Iwan Evans, Swyddog
Monitro – Awdurdod Arweiniol, i hysbysu’r Is
-Fwrdd o’r ymgynghoriad sydd ar y gweill.
I
ddilyn, caiff diweddariad ei gyflwyno gan swyddogion Llywodraeth Cymru.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD derbyn y
wybodaeth
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
eitem gan Iwan G D Evans – Swyddog Monitro yr Awdurdod Arweiniol.
PENDERFYNIAD
PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth yn y papur, gan
mai papur ydoedd i hysbysu’r Is-Fwrdd
o’r ymgynghoriad sydd ar y gweill.
Nododd Y Swyddog Monitro mai diben yr eitem
oedd hysbysu yr Is-Fwrdd o’r ymgynghoriad sydd ar y gweill.
Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at y papur
roedd wedi ei baratoi oedd yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad
ar hyn o bryd ar gynigion i sefydlu Cyd Bwyllgorau Corfforedig (CBC) fesul 4
Ardal o Gymru ar sail ôl troed (Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De Orllewin
Cymru a De Ddwyrain Cymru).
O fewn y Bil, mae dau gategori o CBC sef CBC
drwy Orchymyn a CBC drwy Gais. Cyfyngir
y meysydd posib ar gyfer CBC Drwy Orchymyn ar gyfer 4 maes sef gwella addysg,
trafnidiaeth (Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol), y swyddogaeth o lunio Cynllun
Datblygu Strategol a’r swyddogaeth llesiant economaidd.
Cadarnhawyd bod CBC yn gyrff corfforedig ar
wahân, sydd yn cael eu sefydlu drwy Gynghorau - hynny yw, yn gorfforaeth ar eu
traed eu hunain, ac yn bodoli lled ar-wahân i Gynghorau.
O ran y maes trafnidiaeth, cadarnhawyd yr
aelodaeth fandadol fel chwe Arweinydd Cynghorau Gogledd Cymru (gyda hawl i
gyfethol). Nodwyd y byddai yr opsiwn ar
gael yma i sefydlu Is-bwyllgorau.
O ran materion cyllid ac ariannu,
cadarnhawyd mai y cynghorau, drwy gytundeb, sydd yn ei ariannu, ynghyd a
threfnu materion craffu ac awdit, eto drwy gytundeb.
Codwyd y cwestiynau canlynol o’r drafodaeth
:
·
Beth
fydd y berthynas ffurfiol gyda yr Awdurdodau?
·
O
ran materion megis craffu, cod ymddygiad ac ati, o dan ba drefniant fydd y
materion hyn yn disgyn?
Diolchwyd am yr adroddiad ac derbyniwyd sylwadau fel a ganlyn :
·
Bydd
CBC yn mynd a phwerau oddi ar y Cynghorau.
Nodwyd bod swyddogion Llywodraeth Cymru eisoes wedi cysylltu gyda rhai
Aelodau o’r Is-Fwrdd, gan nodi mai cerbyd ydyw hwn i Lywodraeth Leol siapio y
gwaith ac adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud
Atgyfnerthwyd y pwynt mai cryfhau y sefyllfa, a chynnwys
Aelodau yw’r bwriad, gan roi cyfle iddynt rannu eu barn yn llawn, ac yn onest
ar y rheoliadau drafft hyn.
·
Sut
mae Trafnidiaeth Cymru a’r Asiantaeth Cefnffyrdd yn ffitio i mewn?
Bydd apwyntio swyddogion yn bryder, yn enwedig o ddarllen y
bydd y rolau yn cymryd 1-5 diwrnod o amser swyddog.
Onid oes camsyniad yma y bydd yn arbed arian? Erbyn hyn nid oes gan gynghorau swyddogion sydd
yn dyblygu gwaith.
Sut byddent yn cael eu hariannu?
Mae rhoi y pŵer i’r Awdurdodau Lleol i redeg eu
trafnidiaeth bws eu hunain yn anodd iawn heb arbenigedd lleol.
Nodwyd pryder hefyd am faterion llywodraethu.
Ymatebodd Swyddog Llywodraeth Cymru gan gadarnhau mai yr
unig swyddogaeth sydd yn cael ei drosglwyddo i’r CBC yw y Cynllun Trafnidiaeth
Lleol a bod y gweithgareddau o gwmpas bysiau yn aros gyda yr Awdurdodau Lleol,
ac mai dewisol fyddai symud swyddogaethau eraill drosodd.
O ran Trafnidiaeth Cymru, cadarnhawyd mai corff danfon
ydyw, ac y byddai yn ffitio i mewn ym mhle byddai y CBC yn dymuno iddo ffitio i
mewn.
Nododd y Swyddog Trafnidiaeth Cymru bo Trafnidiaeth Cymru
wedi cytuno i set o egwyddorion a’u bod yn eistedd gydag Arriva i’w
cytuno. Cadarnhaodd mai rôl Trafnidiaeth
Cymru mewn CBC fyddai cefnogi CBC, cynllunio rhwydweithiau, ymdrin a materion
talu digyswllt ac ati.
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod yr Asiantaeth Cefnffyrdd
yn pontio dau CBC. Ymhellach, byddai
angen sgwrs ynglŷn â’r angen am swyddogion a sut byddent yn cael eu
trosglwyddo.
Yn ychwanegol, o ran rôl a swyddogaethau CBC, mae modd i
gynghorau ofyn i drosglwyddo rhai pethau eraill, ond yr hyn sydd ddim yn glir
ar hyn o bryd yw lle mae yr hawl a’r gallu o ran datblygu CBC yn y dyfodol.
Tynnwyd sylw at y canlynol :
Mae yr ymgynghoriad yn cau ddechrau Ionawr 2021 a bwriedir
i’r CBC cyntaf fod yn weithredol erbyn Medi 2021. Mae rhai Awdurdodau Lleol eisoes wedi trefnu
gweithdai er mwyn diweddaru ei aelodau.
Byddai hawl gan y chwe Arweinydd fyddai yn eistedd ar y CBC
apwyntio eraill ar y Pwyllgor.
Cytunwyd bod angen adborth rhanbarthol o’r awdurdodau
unigol ynghyd ag unrhyw sylwadau mewn e-bost at Iwan Prys Jones a David
Bithell.
Gofynnwyd am unrhyw sylwadau pellach gan yr Aelodau Cabinet
cyn symud ymlaen :
·
Teimlwyd
bod angen gweithio tuag at CBC neu drefniant ffurfiol rhanbarthol gyda
Thrafnidiaeth Cymru uwch ben, ac o dan yr un ymbarél : mae angen dod o hyd i
ffordd ymlaen. Teimlwyd bo cyfle yma i
amddiffyn yr agwedd cefn gwlad petai pawb yn cyd-weithio.
·
Nodwyd
y pryder bod y CBC yn cymryd gwaith oddi ar Awdurdodau Lleol, ond teimlwyd nad
oedd fawr o ddewis ond symud ymlaen
·
Mynegodd
un nad oedd o blaid CBC, ond nododd os oedd rhaid gwneud, yna dylid ei wneud ar
y termau mwyaf ffafriol.
·
Nododd
Aelod Cabinet arall nad oedd yn rhy hapus fel mae gwybodaeth yn cael ei rolio
allan, ac o ganlyniad y pryder oedd ganddo nad oedd llun clir ar gael o’r
materion angenrheidiol. Nododd nad oedd
yn teimlo fod y modd roedd CBC i’w ariannu yn glir. Mynegodd nad oedd yn hapus gyda y broses a
bod yr amserlen gyda dyddiad cau ddechrau Ionawr 2021 yn siomedig.
Cwestiynwyd hefyd faint o fewnbwn Trafnidiaeth Cymru fyddai yn hwn?
Onid ddylid cyllido ar ffurf y pen?
A fydd un Awdurdod yn arwain?
Yn ychwanegol holiwyd am argaeledd cyllid i ddatblygu Cynllun Strategol
I gloi cwestiynwyd yr union aelodaeth a hawliau phleidleisio.
Cytunwyd y byddai Iwan Prys Jones yn casglu y pwyntiau a godwyd a’i
cylchredeg i Aelodau Cabinet cyn gynted a phosib gan fod yr ymgynghoriad hwn ar
y gweill.
Diolchwyd i Swyddogion Llywodraeth Cymru, gan annog Awdurdodau Lleol i
ymateb i’r ymgynghoriad.
Cymerodd Swyddogion Llywodraeth Cymru y cyfle i roi cyflwyniad ar
Strategaeth Drafnidiaeth Newydd Cymru, ac yn arbennig datblygiadau o ran
technoleg. Cadarnhawyd bo COVID wedi dod
a llawer o sialensiau, ac o hynny golwg newydd ar ddanfon trafnidiaeth yng
Nghymru.
Cyfeiriwyd at faterion yr amgylchedd, lleoedd a’r economi, trafnidiaeth,
pobl a chymunedau a diwylliant a’r iaith Gymraeg ynghyd a’r allrydiau
o ran yr amgylchedd.
O ran yr heriau a chyfleoedd nodwyd COVID-19, teithio llesol,
gwledig/trefol, cerbydau trydan, ôl-groniad cynnal a chadw, cynllunio a
thrafnidiaeth a hygyrchedd a hyder.
Soniwyd hefyd am hierarchaeth teithio gynaliadwy ynghyd a strategaeth ar
dudalen.
O ran y weledigaeth nodwyd yr angen am sustem drafnidiaeth gynaliadwy a
hygyrch, gyda phedwar uchelgais tymor hir
·
Dod
dros y rhwystrau
·
Bod
yn dda i’r amgylchedd
·
Arloesi
wrth weithredu
·
Diwylliant
a’r iaith Gymraeg
Cyfeiriwyd hefyd ar y Cynllun 5-Mlynedd fer ble bwriedir :
·
Cynllunio
ar gyfer gwell cysylltedd
·
Cynyddu
defnydd o’r sustem drafnidiaeth gyhoeddus
·
Seilwaith
trafnidiaeth ddiogel a hygyrch a gaiff ei reoli a’i gynnal a'i gadw'n dda
·
Gwneud
dewisiadau trafnidiaeth gynaliadwy
·
Cefnogi
arloesedd
Bwriedir mesur
·
Effaith
ar bobl a chymuned
·
Effaith
ar yr amgylchedd
·
Effaith
ar leoedd a’r economi
·
Effaith
ar ddiwylliant a’r Gymraeg
Bwriedir ei gyflawni drwy wneud
·
Penderfyniadau
buddsoddi gwell
·
Cynlluniau
cyflawni a gwaith thematig
·
Weitio mewn partneriaethau
·
Diweddaru
polisïau a deddfwriaeth
·
Dwyn
ein hunain a’n partneriaid i gyfrif
Cyfeiriwyd hefyd at y Naw Cynllun Bach
·
Teithio
Llesol
·
Bysiau
·
Rheilffordd
·
Ffyrdd,
Strydoedd a Pharcio
·
Trydydd
Sector
·
Tacsis
a CHP
·
Llwythau
a logisteg
·
Porthladdoedd
a morwrol
·
Hedfan
I gyd yng nghyd-destun Pum Ffordd o Weithio Cenedlaethau’r Dyfodol
·
Hirdymor
·
Atal
·
Integreiddio
·
Cydweithio
·
Cynnwys
Yn dilyn y cyflwyniad, anogwyd Awdurdodau Lleol i gyd i ymateb i’r
Ymgynghoriad erbyn 25/1/21.
Diolchwyd am y cyflwyniad
Dogfennau ategol: