skip to main content

Agenda item

Gosod 4 caban glampio, bloc toiled a chawod ynghyd a lleoli 12 pabell i'w defnyddio gan breswylwyr Canolfan Felin Uchaf

 

AELOD LLEOL: Y Cynghorydd W Gareth Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i wrthod y cais ar sail y rhesymau isod:-

 

Rhesymau:

 

           Mae’r bwriad yn golygu creu safle llety gwersylla amgen sefydlog newydd oddi fewn i Ardal Tirwedd Arbennig. Nid yw Polisi TWR3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 yn caniatáu datblygu safleoedd llety gwersylla amgen sefydlog newydd oddi fewn i Ardaloedd Tirwedd Arbennig. Mae’r bwriad, felly, yn groes i ofynion Polisi TWR3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017.

 

           Mae’r bwriad yn groes i faen prawf rhif 2, 4 a 7 o Bolisi TWR5 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 ar y sail byddai’r bwriad yn creu gormodedd o ardaloedd o leiniau caled, nid oes tystiolaeth wedi ei dderbyn pam fod angen cyfleusterau ychwanegol a bydd y llain pebyll yn cael ei ddefnyddio am 12 mis y flwyddyn. Nid yw’r bwriad, felly, yn cydymffurfio gyda holl ofynion Polisi TWR5 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017.

 

           Mae’r bwriad yn golygu creu safle llety gwersylla amgen newydd yng nghefn gwlad agored ac ymhell tu allan i unrhyw ffin ddatblygu.  Yn ychwanegol, ni ystyrir fod y bwriad yn gwneud defnydd o safle addas yng nghefn gwlad gan ei fod yn safle anghynaladwy ble byddai’r mwyafrif o’r ymwelwyr yn ddibynnol ar ddefnyddio eu cerbydau preifat. Nid yw’r bwriad, felly, yn cydymffurfio gyda holl ofynion Polisi TWR5, PS4, PS5 a PS14 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 ynghyd a’r cyngor a gynhwysir yng Nghanllaw

 

 

Cynllunio Atodol: Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid 2019 a Pholisi Cynllunio Cymru, Argraffiad 10, 2018.

 

 

 

Cofnod:

Gosod 4 caban glampio, bloc toiled a chawod ynghyd a lleoli 12 pabell i’w defnyddio gan breswylwyr Canolfan Felin Uchaf

        

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd i osod 4 caban glampio hunanwasanaeth, codi adeilad cysylltiol i gynnwys toiledau / cawodydd, creu maes gwersylla pebyll ynghyd a gwaith arall fyddai’n cynnwys creu rhodfa fynediad, llwybrau mynediad, tirlunio, cysylltiad gwasanaethau a gosod tanc septig gyda suddfan ddŵr cysylltiedig. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad agored,  tu allan i unrhyw ffin datblygu, oddi fewn i Ardal o Dirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn ac oddeutu 800m i’r gogledd orllewin o AHNE Llŷn. Adroddwyd bod y bwriad yn gysylltiedig gyda Chanolfan Addysgol Eco Felin Uchaf.

 

Nodwyd bod yr ymgeisydd yn egluro y byddai’r 4 caban yn cael eu gosod ar sgids islaw. Byddai’r sgids yn cael eu hangori i’r ddaear drwy ddefnyddio sgriws daear sydd yn galluogi i’r cabanau cael eu symud o’r safle pe byddai angen eu storio neu at bwrpas cynnal a chadw. Amlygwyd bod y swyddogion o’r farn bod natur y 4 caban yn barhaol gan y byddai trydan/dŵr/carthffosiaeth yn cael eu cysylltu yn unigol i bob caban. O ystyried yr elfennau hyn byddai’r bwriad yn golygu sefydlu elfennau parhaol a sefydlog eu natur ac, felly, na ellid cytuno gyda barn yr ymgeisydd mai Polisi TWR5 yn unig yw’r polisi perthnasol ar gyfer y cais hwn. Ategwyd bod yr Arolygwr Cynllunio, ar ddyfarniad apêl ddiweddar yng Ngwynedd (APP/Q6810/A/19/3243019) ar gyfer lleoli 4 pabell saffari o ddeunydd cynfas ar ffrâm polyn pren, llwybrau troed, trac mynediad ac ardal barcio, wedi nodi byddai’r holl elfennau hyn yn gyfystyr a chreu nodweddion gwersylla amgen parhaol, er gwaethaf y ddadl y byddai’r pebyll yn cael eu symud oddi ar y safle ar ddiwedd pob tymor. Gwrthodwyd yr apêl hon ar sail methiant i gydymffurfio gyda meini prawf Polisi TWR3 yn hytrach na chydymffurfiaeth a meini prawf Polisi TWR5.

 

Yn ychwanegol, gan fod y safle wedi ei leoli oddi fewn i Ardal Tirwedd Arbennig Gorllewin Llyn (ATA) rhaid felly ystyried maen prawf 1 o Bolisi TWR3 sydd yn datgan gwrthodir cynigion i ddatblygu safleoedd carafanau sefydlog newydd (h.y. carafán sengl neu ddwbl), safleoedd siale gwyliau newydd neu lety gwersylla amgen parhaol yn….Ardaloedd Tirwedd Arbennig”.

 

O ystyried yr asesiad a’r holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â sylwadau a dderbyniwyd o fewn y cyfnod ymgynghori, ystyriwyd fod y bwriad yn annerbyniol a'i fod yn methu bodloni gofynion y polisïau perthnasol.

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

·         Er bod y cabanau yn strwythurau parhaol byddent yn cael ei symud yn ystod tymor cloi'r Gaeaf. Esboniwyd bod y chwe sgriw yn dal y strwythur rhag suddo i glai meddal ardal Rhoshirwaun ac na ddylid ystyried y rhain fel sylfaen parhaol.

·         Bod Canolfan Felin Uchaf yn un o brif safleoedd partneriaeth eco-amgueddfa Llyn ynghyd a Nant Gwrtheyrn, Plas Glyn Y Weddw a safleoedd yr ymddiriedolaeth

·         Bod gan y fenter siop grefftau lleol a'u bod yn gwerthu bocsys llysiau organig o’r gerddi cymunedol.

·         Bod bwriad trosi un o’r adeiladau yn gaffi organig er mwyn creu busnes newydd, cyfleoedd gwaith a hyfforddiant cynaliadwy, ac ynghyd a’r safle glampio, creu incwm cynaliadwy i’r fenter i’r dyfodol fel nad yw’n ddibynnol ar grantiau na rhoddion elusennol sydd wedi dod mor fregus yn ddiweddar.

·         Bod y safle wedi ei amgylchu’n gyfan gwbl â sgrin o goed trwchus gyda lled un cae cyfan o’r Fferm gyfagos. Bod maes gwersylla Bodrydd hefyd yn cael ei warchod yn sylweddol gan goed a blannwyd dros bymtheg mlynedd yn ôl

·         Bod Melin Uchaf wedi bod yn un o’r prif safleoedd i’r bws arfordir a bod grwpiau yn ymweld yn unswydd ar y bws hwnnw i flasu naws a diwylliant unigryw'r safle.

·         Y safle wedi ei leoli ar y rhwydwaith beiciau cenedlaethol - yn derbyn ymwelwyr troed a beic gan ei fod ar y ‘Top 100 Sustainable Wales Attractions’ sy’n annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy i gyrraedd safleoedd cefn gwlad

·         Cais i’r Pwyllgor ailystyried yr argymhelliad

 

            ch)  Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·      Bod y prosiect o ansawdd uchel wedi ei ddylunio yn dda - awgrym i geisio cynnal trafodaethau pellach gyda’r ymgeisydd i greu rhywbeth derbyniol

·      Bod y safle yn breifat iawn

·      Y podiau yn chwaethus ac yn ddeniadol ac wedi ei gosod yn ofalus gyda choed llwyni rhyngddynt

·      Y fenter yn dangos parch at yr amgylchedd, at ddiwydiant ac iaith fel atyniad - wedi creu atyniad heb ardrawiad ar yr amgylchedd

·      Bod y cabanau yn creu cyfleusterau ar gyfer y rhai sydd yn gweithio / gwirfoddoli ar y safle

·      Bod y bwriad wedi ei gynllunio yn ofalusnid yw’n safle masnachol

·      Yn fenter ddiddorol er yn groes i bolisïau

·      Pryder o osod cynsail - polisi TWR 3 eisoes wedi cael ei ddefnyddio i wrthod ceisiadau tebyg - angen cynnal sgyrsiau pellach i ganfod cynllun amgen

 

d)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynnal trafodaethau pellach, nododd y Rheolwr Cynllunio fod gwrthwynebiad sylfaenol i’r elfen barhaol. Amlygwyd bod modd ail gyflwyno cais o’r newydd, mewn ffurf wahanol. Amlygodd  Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd nad oedd cais am gyngor wedi ei gyflwyno ac ategodd yr angen i fod yn gyson wrth ystyried ceisiadau o’r fath. Atgoffwyd yr Aelodau bod ceisiadau tebyg wedi eu gwrthod a bod apeliadau cynllunio ar yr un materion hefyd wedi eu gwrthod. Petai’r cais yn cael ei ganiatáu byddai rhaid cyfeirio’r cais i gyfnod o gnoi cil. Awgrymodd fel cam ymlaen i wrthod y cais dan sylw ond i annog yr ymgeisydd i drafod cais amgen gyda swyddogion  gan ei bod yn bosibl y byddai rhyw fath o ddatblygiad yn gallu bod yn dderbyniol. Ategodd y Cyfreithiwr bod modd ceisio darbwyllo cyfeiriad arall ond i wneud hynny byddai rhaid cael cais newydd / gwahanol.

 

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i wrthod y cais ar sail y rhesymau isod:-

 

Rhesymau:

 

·         Mae’r bwriad yn golygu creu safle llety gwersylla amgen sefydlog newydd oddi fewn i Ardal Tirwedd Arbennig. Nid yw Polisi TWR3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 yn caniatáu datblygu safleoedd llety gwersylla amgen sefydlog newydd oddi fewn i Ardaloedd Tirwedd Arbennig. Mae’r bwriad, felly, yn groes i ofynion Polisi TWR3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017.

 

·         Mae’r bwriad yn groes i faen prawf rhif 2, 4 a 7 o Bolisi TWR5 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 ar y sail byddai’r bwriad yn creu gormodedd o ardaloedd o leiniau caled, nid oes tystiolaeth wedi ei dderbyn pam fod angen cyfleusterau ychwanegol a bydd y llain pebyll yn cael ei ddefnyddio am 12 mis y flwyddyn. Nid yw’r bwriad, felly, yn cydymffurfio gyda holl ofynion Polisi TWR5 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017.

 

·         Mae’r bwriad yn golygu creu safle llety gwersylla amgen newydd yng nghefn gwlad agored ac ymhell tu allan i unrhyw ffin ddatblygu.  Yn ychwanegol, ni ystyrir fod y bwriad yn gwneud defnydd o safle addas yng nghefn gwlad gan ei fod yn safle anghynaladwy ble byddai’r mwyafrif o’r ymwelwyr yn ddibynnol ar ddefnyddio eu cerbydau preifat. Nid yw’r bwriad, felly, yn cydymffurfio gyda holl ofynion Polisi TWR5, PS4, PS5 a PS14 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 ynghyd a’r cyngor a gynhwysir yng Nghanllaw Cynllunio Atodol: Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid 2019 a Pholisi Cynllunio Cymru, Argraffiad 10, 2018.

 

Dogfennau ategol: