Codi 7 annedd breswyl ar
gyfer yr henoed ynghyd a llecynnau parcio a man troi
AELOD LLEOL: Cynghorydd Rheinallt Puw
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol
Adran Amgylchedd i ganiatáu’r cais
yn ddarostyngedig i'r amodau isod:-
1.
5 mlynedd.
2.
Yn unol â’r cynlluniau.
3.
Llechi naturiol i’r toeau.
4.
Cytuno gydag
edrychiadau allanol y tai gan gynnwys
y paneli solar.
5.
Tynnu hawliau datblygiadau
a ganiateir o’r anheddau preswyl.
6.
Amodau Priffyrdd yn ymwneud a darparu llecynnau parcio, ffordd y stad a
llwybrau troed cysylltiedig.
7.
Cyflwyno rhaglen o waith
archeolegol i’w gytuno gyda’r ACLL cyn i unrhyw
waith ddechrau ar y safle.
8.
Rhaid cyflwyno adroddiad
manwl ar y gwaith archeolegol, yn unol ag
amod 7 i'w gytuno yn ysgrifenedig
gan yr Awdurdod
Cynllunio Lleol o fewn 6 mis o gwblhau’r
gwaith archeolegol.
9.
Amodau’r Uned Bioamrywiaeth
yn ymwneud a dim llystyfiant, coed na llwyni
i’w clirio yn ystod y tymor
nythu (1 Mawrth i 31 Awst); cyn
i unrhyw waith ddechrau dylid cyflwyno cynllun i’w gymeradwyo
gan yr ACLL i sicrhau na
fydd ymlusgiaid yn cael eu
niweidio yn ystod y gwaith adeiladu a bydd rhaid i’r cynllun
hwn gael ei weithredu i
lwyr foddhad yr ACLL; cyn i
unrhyw waith ddechrau dylid cyflwyno Cynllun gwelliannau a Lliniaru Bioamrywiaeth i’w gytuno gyda’r ACLL a cyn i unrhyw
waith ddechrau ar y safle rhaid
cyflwyno Cynllun Difa Planhigion Ymledol Di-Cynhenid i’w gytuno gyda’r
ACLL.
10.
Amod cydymffurfio gyda
mesurau lliniaru o fewn y ddogfen Adroddiad Gwerthuso Ecolegol Rhagarweiniol.
11.
Amod cydymffurfio ac argymhellion
a mesurau lliniaru sydd wedi eu
cynnwys yn yr Adroddiad Coed.
12.
Amod Uned Gwarchod
y Cyhoedd parthed ymgymryd ag archwiliad
halogiad safle.
13.
Amodau Llywodraeth Cymru
parthed lleiniau gwelededd, draenio ac ail-wynebu’r pafin ger y safle.
14.
Sicrhau/cytuno
gyda chynllun tai fforddiadwy
15.
bod yr
unedau yn fforddiadwy ar gyfer trigolion 55+ mewn oed
Nodiadau
COFNODION:
Codi 7 annedd breswyl ar
gyfer yr henoed ynghyd a llecynnau parcio a man troi
a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais
llawn ydoedd gyda sawl elfen i’r cais:-
·
Darparu 5 byngalo 2 lofft ynghyd a 2 fflat 1
llofft rhent cymdeithasol fforddiadwy ar gyfer yr henoed.
·
Darparu llecynnau parcio a mynediad newydd oddi ar y gefnffordd i
wasanaethu'r byngalos ar lain rhif 3 a 4.
·
Bydd gweddill yr anheddau yn cael eu gwasanaethu oddi ar y fynedfa a'r
rhodfa bresennol sy'n gwasanaethu Stad Llain y Pebyll.
·
Darparu llecynnau/gerddi amwynder preifat o fewn y safle.
·
Darparu isadeiledd gan gynnwys storfeydd biniau/ailgylchu ar gyfer pob
annedd.
Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli tu allan
ond yn gyfochrog gyda ffin datblygu Bethesda fel y'i cynhwysir yn y Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017(CDLL). Er bod datblygiadau ar
gyfer unedau fforddiadwy ac unedau marchnad agored wedi eu caniatáu’n
ddiweddar ym Methesda nid yw'r angen lleol am dai newydd yn benodol i'r henoed
wedi ei gwrdd.
Eglurwyd bod y cais wedi bod yn destun trafodaethau rhwng Tai Gogledd
Cymru ( y datblygwr) ac Uned Strategol Tai’r Cyngor. O
ganlyniad penderfynwyd ei gynnwys ar y rhestr cynlluniau wrth gefn yn y Cynllun
Rhaglen Trosglwyddo i dderbyn arian grant yn
ddarostyngedig ar dderbyn caniatâd cynllunio a phenodi contractwr. O ystyried fod y
bwriad yn ymateb i angen cydnabyddedig ac yn darparu cymysgedd briodol o
unedau, ystyriwyd fod y bwriad yn gyfle i ddatblygu cynllun o ansawdd gan
ddiwallu anghenion cydnabyddedig ac felly, yn unol â gofynion Polisi.
Ar sail asesiad mwynderau gweledol ystyriwyd bod y bwriad i ddatblygu
stad fechan o dai newydd yn dderbyniol ac y byddai
gosodiad, graddfa, dyluniad a deunyddiau'r tai yn dderbyniol o ystyried yr hyn
sydd o'i amgylch. Ni ystyriwyd unrhyw bryderon yng nghyd -destun mwynderau
cyffredinol a phreswyl, bioamrywiaeth na materion
archeolegol.
Ategwyd bod y bwriad yn cynnwys ymestyn y ffordd stad fabwysiedig
bresennol i mewn i Stad Llain y Pebyll er mwyn gwasanaethu'r byngalos
arfaethedig ar leiniau rhif 5, 6 a 7 yn unig gyda mannau parcio cysylltiedig.
Nodwyd y byddai’r byngalo a'r tŷ deulawr ar leiniau 1, 2, 3 a 4 yn cael eu gwasanaethu yn uniongyrchol oddi ar y
gefnffordd gyfagos. Nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth na’r Uned Cefnffyrdd
unrhyw wrthwynebiad i'r cais ar sail creu mynediad o ffordd stad bresennol
Llain y Pebyll nag o’r gefnffordd gyfagos.
Yn dilyn derbyn sylwadau cychwynnol yr Uned Iaith cyflwynwyd Datganiad
Iaith Gymraeg gyda’r cais ac yn seiliedig ar gynnwys y Datganiad roedd yr Uned
yn cytuno gyda chynnwys y ddogfen sy’n cadarnhau mai effaith gadarnhaol caiff y
datblygiad ar yr Iaith Gymraeg ym Methesda.
Ar sail yr asesiad a gwblhawyd ni ystyriwyd fod
y bwriad yn groes i bolisïau lleol na chenedlaethol ac nad oedd unrhyw fater
cynllunio perthnasol yn gorbwyso'r ystyriaethau polisi. I'r perwyl hwn
ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau
priodol.
b)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais
c)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Croesawu datblygiad ar gyfer pobl hŷn - byddai datblygiadau tebyg
yn cael eu croesawu ar draws y Sir
·
Bod y datblygiad yn cadw pobl yn eu cynefin ac yn agos i’w teuluoedd
·
Bod y bwriad yn gorffwys yn daclus gyda’r stad gyfochrog
ch)
Mewn ymateb am gadarnhad bod y bwriad yn fforddiadwy, nodwyd bod y safle
wedi ei ddynodi fel ‘eithrio gwledig’ ac mai tai fforddiadwy yn unig fyddai’n
cael ystyriaeth. Bydd y tai yn cael eu darparu drwy
Landlord Cymdeithasol gydag amodau yn cyfyngu defnydd fforddiadwy
Mewn
ymateb i gwestiwn am gefndir i sylwadau’r Cyngor Cymuned ynglŷn â
phryderon mynediad o’r gefnffordd A5, amlygwyd mai Uned Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru sydd
wedi cyflwyno sylwadau ar y cais ac nid
Uned Trafnidiaeth y Cyngor. Ategwyd bod yr Uned Cefnffyrdd wedi rhoi sicrwydd
i’r Cyngor Cymuned eu
bod yn fodlon bod y datblygiad yn
dderbyniol ac na fyddai effeithiau annerbyniol ar y gefnffordd.
Mewn
ymateb i sylwadau bod y fynedfa o gefnffordd yr A5 yn beryglus a’r awgrym o gael un fynedfa i’r datblygiad drwy ystâd Llain y Pebyll,
amlygwyd bod gwahaniaeth lefel sylweddol rhwng blaen y datblygiad a chefn y
datblygiad ac felly cynnwys dwy fynedfa oedd yr opsiwn orau.
Mewn
ymateb i sylw bod
y cynlluniau yn amlygu bod y ffordd drwy’r ystad yn debygol o gael ei hymestyn
ac felly yn gwneud i rywun amau datblygiad pellach, cyfochrog i’r dyfodol,
nodwyd mai llinellau yn amlygu draeniau oedd ar y cynlluniau ac nid ffordd.
Nodwyd bod y draeniau yn mynd drwy’r ystâd gyda lled bwrpasol i sicrhau
gwarchodaeth.
PENDERFYNWYD:
Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn
ddarostyngedig i'r amodau isod:-
1. 5 mlynedd.
2. Yn unol â’r cynlluniau.
3. Llechi naturiol i’r toeau.
4. Cytuno gydag edrychiadau allanol y tai gan gynnwys y paneli solar.
5. Tynnu hawliau datblygiadau a ganiateir
o’r anheddau preswyl.
6. Amodau Priffyrdd yn ymwneud a darparu
llecynnau parcio, ffordd y stad a llwybrau troed
cysylltiedig.
7. Cyflwyno rhaglen o waith archeolegol
i’w gytuno gyda’r ACLL cyn i unrhyw waith ddechrau ar y safle.
8. Rhaid cyflwyno adroddiad manwl ar y
gwaith archeolegol, yn unol ag amod 7 i'w gytuno yn
ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol o fewn 6 mis o gwblhau’r gwaith
archeolegol.
9. Amodau’r Uned Bioamrywiaeth yn
ymwneud a dim llystyfiant, coed na
llwyni i’w clirio yn ystod y tymor nythu (1 Mawrth i 31 Awst); cyn i unrhyw
waith ddechrau dylid cyflwyno cynllun i’w gymeradwyo gan yr ACLL i sicrhau na
fydd ymlusgiaid yn cael eu niweidio yn ystod y gwaith adeiladu a bydd rhaid i’r
cynllun hwn gael ei weithredu i lwyr foddhad yr ACLL; cyn i unrhyw waith
ddechrau dylid cyflwyno Cynllun gwelliannau a Lliniaru Bioamrywiaeth i’w gytuno
gyda’r ACLL a cyn i unrhyw waith ddechrau ar y safle rhaid cyflwyno Cynllun
Difa Planhigion Ymledol Di-Cynhenid i’w gytuno gyda’r ACLL.
10. Amod cydymffurfio gyda mesurau lliniaru o
fewn y ddogfen Adroddiad Gwerthuso Ecolegol Rhagarweiniol.
11. Amod cydymffurfio ac argymhellion a
mesurau lliniaru sydd wedi eu cynnwys yn yr
Adroddiad Coed.
12. Amod Uned Gwarchod y Cyhoedd parthed
ymgymryd ag archwiliad halogiad safle.
13. Amodau Llywodraeth Cymru parthed lleiniau
gwelededd, draenio ac ail-wynebu’r pafin ger y safle.
14. Sicrhau/cytuno gyda chynllun tai fforddiadwy
15. bod yr unedau yn
fforddiadwy ar gyfer trigolion 55+ mewn oed
Nodiadau
1. NODYN: Cyfarwyddir yr ymgeisydd i
arwyddo Cytundeb o dan Adran 38, Deddf Priffyrdd, 1980 gyda'r Cyngor os yw'n
bwriadu i'r estyniad i ffordd Llain y Pebyll gael ei fabwysiadu.
2. NODYN:
Tynnir sylw'r ymgeisydd i lythyr Dwr Cymru ddyddiedig 11.02.20 a'r angen
i sicrhau bod y datblygiad yn cydymffurfio â'r cyngor a gynhwysir ynddo.
3. NODYN: Tynnir sylw'r ymgeisydd i lythyr Wales and West Utilities dyddiedig 14.02.20 a'r angen
i sicrhau bod y datblygiad yn cydymffurfio â'r cyngor a gynhwysir ynddo.
4. NODYN:
Tynnir sylw’r ymgeisydd o’r angen i gyflwyno system ddŵr cynaliadwy i’w
gytuno gydag Uned Dwr ac Amgylchedd y Cyngor
Dogfennau ategol: