Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid  (ynghlwm).

Penderfyniad:

Ar gyfer 2021/22, bod Cyngor Gwynedd yn:

·         Caniatáu DIM disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

·         Caniatáu DIM disgownt ac yn CODI PREMIWM O 100% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Caniatáu DIM disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor am gadarnhad ffurfiol am 2021/22 i beidio caniatáu disgownt i ail gartrefi a pheidio caniatáu disgownt ar anheddau gwag, ac i godi Premiwm o 100% ar eiddo perthnasol o’r fath.

 

Manylodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol (Refeniw a Risg) ar ganlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnydd i gynyddu’r Premiwm ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor i hyd at 100% ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22, ynghyd â’r gofynion cyfreithiol.  Tynnwyd sylw ganddo hefyd at bwysigrwydd yr Asesiad Ardrawiad Cydraddoldeb, ac atgoffwyd yr aelodau fod rhaid iddynt ei ystyried wrth ddod i benderfyniad.  Rhoddwyd esboniad ac arweiniad ar y canfyddiadau, gan dynnu sylw penodol at honiad y gall y bwriad wahaniaethu yn anuniongyrchol ar grwpiau gyda nodweddion gwarchodedig, a’r angen i’r aelodau gydbwyso hyn wrth ddod eu penderfyniad.

 

Diolchwyd i aelodau o staff y Cyngor, o fwy nag un adran, am sicrhau llwyddiant yr ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Nododd aelod, er y cytunai â barn y Cabinet fod pwysau cynyddol ar y stoc dai lleol a bod gan berchnogion tai gwyliau'r modd i dalu ychydig mwy, pryderai fod y bwriad i gynyddu argaeledd tai fforddiadwy drwy gynyddu’r Premiwm yn golygu bod y Cabinet wedi camddeall y sefyllfa.  Roedd risg y byddai cynyddu’r Premiwm i 100% yn cymell hyd yn oed mwy o berchnogion ail gartrefi i drosglwyddo i’r Dreth Fusnes, a olygai golli’r tai hynny am byth, gan nad oedd yna bwerau i’w cael yn ôl i’r Dreth Ddomestig.  Ni chredai fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon ynglŷn â’r sefyllfa, a chredai y dylai fod yn ofynnol cael caniatâd cynllunio i drosi tai i’r Dreth Fusnes.  Mynegodd ei bryder y byddai’r Cyngor yn colli llawer iawn o incwm yn y pen draw, ac roedd o’r farn ei bod yn gynamserol i gynyddu’r Premiwm i 100%, ac y byddai’n well aros i weld beth fyddai’r sefyllfa yn dilyn Etholiad Senedd Cymru ym mis Mai.  Ar sail hynny, cynigiodd welliant i ymlynu at y drefn bresennol o godi Premiwm o 50% ar gyfer 2021/22, gan addasu ail a thrydedd pwynt bwled yr argymhelliad yn yr adroddiad fel a ganlyn:-

 

“Ar gyfer 2021/22, bod Cyngor Gwynedd yn:

·                Caniatáu DIM disgownt ac yn CODI PREMIWM O 50% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

·                Caniatáu DIM disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 50% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.”

 

Eiliwyd y gwelliant.

 

Yn ystod y drafodaeth ar y gwelliant, cefnogwyd y gwelliant gan aelodau ar y sail:-

 

·         Mai twristiaeth yw un o brif gyflogwyr y sir, a byddai cynnydd pellach yn y Premiwm yn arwain at golli swyddi yn y maes twristiaeth.

·         Bod busnesau’r sir ar eu gliniau yn sgil argyfwng y pandemig, a byddai cynyddu’r Premiwm yn arwain at fwy o galedi i berchnogion busnes, gan cynnwys crefftwyr lleol, siopau, tafarndai, bwytai, caffis, clybiau hwylio a golff ac atyniadau twristiaeth.

·         Ein bod yn cosbi ein pobl ein hunain, o gofio bod rhai ail gartrefi ym mherchnogaeth pobl leol sydd wedi eu hetifeddu, neu wedi mynd i ffwrdd i weithio, ac yn dymuno dychwelyd i Wynedd i ymddeol.

·         Mai’r Cymry sydd wedi gwerthu’r tai i bobl o’r tu allan, ond nad oedd disgwyl i unrhyw un werthu tŷ i berson lleol am bris is na phris y farchnad.

·         Nad yw’r Cymry yn dymuno prynu tai sydd ymhell o’r pentrefi, a bod llawer o bobl ifanc yn awyddus i gael tŷ newydd modern.

·         Bod y rheolau cynllunio yn atal pobl ifanc broffesiynol rhag adeiladu tai yn eu pentrefi eu hunain, ar sail eu maint, ac er bod modd i ffermwr addasu beudy i’w osod, ni chaiff ei roi yn dŷ parhaol i’w fab sy’n gweithio ar y fferm.

·         Bod angen ail edrych ar y sefyllfa a pheidio rhuthro i gynyddu’r Premiwm ar adeg pam rydym yn ceisio dod allan o’r pandemig a chael busnesau yn ôl ar eu traed.

·         Nad dyma’r adeg i gynyddu’r Premiwm, yn enwedig gan fod perchnogion ail-gartrefi ond wedi gallu defnyddio’u tai am 2-3 mis llynedd.

·         Bod yna berygl y gallasai cynyddu’r Premiwm i 100% gael ei ddehongli fel bod y Cyngor yn wrth-dwristiaeth, a byddai goblygiadau hyn yn bellgyrhaeddol gan fod twristiaeth yn dod â chymaint o incwm i Wynedd.

·         Dylid gadael y Premiwm ar y lefel bresennol o 50% am eleni, gan ail-edrych ar y sefyllfa ymhen blwyddyn, yn y gobaith y bydd sefyllfa’r pandemig wedi gwella erbyn hynny.

·         Bod nifer y trosglwyddiadau i’r Dreth Fusnes wedi mwy na dyblu ers cyflwyno Premiwm o 50% yn 2016, a byddai’n siŵr o ddyblu eto os cynyddu’r Premiwm i 100%.

·         Yn hytrach na chynyddu’r Premiwm, byddai’n well codi 1-2% ychwanegol ar y Dreth Gyngor, os yw’r arian yma am gael ei ddefnyddio i hwyluso mynediad pobl ifanc lleol i dai.

·         Byddai’r 4,500 o ymatebwyr oedd yn gwrthwynebu codi’r Premiwm yn ymwybodol bod modd trosglwyddo i’r Dreth Fusnes gan fod y Cyngor yn trafod hynny.

·         Bod y canfyddiad mai dieithriaid cyfoethog sy’n berchen ar ail-gartrefi yn ymfflamychol ac yn gamarweiniol.

·         Na welid sut y byddai cynyddu’r Premiwm yn helpu pobl leol sy’n methu fforddio tai, gan fod cyfartaledd pris yng Nghymru bellach yn £200,000. 

·         Gallai’r Cyngor golli’r arian mae’n bwriadu fuddsoddi yn y Strategaeth Dai wrth i fwy a mwy o berchnogion ail-gartrefi drosglwyddo i’r Dreth Fusnes.

·         Bod pobl bellach wedi derbyn y cynnydd o 50%, a dylid aros gyda hynny.

·         Os yw pobl yn cael trafferth cynnal ail-gartrefi a etifeddwyd ganddynt, dylent ystyried eu gwerthu.

·         Bod agwedd Llywodraeth Cymru tuag at ail-gartrefi yn annerbyniol a’r Ddeddf Llesiant yn gwbl ddi-ystyr.

·         Bod angen dwyn pwysau i wneud rhywbeth ynglŷn â’r nifer uchel o dai gwag yng Ngwynedd.

·         Byddai cynyddu’r Premiwm yn creu risg y bydd perchnogion ail-gartrefi yn gwerthu eu tai, ac yn troi eu cefnau ar Wynedd yn gyfangwbl.

·         Bydd busnesau Gwynedd angen arian yr ymwelwyr pan fydd hi’n ddiogel iddynt ddod yn ôl.

·         Bod pobl yn cwestiynu beth oedd pwrpas cymryd rhan yn yr ymgynghoriad os oedd y Cyngor am ddiystyru’r ymatebion.

 

Gwrthwynebwyd y gwelliant gan aelodau eraill ar y sail:-

 

·         Er y cydnabyddir y byddai cynyddu’r Premiwm i 100% yn golygu y byddai mwy o berchnogion yn trosglwyddo i’r Dreth Fusnes, rhaid blaenoriaethu pobl sy’n methu cael tŷ dros bobl sydd â mwy nag un tŷ.

·         Y byddai codi’r Premiwm yn creu incwm i’r Cyngor helpu pobl ifanc a phobl ar incwm isel brynu cartrefi yn eu cymunedau eu hunain, a byddai hefyd yn arf i fynd i’r afael ag anghyfartaledd cymdeithasol o fewn Gwynedd.

·         Y dylai’r disgresiwn i gynghorau godi Premiwm fod yn gyfrwng i’w cynorthwyo i adfer y defnydd o gartrefi gwag hirdymor, er mwyn darparu cartrefi diogel a fforddiadwy, a hefyd gynorthwyo cynghorau i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cynaladwyedd cymunedau lleol.

·         Bod y £22.9m o Bremiwm Treth Cyngor y disgwylir ei gasglu dros gyfnod y cynllun yn cyfrannu at nifer o brosiectau i gefnogi pobl yng Ngwynedd fel rhan o’r Cynllun Gweithredu Tai arloesol, a bod potensial yma i ddenu mwy o arian er mwyn gwneud mwy i gartrefu trigolion y sir a dechrau dod i’r afael â’r argyfwng tai.

·         Nad ymgais oedd yma i gosbi perchnogion ail-gartrefi, ond darparu gweledigaeth a chyflawni sefyllfa deg i bob un o drigolion Gwynedd.  Felly byddai cael mwy o arian drwy’r dull yma yn gwneud mwy i gartrefu pobl Gwynedd a chynorthwyo’r Cyngor i leihau anghyfiawnder yn y sir.

·         Bod dyletswydd ar y Cyngor dan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol, cymunedau ffyniannus a chynaliadwy, ac i sicrhau cartrefi diogel a fforddiadwy i’r trigolion ar draws Gwynedd.  Gobeithid y byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried eu cyfrifoldebau hwythau dan y Ddeddf yng nghyd-destun yr argyfwng ail-gartrefi, ac yn sicrhau cartrefi i bobl yn eu cymunedau.

·         Bod adroddiad Dr Simon Brooks, a gomisiynwyd gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, yn gwneud 12 argymhelliad i Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng ail-gartrefi.  Un o’r argymhellion hynny oedd y dylai cynghorau sy’n canfod bod ail-gartrefi yn broblem gymdeithasol ddifrifol ddefnyddio eu grymoedd trethiannol yn llawn, gan godi Premiwm y Dreth Gyngor ar ail-gartrefi 100%.

·         Er y cydnabyddid bod yna risg o ran y ‘loophole’, byddai’n fwy synhwyrol codi’r Premiwm, ac ar yr un pryd, gofyn i’r Llywodraeth fabwysiadu polisïau cyfochrog i geisio darbwyllo perchnogion i beidio trosglwyddo eiddo o’r Dreth Ddomestig i’r Dreth Fusnes.

·         Mai un datrysiad yn unig oedd cynyddu’r Premiwm i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cynaladwyedd cymunedau lleol, a bod angen edrych hefyd ar eithrio lletyau tymor byr rhag bod yn gymwys ar gyfer y rhyddhad trethi busnes bach, a hefyd newid y Ddeddf Gynllunio fel ei bod yn orfodol cael hawl cynllunio i drosi annedd yn haf, neu’n uned wyliau.

·         O safbwynt polisi cyhoeddus, byddai’n fwy anodd newid deddfwriaeth gynllunio pe na byddem yn defnyddio’r grymoedd trethiannol sy’n bodoli ar hyn o bryd. 

·         Bod rhai gwrthwynebwyr yn dweud bod eu ail-gartref wedi bod yn y teulu ers cenedlaethau, a’u bod wedi arfer dod i Wynedd ar eu gwyliau.  Er bod hynny’n drist, roedd y sefyllfa yn y wardiau unigol yn llawer mwy trist, gyda 3-4 cenhedlaeth yn byw mewn tai hollol anaddas, oherwydd bod cyfran helaeth o’r stoc tai yn cael ei ddefnyddio gan bobl sydd â dau gartref.

·         Y dylid pwyso ar y Llywodraeth i bennu uchafswm yr anheddau all fod yn ail-gartrefi mewn unrhyw gymuned.

·         Nad oedd tai ar gael i bobl leol yn y pentrefi bellach gan fod pobl o’r tu allan yn eu prynu fel tai gwyliau.

·         Bydd yr argyfwng tai wedi gwaethygu yn sgil y cynnydd diweddar mewn gweithio o gartref.

·         Bod perchnogion tai gwyliau yn dueddol o wario yn yr archfarchnadoedd mawr cyn cyrraedd Gwynedd, yn hytrach na’u bod yn gwario’n lleol.

·         Mai’r elfen bwysicaf oedd yr un oedd yn rhoi cyfle tecach i brynwyr tai tro cyntaf gystadlu yn y farchnad dai leol, sef y bobl hynny fyddai’n cyfrannu i’r economi 12 mis y flwyddyn.  Dyma hefyd y bobl fyddai’n sicrhau parhad i’r strwythur cymunedol fu mor werthfawr i ni gynnal ein gilydd yn ystod y pandemig.

·         Bod trwch perchnogion ail-gartrefi yn dymuno ymweld â chymunedau cytbwys ac iach, gyda siop, tafarn, caffi, ayb, ac felly’n fodlon cyfrannu er mwyn sicrhau bod pobl yn parhau i fyw yn eu cymunedau.

·         Bod pobl leol, sydd wedi etifeddu ail-gartref, yn ei chael yn anodd talu morgais, ayb, ar eu tŷ cyntaf, tra ar yr un pryd yn adnewyddu’r ail dŷ.

·         Bod dros 2000 ar y rhestr aros am dŷ cymdeithasol yng Ngwynedd a’r cyfartaledd amser aros dros 400 diwrnod.  Roedd 59% o drigolion y sir wedi’u prisio allan o’r farchnad dai, a thros 10% o’r stoc tai yn ail-gartrefi bellach.

·         Mai Gwynedd oedd y sir gyda’r nifer uchaf o ail-gartrefi a’r nifer uchaf o dai gwyliau, felly os nad ydym ni am wneud dim, pwy fydd yn mynd i’r afael â’r broblem yma?

·         Bod rhai aelodau wedi awgrymu aros tan y flwyddyn nesaf cyn ystyried cynyddu’r Premiwm, ond nid oedd amser o blaid y bobl ifanc sy’n methu cael tŷ. 

·         Bod llawer gormod o bobl Gwynedd yn cael eu prisio allan o’r farchnad leol o fedru prynu cartrefi yn eu cynefinoedd eu hunain.  Roedd rhaid ceisio unioni’r cam aruthrol yma, ac roedd y sefyllfa’n gwaethygu.  Roedd angen gweithredu ar fyrder, a chredid bod yr argymhelliad i gynyddu’r Premiwm i 100% yn un pwysig, ac yn ymateb i’r argyfwng stoc tai lleol.

·         Bod pawb yn cytuno bod tai gwag yn broblem aruthrol yn ein cymunedau ac na ellid creu na chynnal cymunedau bywiog hyfyw gyda thai gwag.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau unigol, eglurwyd:-

 

·         Y cofnodwyd y risg o eiddo yn trosglwyddo o’r Dreth Gyngor i’r Dreth Fusnes yn yng Nghofrestr Risg yr Adran Gyllid gyda sgôr o 10, gyda’r tebygolrwydd uchaf.  O ganlyniad, roedd camau ymateb yn ymddangos yng Nghynllun y Cyngor, a bwriedid parhau i roi pwysau ar y Llywodraeth i roi sylw i hyn.

·         Bod mwyafrif y tai sy’n trosglwyddo yn aros yn fusnesau, a phrin oedd yr achosion oedd yn dod yn ôl i’r Dreth Ddomestig.  Roedd y Gwasanaeth Trethi yn monitro sefyllfa’r eiddo yma, a phe credid nad oeddent yn fusnesau, gellid adrodd arnynt i’r Swyddfa Brisio.  O dan y drefn bresennol, roedd yn rhaid i’r Prisiwr gael ei berswadio nad oedd yr eiddo ar gael i’w osod am 140 diwrnod y flwyddyn, nac wedi’i osod am 70 diwrnod y flwyddyn.

·         Y bu’r Cyngor yn pwyso ar y Llywodraeth i newid y ddeddfwriaeth fel bod eiddo domestig yn aros yn y Dreth Gyngor, waeth beth oedd ei ddefnydd.  Pe byddai’r Llywodraeth yn newid y ddeddfwriaeth yma, byddai hynny’n weithredol o’r dyddiad y deuai’r ddeddfwriaeth i rym, a byddai unrhyw un sydd wedi trosglwyddo i’r Dreth Fusnes yn flaenorol o’r dyddiad yna ymlaen yn dod yn ôl i’r Dreth Gyngor.

·         Bod y Cynllun Tai Gwag, sy’n cael ei ariannu drwy’r Premiwm, yn darparu cymorth i ddod â thai yn ôl i ddefnydd.  Roedd y cynllun yn rhedeg ers 2-3 blynedd, ac roedd wedi bod yn boblogaidd ac yn llwyddiannus, gyda’r buddsoddiad o dros £2m yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf wedi dod ag 115 o dai gwag yn ôl i ddefnydd.  Roedd £4m ychwanegol wedi’i ddynodi yn y Cynllun Gweithredu Tai dros y 5 mlynedd nesaf er mwyn dod â 250 o dai gwag ychwanegol yn ôl i ddefnydd.

·         Y byddai cynyddu’r Premiwm i 100% yn sicr o ddod ag arian ychwanegol i mewn i’r coffrau.  Amcangyfrifid y byddai’r swm tua £3m, ond na ellid rhoi ateb pendant gan fod y symudiad o’r Dreth Ddomestig i’r Dreth Fusnes yn lleihau’r ffigur.  Roedd y Cyngor yn cael eu digolledu drwy grant ychwanegol yn y flwyddyn ddilynol am Dreth Gyngorsylfaenol” a gollir trwy’r trosglwyddiad, ond yn colli yn y flwyddyn gyfredol, yn ogystal ag unrhyw ôl-ddyddio gan y Prisiwr.

 

Galwyd am bleidlais gofrestredig ar y gwelliant.

 

Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y gwelliant:-

 

O blaid (17) Y Cynghorwyr:- Stephen Churchman, John Brynmor Hughes, Louise Hughes, R.Medwyn Hughes, Anne Lloyd Jones, Elwyn Jones, Eric Merfyn Jones, Keith Jones, Sion Wyn Jones, Eryl Jones-Williams, Beth Lawton, Dilwyn Lloyd, Dewi Owen, W.Roy Owen, Jason Parry, Mike Stevens a Hefin Underwood.

 

Yn erbyn (40) – Y Cynghorwyr:- Craig ab Iago, Steve Collings, R.Glyn Daniels, Anwen Davies, Elwyn Edwards, Alan Jones Evans, Aled Evans, Dylan Fernley, Peter Antony Garlick, Simon Glyn, Gareth Wyn Griffith, Selwyn Griffiths, Alwyn Gruffydd, Annwen Hughes, Judith Humphreys, Nia Jeffreys, Aeron M.Jones, Berwyn Parry Jones, Elin Walker Jones, Gareth Tudor Morris Jones, Huw Wyn Jones, Kevin Morris Jones, Cai Larsen, Dafydd Meurig, Dilwyn Morgan, Dafydd Owen, Edgar Owen, Rheinallt Puw, Peter Read, John Pughe Roberts, Mair Rowlands, Paul Rowlinson, Gareth Thomas, Ioan Thomas, Catrin Wager, Cemlyn Williams, Eirwyn Williams, Elfed Williams, Gareth Williams a Gruffydd Williams.

 

Atal (0)

 

Nododd y Cadeirydd fod y gwelliant wedi colli.

 

Pleidleisiwyd ar y cynnig gwreiddiol, ac fe gariodd.

 

PENDERFYNWYD ar gyfer 2021/22, bod Cyngor Gwynedd yn:

·                Caniatáu DIM disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

·                Caniatáu DIM disgownt ac yn CODI PREMIWM O 100% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

·                Caniatáu DIM disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Dogfennau ategol: