Cyflwynwyd gan:Cyng. Cemlyn Williams
Penderfyniad:
Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig i
gynyddu capasiti Ysgol Treferthyr i 150 ac adleoli’r ysgol i safle amgen,
cyfeirir ato fel safle A497 ar 1 Medi 2023 yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf
Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Cemlyn
Williams
PENDERFYNIAD
Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig i
gynyddu capasiti Ysgol Treferthyr
i 150 ac adleoli’r ysgol i safle amgen, cyfeirir ato fel safle A497 ar 1 Medi
2023 yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion
(Cymru) 2013.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi pleser o gyflwyno’r eitem. Nodwyd fod yr adroddiad hwn yn
amlygu yr ymatebion a dderbyniwyd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig i
gynyddu capasiti Ysgol Treferthyr
ac i adleoli’r ysgol i safle amgen. Pwysleisiwyd fod y cynllun hwn yn cyd-fynd
a blaenoriaethau’r adran sydd wedi eu hamlygu yn y Strategaeth Addysg Gwynedd.
Bu i’r Swyddog
Addysg amlygu yr canlyniadau yr ymgynghoriad gan nodi’r prif bwyntiau.
Pwysleisiwyd fod mwyafrif o’r ymatebion yn gefnogol iawn i’r cynnig a’r
buddsoddiad yng Nghricieth. Amlygwyd angen am
ddefnydd cymunedol i’r adeilad a nodwyd y bydd yr adran yn cydweithio gyda’r
gymuned i gynnig y cyfle gorau iddynt.
Mynegwyd fod y
mwyafrif o’r sylwadau yn codi pryderon am y lleoliad. Nodwyd fod yr adran wedi
edrych yn ofalus ar y lleoliad ac wedi gwneud archwiliadau manwl cyn
penderfynu. Pwysleisiwyd fod llawer o’r sylwadau yn nodi pryderon gan ei fod ar
lon brysur a mynegwyd y bydd yr adran yn gweithio i ddod o hyd i liniaru y
traffig. Ymhelaethwyd ar hyn gan nodi y byddant yn gwneud hyn drwy edrych ar
fynediad yr ysgol. Tynnwyd sylw at gilfan sydd
gerllaw yr safle gan nodi fod yr adran Briffyrdd yn awyddus i’w gadw.
Pwysleisiwyd y bydd camau yn cael eu cymryd i sicrhau na fydd y gilfan yn cael ei defnyddio ar gyfer yr ysgol.
Nodwyd pryderon yn
ogystal am y coed sydd ar y safle. Mynegwyd nad oes gan yr adran fwriad i dynnu
unrhyw goed heb fod angen ac fod yr Ysgol yn awyddus i gadw’r coed a’i
defnyddio o fewn gwersi yn yr ysgol.
Pwysleisiwyd fod
ymatebion cadarnhaol gan y disgyblion gan amlygu mwy o le i chwarae ac
ystafelloedd dosbarth mwy. Er hyn, nodwyd fod rhai disgyblion wedi amlygu y
bydd mwy o bellter teithio ganddynt i’r ysgol. Tynnwyd sylw at ymateb Estyn â
oedd yn nodi nad oedd ganddynt unrhyw bryderon ac fod y cynllun yn cyd-fynd a
Strategaeth Addysg y Cyngor.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Croesawyd yr adroddiad gan nodi pwysigrwydd
gweld ymatebion y disgyblion. Holwyd os oedd unrhyw addasiadau wedi eu
hystyried i’r adeilad o ganlyniad i argyfwng Covid-19. Nodwyd fod dyluniad yr
ysgol wedi dilyn canllawiau cenedlaethol ond fod Covid-19 wedi amlygu fod angen
edrych ar y system awyru a mynediad i ystafelloedd dosbarth ac o ganlyniad i
Covid-19 fod addasiadau wedi eu gwneud i sicrhau lleoliadau golchi dwylo ger
pob mynediad.
¾
Mynegwyd fod y sylwadau a dderbyniwyd yn ddiddorol
ac fod teithio wedi ei amlygu fel pryder. Nodwyd angen am sicrhau modd diogel i
blant deithio i’r ysgol a holwyd os y bydd modd cael lon beics yn gallu
cynorthwyo gyda’r ardrawiad traffig. Mynegwyd fod yr adran yn edrych ar bob
ffordd posib i sicrhau diogelwch plant ar y ffordd i’r ysgol ac y byddant yn
cydweithio gyda gymuned i ddod o hyd i ddyluniad a fydd yn effeithiol
Awdur:Gwern ap Rhisiart
Dogfennau ategol: