn cael eu gosod yn achlysurol/parhaol). Er mwyn sicrhau fod gan y Cyngor y
modd ariannol i helpu i wneud yn iawn am y diffygion yn y cyflenwad y byddai
hynny yn ei greu, ein bod yn galw ar y Llywodraeth i newid ei safiad ac i
weithredu ar fyrder i newid y Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol fel bod unrhyw
dŷ annedd sydd ddim yn brif neu unig gartref i unigolyn (boed yn ail
gartref neu’n dŷ a ddefnyddir at ddibenion llety gwyliau tymor byr) yn
cael ei ddiffinio fel tŷ annedd er pwrpas trethu (a thrwy hynny yn talu
unrhyw bremiwm Treth Cyngor a benderfynir arno’n lleol). Fe fyddai unrhyw lety
gwyliau tymor byr sydd wedi derbyn hawl cynllunio pwrpasol ar gyfer y defnydd
hynny yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer talu Treth Busnes Annomestig.
d)
Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Adran Amgylchedd
mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet i ystyried sut y gellir defnyddio’r
gwaith ymchwil yng nghyd-destun y fframwaith bolisi cynllunio lleol.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Cyng. Gareth Griffith a Cyng. Craig ab Iago.
PENDERFYNIAD
Yn wyneb yr angen i gael gwell rheolaeth ar dai
sydd yn cael eu tynnu allan o’r cyflenwad sydd ar gael i bobl leol, a thrwy
hynny i roi buddiannau trigolion lleol yn gyntaf, cymeradwywyd y gwaith ymchwil
i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru ac y dylid:
a)
Galw
ar y Llywodraeth ar fyrder i efelychu'r hyn sydd yn digwydd yn yr Alban a
diwygio’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) er mwyn
cynnwys dosbarth defnydd ychwanegol ar gyfer llety gwyliau tymor byr. Byddai
hynny yn ei dro yn caniatáu i awdurdodau adnabod ‘ardaloedd rheoli’ lle
byddai’n ofynnol derbyn hawl cynllunio ar gyfer newid defnydd tŷ preswyl
i’w ddefnyddio fel llety gwyliau tymor byr o fewn yr ‘ardal rheoli’ penodedig.
b)
Er
mwyn cynorthwyo i gadw rheolaeth dylid hefyd galw am gyflwyno cynllun trwyddedu
gorfodol ar gyfer llety gwyliau tymor byr fyddai’n gyfrifoldeb i’r awdurdod
lleol ei weithredu.
c)
Tra
byddai’r uchod yn cynorthwyo’r Cyngor i gael gwell rheolaeth ar dai sy’n cael
eu defnyddio at ddibenion gwyliau, ni fyddai modd osgoi/rheoli tai yn cael eu
troi yn ail gartrefi (oni bai am y rhai sydd yn cael eu gosod yn
achlysurol/parhaol). Er mwyn sicrhau fod gan y Cyngor y modd ariannol i helpu i
wneud yn iawn am y diffygion yn y cyflenwad y byddai hynny yn ei greu, ein bod
yn galw ar y Llywodraeth i newid ei safiad ac i weithredu ar fyrder i newid y
Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol fel bod unrhyw dŷ annedd sydd ddim yn brif
neu unig gartref i unigolyn (boed yn ail gartref neu’n dŷ a ddefnyddir at
ddibenion llety gwyliau tymor byr) yn cael ei ddiffinio fel tŷ annedd er
pwrpas trethu (a thrwy hynny yn talu unrhyw bremiwm Treth Cyngor a benderfynir
arno’n lleol). Fe fyddai unrhyw lety gwyliau tymor byr sydd wedi derbyn hawl
cynllunio pwrpasol ar gyfer y defnydd hynny yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer
talu Treth Busnes Annomestig.
d)
Dirprwyo’r
hawl i’r Pennaeth Adran Amgylchedd mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet i
ystyried sut y gellir defnyddio’r gwaith ymchwil yng nghyd-destun y fframwaith
bolisi cynllunio lleol.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod y Cabinet dros flwyddyn yn ôl wedi comisiynu
adroddiad yn edrych ar ardrawiad cartrefi
gwyliau yng nghyd-destun Gwynedd. Diolchwyd i’r staff am eu gwaith caled i
greu’r adroddiad.
Amlygwyd fod yr adroddiad yn amlygu prif broblemau yn y maes
sef yr effaith ar y stoc dai, effaith ar
gymunedau yn ogystal ag effaith ar yr iaith Gymraeg. Ategwyd fod yr adroddiad
yn rhannu gwybodaeth ond hefyd yn amlygu opsiynau posib i fynd i’r afael ar
broblemau hyn. Tynnwyd sylw at yr ystadegau dychrynllyd sydd i’w gweld megis
bron i 7,000 o dai'r sir yn cael eu defnyddio fel tai gwyliau. Yn ogystal
nodwyd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf fod 38% o dai'r sir a brynwyd
wedi eu prynu fel ail cartrefi. Nodwyd y penderfyniad gan amlygu fod cefnogaeth
i’r adroddiad gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau a drafodwyd y mater yr wythnos
diwethaf.
Bu i’r Arweinydd Tîm Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd roi trosolwg o’r adroddiad
gan bwysleisio fod y sector hwn yn un ar hyn o bryd nad yw’n cael ei
reoleiddio. Amlygwyd map a oedd yn dangos yr ardaloedd ble mae prisiau tai yn
uwch na chyfartaledd y sir gan nodi fod perthynas glir rhwng yr ardaloedd a'r
nifer is o siaradwyr Cymraeg yn yr ardaloedd rhain. Nodwyd beth sydd yn cael ei
wneud mewn gwledydd eraill gan nodi fod yr Alban yn gorfodi pob llety gwyliau i
gael trwydded a bod awdurdodau lleol yn gallu gofyn i bob llety gwyliau newydd
i wneud cais cynllunio er mwyn eu newid o lety preswyl i gael eu defnyddio fel
llety gwyliau. Pwysleisiwyd yr angen am fecanwaith i allu rheoli’r maes.
Ychwanegodd
Pennaeth Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd fod yr adroddiad yn amlygu ffeithiau
ac yn rhoi tystiolaeth gref i allu gwneud rhywbeth ac i edrych ar bolisi
cynllunio lleol.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
¾ Nodwyd
fod yr adroddiad yn un ysgytwol a bod y drefn bresennol yn rhoi buddiannau pobl
gefnog sydd ac ail gartref o flaen trigolion Gwynedd. Nodwyd fod y gwaith yn
gam ymlaen i edrych y maes.
¾ Mynegwyd
fod yr adroddiad yn amlygu fod 227 o unedau AirBnB sydd yn dangos cynnydd o
900% yn ogystal â 10% o stoc tai'r sir yn cael ei defnyddio fel tai haf. Nodwyd
fod yr adroddiad yn un i’w gyflwyno i’r Llywodraeth i ddangos pa mor ddyrys i’w
sefyllfa yng Ngwynedd.
¾ Pwysleisiwyd
fod yr adroddiad blaenorol wedi amlygu’r angen am dai i bobl Gwynedd ac yna fod
yr adroddiad hwn yn amlygu fod 10% o dai'r sir yn dai haf. Pwysleisiwyd angen i
edrych ar y maes gan fod y maes ar hyn o bryd yn caniatáu i bobl gael ail
gartref tra bod eraill yn methu prynu tŷ. Nodwyd fod hyn wedi ei amlygu 20
mlynedd yn ôl ond nad oedd tystiolaeth gadarn ond fod y gwaith hwn wedi casglu'r holl wybodaeth a'i bod yn amser
bellach i’r Llywodraeth i weithredu.
¾ Diolchwyd
i’r adran am greu'r ddogfen fyddai’n rhoi sail ffeithiol i ni fedru gweithredu.
Awdur:Gareth Jones
Dogfennau ategol: