Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas
Penderfyniad:
¾
Tanwariant o (£478k) yn ymwneud â chostau
cyfalaf yn cael ei drosglwyddo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf.
¾
Tanwariant net o (£1,312k) ar gyllidebau
Corfforaethol yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor i gynorthwyo i wynebu’r
her ariannol sydd yn wynebu’r Cyngor ar ddiwedd 2020/21 yn arbennig felly yn
sgil argyfwng Covid19.
· Fod derbyniadau grant ar gyfer digolledu gwariant ychwanegol a cholledion incwm cysylltiedig â’r argyfwng Covid19 gan y Llywodraeth yn cael ei ddyrannu i’r adrannau perthnasol yn unol â’r hyn a nodir yn Atodiad 1
COFNODION:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan
Thomas
PENDERFYNIAD
¾
Tanwariant
o (£478k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei drosglwyddo i gronfa
ariannu'r rhaglen gyfalaf.
¾
Tanwariant
net o (£1,312k) ar gyllidebau Corfforaethol yn mynd i falansau
cyffredinol y Cyngor i gynorthwyo i wynebu’r her ariannol sydd yn wynebu’r
Cyngor ar ddiwedd 2020/21 yn arbennig felly yn sgil argyfwng Covid19.
Fod derbyniadau grant ar gyfer digolledu
gwariant ychwanegol a cholledion incwm cysylltiedig â’r argyfwng Covid19 gan y
Llywodraeth yn cael ei ddyrannu i’r adrannau perthnasol yn unol â’r hyn a nodir
yn Atodiad 1.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr
adroddiad yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor
ynghyd a’r rhagolygon at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Pwysleisiwyd fod yr
adroddiad yn amlygu fod effaith ariannol Covid19 yn sylweddol i’r Cyngor gan
nodi ei fod yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion incwm a llithriad yn y
rhaglen arbedion gan fod blaenoriaethau eraill dros gyfnod yr argyfwng.
Mynegwyd fod y Cyngor bellach wedi derbyn bron i £6miliwn drwy gronfa caledi
Llywodraeth Cymru ac fod ceisiadau misol gwerth dros £7.1miliwn wedi eu
cyflwyno.
Nodwyd o ran colledion incwm, fod y
ceisiadau am haner cyntaf y flwyddyn ariannol dros £5.1miliwn gyda £4.8 miliwn
eisoes wedi ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru. Esboniwyd fod gwaith ar chwarter 3
newydd ei gwblhau ac wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Amlygwyd y pwysau sydd wedi bod ar adrannau
eleni, gan amlygu fod problemau gwireddu arbedion yn fwy fwy
amlwg eleni ac yn ffactor sydd wedi cyfannu ar y gorwariant yn y meysydd megis
Plant, Oedolion a Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Tynnwyd sylw ar y talfyriad o
sefyllfa yr holl adrannau gyda’r rhagolygon wedi eu datgan gyda a heb y cymorth
grant Covid-19 gan y Llywodraeth.
Tynnwyd sylw ar y trafferthion sylweddol yn
rhai adrannau gan nodi fod yr Adran Oedolion wedi cael ardrawiad sylweddol o
ganlyniad i Covid19 gyda’r adran yn rhagweld gorwariant o £3.3miliwn eleni gyda
methiant i gyflawni arbedion gwerth £1.8miliawn. Yn yr Adran Blant a Chefnogi
Teuluoedd mynegwyd fod methiant i wireddu £688k o arbedion yn cyfrannu ar orwariant
o £2.5miliwn, Ychwanegwyd gan nodi fod yr ystadegau diweddaraf yn cadarnhau
cynnydd pellach yn y galw am wasanaethau, yn arbennig yn y maes lleoliadau ac
Ol-16.
Mynegwyd fod problemau gorwariant yn a maes
Casglu a gwaredu gwastraff yn parhau yn yr Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol
ynghyd a trafferthion gwireddu arbedion mewn nifer o feysydd gwerth £811k.
Pwysleisiwyd fod yr adran yn ogystal yn wynebu cost ychwanegol i gydymffurfio a
rheoliadau Covid19. Ychwanegwyd fod y Llywodraeth wedi digolledu yr adran am y
misoedd cychwynnol ac fod disgwyliad y byddant yn parhau i ddigolledu am
ddiwedd y flwyddyn.
Amlygwyd yn yr Adran Gorfforaethol nodwyd
fod rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb 2021/22 yn gyfrifol am gynnyrch
treth ychwanegol ar Dreth Cyngor yn cyfannu ar danwariant ar Ostyngiadau Teth
Cyngor.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Nodwyd na all
yr adran Blant roi y bai yn gyfan gwbl ar Covid, er
hyn nodwyd fod yr adran yn sefydlog. Mynegwyd fod cynnydd wedi bod mewn
sefydliadau maethu ac fod y lwfansau maethu wedi lleihau o ganlyniad i
arbedion. Mynegwyd fod cynnydd mewn lleoliadau yn broblem rhanbarthol a
Chenedlaethol. Pwysleisiwyd er y toriadau nad yw’r adran wedi troi o gwbl ar eu
gwaith o sicrhau materion diogelu i blant a phobl ifanc y sir.
¾
Nodwyd
o ran yr adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol fod yr adroddiad wedi amlygu prif
heriau’r adran gan amlygu ei bod yn un o’r adrannau sydd wedi derbyn nifer o
doriadau pan ei bod yn cynnig gwasanaeth holl bwysig i bobl Gwynedd. Mynegwyd
fod darn o waith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i edrych ar i wir gost o redeg
yr adran.
¾
O ran
yr adran Amgylchedd, nodwyd fod yr adran wedi cyflawni ei gwaith ac wedi ymateb
yn gadarnhaol i’r gwaith o arwain cynlluniau Covid19.
¾
Amlygwyd
aeddfedrwydd y Cyngor gan nodi fod yr Cyngor yn gallu wynebu gorwariant a’i fod
yn amlygu cadernid ariannol y Cyngor. Pwysleisiwyd fod y Cyngor yn gallu
defnyddio eu balansau i sicrhau gwasanaethau i bobl
Gwynedd.
¾ Nodwyd ei bod yn anodd gwneud penderfyniad positif tra mae’r Cyngor yn parhau i wneud toriadau. Mynegwyd fod y Cynghorwyd a’r Cyngor yno i wasanaethu’r cyhoedd ac nid cyllideb. Pwysleisiwyd angen i gadw gwasanaethau ac i’r Llywodraeth i sicrhau cyllidebau i wneud hyn.
Awdur:Ffion Madog Evans
Dogfennau ategol: