Agenda item

I roi diweddariad i’r pwyllgor ar gynllun Arfor.

Awdur: Annwen Davies.

Penderfyniad:

-       Derbyn yr adroddiad.

-       Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Chabinet Cyngor Gwynedd i fynegi cefnogaeth a dymuniadau’r pwyllgor i weld parhad y cynllun Arfor wedi Mawrth 2021.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac fel cam pellach ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Chabinet Cyngor Gwynedd i fynegi cefnogaeth a dymuniadau’r pwyllgor i weld parhad  cynllun Arfor wedi Mawrth 2021. 

 

Cyflwynodd y Rheolwr Rhaglen Datblygu Gwynedd Wledig ei hadroddiad yn diweddaru’r pwyllgor ar raglen Arfor. Eglurodd bod y rhaglen, a oedd â’r nod o hybu pobl i gychwyn a thyfu eu busnesau yn lleol, yn dod i ben eleni. O ganlyniad, awgrymodd ei bod yn  amserol tynnu sylw’r aelodau at y llwyddiannau a heriau a wynebwyd. Amlygodd y prif bwyntiau canlynol ystod ei chyflwyniad:- 

 

·           Nododd bod y rhaglen yn dod i ben fis Mawrth 2021 ac o ganlyniad y byddent yn treulio’r cyfnod nesaf yn sicrhau gwariant. 

·           Tynnodd sylw at bedwar prosiect llwyddiannus ddaeth yn sgil y rhaglen a’r cyllid. Yn gyntaf trafododd ‘Ffiws’, sef gofod gwneud ar y stryd fawr ym Mhorthmadog syn cynnig defnydd i fusnesau lleol o beiriannu megis argraffydd 3D. 

·           Cyfeiriodd at un achos o lwyddiant lle daeth busnes i ddefnyddio’r offer gan symud ymlaen i brynu offer o’r math eu hunain er mwyn datblygu eu busnes ymhellach. 

·           Soniodd am y prosiect ‘Llwyddo’n Lleol’ a ddigwyddodd ar y cyd rhwng Gwynedd a Môn a oedd yn galw am syniadau busnes pobl ifanc lleol. Bwriad y prosiect oedd hyrwyddo’r syniad i bobl ifanc leol aros yng Ngwynedd gan ddangos iddynt y posibiliadau busnes sydd ar gael. 

·           Eglurodd bod diddordeb mawr wedi bod, gyda 10 unigolyn ifanc yn manteisio ar y cyfle. Wedi derbyn cymorth y prosiect, nododd bod oddeutu 80% wedi symud ymlaen i ddatblygu busnes. 

·           Rhoddodd drosolwg o ‘Her Cymunedau Mentrus’ sef her oedd yn ymateb i’r economi leol wrth greu swyddi. Ymhelaethodd ar rai o’r prosiectau fu’n elwa megis gofod gweithio yn Henblas a Menter y Plu. 

·           Pwysleisiodd Rheolwr Rhaglen Datblygu Gwynedd Wledig mai nifer isel o fusnesau oedd wedi dewis gohirio eu cynlluniau oherwydd y cyfnod argyfwng Covid-19. Dengys hyn bod y busnesau wedi manteisio ar y cyfle i ddatblygu eu busnesau er gwaethaf y cyfnod clo. 

·           Ar derfyn y rhaglen, mynegodd nad oedd yn sicr beth oedd y cam nesaf er mwyn sicrhau cyfleoedd i fwy o fusnesau ddatblygu yn lleol.  

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y canlynol:- 

 

·           Diolchwyd i’r Rheolwr Rhaglen Datblygu Gwynedd Wledig am yr adroddiad a nododd aelod ei brwdfrydedd dros Arfor 

·           Mynegwyd siom nad oes parhad i’r rhaglen a chynigwyd bod angen pwyso ar y Llywodraeth yn wleidyddol i gefnogi parhad y rhaglen. 

·           Cytunwyd â’r cynnig a nodwyd y dylai’r pwyllgor hysbysu’r Cabinet o hyn.  

 

Mewn ymateb i rai o’r sylwadau a’r cwestiynau, nododd y Rheolwr Rhaglen Datblygu Gwynedd Wledig y pwyntiau isod:- 

 

·           Nodwyd y bydd modd datgan nifer y swyddi sydd wedi eu creu wedi i’r gwaith monitro gael ei gwblhau. Dywedodd mai’r flaenoriaeth gyntaf yw gweithio gyda’r busnesau i sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio. 

·           Iaith yr hyfforddiant yw Cymraeg oni bai am y lleiafrif lle mae angen arbenigwyr o fewn meysydd penodol i hyfforddi. 

·           Atgoffwyd yr aelodau mai yn y tymor hir fydd buddiannau a chanlyniadau’r rhaglen yn cael eu hamlygu wrth i’r busnesau a dderbyniodd gymorth ehangu a datblygu. 

·           Dywedwyd bod cyfle i amlinellu beth fydd o fudd ar gyfer y cam nesaf yn y cynllun strategol – ai rhaglen o’r un fath ynteu ymyraethau newydd.  

·           Bwriedir rhannu’r adroddiad interim gyda’r pwyllgor ar ôl ei chwblhau. 

 

Dogfennau ategol: