Agenda item

Abersoch Diner, Stryd Fawr, Abersoch, LL53 7DY

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

Caniatáu y cais 

 

Cofnod:

Abersoch Diner, Stryd Fawr, Abersoch

 

Ar ran yr eiddo:                     Gavin Hancock  (Ymgeisydd)

                                               

                                               

Eraill a wahoddwyd:             Moira Duell-Parry - Swyddog Iechyd yr Amgylchedd

                                                Cyng Dewi Roberts (Aelod Lleol)

Patricia Meyrick, Einir Wyn, Mary Marsden, Terry Evans, Paul Evans, Donna Jones a Cherry Steele (Ymgynghorai Lleol)

                                               

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau

 

a)            Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am amrywio trwydded eiddo ar gyfer Abersoch Diner, Stryd Fawr, Abersoch. Gwnaed y cais mewn perthynas ag ymestyn oriau agor, gwerthu alcohol ar yr eiddo a darparu cerddoriaeth wedi recordio ar yr eiddo.

 

Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Amlygwyd, bod yr ymgeisydd, yn dilyn derbyn sylwadau ac amodau gan Adran Gwarchod y Cyhoedd a sawl gwrthwynebiad i’r cais, wedi cyfaddawdu i beidio â defnyddio’r ardal allanol ar ôl 6:00yp a bod rhaid i’r drysau a’r ffenestri fod wedi cau wrth chwarae cerddoriaeth ar lefel sŵn cefndirol yn unig.  Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded. Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori gan nodi nad oedd gan yr Heddlu na’r Gwasanaeth Tân wrthwynebiadau.

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

b)         Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno.

 

Ategodd y sylwadau canlynol:

 

·         Ei fod wedi cytuno i gyfaddawd yn dilyn trafodaethau

·         Ei fod wedi cytuno i beidio defnyddio’r ardal allanol ar ôl 6:00yh

·         Ei fod yn ymwybodol y bydd yr amodau yn cael eu cynnwys ar y drwydded petai yn cael ei chaniatáu

·         Ei fod angen yr addasiadau er mwyn cystadlu gyda busnesau tebyg ar Stryd Fawr Abersoch

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan yr is-bwyllgor, nododd bod y wal derfyn rhyw 10 - 15m o’r eiddo cyfagos ac nad oedd wedi derbyn cwynion am sbwriel a sŵn yn y gorffennol.

 

ch)       Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar eu gwrthwynebiadau i ganiatáu trwydded gan ategu at sylwadau a gyflwynwyd trwy lythyr.

Swyddog Iechyd yr Amgylchedd,

·         Bod yr ymgeisydd, yn dilyn trafodaethau, wedi cytuno i beidio â defnyddio’r ardal allanol ar ôl 6:00yp a bod rhaid i’r drysau a’r ffenestri fod wedi cau wrth chwarae cerddoriaeth ar lefel sŵn cefndirol yn unig.

·         Bod y tŷ bwyta eisoes yn darparu bwyd ond byddai ychwanegiad i’r ardd gefn yn rhyddhau mwy o le

·         Bod argymhelliad i wrthod cais cynllunio tebyg i eiddo tu cefn i’r adeilad ar sail system awyru annigonol a thramwyo wedi amlygu pryderon i’r cais yma

·         Bod y ty bwyty yn agos i dai cyfagos - bod yr eiddo i’r cefn o’r tŷ bwyta yn uwch na’r ardd ac felly bydd sŵn yn cario. Er bod modd rheoli sŵn cerddoriaeth ni ellir rheoli lleisiau. Bydd rhaid i’r ymgeisydd reoli hyn yn effeithiol

·         Bod y lon tu cefn i’r tŷ bwyta yn gul iawn

·         Ei bod wedi asesu y cais fel tŷ bwyta - yn darparu pryd o fwyd/ lluniaeth ysgafn i deuluoedd ac nid fel tafarn

·         Na fydd bwyd yn cael ei ddarparu ar ôl 11pm - bar yn unig ar ôl hyn

·         Eu bod yn gefnogol i’r busnes ac felly yn gosod amodau fel bod modd rheoli’r amser a defnydd yr ardal tu allan - yn gyfle i’r ymgeisydd ddangos ei allu i reoli sŵn

·         Bod y safle wedi ei ddynodi fel ‘ardal busnes’

 

 

Y Cynghorydd Dewi Roberts (Aelod Lleol)

·         Bod llawer o sŵn ar y Stryd Fawr ar y penwythnosau

·         Bod defnydd o’r ardd gefn yn ymestyn i ganol ardal ddomestig fyddai yn cael effaith ddifrifol ar breifatrwydd y cymdogion - bod defnydd o’r ardd yn anaddas

·         Bod trafferthion yn codi wrth i bobl newid cymeriad wrth yfed

·         Bod tai bwyta a thafarndai digonol yn y pentref

·         Cwynion yn debygol o gael eu cyflwyno iddo ef a’r Heddlu lleol

 

Patricia Meyrick

·         Bod yr eiddo wedi cael ei sefydlu ar gyfer gwerthu hufen ia

·         Nad yw’r adeilad yn addas ar gyfer tŷ tafarn

·         Ni fydd yn caniatáu defnydd o’r lon i’r cefn o’r adeilad ar gyfer ceir na busnes - bydd yn cloi'r giât os bydd raid

 

Terry Evans

·         Y cais am drwydded hyd at 00:30 - hyn yn gynnydd sylweddol mewn oriau agor

·         Byw cefn wrth gefn ac yn amlygu pryder am sŵn o ddefnydd yr ardd

 

Mary Marsden

·         Bod y lon i’r cefn yn mesur 9 troedfedd

·         Bydd sŵn yn cario dros y waliau a mwg os bydd rhai yn ysmygu

·         A oes angen trwydded hyd at hanner nos? A oes modd caniatáu hyn ar gyfer digwyddiadau penodol yn unig? Gallai’r tŷ bwyta gau am 10:30pm

·         Bod ei phryderon wedi eu lliniaru ychydig o wybod bod rhaid i’r ardal allanol gau am 6:00yh

·         Sut bydd defnydd o’r ardd yn cael ei rheoli? Angen gweld trefniadau cadarn o reolaeth safle

·         Pryder o gynnydd mewn sŵn o fewn ardal breswyl

 

Cherry Steele

·         Dim byd i ychwanegu i’r pryderon sydd eisoes wedi eu hamlygu

 

Donna Jones

·         Bydd sŵn yn cario i fyny at eiddo ei rhieni

·         Bod ei rhieni mewn oed ymddeol ac eisiau ymlacio heb gael eu heffeithio gan sŵn

·         Bod gormod o fynd a dod ar hyd y lon i’r cefn o’r adeilad

 

Paul Evans

·         Bod busnes wedi bodoli ar y safle erioed ond dim defnydd i’r iard / ardd gefn

·         Yn erbyn y cynnig o gael byrddau yn yr ardd gefn

·         Bydd sŵn yn cario

·         Rheini yn mynd yn hŷn - pryder am yr effaith y bydd hyn yn cael ar eu preifatrwydd a’u hymddeoliad

 

Einir Wyn - Clerc Cyngor Cymuned Llanengan

·         Ategu at y sylwadau sydd eisoes wedi cael eu hamlygu

·         Gormod o dafarndai eisoes yn y pentref

·         Diffyg rheolaeth

·         Bod yr ardal i’r cefn yn fach iawn

·         Bod dim rheswm i’w gael ynghanol tai

·         Y busnes wedi rhedeg fel caffi ar hyd y blynyddoedd

·         Nid yw yn ddigon o adeilad i fod yn dafarn

 

d)            Wrth grynhoi ei achos ac ymateb i’r sylwadau nododd yr ymgeisydd y byddai mynediad i’r ardd ac i’r iard gefn yn cau am 6:00pm drwy gloi'r fynedfa. Ategodd nad oes mynediad i’r ardd a’r iard o’r lon gul ac felly gellid ond mynd i mewn ac allan drwy’r drws ffrynt sydd ar y Stryd Fawr. Bydd y lon yn cael ei defnyddio ar gyfer casglu sbwriel yn unig. Amlygodd bod busnesau tebyg yn yr ardal fydd o bosib yn creu sŵn. Mewn ymateb i orchwylio’r ardal gefn, cadarnhaodd y byddai’r drws yn cael ei gloi.

 

dd)       Mewn ymateb i’r sylwadau nododd y Rheolwr Trwyddedu'r sylwadau canlynol:

·         Ei bod yn derbyn pryderon y trigolion lleol a’r cyngor cymuned

·         Bod y lleoliad yn gyfyng iawn ac wedi ei leoli o fewn ardal sensitif

·         Bod gan yr is-bwyllgor yr hawl i osod amod i sicrhau’r hyn sydd wedi ei addo gan yr ymgeisydd a bod modd geirio'r amodau hynny i gynnwys y pryderon fel bod rheolaeth yn bosib

Ymneilltuodd yr ymgeisydd, yr ymgynghorai, y Rheolwr Trwyddedu a Swyddog yr Amgylchedd o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais

ff)        Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu, yn ogystal â sylwadau llafar a dderbyniwyd yn y gwrandawiad. Ystyriwyd hefyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

                       i.       Atal trosedd ac anhrefn

                      ii.       Atal niwsans cyhoeddus

                     iii.       Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                     iv.       Gwarchod plant rhag niwed

PENDERFYNWYD caniatáu y cais a gwyro’r drwydded fel a ganlyn:

·         Oriau agor: Sul-Sad 08:00-00:30

·         Cyflenwi alcohol ar yr eiddo: Sul-Sad 11:00-00:00

·         Cerddoriaeth wedi recordio tu mewn: Sul-Sad 11:00-00:00

·         Dim newid i amodau gorfodol

·         Gwyrir yr amodau Atodlen Weithredol i gynnwys y canlynol: yn rhan (d), ychwanegir y geiriau canlynol “Er mwyn lleihau sŵn, ni fydd yr eiddo yn defnyddio yr ardal allannol ar ôl 18:00, bydd yr eiddo yn cadw drysau a ffenestri ynghau pan chwaraeir cerddoriaeth, a bydd lefel y sŵn yn gefndirol yn unig.”

Diolchwyd i’r holl bartïon â diddordeb am gyflwyno sylwadau ar y cais. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r sylwadau hyn, wrth nodi eu bod wedi eu gwneud mewn ymateb i’r cais gwreiddiol i wyro.

 

Derbyniwyd sylwadau gan drigolion lleol yn datgan pryder y byddai trosedd ac anrhefn yn debygol o godi os caniateir y cais. Tra bod yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y pryderon hyn yn rai diffuant, nid oedd tystiolaeth tu hwnt i ddyfalu wedi ei gyflwyno i gefnogi’r pryderon hyn. Yn absenoldeb y dystiolaeth, nid oedd yr Is-bwyllgor o’r farn y byddai caniatáu y cais yn tanseilio'r amcan o atal trosedd ac anhrefn.

 

Tra bod yr Is-bwyllgor yn derbyn bod yr eiddo yn agos i’r ffordd fawr, a bod gofod parcio o bosib yn gyfyngedig, nid oedd o’r farn bod y ffactorau hyn yn golygu o reidrwydd bod bygythiad i ddiogelwch cyhoeddus. Ystyriwyd bod y caffi eisoes yn bodoli ar y safle gyda  nifer eraill o fusnesau cyfagos. Ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth ddibynadwy bod  problemau diogelwch cyhoeddus ar hyn o bryd ynghlwm â’r eiddo. Nid oedd yr Is-bwyllgor o’r farn y byddai caniatáu y cais yn tanseilio diogelwch cyhoeddus.

 

Derbyniwyd bod posibilrwydd y gallai sŵn fyddai yn tarfu o’r eiddo arwain at niwsans cyhoeddus. Ystyriwyd rhain yn bryderon diffuant gan nad oedd unrhyw dystiolaeth wrthrychol o ran nifer y digwyddiadau tebygol, eu hamledd, y lefel sŵn disgwyliedig na’r nifer a chanran o bobl y byddai’n effeithio yn y dalgylch wedi ei’u cyflwyno. O ganlyniad nid oedd tystiolaeth ddigonol i’r Is-bwyllgor fod yn fodlon y byddai caniatau’r cais yn debygol o arwain at sŵn fyddai mor broblemus nes cyrraedd y rhiniog cyfreithiol o “niwsans cyhoeddus”. Ystyriwyd bod diwygiadau i’r cais yn golygu bod y risg o unrhyw sŵn o’r eiddo yn tarfu ar yr ardal gyfagos yn isel a’r diwygiadau yn ymateb i’r pryderon sŵn mewn modd rhesymol a chymesurol. O dan yr amgylchiadau, roedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod y cais diwygiedig yn gydnaws â’r amcan o atal niwsans cyhoeddus.

 

Wrth dderbyn a deall yr awgrym bod gormod o eiddo trwyddedig yn y pentref, nid yw barn unigolion am niferoedd eiddo trwyddedig mewn ardal arbennig neu beidio yn ystyriaeth berthnasol i’r Is-bwyllgor wrth ystyried cais o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003. O ganlyniad diystyriwyd y sylwadau hyn wrth drafod y cais.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais i amrywio’r drwydded fel y’i diwygiwyd yn gydnaws â’r amcanion trwyddedu.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn  derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

Dogfennau ategol: