Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

Penderfyniad:

Derbyniwyd cynnwys yr adroddiad a diolchwyd i’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aled Davies, Mari W Jones a Matthew Hawes a’r tim am eu gwaith caled iawn. Cytunwyd i gadw golwg ar effaith Covid-19 ar y galw am y gwasanaeth therapi galwedigaethol ac effaith hynny ar y gwasanaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Arweinydd Therapi Galwedigaethol (ATG) er mwyn rhoi trosolwg o waith y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn ogystal â’r heriau yn sgil Covid-19. 

 

Nodwyd bod Covid wedi cael effaith aruthrol ar y Gwasanaeth, a bod y rhagolygon yn awgrymu y bydd cynnydd mawr   yn y gofyn am y gwasanaeth.  Ategwyd bod y cynnydd o ganlyniad i’r nifer sydd wedi bod yn cysgodi dros y cyfnod Covid a ddim wedi bod yn cysylltu â’r gwasanaeth yn amserol ac effaith hir dymor Covid ar iechyd unigolion. Nodwyd bod angen i’r gwasanaeth ddatblygu i fod yn fwy rhagweithiol er mwyn cyflawni yr hyn sydd yn bwysig i’r unigolyn. Nodwyd hefyd y byddai rhoi cefnogaeth ataliol yn fwy cost effeithiol i’r Cyngor. 

 

Cyflwynodd yr arweinydd ATG ei hun i’r cyfarfod. Mae wedi ei benodi i’r rôl ers cyfnod o flwyddyn. Nododd yr ATG ei fod wedi cael cyfle dros y  flwyddyn ddiwethaf i adolygu y gwasanaeth therapi galwedigaethol a nodi blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf i sicrhau gwasanaeth mwy effeithiol, gyda phwyslais ar wasanaethau arbedol, a chynnal ac adennill sgiliau. Ychwanegodd nad yw aros yn llonydd yn opsiwn ac mai’r peth pwysig yw cael gwasanaeth o safon sydd yn cynnig gwerth am arian i’r unigolyn  a’r Cyngor.  Ymhelaethodd bod bylchau wedi bod yn y gwasanaeth o ran staff o ganlyniad i ymddeoliad dau swyddog profiadol iawn a nifer i ffwrdd a'r gyfnod mamolaeth ond eu bod wedi llwyddo i recriwtio i’r swyddi i gyd.    

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-  

 

·                Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch llwybr unigolyn  o’r ysbyty a’r cydweithio

rhwng Iechyd a’r Cyngor nododd yr ATG mai yr ysbyty sydd yn cychwyn y gwaith gyda’r unigolyn.  Un broblem o ganlyniad i Covid yw’r pwysau sydd ar ysbytai i ryddhau cleientiaid, gan gynnwys rhai gydag anghenion cymhleth.  Mae gwaith yn cael ei gynnal i adolygu mewnbwn Therapi Galwedigaethol i gefnogi rhyddhau o’r ysbyty yn effeithiol. 

 

·                Mae’r cyfnod Covid wedi bod yn gyfle i  ddysgu ac addasu, ac o edrych yn ôl

mae’n bosib gweld ein bod wedi methu cyfleoedd i atal unigolion rhag gorfod cael mynediad i’r ysbyty. 

 

·                Mewn ymateb i gwestiwn cadarnhaodd yr ATG bod digon o staff o ran

Therapyddion Galwedigaethol i gyflawni dyletswyddau hanfodol ac eu bod yn gwneud eu gwaith yn arbennig o dda, ond nad yw’r capasiti ganddo i wneud digon o’r gwaith ataliol a rhagweithiol gyda’r tîm presennol.   

 

·                Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â recriwtio, cadarnhaodd yr  ATG bod

recriwtio i swyddi Therapi Galwedigaethol o fewn y Cyngor wedi bod yn anodd yn y gorffennol. Mae y cyfle i weithio yn y maes iechyd, addysg a’r sector preifat i gyd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.  Nododd bod yn rhaid gwneud i weithio i’r Cyngor edrych yn fwy deniadol.  Adroddodd ei fod erbyn hyn yn cydweithio yn agos gyda'r Brifysgol i roi cyfleoedd addysgu i fyfyrwyr Cymraeg a denu staff i’r Cyngor.  Ategodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth yr uchod, gan gadarnhau bod nifer o heriau mewn denu Therapyddion Galwedigaethol i Wynedd.  Nododd, fod cwrs yn arfer cael ei gynnig ym Mhrifysgol Bangor ond cadarnhaodd bod y cwrs wedi dod i ben ac wedi symud i Brifysgol Glyndŵr.  Nododd y gwaith sydd ar y gweill gyda Phrifysgol Cymru Bangor.  Wrth gwrs, nododd y dymuniad i ddatblygu staff y Cyngor ei hun hefyd gan gadarnhau bod un swyddog yn mynychu y cwrs gradd Therapi Galwedigaethol ym Mhrifysgol Glyndŵr ar hyn o bryd.   

 

·                Mewn ymateb i sylw ynglŷn â gweithio a chydweithio

amlasiantaethol nododd yr ATG ei fod mewn cyswllt gyda ei gyd-swyddog ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ble maent yn cydweithio ar unrhyw rwystrau a chymryd dull partneriaeth i ymateb.  Nododd ei fod yn datrys unrhyw faterion drwy ymgysylltu a staff, mynd allan ar ymweliadau a chydweithio. 

 

·                Mewn ymateb i gwestiwn am gyd-storfa offer ar y cyd gyda’r Bwrdd Iechyd ac

awdurdodau Conwy a Môn, nododd yr ATG fod y storfa offer yn gweithio yn well ers y pandemic Covid, ond bod angen rhoi ychydig o sylw i rai materion ond ar y cyfan nad oedd wedi dod ar draws llawer o broblemau.  Ategodd y Pennaeth Gwasanaeth bod llawer o fanteision i ddod ag arian at ei gilydd ond wrth gwrs nad oedd hynny yn ateb i bopeth.  Nododd hefyd nad yw o reidrwydd yn arwain at well gwasanaeth, ac y dylai dod a’r arian at ei gilydd fod yn gam naturiol sy’n dilyn o gydweithio ar yr elfennau sylfaenol a chyflawni beth sy’n bwysig i unigolion.  Ategodd y Pennaeth Adran bo problemau wedi bod gyda’r gyd-storfa yn y gorffennol, ond erbyn hyn bod y berthynas, drwy waith caled yr ATG wedi arwain at newidiadau.  Nododd y Pennaeth mai un peth sydd wedi newid yw y berthynas waith - mae pawb yn ymddangos yn gliriach yn eu meddyliau ac yn fwy cytûn o ran beth sydd ei angen, ac mae wedi bod yn gyfnod o ddysgu.  Nodwyd ei bod wedi bod yn gyfnod anodd i gyflawni addasiadau, ond bod man welliannau wedi cymryd lle, ond bod y gwaith wedi arafu dros gyfnod Covid.   

 

·                Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â niferoedd o’r Ymarferwyr Gwaith

Cymdeithasol sydd wedi eu cyflogi gan Wynedd cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth bod 15 yn gyflogedig i’r Adran a’i bod yn staff profiadol iawn. Cyfeiriodd yr ATG at yr angen i uwch-sgilio staff Awdurdodau Lleol a’r Bwrdd Iechyd i asesu a darparu man offer a chyfeiriodd at gyrsiau sydd ar gael ar gyfer hyn.  Cadarnhaodd bod gwahaniaeth cyflog rhwng Therapyddion Galwedigaethol cyflogedig i’r Bwrdd Iechyd a Chyngor Gwynedd a bod hyn yn gosod her ychwanegol wrth geisio adeiladu timau effeithiol. 

 

·                Mewn ymateb i’r sylw am y pwyslais cenedlaethol ar wasanaethau arbedol ac adfer sgiliau, nododd ATG bod modd cwrdd â beth sy’n bwysig i unigolion a chynnal eu hannibyniaeth trwy weithio yn fwy rhagweithiol. Cyfeiriodd at achosion penodol lle'r oedd cefnogaeth y therapydd galwedigaethol a darpariaeth offer addas wedi sicrhau ein bod yn cyfarch yr hyn sydd yn bwysig iddynt ynghyd a darparu gwasanaeth cost effeithiol. Y weledigaeth yw datblygu gwasanaeth Therapi Galwedigaethol mwy rhagweithiol a chael mwy o adnoddau i ddatblygu tîm arbenigol symud a thrin. 

 

·       Mewn ymateb i’r cwestiwn am y Grant Addasiadau i’r Anabl, cadarnhaodd yr ATG bod y grant ar gael ar gyfer addasiadau cymhleth, ac y gall unrhyw un wneud cais amdano, ond mai therapyddion galwedigaethol fyddai yn gwneud yr argymhelliad.  Nododd bod llawer o waith i’w wneud yma i gyflymu y broses.  Cyfeiriodd hefyd at yr astudiaeth achos, gan nodi mai asesiad amgylchedd oedd wedi ei wneud yn y lle cyntaf drwy gydweithio.  Mae Covid wedi cyfyngu ar y gallu i gyflawni llawer o waith addasiadau dros y flwyddyn ddiwethaf. 

 

Cadarnhawyd ei bod wedi bod yn gam pwysig iawn dod a’r adroddiad hwn i’r Pwyllgor,  

ac er bod yr adroddiad yn ddiddorol, ei fod wedi codi llawer o gwestiynau. 

 

Rhoddwyd y cyfle i’r Aelod Portffolio wneud unrhyw sylw.  Nododd bwysigrwydd gwneud y 

peth iawn dros y trigolionei bod yn bwysig peidio â gadael i faterion lithro ac er mai dim ond 

un cronfa o arian sydd ar gaena ddylai hyn effeithio ar allu unrhyw un i wneud rhywbeth.   

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Arweinydd Therapi Galwedigaethol am yr adroddiad, gan awgrymu y byddai cyflwyniad o’r math yn werthfawr i’r holl gynghorwyr.  Crynhowyd prif gasgliadau’r drafodaeth/materion sydd angen sylw fel a ganlyn:- 

·           Mae ambell her yn wynebu y Gwasanaeth ond ei fod hefyd yn gyfnod o gyfleoedd i wella’r gwasanaeth.  Nodwyd pryder nad yw lefel staffio yn cydfynd gyda’r gwaith sydd yn dod i mewn. 

·           Gweledigaeth yr Adran yw sefydlu gwasanaeth symud a thrin byddai yn cefnogi trefniadau rhyddhau o’r ysbyty yn amserol a sicrhau fod yr unigolyn yn derbyn y gefnogaeth a’r offer cywir i’w galluogi i gwrdd â’r hyn sydd yn bwysig iddynt. Mae cais wedi ei wneud am arian o'r gyllideb Byw yn Annibynnol Llywodraeth Cymru i ariannu y gwasanaeth yma. 

·           Y bydd angen cadw llygaid af effaith Covid-19 ar y gwasanaeth ac a oes ganddynt adnoddau digonol i ddelio gyda eu llwyth gwaith. 

 

PENDERFYNWYD  : Derbyniwyd cynnwys yr adroddiad a diolchwyd i’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aled Davies, Mari W Jones a Matthew Hawes a’r tîm am eu gwaith caled iawn. Cytunwyd i gadw golwg ar effaith Covid-19 ar y galw am y gwasanaeth therapi galwedigaethol ac effaith hynny ar y gwasanaeth. 

 

Dogfennau ategol: