Agenda item

Datblygiad preswyl o 30 uned (i gynnwys 12 uned fforddiadwy) ynghyd a isadeiledd, llecynnau parcio, mynedfa, llwybrau a llecyn agored.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth A Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthansol

Penderfyniad:

Gwrthod y cais

 

Rhesymau:

 

1.            Effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg

2.            Lon Pen y Ffridd yn anaddas ar gyfer mynediad i ddatblygiad o’r maint yma

 

 

Cofnod:

        

         Datblygiad preswyl o 30 uned (i gynnwys 12 uned fforddiadwy) ynghyd ac isadeiledd, llecynnau parcio, mynedfa, llwybrau a llecyn agored

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr. Amlygwyd bod atodiad 1 (adroddiad Pwyllgor 20/10/20) o’r adroddiad cnoi cil wedi ei gynnwys yn y ffurflen sylwadau hwyr ynghyd a chyflwyniad ysgrifenedig o sylwadau’r ymgeisydd a'r gwrthwynebydd a sylwadau’r Uned  Polisi Cynllunio ar y Cyd.

Rhoddwyd cyflwyniad o’r cynlluniau oedd yn destun y cais ac amlygwyd cynllun diwygiedig i gynnwys offer chwarae ar gyfer plant ar y llecyn agored.

        

a)    Eglurodd y Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd bod y cais a drafodwyd ym mhwyllgor Hydref 20fed 2020 wedi cael ei wrthod, yn groes i argymhelliad y swyddogion. Gwrthodwyd y cais am 6 rheswm ac o ganlyniad, cyfeiriwyd y cais i gyfnod cnoi cil.

 

Ail gyflwynwyd gwybodaeth i’r Pwyllgor oedd yn amlygu’r polisïau, y risgiau ar opsiynau iddynt. Cyfeiriwyd at ddatganiad ieithyddol diwygiedig oedd yn cydymffurfio gyda gofynion PS1 a Chanllaw Cynllunio Atodol perthnasol ynghyd a chynllun yn dangos ardal ac offer chwarae i blant o fewn safle’r cais. Yn ogystal, ail ymgynghorwyd gyda’r holl ymgynghorai perthnasol iddynt gael cyfle i gadarnhau eu barn a’u sylwadau ar y cais ar gyfer 30 o dai (yn dai par 2 neu 3 llofft), gyda 12 o’r tai yn 100% fforddiadwy a 18 o’r tai yn dai marchnad agored gyda 5 fyddai’n cael eu cynnig drwy rent canolradd neu gynllunrhent i brynu. Byddai hyn yn galluogi teuluoedd cymwys i rentu gydag opsiwn i brynu’r yn y dyfodol ac o fewn ffin datblygu Bangor.

 

Cyfeiriwyd at Rhan 3 o’r adroddiad oedd yn cadarnhau’r polisïau perthnasol ynghyd ag ymatebion i’r 6 rheswm gwrthod. Ategwyd bod yr adroddiad yn cynnwys tystiolaeth fanwl am yr angen am dai gyda’r Gwasanaeth Tai a’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn cadarnhau'r angen am dai fforddiadwy yn yr ardal ynghyd a’r angen cyffredinol am dai 2 neu 3 llofft. Y cais felly yn cydymffurfio gyda pholisïau TAI 1, 8 a 15.

 

Yng nghyd-destun materion llifogydd, ail ymgynghorwyd gyda CNC, Uned Dwr y Cyngor a Dŵr Cymru a derbyniwyd cadarnhad nad oeddynt yn gwrthwynebu’r cais. Ail ymgynghorwyd gyda’r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd ynglŷn â halogiad tir ac adroddwyd nad oeddynt yn gwrthwynebu’r cais a’u bod yn fodlon i’r strategaeth adfer gael ei weithredu drwy ddefnydd amod cynllunio safonol. Ategwyd nad oedd gan yr Uned Trafnidiaeth wrthwynebiad o ran diogelwch y ffyrdd,  llif traffig a chapasiti ac addasrwydd Ffordd Pen Y Ffridd a chylchfan Ysbyty Gwynedd.

 

Ystyriwyd bod cynnwys yr adroddiad yn ymateb ac yn goresgyn y 6 rheswm gwrthod. Nid oedd  gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan yr ymgynghorai statudol na’r ymgynghorai eraill perthnasol ac felly ym marn y Pennaeth Cynorthwyol, nid oedd tystiolaeth ddigonol i gefnogi'r 6 rheswm gwrthod. O ganlyniad, cyfeiriwyd at y  risgiau posib i’r Cyngor yn sgil gwrthod y cais gan gyfeirio yn benodol at y risgiau ariannol sylweddol posib fyddai i’r Cyngor mewn sefyllfa apel, gan nad ystyrir fod tystiolaeth i amddiffyn y rhesymau gwrthod. Cadarnahawyd hefyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno apêl i’r arolygaeth a deallir fod gan yr ymgeisydd fwriad o wneud cais am gostau.

 

Yn rhan 5 o’r adroddiad rhestrwyd yr opsiynau oedd yn agored i’r Pwyllgor. Pwysleisiwyd fod risgiau gyda phob un o’r rhesymau gwrthod gyd’r risg yn cynyddu wrth i’r nifer o resymau gwrthod gynyddu. Adroddwyd petai’r Pwyllgor yn penderfynu gwrthod y cais, yna yn unol a’r drefn arferol byddai rhaid i’r cynigydd a’r eilydd amddiffyn yr apêl ar ran y Cyngor, ond y buasai Swyddogion yn cynghori a chefnogi’r Aelodau cyn y belled ag y bo modd, fel sydd wedi digwydd gydag apeliadau yn y gorffennol.

 

Pwysleisiwyd mai’r argymhelliad oedd caniatáu y cais a bod tystiolaeth ddigonol i gadarnhau bod y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r polisïau cynllunio perthnasol.

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Yn dilyn gwaith canfasio, cynnal trafodaethau a chyfarfodydd yn lleol bod tystiolaeth ddigonol nad oedd angen lleol i’r datblygiad - nid oes neb, yn lleol, yn cefnogi’r datblygiad

·         Yr holl ddadleuon eisoes wedi eu cyflwyno

·         Nid yw’r safle yn addas ar gyfer datblygiad tai

·         Angen i’r cais gael ei wrthod

 

c)    Cynigiwyd (Cynghorydd Gruffydd Williams) ac eiliwyd (Cynghorydd Simon Glyn)  i wrthod y cais ar sail effaith negyddol ar yr Iaith Gymraeg a materion trafnidiaeth (lon Pen y Ffridd yn anaddas ar gyfer mynediad i ddatblygiad o’r maint yma).

 

ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·      Dim addasiadau digonol i’r adroddiad / asesiad gwreiddiol

·         12 fforddiadwy dim yn ddigon - bydd gweddill y tai yn dai marchnad agored

·         Pam ystyried ‘Bangor’ fel cymuned? Bangor yn wead o gymunedau unigol ac felly dim yn addas gosod sail ar Fangor fel un endid

·         Angen ystyried ymhellach yr effaith ar yr Iaith Gymraeg

·         Cylchfan Ysbyty Gwynedd yn cyrraedd capasiti yn sgil gwelliannau ysgolion - effaith hyn ar yr isadeiledd heb ei dystiolaethu – angen cynllun wrth gefn petai tagfeydd

·         Bod angen parchu dymuniadau’r gymuned leol sydd yn gwrthwynebu’r datblygiad ynghyd a barn yr Aelodau Lleol

·         Nid yw’r is adeiladwaith yn ddigonol

·         Cais yn fratiog - sgil ac effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg ynghyd a thrafnidiaeth

·         Angen ystyried anaddasrwydd y lôn gul i mewn i’r ystâd

 

·         Bod y bwriad yn cydymffurfio gyda Strategaeth Tai Cyngor Gwynedd ac yn darparu tai i bobl leol yn debyg iawn i ddatblygiad Yr Hendre, Caernarfon

·         Bod y safle wedi ei leoli o fewn ffiniau datblygu y Cynllun Datblygu Lleol

·         Dim tystiolaeth i wrthwynebu – y ddadl o wrthod yn wan

 

d)   Mewn ymateb i sylw bod yr adroddiad, yng nghyd-destun y risgiau i’r Cyngor yn fygythiol ei natur, nododd y Swyddog Monitro bod cyfrifoldeb ar y Gwasanaeth Cynllunio i amlygu’r sefyllfa polisi cynllunio, y dystiolaeth sydd i law gan gynnwys risgiau posib i’r Cyngor, gan mai dyna pwrpas y drefn o gyflwyno adroddiad cnoi cil fel mae’r adroddiad yn ei egluro.

 

dd) Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag a oedd ystyriaethau wedi eu rhoi i gapasiti meddygfeydd lleol,  nododd y Rheolwr Cynllunio bod y Gwasanaeth Cynllunio yn ymgeisio i ymgynghori gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol ar geisiadau mawr, ond nad yw ymateb yn cael ei dderbyn bob tro.

 

        e)  Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol i wrthod y cais:

           

O blaid y cynnig i wrthod y cais (7):  Y Cynghorwyr Elwyn Edwards, Simon Glyn, Louise Hughes, Gareth M Jones, Huw W Jones, Eirwyn Williams a Gruffydd Williams

 

Yn erbyn y cynnig i wrthod y cais (3):  Y Cynghorwyr Edgar Owen, Anne Lloyd Jones a Stephen Churchman

 

                        Atal, (1) : Y Cynghorydd Eric M. Jones

 

       PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i’r argymhelliad

 

Rhesymau:

 

1.            Effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg

2.            Lon Pen y Ffridd yn anaddas ar gyfer mynediad i ddatblygiad o’r maint yma

 

Dogfennau ategol: