I Ystyried Adroddiad ar Blant a Phobl Ifanc Mewn Gofal
Penderfyniad:
Derbyniwyd yr adroddiad a nodwyd y sylwadau.
Cofnod:
Nodwyd bod yr adroddiad yn
cael ei chyflwyno
gyda balchder yn y staff a’r rhieni maeth. Adroddwyd ar sut roedd
y Gwasanaeth wedi ymateb i barhau
gyda y Gwasanaeth yn y cyfnod anodd
hwn ac wedi ymateb i’r gofyn
yn ystod y cyfnod clo.
Cadarnhawyd bod 294 o blant mewn gofal ar
ddiwedd Medi 2020, ac mewn gofal am resymau
amrywiol. Nodwyd mai y dewis
olaf un yw
gosod plentyn mewn gofal, ond
weithiau nid oes dewis.
Cyfeiriwyd at y ffigyrau o 27 plentyn mewn gofal am y tro cyntaf yn
ystod y cyfnod Ebrill i Fedi
- hynny yw, nad oeddynt
yn wybyddus i’r Cyngor cyn
y cyfnod hwn, tra bo derbyn
cyfeiriadau dienw wedi cynyddu i
71%. Ar y llaw arall, cadarnhawyd
bod 24 wedi gadael y gwasanaeth yn ystod
y cyfnod hefyd. Cadarnhawyd o ran y
plant sydd yn destun Gorchymyn Llys bod cydweithio wedi bod gyda rhieni.
Cyfeiriwyd at yr atodiad sydd yn
manylu o ran niferoedd a lleoliadau, gan nodi bod rhai plant adref gyda theulu
neu aelodau estynedig y teulu.
O ran yr adnoddau maethu,
nodwyd bod 72 o leoliadau wedi eu cofrestru
a oedd gyda’r capasiti i gynnig
lleoliadau i 139 o blant, ynghyd a 60 lleoliad maeth arall drwy deulu estynedig. Cadarnhawyd bod llefydd ychwanegol wedi eu cofrestru
yn ystod y cyfnod, a bod y ffordd o gynnal cyfarfodydd wedi newid a bod ymgyrch recriwtio wedi cymryd lle.
Cadarnhawyd ei bod yn anodd cael
lleoliadau i ganran fach, sydd
yn gyfrifoldeb y Cyngor, ac mai yr opsiwn olaf un yw eu gosod mewn
lleoliadau anrheoledig. Cadarnhawyd, yn y 5 mlynedd diwethaf, bod 7 trefniant o’r math wedi cymryd
lle am gyfnod o 3 wythnos ar yr
hiraf.
Cyfeiriwyd at bolisi Llywodraeth Cymru i leihau nifer
y plant mewn gofal. Atgoffwyd y Pwyllgor bod y cyfeiriad polisi yn cael
y flaenoriaeth uchaf rhai blynyddoedd yn ôl a hysbyswyd
y Llywodraeth bryd hynny na fyddai
Gwynedd yn gosod targed, ac osgoi targedau a fu : nid oedd
hwn yn safbwynt
hawdd.
Nodwyd y daeth Covid a heriau newydd a bod y gweithlu wedi bod yn anhygoel
wrth newid yn sydyn, ac wedi
ymdrin â materion megis:
Parhau i wneud
Asesiadau
Parhau i gadw
cyswllt gyda rhieni
Cau Hafan y Sêr
Cydweithio gyda yr Adran Addysg
A dolygiadau Rhithiol ar gyfer Plant mewn Gofal
Sefydlu Llinell
Gymorth
Cymorth i
gael mynediad
at ddeunydd megis ffisig a bwyd i
fabanod
Yn ddiweddarach
ymdriniwyd â materion megis
Ail agor Hafan
y Sêr
Ail gychwyn trefniadau cyswllt plant a rhieni (mewn PPE wrth gwrs)
Parhau i
weithio o adref
Nodwyd pryder
am staff a nodwyd bod y Gwasanaeth
yn gweithredu eu cyfrifoldebau yn llawn, ond
mewn ffordd wahanol.
O ran y staff nodwyd bod
Trefniadau Iechyd
a Diogelwch yn dynn
Rheolwyr yn
cysylltu yn gyson
Y tîm rheoli
a rheolwyr wedi cael tri sesiwn, gan roi cyfle
i adrodd ar heriau a phryderon
Diolchwyd am yr adroddiad helaeth
a chwestiynwyd fel a ganlyn :
O ran y pwynt ‘Ar adegau mae’r gallu i ganfod lleoliad
preswyl addas yn amhosibl’ cwestiynwyd onid yw hyn yn risg mawr i’r staff? Cwestiynwyd hefyd sut fyddai modd lleihau y
risg i’r staff?
Nodwyd bod rhai
unigolion angen ateb eu hanghenion arbennig.
Yn anffodus mae darparwyr preifat yn gallu nid yn unig enwi eu pris ond
hefyd nid yw lleoliadau wastad ar gael.
Cadarnhawyd fod y datrysiad yn un anodd iawn. Nodwyd pan fo y sefyllfa yn codi nad oedd
byth brinder staff sydd yn fodlon gwirfoddoli i wneud y gwaith.
Cwestiynwyd, os
yw hon yn broblem genedlaethol oni ddylid herio y Llywodraeth, gan dderbyn na
fyddai yn hawdd? Tybed a oes ffrwd
gwaith yma i edrych ar y mater a symud ymlaen arno yn genedlaethol er mai hen
broblem yw y mater? Roedd y Pwyllgor yn falch bod y Pennaeth Adran Plant a
Chefnogi Teuluoedd yn Cadeirio y Grŵp trafod ar hyn.
Nodwyd pryder am
y datganiad ynglŷn â rhewi cyflogau yn enwedig gan fo staff yn gwneud eu
gorau. Nodwyd onid yw ffigyrau gofal
uchel yn dangos fod y Gwasanaeth yn gofalu am blant a nodwyd balchder bod y
plant mewn dwylo da.
O ran targed y
Llywodraeth o ran lleihau plant mewn gofal, cefnogwyd safiad Gwynedd o beidio â
gosod canran %, gan gadarnhau na fyddai mwy mewn gofal na fyddai wirioneddol
angen bod. Ychwanegwyd at hyn gan nodi
na dim gosod targed yw yr ateb ond gwella, a chadarnhawyd bod angen dangos yn glir
a rheolaidd y gwelliannau a'r rhwystrau sydd wedi eu goresgyn.
Cwestiynwyd y
ffaith bod mwy o blant wedi dod i ofal rŵan drwy alwadau ffôn gan
unigolion a chwestiynwyd pam bo hyn?
Mewn ymateb, nodwyd efallai mai pryder ydoedd gan unigolion, pobl yn gweithio
o adref ac yn gweld neu glywed mwy neu fwy o lygaid yn ein cymunedau. Nodwyd bod y Gwasanaeth yn parhau i weld y
cyfeiriadau dienw.
Diolchodd yr
Aelod Cabinet am y gwaith, a cyfeiriodd at yr heriau, gan gynnwys:
targed y
llywodraeth a’r ffaith bod Gwynedd wedi dod dan bwysau ond yn parhau i ymwrthod
i osod targed.
Archwiliad
Arolygaeth Gofal ar y gweill, sydd wedi dod ar amser anodd
Materion llesiant
staff
Heriau ariannol,
ble mae pob carreg yn cael ei throi i weld a oes modd gwneud arbediad er mai
diogelwch yw y prif beth
Efallai y byddai
yn ddiddorol a defnyddiol cyflwyno astudiaeth achos unigolyn yn y drefn i’r
Pwyllgor yn y dyfodol
Diolchwyd i’r
Pennaeth a’r Adran am y ffordd roeddynt wedi ymateb i’r sefyllfa.
PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad a nodi y sylwadau.
Dechreuodd y cyfarfod am 10.00 a daeth i ben
am 11.45
CADEIRYDD
Dogfennau ategol: