Agenda item

I ystyried cais Mr B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

Cofnod:

a)    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Eglurodd bod y digwyddiadau a gofnodwyd ar y DBS yn rhai hanesyddol. Amlygwyd Mr B ei fod, pan yn ifanc wedi cymysgu gyda’r dorf anghywir, ei fod cwblhau ei ddedfrydau ac wedi bod yn glir o unrhyw drosedd ers 37 mlynedd.

 

b)         PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

c)         Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

·         sylwadau llafar yr ymgeisydd

·         Canllawiau'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

 

ch)       Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Yn Medi 1972 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Tywyn am ddifrod troseddol yn groes i a1 Ddeddf Difrod Troseddol 1971. Derbyniodd ddirwy o £100.00 a gorchymyn i dalu iawndal o £13.00.

 

Yn Hydref 1972 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Tywyn am ymosodiad cyffredin yn groes i a42, 47 Deddf Troseddau yn erbyn y Person 1861) ynghyd a meddu ar arf peryglus mewn man cyhoeddus yn groes i a1 Deddf Atal Troseddu 1953. Derbyniodd ryddhad amodol a chafodd yr arf ei atafaelu (confiscate)

 

Yn Hydref 1975 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Tywyn ar gyfres o 12 cyhuddiad. 2 gyhuddiad yn ymwneud â gwneud galwadau ffôn bygythiol (yn groes i a78 Deddf Swyddfa'r Post 1969): 1 cyhuddiad o osod erthygl ar eiddo Swyddfa'r Post (yn groes i a 61 Deddf Swyddfa'r Post 1969): 1 cyhuddiad o achosi difrod troseddol (yn groes i a1 Deddf Difrod Troseddol 1971): 4 cyhuddiad o gario dryll aer mewn man cyhoeddus (yn groes i a19 Deddf Drylliau Tân 1968): 1 cyhuddiad o ddefnyddio geiriau bygythiol / ymosodol/ sarhaus (yn groes i a5 Deddf Trefn Gyhoeddus 1936): 3 cyhuddiad o saethu arf oddi fewn 50 medr o’r briffordd (yn groes i a161 Deddf Priffyrdd 1980). Derbyniodd  orchmynion dirwyon a chostau a chafodd ei ddedfrydu i 3 mis mewn canolfan gadw.

 

Yn Medi 1982 cafodd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Tywyn ar gyhuddiad o achosi niwed drwy ymosodiad corfforol difrifol yn groes i a20 Deddf Troseddau yn erbyn y Person 1861. Derbyniodd ddedfryd o garchar am 6 mis (wedi'i ohirio am 2 flynedd) ynghyd a dirwy o £100.00 a gorchymyn i dalu costau o £3.00.

 

Yn Medi 1983 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Tywyn ar gyhuddiad o wastraffu amser yr Heddlu (yn groes i a 5(2) Deddf Cyfraith Droseddol 1967) ac am ddefnyddio geiriau bygythiol / ymosodol/ sarhaus (yn groes i a 5(1)(a) Deddf Trefn Gyhoeddus 1986). Derbyniodd ddirwy o £300.00 a gorchymyn i chi dalu costau o £3.00.

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae paragraff 6.0 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad agos gyda'r cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn ymwneud a thrais. Mae paragraff 6.4 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried am achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad a/neu fod a dryll yn ei feddiant, sydd yn llai na 10 blynedd cyn dyddiad y cais. Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried am ymosodiad cyffredin a/neu ddifrod troseddol a /neu drosedd o dan Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986 sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais. Mae paragraff 6.6 o’r Polisi yn nodi y bydd cais, fel arfer yn cael ei wrthod os oes mwy nag un gollfarn am drosedd o natur dreisgar yn erbyn yr ymgeisydd a hynny o fewn y 10 mlynedd ddiwethaf

 

a)    Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad fod yr holl gollfarnau a rhestri’r uchod yn ymwneud a throseddau o drais, fodd bynnag, gan fod y gollfarn ddiweddaraf wedi ei gosod yn 1983, 37 mlynedd yn ôl, nid oedd paragraffau 6.4,.6.5 a.6.6 yn goroesi, ac felly nid yn sail i wrthod y cais

 

Wedi pwyso a mesur y dystiolaeth ar wybodaeth yn ofalus, roedd yr Is-bwyllgor o blaid  caniatáu y cais a phenderfynwyd bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.