Agenda item

AELOD CABINET: Cynghorydd Gareth Griffith

 

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

Derbyn y diweddariad a chefnogi argymhelliad y Grŵp Tasg y dylid cynyddu ffioedd talu ac arddangos 10%.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth Adran Amgylchedd a rhoddwyd trosolwg ar ei gynnwys. Nodwyd prif ddiben yr adroddiad sef bod y strategaeth bresennol, y mabwysiadwyd yn 2015, yn dod i derfyn yn 2021. Atgoffwyd y pwyllgor bod tasglu parcio wedi ei sefydlu i ystyried yr angen i gynyddu incwm ynghyd a’r heriau a chyfleoedd newydd sydd wedi codi ers y strategaeth parcio ddiwethaf gael ei sefydlu ym mis Chwefror 2015.

 

Adroddwyd bod dau brif her gan y grŵp tasg sef i gynyddu incwm i’r nod o £400,000 ag yn ail i gyflawni hynny heb effeithio’n ormodol ar drigolion Gwynedd. Eglurwyd bod sawl newid wedi bod yn arferion parcio dros y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys;

·         Mwy o dwristiaid ac o ganlyniad mwy o alw ar lefydd parcio.

·         Mwy o geir trydan yn cael eu prynu ac felly cyfle i osod mannau gwefru ceir.

·         Cynnydd yn y defnydd o daliadau di gyffwrdd, amlygu’r angen i uwchraddio’r peiriannau talu yn y meysydd parcio.

·         Cynnydd mewn cartrefi modur yn parcio mewn mannau amhriodol.

 

Ymhelaethwyd ar y pwyntiau uchod gan nodi'r angen i gynnig darpariaeth talu a cherdyn yn gyfochrog a thaliadau arian. Nodwyd bod darpariaeth talu dros y ffôn wedi ei sefydlu, ond ei fod yn ddibynnol ar ffon symudol a signal digonol i wneud y taliadau. Fodd bynnag, dengys bod cynnig y ddau opsiwn yn mynd i hwyluso codi mwy o incwm yn y dyfodol gan fod modd i bobl sydd heb arian ddefnyddio’r meysydd parcio.

 

Adnabuwyd y pryderon sydd wedi eu hamlygu’n ddiweddar ynghylch cerbydau gwyliau a’r cynnydd a fu wrth i gyfyngiadau rhwystro teithiau tramor. Eglurwyd nad oedd hwn yn fater hawdd i’w ddatrys a bod y broblem wedi bodoli ers rhai blynyddoedd bellach. Nodwyd bod datrysiadau megis, creu is-ddeddfau, cynyddu swyddogion gorfodaeth a hefyd addasu’r meysydd i hwyluso’r parcio cerbydau gwyliau ond gan godi ffioedd derbyniol arnynt am y gwasanaeth.

 

Cyfeiriwyd at argymhelliad y grŵp tasg parcio o godi ffioedd 10% o fewn y meysydd parcio fel dull o gynyddu incwm. Ategwyd at hyn bod y grŵp tasg wedi adnabod na ddylid codi ffioedd ar barcio mewn mannau anabl ac felly byddai'r rhain yn parhau am ddim.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

·         Mynegwyd pryder ynghylch cerbydau gwyliau yn parcio mewn mannau heb gyfleusterau ac mewn mannau gwyddonol ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE). Nodwyd bod tystiolaeth o ddefnyddwyr yn gwaredu a gwastraff carthffosiaeth mewn mannau cyhoeddus.

·         Cododd yr awgrym y dylid pwyso am greu is-ddeddfau er mwyn gwarchod mannau aros rhag i bobl parcio eu cerbydau gwyliau yna.

·         Nodwyd bod angen cefnogi busnesau carafanau lleol ac felly ni ddylid y Cyngor buddsoddi mewn cynnig gwasanaethau ym meysydd parcio ar eu cyfer.

·         Teimlai rhai aelodau bod y tocyn blynyddol am £140 yn swm uchel i rai talu ar unwaith, gan nad oes modd talu’n fisol croesawyd bod modd prynu tocyn 6 mis am hanner y pris.

·         Nododd rhai aelodau bod cerbydau gwyliau yn adnodd gwerthfawr gan eu bod yn hunangynhaliol heddiw gyda chyflenwadau dwr a gwastraff yn gynwysedig. Awgrymwyd codi ffi gymharol a meysydd gwersylla fel bod cyfle i bobl parcio yn y trefi a defnyddio siopa a gwasanaethau lleol.

·         Codwyd pryderon ynghylch parcio mewn rhai pentrefi, gyda chynnydd mewn tai gwyliau e.e. Airbnb, mae llefydd parcio yn cael eu meddiannu gan dwristiaid.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r aelodau, cytunodd Pennaeth yr Adran Amgylchedd bod y sefyllfa cerbydau gwyliau yn bryder ers tro ond nododd ei fod yn broses hir creu is-ddeddfau er mwyn eu hatal rhag parcio. Nodwyd ei fod yn syniad cynnal sgwrs wleidyddol am y camau nesaf.

 

Gan gyfeirio at y tocyn blynyddol, nodwyd bod y posibilrwydd o dalu’n fisol yn anymarferol gan nad oes modd sicrhau bod taliadau yn parhau ar ôl cyhoeddi’r tocyn i’r preswylwyr. Amlygwyd bod modd prynu tocyn 6 mis mewn ymgais o ostwng y gost mewn ffordd wahanol.

 

Eglurodd y Rheolwr Parcio a Gwaith Stryd y strwythurau ffioedd parcio gan nodi bod y tîm gorfodaeth parcio yn hunangynhaliol ar incwm dirwyon a ffioedd. Gan fod incwm wedi bod yn uwch na chostau cyflogi’r tîm, gellir dangos bod posibilrwydd i gynyddu maint y tîm, sy’n angenrheidiol ar gyfer ymdopi a’r heriau parcio. Yn ogystal ag hyn, nododd y gellir defnyddio arian dros ben i ail-fuddsoddi i wella meysydd parcio ac uwchraddio’r peiriannau.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn y diweddariad a chefnogi argymhelliad y Grŵp Tasg y dylid cynyddu ffioedd talu ac arddangos 10%.

 

Dogfennau ategol: