Agenda item

I gyflwyno Adroddiad Adolygu Blynyddol Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) i’r pwyllgor.

Awdur: Debbie Anne Williams Jones.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. 

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Addysg ragymadrodd i’r adroddiad gan dynnu sylw at y cyfnod heriol a wynebodd yr ysgolion dros y cyfnodau clo. Mewn perthynas â’r Gymraeg mewn ysgolion, nododd bod heriau i ddod wrth i blant fethu  ar fod yn rhan o awyrgylch Gymreig o’r ysgol a’r dosbarth. 

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol Addysg drosolwg o’r adroddiablynyddol ar weithrediad yr adran. Ategodd mai ffocws yr adroddiad y tro hwn oedd ar weithdrefnau ac nid ar ddata.  

 

Eglurodd bod cynnwys yr adroddiad yn cwmpasu’r dulliau a ddefnyddiwyd er mwyn ymdopi a’r newidiadau i addysg. Nododd bod y canolfannau iaith wedi wynebu heriau o barhau i  gynnig profiad Cymreig i’r plant, fodd bynnag bachwyd ar y cyfle i arloesi drwy ddefnyddio sesiynau dysgu byw. Nododd yn ychwanegol bod y dulliau yma'n sicrhau bod y Gymraeg yn cyrraedd cartrefi’r dysgwyr er mwyn cynnal eu sgiliau iaith. Yn ogystal â chefnogi dysgwyr, nododd bod gan y Cynllun Strategaeth Gymraeg Mewn Addysg flaenoriaeth arall, sef i gefnogi gweithlu hyderus yn y Gymraeg. 

 

Ategodd y Pennaeth Addysg bod sicrhau defnydd y Gymraeg yn un o brif heriau ysgolion wrth ddychwelyd gan nodi elfen o bryder bod hyn yn dirywio.  

 

Parhaodd i drafod adolygiad thematig Estyn gan bwysleisio bod gweithdrefnau Gwynedd wedi eu cydnabod fel enghraifft o arfer dda. Cyfeiriodd yn uniongyrchol at ddulliau arloesol y canolfannau iaith o ddarparu addysg dros y cyfnod clo a bod hyn yn cael ei adnabod fel cryfder yn genedlaethol. 

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:- 

 

·  Llongyfarchwyd yr adran ar y dulliau arloesol a ddefnyddir sy’n cael eu cydnabod fel arfer da, a phwysleisiwyd bod mwy o bwysau nag erioed ar yr iaith Gymraeg wrth i addysgu o bell barhau. 

·  Gofynnwyd a fydd camau i asesu’r niwed sydd wedi bod ar ddefnydd yr iaith Gymraeg ag i ddiwallu’r anghenion ychwanegol fydd angen wrth ddychwelyd i’r ysgol. 

·  Mynegwyd bod yr awdurdod yn amlwg wedi cymryd camau gwerthfawr i amddiffyn y Gymraeg mewn sefyllfa anodd. 

·  Atgoffwyd yr aelodau o’u rolau pwysig fel llywodraethwyr ysgol a’u dylanwad hwy ar ymdrechion i gynnal y Gymraeg o fewn y dosbarth a thu hwnt. 

 

 

Mewn ymateb i rai o’r sylwadau a’r cwestiynau uchod, nododd y Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol Addysg :- 

 

·  Ei fod yn galonogol i glywed aelodau etholedig yn gwerthfawrogi a nodi’r gwaith amddiffyn iaith sydd yn digwydd mewn ysgolion a chanolfannau iaith yng Ngwynedd. 

·  Bwriedir sefydlu gwaelodlin i asesu’r sefyllfa iaith wedi i’r holl ddysgwyr ddychwelyd i’r dosbarth. 

·  Ategodd y Pennaeth Addysg y gofynnwyd i’r Adran Addysg arwain ar ddarn o waith ymchwil trawsadrannol gyda phartneriaid megis GwE, Mudiad Meithrin, y Gwasanaeth Iechyd a chanolfannau Addysg Bellach. Ategodd mai bwriad y gwaith fydd adnabod meysydd lle bo gagendor lles wedi ymddangos yn sgil Covid-19. 

·  Nododd mai un o’r camau nesaf fydd creu cynllun gweithredu i adnabod cerrig milltir pendant o beth i’w wneud i gryfhau’r sefyllfa. 

·  Ategodd y bydd deilliant y gwaith ymchwil yn cael ei rannu gyda’r pwyllgor yma. 

·  Eglurodd bod nifer o ddulliau ar waith gan ysgolion er mwyn lleihau niwed i’r iaith Gymraeg. Rhoddodd enghreifftiau, gan gynnwys sicrhau bod y dechnoleg gan y dysgwyr i fanteisio ar ffrydiau gwersi byw a chynnwys arweiniad dwyieithog i rieni. 

 

Dogfennau ategol: