Codi 30 ty yn cynnwys 15 ty
affordadwy, mynedfa newydd, parcio ynghyd a sailwaith cysylltiedig.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Paul
Rowlinson
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth
Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r
ymgeisydd gwblhau cytundeb o dan Adran 106 er mwyn trosglwyddo’r unedau i gymdeithas
dai ac i sicrhau cyfraniad ariannol ar gyfer darpariaeth addysgol ac i’r amodau
isod:-
1. 5
mlynedd.
2. Yn
unol â’r dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.
3. Llechi
naturiol.
4. Samplau
o’r deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer y tai ynghyd a manylion y paneli solar i’w
cytuno gyda’r ACLL.
5. Amodau
Priffyrdd i gynnwys sicrhau materion tawelu traffig
6. Tirlunio meddal a chaled.
7.
Cyflwyno manylion o unrhyw strwythur/adeilad sydd i’w godi o
fewn y cwmpownd gorsaf bwmpio dŵr.
8.
Datblygiad i’w gario allan yn unol â mesurau lliniaru a
gyfeiriwyd atynt o fewn yr Adroddiad Ecolegol Rhagarweiniol a’r ddogfen Arolwg
Rhywogaethau Estynedig Cam 1.
9.
Amodau mesurau lliniaru bioamrywiaeth.
10.
Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00 - 18:00 yn yr wythnos,
08:00 - 12.00 ar ddydd Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gwyliau Banc.
11.
Cyfyngiadau lefelau sŵn yn ystod y cyfnod adeiladu.
12.
Cytuno manylion parthed enwau Cymraeg ar gyfer y datblygiad
ynghyd ac arwyddion sy’n hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad o fewn ac oddi
allan y safle.
13.
Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r unedau
fforddiadwy.
14.
Tynnu hawliau datblygu cyffredinol o’r unedau fforddiadwy.
15.
Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu gan gynnwys darpariaeth
parcio cerbydau’r adeiladwyr. Nodi hefyd dim parcio ar y ffordd gyhoeddus yn
ystod cyfnod adeiladu.
16.
Sicrhau gwelliannau ffordd cyn preswylio’r unedau a ganiateir
17.
Cyflwyno Cynllun Rheoli Amgylcheddol i gynnwys sŵn,
dirgryniad a llwch.
18.
Cyflwyno manylion goleuadau allanol i’w gytuno gyda’r ACLL
cyn iddynt gael eu gosod.
19.
Sicrhau cydymffurfiaeth a SP 5837: 2012 parthed diogelu coed.
20.
Amod mesurau lliniaru archeolegol.
Nodyn: Hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i gyflwyno cynllun strategaeth
ddraenio gynaliadwy i’w gymeradwyo gan Uned Dwr ac Amgylchedd y Cyngor.
Nodyn: Hysbysu’r ymgeisydd o ymateb Dwr Cymru sy’n cyfeirio at garthffos
gyhoeddus yn croesi’r safle.
COFNODION:
Codi
30 tŷ yn cynnwys 15 tŷ fforddiadwy, mynedfa newydd, parcio ynghyd a
seilwaith cysylltiedig
Tynnwyd sylw at
y ffurflen sylwadau hwyr
a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer
darparu 30 o unedau preswyl fforddiadwy, mynedfa newydd, llecynnau parcio
ynghyd a seilwaith cysylltiedig ar lecyn o dir amaethyddol wedi ei leoli a’i
gydnabod fel safle tai T66 oddi fewn i ffin datblygu Rachub.
Nod
y bwriad yw darparu 30 uned breswyl, fforddiadwy (gan gynnwys 4 byngalo) yn
amrywio o 2 lofft i 4 llofft. Bydd lefelau rhent yr unedau fforddiadwy yn unol
â gofynion Polisi Rhent Llywodraeth Cymru ac Adra fel Landlord Cymdeithasol
Cofrestredig ac yn cael eu dyrannu i bobl sydd ar Restr Tai Tîm Opsiynau’r
Cyngor neu/ac wedi eu cofrestru gyda Thai Teg yn unol â pholisi rhentu lleol.
Derbyniwyd cadarnhad gan yr ymgeisydd (Adra) bod y cais, i dderbyn cyllideb
grant Rhaglen Tai Arloesol (Cymru) IHP4 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer
adeiladu’r holl unedau preswyl fel unedau fforddiadwy, wedi bod yn llwyddiannus
Amlygwyd
bod trafodaethau ymlaen llaw wedi eu cynnal rhwng Adra ac Uned Strategol Tai’r
Cyngor. Ategwyd bod y cais wedi cael ei ddewis i’w gynnwys ar restr cynlluniau
wrth gefn y Cynllun Rhaglen Trosglwyddo fyddai’n derbyn arian
grant ac yn cael ei ariannu drwy Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Cydnabuwyd bod y bwriad yn ymateb i angen cydnabyddedig, yn darparu cymysgedd
briodol o unedau ac
wedi ei ddynodi ar gyfer tai yn y CDLL. Ystyriwyd y bwriad fel un yn cwrdd â gofynion Polisi TAI8 a TAI15 o’r CDLL ynghyd a
chyngor y ddogfen CCA: Cymysgedd Tai a Thai Fforddiadwy.
Byddai’r
bwriad yn golygu creu mynedfa newydd ar gyfer cerbydau a cherddwyr oddi ar y
ffordd sirol dosbarth III cyfagos gyda darpariaeth parcio ar gyfer pob tŷ
o fewn y datblygiad. Yn ogystal amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno i
ymgymryd â gwaith ychwanegol o ddarparu tawelyddion traffig ar hyd y ffordd
sirol gydag arwyddion cysylltiedig. Roedd yr Uned Drafnidiaeth yn cadarnhau nad oedd gwrthwynebiad i’r datblygiad, er gwaethaf pryderon
y cyhoedd am ddiogelwch ffyrdd. Ategwyd y byddai amodau perthnasol yn cyfarch y
pryderon hyn.
Wrth
ystyried sylwadau’r Uned Iaith Gymraeg ar y datblygiad, eglurwyd eu bod o’r
farn bod y math o unedau a gynigir yn mynd i apelio at deuluoedd. Ystyriwyd y
byddai hyn yn debygol o gael effaith gadarnhaol gan
ychwanegu at y boblogaeth Gymraeg sydd eisoes yn eithaf cadarn yn yr ardal. O
ganlyniad, y bwriad yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi PS1 ynghyd a’r CCA:
cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy.
Wrth
ystyried materion addysgol amlygwyd bod Ysgol Gynradd Llanllechid eisoes dros ei
chapasiti, ond bod digon o gapasiti ar gael yn Ysgol
Uwchradd Dyffryn Ogwen. Ystyriwyd felly bod cyfiawnhad am gyfraniad o swm
penodol o £ 121,152.00 (12 x £10,096.00) i ddiwallu’r diffyg capasiti yn yr
ysgol gynradd yn dderbyniol a bod yr ymgeisydd wedi cytuno gyda hyn drwy
arwyddo cytundeb cyfreithiol o dan Adran 106.
Yng
nghyd-destun materion llecynnau agored, adroddwyd bod y wybodaeth gyfredol a
dderbyniwyd gan yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn amlygu fod darpariaeth
ddigonol i’w gael yn y gymuned leol ar sail chwaraeon awyr agored, lleiniau
chwaraeon ynghyd a llecynnau chwarae plant. Ystyriwyd felly nad
oedd angen gofyn am ddarpariaeth newydd. Er hynny, tynnwyd sylw bod darpariaeth o’r
fath wedi ei gynnwys o fewn safle’r cais drwy ddarparu llecynnau agored ar
gyfer deiliaid y tai arfaethedig.
Wedi
ystyried yr holl faterion, adroddwyd y byddai’r bwriad i ddatblygu 30 o dai fforddiadwy yn ymateb positif i’r anghenion tai amrywiol
sydd wedi’u hadnabod yn yr ardal. Wrth asesu’r cais rhoddwyd ystyriaeth lawn
i’r sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i’r cyfnod ymgynghori ac i’r ymateb a
dderbyniwyd gan ymgynghorwyr statudol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y
pwyntiau canlynol:
·
Bod y 30 eiddo yn fforddiadwy a’r safle wedi ei ddynodi
fel safle tai yn y CDLl
·
Rhestrau aros cyfredol yn amlygu bod 74 o ymgeiswyr
wedi cofrestru ar gyfer eiddo 3 llofft i’w rentu a 50 ar gyfer tai / byngalo 2
lofft
·
Y bwriad yn cynnig cymysgedd o lefelau rhent derbyniol
i drigolion lleol
·
Blaenoriaeth i deuluoedd gyda chysylltiadau lleol,
boed yn deulu, gwaith neu sydd eisoes wedi byw yn yr ardal ers dros 5 mlynedd
·
Y bwriad yn cynnwys cymysgedd o dai
2 a 3 llofft ynghyd ag 1 tŷ 4 llofft fyddai’n gartref pwrpasol ar gyfer
teulu sydd o bosib gydag aelod sydd ag anableddau corfforol.
·
Dyluniad y tai a’r stad yn gyfoes a’r cynlluniau wedi
derbyn adborth cefnogol gan Gomisiwn Dylunio Cymru
·
Yn gartrefi ynni effeithlon gyda lefel insiwleiddio
uchel, system pwmp aer i wresogi a chynhesu dŵr, yn lleihau ôl troed
carbon ac yn rhad iawn i’w rhedeg
·
Cyfres o brofion tir wedi eu gwneud gyda
chydweithreded Ymddiriedolaeth Archaeoleg Gwynedd
·
Capasiti Ysgol Gynradd Llanllechid yn llawn ac felly
wedi ymrwymo i dalu cyfraniad addysg sylweddol yn unol â pholisïau Cyngor
Gwynedd
c)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelodau
Lleol y pwyntiau canlynol:
Cynghorydd
Dafydd Meurig
·
Bod y safle o fewn y ffin datblygu
·
Croesawu 100% fforddiadwy ar gyfer angen lleol
·
Capasiti Ysgol Llanllechid yn llawn felly croesawu
cyfraniad addysgiadol
·
Awgrym am gyfraniad trafnidiaeth o ystyried y cynnydd
fydd yn defnyddio stad Maes Bleddyn -
awydd yn lleol i gael cynllun trafnidiaeth amgen
·
Pryder ynglŷn â llwybr troed rhwng Mynwent
Coetmor a mynediad i’r safle - cais i’r ymgeisydd adolygu’r sefyllfa ac
uwchraddio’r darn yma o dir
·
Cynllun tymor hir yw cysylltu gyda Lôn Las Ogwen -
cais am gyfraniad posib.
·
Erfyn i ddefnyddio llechi lleol, naturiol
Cynghorydd Paul
Rowlinson
·
Bod y datblygiad yn un sylweddol ac felly’r adroddiad
yn un manwl
·
Gwir angen am dai cymdeithasol / fforddiadwy gyda
chymysgedd rhent
·
Dyma’r unig safle newydd i Fethesda
·
Cyfraniad addysgiadol i Ysgol Llanllechid i’w groesawu
·
Cynnydd mewn nifer yn golygu cynnydd mewn trafnidiaeth
- angen gwneud pob ymdrech i annog plant i gerdded i’r ysgol
·
Diogelwch y ffordd yn hanfodol - angen ychwanegu i
amod 15 bod neb i barcio ar y ffordd gyhoeddus yn ystod cyfnod adeiladu a neb i
barcio ger Llwyn Bleddyn - croesawu’r amod sydd yn gorfodi parcio ar y safle
d) Cynigiwyd
ac eiliwyd i ganiatáu y cais
e) Yn
ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelodau:
·
Croesawu bod byngalo yn cael ei gynnwys yn y
datblygiad
·
Byddai’r datblygiad yn cefnogi siopau a busnesau lleol
·
Croesawu bod y datblygiad yn cynnig 100% fforddiadwy
·
Bod cais i’r ymgeisydd blannu coed o gwmpas y
datblygiad
·
I barchu dymuniad trigolion lleol i gadw’r enw Cae
Rhosydd
·
Croesawu blaenoriaeth i deuluoedd lleol
·
Bod cais am dystiolaeth o’r hyn a addawyd yn cael ei
gyflwyno ymhen ychydig flynyddoedd
·
Cais i’r Pwyllgor dderbyn diweddariad o’r nifer tai
sydd wedi eu cymeradwyo yn y Cynllun Datblygu Lleol
PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth
Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd
gwblhau cytundeb o dan Adran 106 er mwyn trosglwyddo’r unedau i gymdeithas dai ac i sicrhau cyfraniad ariannol ar gyfer darpariaeth
addysgol ac i’r amodau isod:-
1. 5
mlynedd.
2. Yn
unol â’r dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.
3. Llechi
naturiol.
4. Samplau
o’r deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer y tai ynghyd a
manylion y paneli solar i’w cytuno gyda’r ACLL.
5. Amodau
Priffyrdd i gynnwys sicrhau materion tawelu traffig
6. Tirlunio
meddal a chaled.
7. Cyflwyno
manylion o unrhyw strwythur/adeilad sydd i’w godi o fewn y cwmpownd gorsaf
bwmpio dŵr.
8. Datblygiad
i’w gario allan yn unol â mesurau lliniaru a
gyfeiriwyd atynt o fewn yr Adroddiad Ecolegol Rhagarweiniol a’r ddogfen Arolwg
Rhywogaethau Estynedig Cam 1.
9. Amodau
mesurau lliniaru bioamrywiaeth.
10. Cyfyngu
ar oriau gweithio i 08:00 - 18:00 yn yr wythnos, 08:00 - 12.00 ar ddydd Sadwrn
a dim o gwbl ar y Sul a Gwyliau Banc.
11. Cyfyngiadau
lefelau sŵn yn ystod y cyfnod adeiladu.
12. Cytuno
manylion parthed enwau Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ac arwyddion sy’n
hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad o fewn ac oddi allan
y safle.
13. Sicrhau
cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r unedau fforddiadwy.
14. Tynnu
hawliau datblygu cyffredinol o’r unedau fforddiadwy.
15. Cyflwyno
Datganiad Dull Adeiladu gan gynnwys darpariaeth parcio cerbydau’r adeiladwyr.
Nodi hefyd dim parcio ar y ffordd gyhoeddus yn ystod cyfnod adeiladu
16. Sicrhau
gwelliannau ffordd cyn preswylio’r unedau a ganiateir
17. Cyflwyno
Cynllun Rheoli Amgylcheddol i gynnwys sŵn, dirgryniad a
llwch.
18. Cyflwyno
manylion goleuadau allanol i’w gytuno gyda’r ACLL cyn iddynt gael
eu gosod.
19. Sicrhau
cydymffurfiaeth a SP 5837: 2012 parthed diogelu coed.
20. Amod
mesurau lliniaru archeolegol.
Nodyn: Hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i gyflwyno
cynllun strategaeth ddraenio gynaliadwy i’w gymeradwyo gan Uned Dwr ac
Amgylchedd y Cyngor.
Nodyn: Hysbysu’r
ymgeisydd o ymateb Dŵr Cymru sy’n cyfeirio at garthffos gyhoeddus yn
croesi’r safle.
Dogfennau ategol: