Agenda item

AELOD CABINET: Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yn amlinellu trefniadau llywodraethu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC). Ymhelaethwyd ar gynnwys yr adroddiad a rhoddwyd diweddariad byr ar y datblygiadau o fewn y meysydd blaenoriaeth ynghyd a gwaith yr is-grwpiau sydd yn gyfrifol am y meysydd hynny. Ers mis Mawrth 2020, yn wyneb pandemig covid-19, eglurwyd bod cyrff cyhoeddus wedi gorfod addasu i ymateb i’r argyfwng iechyd drwy newid eu ffordd o weithio a chysylltu gydag eraill. Cyfeiriwyd at weithdy a gynhaliwyd ym mis Medi 2020 i drafod rôl y Bwrdd yn eu gwaith o adfer cymunedau o’r pandemig.

 

O ganlyniad i ganfyddiadau’r gweithdy addaswyd ffrydiau gwaith yr is-grwpiau presennol ynghyd a’u rhaglenni gwaith a chytuno ar gerrig milltir. Cytunwyd hefyd i wneud gwaith ymchwil pellach mewn rhai meysydd (tlodi ariannol a diweithdra ymhlith pobl ifanc) er mwyn canfod y sefyllfa ddiweddaraf. Bydd canfyddiadau’r gwaith ymchwil hynny yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar 16eg Rhagfyr 2020.

Canfyddiad arall y gweithdy oedd bod nifer o’r partneriaid yn ymateb i anghenion llesiant ein cymunedau fel sefydliadau unigol. Eglurwyd bod y BGC yn gadarn eu bod am osgoi dyblygu gwaith, a'u bod yn ymchwilio i sut y gallent weithredu heb ddyblygu’r gwaith a wneir gan bartneriaid unigol er mwyn ychwanegu gwerth at gynlluniau presennol. Un modd o osgoi dyblygu gwaith yw bod y Bwrdd o bryd i’w gilydd yn gwahodd partneriaid eraill i roi cyflwyniadau am eu gwaith fel y Bartneriaeth Sgiliau a Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:-

·         Os am graffu gwaith y Bwrdd, bod angen gwybodaeth am fesuriadau, targedau, data, llwyddiannau

·         Pam nad yw’r Heddlu yn rhan o’r Bwrdd?

·         Bod diffyg tai ar gael i brynu yn lleol

·         Cefn gwlad yn dioddef gyda gwasanaethau yn symud neu cau mewn cymunedau

·         Ethos Cymdeithasau Tai oedd prynu tai yn lleol yn hytrach nag adeiladau i bobl leol - angen canolbwyntio ar yr elfen o ail adeiladu i warchod yr iaith a sicrhau bod unrhyw arian sydd yn cael ei dderbyn  e.e., Premiwm Treth Cyngor ar gyfer ail gartrefi yn cael ei fuddsoddi yn yr ardaloedd hynny sydd yn dioddef o’r effaith

 

Mewn ymateb i sylw nad oedd Llywodraeth Cymru wedi rhagweld yr angen i gyfrannu at gostau cynnal a chadw'r arfordir mewn ymateb i gynnydd mewn defnydd / ymwelwyr o ganlyniad i’r pandemig, awgrymwyd bod angen addasu meddylfryd y Llywodraeth i ddeall bod rhai materion arfordirol tu hwnt i strategaethau Awdurdodau Lleol. Amlygwyd bod Gwynedd eisoes wedi gorfod ymdrin gyda chostau ychwanegol o gynnal a chadw'r isadeiledd o gwmpas y cynnydd mewn defnydd.

 

Ategwyd bod Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn nodi bod rhaid i gyrff cyhoeddus ganolbwyntio ar sut mae eu penderfyniadau yn mynd i gael effaith hirdymor, gan gydweithio i atal problemau rhag digwydd a chydnabod na all unrhyw gorff cyhoeddus unigol ymateb i’r heriau mawr. Cytunwyd yr angen i drafod strwythur ymwelwyr a nodwyd bod gweithgor wedi ei sefydlu i edrych ar ddiffyg y ddarpariaeth bresennol ynghyd a cheisio cyfundrefn ar gyfer twristiaeth gynaliadwy.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chael Cyngor Gwynedd i arwain ar faterion tai yn hytrach na Phrif Weithredwr Cwmni Tai Masnachol, nodwyd bod Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd yn cyflwyno Cynllun Gweithredu Tai i’r Cabinet ar y 15fed o Ragfyr yn amlinellu cynlluniau addas i wireddu gweledigaeth y Cyngor o sicrhau tai addas i drigolion y Sir. Bydd yr Adran Tai ac Eiddo yn cydweithio gyda Chymdeithasu Tai i gwblhau cynlluniau penodol fyddai’n gwthio’r cynllun ymlaen. Ategwyd mai gwaith yr Is-grŵp Tai yw sefydlu rhaglen arloesol o adeiladu tai newydd fforddiadwy yn y Sir e.e., adeiladu tai carbon isel, neu daiwedi eu gwneud yn barodyn Gymru. Pwysleisiwyd mai gwaith yr Is-grŵp yw edrych ar gyfleoedd newydd neu ddulliau o adeiladu gyda Strategaeth Tai Gwynedd a Chynllun Gweithredu Tai Gwynedd yn gadarn yn nwylo Cyngor Gwynedd.

 

Mewn ymateb i sylw nad oedd is-grŵp tlodi er wedi ei adnabod yn faes blaenoriaeth, nodwyd bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn dymuno edrych ar dlodi ond bod dyblygu gwaith yn bryder. Ategwyd mai'r bwriad yw ceisio trefniadau i sicrhau lle mae bylchau ac uchafu'r hyn a ellid ei wneud i daclo tlodi. Atgoffwyd yr Aelodau bod gwaith ymchwil pellach yn cael ei wneud er mwyn canfod y sefyllfa ddiweddaraf gan gyflwyno adroddiad i’r Bwrdd ar Ragfyr 16eg 2020.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Dogfennau ategol: