AELODAU CABINET:
Cynghorydd Gareth Griffith (Amgylchedd)
Cynghorydd Craig ab Iago (Tai)
I ystyried yr
adroddiad
Penderfyniad:
Derbyn cynnwys yr
adroddiad
Diolch i’r
swyddogion am gyflwyno tystiolaeth a gwybodaeth fanwl a defnyddiol a ellid ei
ddefnyddio i geisio dwyn perswâd ar Lywodraeth Cymru i newid eu polisïau
cynllunio.
Cofnod:
Cyflwynwyd gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan y Cabinet ym mis Gorffennaf
2019 oedd yn ymwneud a cheisio cyfarch sut y byddai
modd cyfyngu ar faint o dai y gellid eu defnyddio
at ddibenion gwyliau, gan edrych ar
fesurau gweithredol mewn llefydd eraill
a sut byddai modd newid y ddeddfwriaeth
gynllunio er mwyn gweithredu yng Nghymru. Gofynnwyd
hefyd am sylwadau’r Pwyllgor ar y gwaith
cyn adrodd i’r Cabinet ar y 15fed o Ragfyr 2020.
Tynnwyd sylw, er pwrpas
y gwaith, y diffiniwyd ‘cartrefi gwyliau’ fel;
• Unedau gwyliau a
osodir yn y tymor byr: Tŷ
preswyl (dosbarth defnydd C3) sydd ddim yn cael
ei feddiannu’n rheolaidd ac yn cael ei ddefnyddio’n
achlysurol drwy ei osod ar
gyfer defnydd gwyliau ar sail fasnachol.
• Ail gartref: Tŷ preswyl (dosbarth defnydd C3) sydd yn cael ei
ddefnyddio’n achlysurol gan y perchennog (ond ddim yn
brif gartref) yn ogystal ag
ymwelwyr eraill ar gyfer pwrpas
gwyliau.
Cafwyd cyflwyniad manwl, ystyrlon i’r gwaith ac fe drafodwyd y chwe argymhelliad. Nodwyd bod yr argymhellion
yn rhoi opsiynau
o ran y mecanwaith posib a ellid ei
gweithredu er mwyn cael rheolaeth
a lleihau effaith llety gwyliau ar
gymunedau. Eglurwyd y byddai rhai argymhellion
yn cael eu
trafod ar y cyd ac yn faterion
i Lywodraeth Cymru eu gweithredu,
tra bod modd gweithredu eraill ar lefel lleol
e.e., gweithredu polisïau cynllunio lleol yn effeithiol
– gellid rhoi ystyriaeth bellach i’r argymhelliad yma yn y tymor
byr ac wrth adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.
Diolchwyd am yr adroddiad
Amlygodd Aelod Cabinet Amgylchedd ei siom
mai Dinas Caerdydd oedd yr
unig Awdurdod arall oedd wedi
cyfrannu i’r gwaith ymchwil, ond bod siroedd eraill wedi dangos
diddordeb ers i’r adroddiad gael ei ryddhau
yn gyhoeddus. Ategodd bod un Sir eisoes wedi cyflwyno
rhybuddion o gynnig o flaen eu Cyngor. Derbyniodd bod her yn wynebu’r Cyngor gan nad oedd
llawer o ddiddordeb gan y Llywodraeth yn y sefyllfa ar
yn o bryd, ond gyda dogfen
weithredol yn cael ei chefnogi
gan dystiolaeth bod modd dechrau gweithredu
ac ymateb i’r her.
Nododd Pennaeth Tai ac Eiddo ei fod yn
llongyfarch y tîm ar eu gwaith
gan ategu bod y dystiolaeth a gasglwyd yn lladd esgusodion
Llywodraeth Cymru o weithredu. O ystyried cyflwyniad Premiwm Tai, Cynllun Gweithredu Tai Gwynedd ynghyd a'r gwaith
ymchwil, amlygodd bod tystiolaeth bendant i osod cyfeiriad
i reoli’r defnydd.
Ategodd Aelod Cabinet Tai ac Eiddo bod y papur ymchwil yn cyflwyno
ffeithiau sydd bellach yn arf
i herio Llywodraeth
Cymru – rhaid rheoli’r defnydd.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:-
·
Croesawu’r adroddiad – yn sylfaen dda i
ddechrau lobio ac yn gyfle euraidd
i newid y drefn a chymryd cyfrifoldeb a rheolaeth dros y sefyllfa
·
Bod yr
adroddiad yn cyfarch materion megis AirBnb, ond
dim digon yn cael ei wneud
i newid y Ddeddf Cynllunio drwy osod trothwyon
i reoli – angen dwyn perswâd
ar Lywodraeth Cymru i newid
y Ddeddf
·
Bod yr
ystadegau yn frawychus
·
Bod rhaid gweithredu a herio’r Llywodraeth i wneud
gwahaniaeth
·
Angen mwy o fanylder am gyflogaeth ynghyd a phrisiau tai uchel mewn rhai ardaloedd - byddai hyn yn amlygu
sut mae’r iaith yn colli
ei thir – cadarnleoedd y Gymraeg yn colli eu
Cymreictod
·
Bod angen
cau’r bylchau fel na ellid
osgoi trefniadau rheoleiddio – gellid targedu ‘unedau gwyliau tymor byr’
– perchennog yn debygol o drosi yn ôl i
gategori ‘ail gartref’ fel modd o osgoi
rheolaeth
·
Awgrym i fabwysiadau ‘ymyrraeth’ – creu dwy haen gwyliau a lleol fydd yn gwarchod y stoc
tai lleol ac yn gyrru’r prisiau
·
Angen ystyried Treth Trafodiadau Tir – cyfle i godi
premiwm
·
Materion tu allan i
faes cynllunio y gellid eu gweithredu e.e., trethi twristiaid
·
Angen rheolaeth dros ‘ail gartrefi’ – dim cyfleoedd na chartrefi ar
gael i bobl
ifanc
·
Angen rheolaeth dros osod tai ac AirBnB - sicrhau safonau gosod a thacluso
·
Angen cyfyngu niferoedd tai haf
Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â cheisio rheolaeth dros dai haf a’r sgil effeithiau
sydd yn deillio
o hynny, nododd Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd bod y briff yn gyfyngedig o fod yn edrych
ar ddefnydd tai marchnad agored fel tai haf / ail gartrefi. Ategodd bod y gwaith yn cynnwys
gwybodaeth fanwl a ffeithiol (a gyflwynwyd gan nifer o adrannau)
sydd yn cyflwyno
tystiolaeth werthfawr yn lleol ac yn
genedlaethol. Amlygodd nad oedd
datrysiadau hawdd i’r sefyllfa ond
cyfeiriodd at waith sydd wedi ei
wneud yn yr Alban fel enghraifft
dda sydd wedi profi fod
posib rheoli defnydd gwyliau byr dymor drwy
newid deddfwriaeth gynllunio a thrwyddedu. Nododd bod rhai o’r argymhellion angen eu gweithredu
ar y cyd ar lefel genedlaethol
tra bod eraill yn faterion lleol
lle gellid defnyddio’r dystiolaeth i addasu polisïau
lleol. Derbyniodd bod Treth Traddodi Tir hefyd yn
arf arall y gellid ei defnyddio.
Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â Threth Twristiaid a’r ffaith nad oedd
wedi ei gynnwys
fel argymhelliad i’r Cabinet ei ystyried, amlygwyd bod y gwaith yma yn
cael ei arwain
gan Adran Datblygu’r Economi ac felly heb ei gynnwys
fel un o’r prif argymhellion.
Mewn ymateb i sylw
y dylid ystyried ‘ail gartrefi’ o fewn cynllun trwyddedu gorfodol’ nodwyd y byddai hyn yn
eithriadol o anodd ei reoli drwy’r
gyfundrefn cynllunio o gymharu â ‘llety gwyliau’ sydd yn
ddefnydd masnachol gyda mynd a dod
lle gellir dangos ei fod
yn newid defnydd. Gyda rheoli
ail gartrefi yn anodd gan nad
oes modd profi newid defnydd,
nodwyd bod yr argymhelliad o ran deddfwriaeth gynllunio a thrwyddedu yn mynd
ar ôl rheolaeth
llety gwyliau byr dymor gan
geisio cael darlun cywir o’r
sefyllfa ar y ddaear ac ar draul
hyn, i’r dyfodol, bod modd ystyried rheoli hyn drwy bolisiau
cynllunio lleol.
Mewn ymateb i’r sylw
bod rheoli ail gartrefi yn anodd, awgrymwyd
rhoi sialens i’r Cabinet i ystyried
gosod categori gwahanol. Unwaith y bydd categori yn
cael ei gynnwys
bydd modd ei reoli.
PENDERFYNWYD
·
Derbyn cynnwys yr
adroddiad
·
Diolch i’r swyddogion
am gyflwyno tystiolaeth a gwybodaeth fanwl a defnyddiol a ellid
ei ddefnyddio i geisio dwyn
perswâd ar Lywodraeth Cymru i newid eu
polisïau cynllunio.
Dogfennau ategol: