Agenda item

Distyllfa Aber Falls, Station Road, Abergwyngregyn

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

Caniatáu y cais 

 

Cofnod:

Ar ran yr eiddo:                     Christopher James Wright  (Ymgeisydd)

                                               

                                               

Eraill a wahoddwyd:             Ffion Muscroft – Swyddog Iechyd yr Amgylchedd

                                                Joan Underwood, Nicolette Whiting ac Ann Pennell  (Ymgynghorai Lleol)

                                               

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am amrywio trwydded eiddo ar gyfer Distyllfa Aber Falls, Station Road, Abergwyngregyn. Gwnaed y cais mewn perthynas â gwerthu alcohol ar ac oddi ar yr eiddo, dangos ffilmiau, cerddoriaeth byw a wedi recordio, perfformiadau dawns a darparu lluniaeth hwyr y nos.

 

Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Amlygwyd, ers cyhoeddi’r adroddiad bod yr ymgeisydd wedi cytuno i oriau cyfyngedig ac felly ystyriwyd y cais fel un diwygiedig.  Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded. Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori gan nodi nad oedd gan yr Heddlu na’r Gwasanaeth Tân wrthwynebiadau. Roedd yr ymgeisydd hefyd wedi cytuno i amodau Adran Gwarchod y Cyhoedd o ran cyfaddawdu gyda’r oriau agor.

b)         Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

c)         Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno.

Ategodd y sylwadau canlynol:

·         Ei fwriad oedd cydweithio gyda’r gymuned

·         Nid bar oedd dan sylw ond Bistro gydag alcohol yn cael ei weini gyda bwyd yn unig. Y Bistro yn cynnwys ardal ar gyfer eistedd hyd at 35 o bobl

·         Bydd digwyddiadau arbennig ar gyfer marchnata / hybu bwydydd a chynnyrch lleol yn cael eu cynnal yn y Ganolfan Groeso – bydd rhain yn ddigwyddiadau drwy wahoddiad yn unig

·         Bydd y Ganolfan Groeso yn lwyfan i arddangos cynnyrch lleol

·         Bod rheolau llym a canllawiau gweithredu yn eu lle i reoli niferoedd yn yr ardal cynhyrchu

·         Bod defnydd o rybudd digwyddiad dros dro yn addas ar gyfer digwyddiadau arbennig

·         Nid canolfan ar gyfer adloniant yw’r bwriad ond canolfan bwyd a diod

 

ch)       Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar eu gwrthwynebiadau i ganiatáu trwydded gan ategu at sylwadau a gyflwynwyd trwy lythyr.

 

Joan Underwood

·         Ei bod yn byw llai na 100 llath o’r Ddistyllfa

·         Y fenter yn debygol o amharu ar ei ffordd o fyw - pryderon sŵn

·         Bod y cais wedi ei gyflwyno heb yn wybod iddi a bod cyfathrebu yn anodd

·         Byddai’n dymuo cael gwybodaeth am drefniadau cludo a dosbarthu gan ei bod yn rhannu mynedfa, ynghyd a gwybodaeth am ddigwyddiadau i’r dyfodol

·         Bod golau o’r bistro y llachar gyda’r nos

·         Bydd y pentref yn profi cynnydd mewn traffig ychwanegol - angen ystyried beth yw cyfyngiad yr isadeiledd

 

Nicolette Whiting

·         Bydd llawer o loriau yn mynd nôl ac ymlaen ac felly yn effeithio ar drigolion y pentref

·         Croesawu mynedfa i’r ddistyllfa yn unig – derbyn bod difrod llifogydd diweddar

·         Angen amserlen casglu gwastraff

·         Pryder am ddarpariaeth parcio a pharcio ar gyfer bysus - dim digon o le - os bydd maes parcio ychwanegol yn cael ei ddarparu, sut fydd mynediad iddo?

·         A fydd niferoedd ymwelwyr i’r Bistro yn ychwanegol i’r nifer sydd yn cyrraedd mewn bysiau?

 

Ann Pullaman

·         Bod angen cadarnhad cydymffurfiaeth gyda darpariaeth ar gyfer ystlumod

 

Mewn ymateb i’r sylw ynglŷn â nodyn hysbysu cais am drwydded, amlygodd y Rheolwr Trwyddedu nad oedd gorfodaeth o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003 i anfon llythyrau (fel ym maes Cynllunio) i gymdogion. Ategwyd bod yr Uned Trwyddedu yn annog ymgeiswyr i ymgynghori.

d)            Yn manteisio ar ei hawl i siarad, amlygodd Swyddog Iechyd yr Amgylchedd, bod yr ymgeisydd, yn dilyn trafodaethau, wedi cytuno cwtogi oriau agor a chyflenwi alcohol, tynnu oddi ar y cais cerddoriaeth byw, perfformiadau dawns a / neu unrhyw beth o ddisgrifiad tebyg. Cytunwyd y bydd rhaid rhoi cais rhybudd digwyddiad dros dro os yn bwriadu cynnal gŵyl neu ddigwyddiad tebyg o’r fath, a bod angen adolygu polisi Iechyd a Diogelwch o ran trafnidiaeth a chwsmeriaid ar y safle. O ganlyniad, nid oedd gan yr Adran Amgylchedd wrthwynebiad i’r cais diwygiedig.

dd)       Wrth grynhoi ei achos ategodd yr ymgeisydd,

·         Bod maes parcio bysiau ar gael, a bod trafodaethau gyda’r gymuned am fenter barcio i’r pentref

·         Bod unrhywbartisydd yn cyrraedd ar fws wedi llogi ymlaen llaw.

·         Niferoedd loriau cludo a dosbarthu - rhan fwyaf yn cludo yn wythnosol - bod modd darparu amserlen

·         Ei fod yn barod i rannu gwybodaeth am ddigwyddiadau - angen cytuno yn lleol ar y dull gorau o gyfathrebu’r wybodaeth

·         Bod y niferoedd yn cael eu rheoli yn effeithiol gyda’r drefn llogi yn cael ei wneud drwy’r wefan

·         Bod arolwg ecolegol wedi ei gwblhau gyda bocsys wedi eu darparu ar gyfer ystlumod

Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’r ymgynghorai o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais

ff)        Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu, yn ogystal â sylwadau llafar a dderbyniwyd yn y gwrandawiad. Ystyriwyd hefyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

                       i.       Atal trosedd ac anhrefn

                      ii.       Atal niwsans cyhoeddus

                     iii.       Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                     iv.       Gwarchod plant rhag niwed

PENDERFYNWYD caniatáu y cais 

Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i sylwadau’r Uned Iechyd Amgylcheddol. Yn dilyn argymhellion yr Uned penderfynodd yr ymgeisydd ddiwygio’r cais i ostwng oriau ar gyfer cyflenwi alcohol, cerddoriaeth wedi recordio a ffilmiau. Nid oedd bellach yn gofyn am drwydded ar gyfer cerddoriaeth fyw, perfformio dawns neu adloniant tebyg.

 

Derbyniwyd sylwadau gan drigolion lleol yn datgan pryder yn berthnasol i atal niwsans cyhoeddus yn nhermau llygredd golau a sŵn, yn enwedig mewn perthynas â digwyddiadau tu allan gydag adloniant a cherddoriaeth. Mynegwyd pryder ynglŷn â’r diffiniad o ddigwyddiadau achlysurol ac y byddai hyn yn cynyddu traffic a chynhyrchu rhagor o sŵn ynghyd a pryderon yn nhermau sicrhau diogelwch cyhoeddus, oherwydd lleoliad cul y safle a’r cynnydd yn y nifer o draffig lorïau yn llwytho a dadlwytho nwyddau.

 

Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r sylwadau hyn, wrth nodi eu bod wedi eu gwneud mewn ymateb i’r cais gwreiddiol i amrywio’r drwydded. Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y pryderon hynny wedi cael eu cyfarch yn ddigonol gan y newidiadau a wnaed i’r cais yn dilyn cyngor yr Uned Iechyd Amgylcheddol.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais i amrywio’r drwydded fel y’i diwygiwyd yn gydnaws â’r amcanion trwyddedu ac na fyddai yn arwain at broblemau o lygredd golau, sŵn neu gynnydd traffig i’r graddau bod yr amcanion o atal niwsans cyhoeddus a sicrhau diogelwch cyhoeddus wedi eu tanseilio. Nid oedd yr Is-bwyllgor wedi eu hargyhoeddi y byddai caniatáu’r drwydded yn tanseilio’r amcanion trwyddedu ac ni dderbyniwyd tystiolaeth y byddai rhoi’r drwydded yn arwain at gynnydd mewn sŵn.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn  derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

Dogfennau ategol: