Codi adeilad ar gyfer darparu
12 fflat lle ceir cefnogaeth, swyddfeydd ar y llawr gwaelod ynghyd a
datblygiadau cysylltiedig i gynnwys llecynnau parcio yn y cefn
AELOD LLEOL: Cynghorydd Steve
Collings
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol
Adran yr Amgylchedd i ganiatáu’r
cais yn ddarostyngedig
i’r amodau canlynol:-
Nodyn: Cyfeirio’r ymgeisydd i gyngor
Dwr Cymru.
Nodyn: Gofynion Systemau draenio Cynaliadwy
Cofnod:
Codi adeilad ar gyfer darparu 12 fflat lle ceir cefnogaeth, swyddfeydd ar
y llawr gwaelod ynghyd a datblygiadau cysylltiedig i gynnwys llecynnau parcio
yn y cefn.
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan
nodi mai cais llawn ydoedd wedi ei gyflwyno gan landlord
cymdeithasol cofrestredig ar gyfer darparu 12 fflat fforddiadwy. Byddai’r bwriad
yn darparu cymorth byw mewn unedau preswyl hunangynhwysol i’r rhai sy’n
ddigartref ac sydd angen rhywfaint o gymorth wrth drosglwyddo i annedd
fforddiadwy. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli ar ran uchaf y Stryd Fawr yng
nghanol dinas Bangor.
Adroddwyd
bod Polisi TAI1 yn datgan, yng Nghanolfan Isranbarthol Bangor a’r Canolfannau
Gwasanaeth Trefol, bydd tai i gwrdd â Strategaeth y
Cynllun yn cael eu sicrhau drwy’r dynodiadau tai ynghyd a safleoedd ar hap
addas o fewn y ffin datblygu. Lefel cyflenwad dangosol ar gyfer Bangor dros
gyfnod y Cynllun yw 969 uned ac yn ystod y cyfnod rhwng 2011 a 2020, cwblhawyd
cyfanswm o 643 uned. Ategwyd bod y banc tir safleoedd ar hap yn Ebrill
2020 yn cynnwys 131 uned gyda chaniatâd pellach am 70 uned ar safleoedd wedi eu
dynodi. Amlygwyd bod y
CDLL yn nodi ffigwr dangosol o 115 o dai ar ddau safle pellach
wedi eu dynodi ar gyfer tai ym Mangor, ond sydd heb dderbyn caniatâd cynllunio.
O ystyried y ffigyrau, byddai caniatáu’r cais yn golygu mynd uwchlaw cyflenwad
dangosol ar gyfer datblygiadau preswyl ym Mangor.
O
ganlyniad, cyflwynodd yr ymgeisydd, yn unol â gofynion y CDLl, ddogfennau Datganiad
Galw am Dai ynghyd a Datganiad Tai Fforddiadwy yn cadarnhau yn ddiamheuol bod
galw dybryd a hanfodol am y math yma o lety, nid yn unig ym Mangor ond drwy
Wynedd gyfan. Cadarnhaodd yr ystadegau mai unedau preswyl 1 a 2 lofft (fflatiau
yn arbennig) oedd ei hangen fwyaf. Byddai cynnwys swyddfa o fewn y datblygiad
yn angenrheidiol er mwyn rheoli, gweinyddu a chynnig cymorth parthed anghenion
gofal a thai. Ategwyd bod y prosiect wedi derbyn grant
Digartrefedd Cymal 2 gan Lywodraeth Cymru. O ganlyniad, ystyriwyd fod y cynnig
yn ymateb i angen cydnabyddedig ac yn darparu cymysgedd briodol o unedau sy’n
golygu datblygu cynllun o ansawdd yn unol â gofynion Polisi TAI8 a TAI15 o’r
CDLL ynghyd a’r cyngor a gynhwysir yn y ddogfen CCA: Cymysgedd Tai a Thai Fforddiadwy.
Ynghyd
a’r datganiadau, cyflwynwyd llythyr gan Aelod Cabinet Tai ac Eiddo yn mynegi
fod y datblygiad yn un hanfodol fyddai’n gam
cadarnhaol i ymateb i’r argyfwng digartref yng Ngwynedd a Bangor. Mynegwyd y
byddai’n fodd o ddarparu mwy o gartrefi addas; yn cynnig llety o safon
dderbyniol i’r rhai sydd yng ngofal Cyngor Gwynedd. Cyflwynwyd hefyd lythyr o
gefnogaeth gan Bennaeth Tai ac Eiddo’r Cyngor yn datgan pwysigrwydd o fynd i’r
afael â’r argyfwng digartrefedd yng Ngwynedd ar fyrder, yn enwedig ym Mangor
ble mae’r sefyllfa ar ei waethaf. Gyda 100% o’r fflatiau yn fforddiadwy (yn
hytrach na’r 20% mae polisïau’r CDLL yn gofyn i’w
ddarparu) ac yn cwrdd â’r angen cydnabyddedig ar gyfer y math yma o lety,
ystyriwyd fod y cais yn dderbyniol.
Cyfeiriwyd at hanes cynllunio blaenorol y safle oedd yn cynnwys caniatâd
rhif C13/0995/11/LL ar gyfer 49 uned i fyfyrwyr. Nodwyd bod gan yr adeilad a
ganiatawyd uchder o 4 llawr yn y blaen a 5 llawr yn y cefn gyda’r un drefn yn
cael ei adlewyrchu yn y cais diweddaraf. Er hynny roedd graddfa y cais
blaenorol yn fwy ac felly ni ystyriwyd y byddai ffurf nag edrychiad yr
adeilad arfaethedig yn gwbl estron nac yn anghydnaws, ac nad fyddai yn debygol o gael effaith gormodol na sylweddol ar
fwynderau deiliaid/defnyddwyr yr eiddo cyfochrog ar sail colli preifatrwydd,
aflonyddwch sŵn a chreu strwythur gormesol.
Cyfeiriwyd
at sylwadau’r Uned Iaith Gymraeg ar y datblygiad oedd yn nodi eu bod yn cytuno gyda’r farn
mai risg isel fydd gan y datblygiad ar yr Iaith Gymraeg gydag effaith posib yn
cael ei adnabod fel un ansylweddol gadarnhaol.
Ni ystyriwyd fod
y bwriad yn groes i bolisïau lleol na chenedlaethol ac
nad oedd unrhyw fater cynllunio perthnasol yn gorbwyso’r ystyriaethau hyn.
Ystyriwyd y byddai’r bwriad o ddarparu 12 fflat fforddiadwy ble roddir cefnogaeth i’r ddarpar ddeiliaid
yn ymateb positif i anghenion tai ar gyfer y digartref yn ddarostyngedig ar
gynnwys amodau priodol.
b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:
·
Bod y cynllun yn ddatblygiad
“Llety â Chefnogaeth” ar gyfer y digartref ym Mangor; yn cynnwys 12 o fflatiau
modern 1 a 2 lofft ynghyd â swyddfa i’w defnyddio gan y staff cefnogol
·
Bod y perchenogion
presennol wedi dymchwel yr hen adeilad ers sawl blwyddyn a bod cyfle arbennig i
ail-ddatblygu’r safle gan adfywio’r rhan
yma o’r Stryd Fawr sydd wedi dirywio yn economaidd ers peth amser.
·
Bod cyd-weithio da
wedi bod rhwng Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd y bwriad o ddarparu 12 fflat gyda chefnogaeth
yn cyfarch yr angen am lety addas o safon i unigolion mewn angen tai ac yn
ymateb i’r argyfwng digartrefedd y Sir
·
Dyma gynllun cyntaf
o’i fath yng Ngwynedd ac mae’n gweithio i gryfderau ac arbenigedd y
partneriaid.
·
Bydd yr adeilad yn
dilyn ei gwblhau yn cael ei reoli ar y cyd gan Cyngor Gwynedd a Chymdeithas Tai
Gogledd Cymru a fydd yn darparu’r gefnogaeth arbenigol i’r tenantiaid.
·
Bod y nifer o ymgeiswyr gyda chais digartrefedd o
ardal Bangor yn uwch nag unrhyw ardal arall yng Ngwynedd (108 cais digartrefedd
gyda chyfeiriad wedi ei gofrestru ym Mangor Tachwedd 2020). Achosion
digartrefedd wedi codi 40% yng Ngwynedd dros y 5 mlynedd diwethaf. Y pandemig
wedi achosi cynnydd yn y galw am lety, gyda’r sgil effaith economaidd a
chymdeithasol sydd yn golygu bod nifer o bobl wedi colli gwaith yng Ngwynedd.
·
Y datblygiad yn
lleihau’r ddibyniaeth ar gyfleusterau Gwely a Brecwast fel llety dros dro gan
ddarparu datrysiad hir dymor, sefydlog o ansawdd.
·
Byddai darparu
fflatiau yng nghanol Bangor yn gyfleus i’r tenantiaid gael bod o fewn cyrraedd
i wasanaethau
·
Bod Adra yn falch o gael
gweithio gyda Chyngor Gwynedd a Chymdeithas Tai Gogledd Cymru ar y prosiect
aml-asiantaeth yma i ddatblygu adeilad fydd yn cynnig llety addas i ategu a
chyfrannu at atal digartrefedd yng Ngwynedd.
a)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd yr aelod lleol y pwyntiau canlynol:
·
Ei fod yn frwdfrydig
iawn am y cynllun
·
Bod sefyllfa’r digartrefedd ym Mangor yn un cronig
·
bod galw ac angen am
y fflatiau hyn
·
nad oedd galw am fwy
o fflatiau i fyfyrwyr
·
Bod gwagle yn y stryd - byddai’r dyluniad yn gweddu’r
strydlun
ch) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais
d) Yn ystod y drafodaeth ddilynol
nodwyd y sylw canlynol gan aelodau:
·
Yn croesawu a chefnogi cynllun rhagweithiol
·
Yn dymuno gweld cynlluniau tebyg ar draws Gwynedd
·
Yn golygu gwerth am arian trethdalwyr drwy ddefnyddio
llai o Wely a Brecwast
·
Bod yr adnodd yn rhoi blaenoriaeth i bobl leol
– angen sicrhau defnydd lleol
·
Bod cais am dystiolaeth o ddefnydd y cynllun
ymhen ychydig flynyddoedd
·
Bod Bangor yn ganolog i broblemau digartrefedd
y Sir
·
Bod yr adeilad yn tacluso’r strydlun
·
Bod nifer yn byw mewn pebyll o gwmpas y Ddinas
gan nad oedd lle iddynt yn yr hosteli lleol – angen gweld mwy yn cael ei wneud.
dd) Mewn ymateb i
gwestiwn cadarnhawyd, er bod y prosiect yn un amlasiantaethol, Cyngor Gwynedd
fyddai’n arwain ar y prosiect gyda’r Cymdeithasau Tai yn Bartneriaid.
PENDERFYNIAD:
Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn
ddarostyngedig i’r amodau canlynol:-
Nodyn: Cyfeirio’r
ymgeisydd i gyngor Dwr Cymru.
Nodyn: Gofynion
Systemau draenio Cynaliadwy.
Dogfennau ategol: