Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid
(ynghlwm).
Penderfyniad:
1.
Cymeradwyo’r argymhellion a gyflwynwyd gan y Cabinet, sef:-
(a) Sefydlu cyllideb o £275,669,610 ar gyfer
2021/22 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £194,793,140 a £80,876,470 o incwm
o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 3.7%.
(b) Sefydlu rhaglen gyfalaf o £47,085,960 yn
2021/22 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.
2. Nodi fod yr Aelod
Cabinet dros Gyllid, drwy daflen benderfyniad dyddiedig 18 Tachwedd 2020, wedi
cymeradwyo cyfrifiad y symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2021/22 yn unol â’r
rheoliadau a luniwyd dan Adran 33 (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y
Ddeddf”):-
(a) 51,885.56 yw’r swm a
gyfrifwyd fel Sylfaen drethiannol Gwynedd yn unol â’r Rheoliadau Awdurdodau
Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i diwygiwyd fel ei
sylfaen Dreth Cyngor am y flwyddyn.
(b) Rhan o ardal y Cyngor –
Sylfaen drethiannol Cymuned –
Aberdaron |
542.74
|
|
Llanddeiniolen |
1,832.32 |
Aberdyfi |
980.22 |
Llandderfel |
496.58 |
|
Abergwyngregyn |
117.00 |
Llanegryn |
157.54 |
|
Abermaw
(Barmouth) |
1,148.25 |
Llanelltyd |
288.90 |
|
Arthog |
617.37 |
Llanengan |
2,105.34 |
|
Y Bala |
771.50 |
Llanfair |
311.58 |
|
Bangor |
3,844.96 |
Llanfihangel y
Pennant |
223.75 |
|
Beddgelert |
296.64 |
Llanfrothen |
224.08 |
|
Betws Garmon |
130.44 |
Llangelynnin |
407.39 |
|
Bethesda |
1,696.45 |
Llangywer |
137.01 |
|
Bontnewydd |
433.07 |
Llanllechid |
336.00 |
|
Botwnnog |
448.54 |
Llanllyfni |
1,407.84 |
|
Brithdir a Llanfachreth |
426.50 |
Llannor |
905.46 |
|
Bryncrug |
325.38 |
Llanrug |
1,127.82 |
|
Buan |
224.84 |
Llanuwchllyn |
304.53 |
|
Caernarfon |
3,596.36 |
Llanwnda |
789.27 |
|
Clynnog Fawr |
446.26 |
Llanycil |
198.76 |
|
Corris |
296.99 |
Llanystumdwy |
864.34 |
|
Criccieth |
931.77 |
Maentwrog |
283.93 |
|
Dolbenmaen |
603.77 |
Mawddwy |
346.60 |
|
Dolgellau |
1,233.10 |
Nefyn |
1,458.93 |
|
Dyffryn Ardudwy |
831.65 |
Pennal |
215.54 |
|
Y Felinheli |
1,136.66 |
Penrhyndeudraeth |
779.36 |
|
Ffestiniog |
1,713.50 |
Pentir |
1,260.20 |
|
Y Ganllwyd |
86.79 |
Pistyll |
259.32 |
|
Harlech |
769.40 |
Porthmadog |
2,016.47 |
|
Llanaelhaearn |
449.24 |
Pwllheli |
1,729.10 |
|
Llanbedr |
336.30 |
Talsarnau |
325.03 |
|
Llanbedrog |
720.36 |
Trawsfynydd |
499.20 |
|
Llanberis |
768.82 |
Tudweiliog |
457.21 |
|
Llandwrog |
1,027.80 |
Tywyn |
1,624.58 |
|
Llandygai |
1,000.88 |
|
Waunfawr |
558.03 |
sef y symiau a gyfrifwyd fel symiau Sylfaen y Dreth
Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle
bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.
3. Bod y symiau a ganlyn
yn cael eu cyfrifo yn awr gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2021/22 yn unol ag
Adrannau 32 i 36 o’r Ddeddf:-
|
|
|
|
|
(a)
|
£409,390,260 |
Sef cyfanswm y symiau
y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran
32(2)(a) i (e) o’r Ddeddf (gwariant gros). |
||
(b)
|
£131,672,530 |
Sef cyfanswm y symiau y
mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran
32(3)(a) i (c) o’r Ddeddf (incwm). |
||
(c)
|
£277,717,730 |
Sef y swm sy’n cyfateb
i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm 3(a) uchod a chyfanswm 3(b) uchod, a gyfrifwyd
gan y Cyngor, yn unol ag Adran 32(4) o’r Ddeddf, fel ei ofynion cyllideb ar
gyfer y flwyddyn (cyllideb net). |
||
(ch) |
£194,297,483 |
Sef cyfanswm y symiau
y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i’w gronfa
ar gyfer cyfan o’r Dreth Annomestig Genedlaethol a Grant Cynnal Refeniw, llai
amcangyfrif o’r gost i’r Cyngor o ryddhad dewisol o’r dreth annomestig a
ganiateir. |
||
(d)
|
£1,532.26 |
Sef y swm yn
3(c) uchod llai’r swm yn 3(ch) uchod, y cyfan wedi ei rannu gan y swm a nodir
yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 33(1) o’r Ddeddf,
sef swm sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn (treth Cyngor Gwynedd a
threth gyfartalog cynghorau cymuned). |
||
(dd) |
£2,543,780 |
Sef cyfanswm yr holl eitemau
arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1) o’r Ddeddf (praeseptau’r cynghorau
cymuned). |
||
(e)
|
£1,483.23 |
Sef y swm yn 3(d)
uchod llai’r canlyniad a geir wrth rannu’r swm yn 3(dd) uchod â’r swm yn 2(a)
uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 34(2) fel swm sylfaenol ei
Dreth Cyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal
lle nad oes unrhyw eitem arbennig yn berthnasol (Band D ar gyfer treth Cyngor
Gwynedd yn unig). |
||
(f) Ar gyfer rhannau o ardal
y Cyngor –
Aberdaron |
1,510.87 |
|
Llanddeiniolen |
1,500.59 |
Aberdyfi |
1,521.33 |
Llandderfel |
1,501.35 |
|
Abergwyngregyn |
1,508.87 |
Llanegryn |
1,518.14 |
|
Abermaw (Barmouth) |
1,535.48 |
Llanelltyd |
1,509.19 |
|
Arthog |
1,504.29 |
Llanengan |
1,509.35 |
|
Y Bala |
1,518.23 |
Llanfair |
1,534.58 |
|
Bangor |
1,584.18 |
Llanfihangel y Pennant |
1,534.74 |
|
Beddgelert |
1,518.63 |
Llanfrothen |
1,524.73 |
|
Betws Garmon |
1,503.16 |
Llangelynnin |
1,507.29 |
|
Bethesda |
1,557.61 |
Llangywer |
1,514.25 |
|
Bontnewydd |
1,525.95 |
Llanllechid |
1,529.21 |
|
Botwnnog |
1,497.72 |
Llanllyfni |
1,518.75 |
|
Brithdir a Llanfachreth |
1,511.37 |
Llannor |
1,503.29 |
|
Bryncrug |
1,522.75 |
Llanrug |
1,536.43 |
|
Buan |
1,499.91 |
Llanuwchllyn |
1,529.20 |
|
Caernarfon |
1,538.42 |
Llanwnda |
1,519.77 |
|
Clynnog Fawr |
1,523.57 |
Llanycil |
1,503.35 |
|
Corris |
1,514.65 |
Llanystumdwy |
1,504.06 |
|
Criccieth |
1,528.31 |
Maentwrog |
1,504.54 |
|
Dolbenmaen |
1,513.04 |
Mawddwy |
1,510.64 |
|
Dolgellau |
1,540.00 |
Nefyn |
1,536.18 |
|
Dyffryn Ardudwy |
1,543.35 |
Pennal |
1,512.74 |
|
Y Felinheli |
1,518.42 |
Penrhyndeudraeth |
1,536.48 |
|
Ffestiniog |
1,617.46 |
Pentir |
1,526.87 |
|
Y Ganllwyd |
1,517.80 |
Pistyll |
1,529.50 |
|
Harlech |
1,574.21 |
Porthmadog |
1,514.27 |
|
Llanaelhaearn |
1,538.88 |
Pwllheli |
1,530.08 |
|
Llanbedr |
1,527.83 |
Talsarnau |
1,550.92 |
|
Llanbedrog |
1,514.46 |
Trawsfynydd |
1,523.29 |
|
Llanberis |
1,524.85 |
Tudweiliog |
1,500.73 |
|
Llandwrog |
1,547.44 |
Tywyn |
1,538.83 |
|
Llandygai |
1,509.57 |
|
Waunfawr |
1,504.73 |
sef y symiau a geir trwy ychwanegu symiau’r eitem neu eitemau arbennig
sy’n berthnasol i dai annedd yn y rhannau hynny o ardal y Cyngor y cyfeiriwyd
atynt uchod, at y swm a geir yn 3(e) uchod wedi’u rhannu ym mhob achos gan y
swm yn 2(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 34(3) o’r Ddeddf,
fel symiau sylfaenol ei Dreth Gyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y
rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.
(ff) Ar gyfer rhannau o ardal
y Cyngor, y ffigyrau a nodir yn Atodiad 1 (gweler
Atodiad 1 i Atodiad 11 i Eitem 11 ar raglen y Cyngor), sef y symiau a geir
trwy luosi’r symiau yn 3(f) uchod â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau a nodir yn
Adran 5 (1) o’r Ddeddf, yn berthnasol i dai annedd a restrir mewn band prisio
arbennig wedi’i rannu â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau hynny’n berthnasol i dai
a restrir ym mand prisio D, a gyfrifir gan y Cyngor, yn unol ag Adran 36(1) o’r
Ddeddf, yn symiau sydd i’w hystyried ar gyfer y flwyddyn ar gyfer y categorïau
o dai annedd a restrir yn y gwahanol fandiau prisio.
4. Nodi ar gyfer y flwyddyn
2021/22 fod Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi nodi’r symiau a ganlyn
mewn praesept a roddwyd i’r Cyngor, yn unol ag Adran 40 o’r Ddeddf ar gyfer pob
un o’r categorïau o dai annedd a ddangosir isod:
|
Band A |
Band B |
Band C |
Band D |
Band E |
Band F |
Band G |
Band H |
Band I |
|
203.70 |
237.65 |
271.60 |
305.55 |
373.45 |
441.35 |
509.25 |
611.10 |
712.95 |
5. Wedi pennu’r cyfanswm ym
mhob achos o’r symiau 3(ff) a 4 uchod, bod y Cyngor, yn unol ag Adran 30(2) o’r
Ddeddf trwy hyn, yn pennu’r symiau a nodir yn Atodiad 2 (gweler Atodiad 2 i Atodiad 11 i Eitem 11 ar raglen y Cyngor) ar
gyfer y Dreth Gyngor yn y flwyddyn 2021/22 ar gyfer pob categori o dai annedd a
ddangosir yn yr Atodiad.
Cofnod:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid:-
·
Adroddiad yn argymell
cyllideb i’r Cyngor ei chymeradwyo ar gyfer 2021/22;
·
Penderfyniad drafft y
Dreth Cyngor yn seiliedig ar argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor (ar sail cynnydd
o 3.7%) ynghyd â thablau yn dangos lefel y Dreth Cyngor a’r cynnydd fesul
cymuned.
Gan i’r Cyngor benderfynu
codi Premiwm o 100% ar ail gartrefi a chartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis
neu fwy (dan eitem 8 uchod), gofynnodd y Pennaeth Cyllid i’r Cyngor
gymeradwyo’r fersiwn Premiwm 100% o’r argymhelliad, fel y nodwyd yn yr
adroddiad.
Atgoffwyd yr aelodau
o rai o’r prif risgiau yn Atodiad 10 i’r adroddiad, a chadarnhaodd y Pennaeth
Cyllid, wedi ystyried yr holl risgiau a’r camau lliniaru, ei fod o’r farn bod
Cyllideb y Cyngor am 2021/22 yn gadarn, yn ddigonol, ac yn gyraeddadwy.
Yn ystod y drafodaeth, cefnogwyd y cynnig gan aelodau ar y sail:-
·
Y byddai cynyddu’r Dreth Gyngor 3.7% yn
galluogi i’r Cyngor osgoi’r risg o fethu ymateb i ofynion y Ddeddf Anghenion
Dysgu Ychwanegol newydd ar y sail na chafwyd adnoddau gan Lywodraeth Cymru i
gwrdd â’r cynnydd mewn angen am ddarpariaeth statudol.
·
Pe na fyddai’r Cyngor
yn cynyddu’r Dreth Gyngor 3.7%, byddai’n rhaid torri ar y gwasanaethau i’r bobl
sydd fwyaf o angen cymorth. Roedd gwaith
aruthrol wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf i gefnogi busnesau yn sgil
Cofid a Brexit, ac ni ddymunid gweld torri ar y Gwasanaeth Cefnogi Busnes.
·
Er na ddymunid codi’r
dreth, byddai canlyniadau peidio gwneud hynny yn waeth, ac yn bendant ni
ddymunid gweld mwy o dorri ar wasanaethau.
·
Bod cymorth ar gael
gan y Cyngor i rai sy’n cael anhawster talu’r Dreth Gyngor.
·
Na fyddai’n ddarbodus
codi llai ar y dreth, yn y gobaith y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu arian
ychwanegol dros y misoedd nesaf.
·
Y byddai cynnydd is
na 3.7% yn y Dreth Gyngor yn golygu y byddai’r Gwasanaeth Plant a Chefnogi
Teuluoedd mewn peryg’ o roi plant mewn risg.
·
Mai 3.7% yw’r cynnydd
lleiaf y gellir ei osod i gadw’r gwasanaethau i fynd, heb sôn am eu datblygu.
Gwrthwynebwyd y cynnig gan aelodau eraill ar y sail:-
·
Mai’r bobl hynny sydd
ar gyflogau isel, ond fymryn uwchlaw’r lefel hawlio budd-daliadau sy’n dioddef
fwyaf, a bod angen cynllun i helpu’r bobl hynny.
·
Y byddai’n anodd iawn
cynyddu’r Dreth Gyngor eleni, o ystyried bod busnesau wedi methu bod yn agored,
pobl wedi colli eu gwaith a gweithwyr ar ffyrlo wedi colli 20% o’u hincwm.
·
Os yw cynghorau am
gael mwy o arian gan y Llywodraeth dros y misoedd i ddod, dylid ystyried
cynnydd llai yn y Dreth.
·
Bod y cynnydd o 3.7%
yn frawychus o uchel, a rhwng y pandemig a’r llifogydd a phopeth, y disgwylid y
byddai wedi bod yn agosach at 2.7% eleni.
·
Y gallai’r Cyngor fod
wedi arbed degau o filoedd petai wedi atal staff rhag mynd â cherbydau’r Cyngor
adref, a bod angen edrych ble mae’r gwastraff a’i stopio.
Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau unigol, eglurwyd:-
·
Ei bod yn gynamserol
i ddweud beth fyddai effaith Cyllideb y Canghellor ar Wynedd. Roedd y swyddogion yn dadansoddi’r ffigurau
ar hyn o bryd, ond roedd yn fwy anodd asesu’r ardrawiad gan fod yr arian yn dod
i’r awdurdodau lleol trwy law Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, gellid bod yn eithaf ffyddiog y
byddai’r Cyngor yn derbyn arian i gynorthwyo gydag ymhygliadau’r argyfwng
Cofid.
·
Bod rhai cynghorau yng Nghymru wedi penderfynu gosod
llai o gynnydd ar eu Treth Cyngor yn sgil derbyn grantiau un
tro. I raddau, credid bod y cynghorau
hynny yn cymryd rhywfaint o risg, ac am wneud toriadau neu arbedion
effeithlonrwydd y flwyddyn nesaf er mwyn gallu parhau i gadw’r dreth ar fwy neu
lai'r un lefel.
Roedd Gwynedd wedi bod yn gyson yn codi’r Dreth fymryn islaw cyfartaledd
Cymru yn flynyddol, ac yn ddibynnol ar ganlyniadau’r cytundeb cyflogau staff,
ayb, roedd yn bosib’, erbyn yr adeg yma’r flwyddyn nesaf, y byddai’r Cyngor
mewn gwell sefyllfa i gael llai o gynnydd yn y Dreth
Gyngor na’r cynghorau eraill hynny.
·
Bod y Cyngor mewn
trafodaethau gyda’r banciau ynglŷn â’r posibilrwydd o gyfraddau llog
negyddol. Roedd yn debygol bod y Cyngor
yn cael amddiffyniad o’r cytundebau cyfredol, ond pan ddeuai’r amser i
ail-negodi cytundebau, roedd yn debygol y byddai yna fwy o gost.
PENDERFYNWYD
1. Cymeradwyo’r argymhellion a gyflwynwyd gan y Cabinet, sef:-
(a) Sefydlu cyllideb o £275,669,610 ar gyfer 2021/22 i’w ariannu
drwy Grant Llywodraeth o £194,793,140 a £80,876,470 o incwm o’r Dreth Cyngor
gyda chynnydd o 3.7%.
(b) Sefydlu rhaglen gyfalaf o £47,085,960 yn 2021/22 i’w ariannu o’r
ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.
2. Nodi
fod yr Aelod Cabinet dros Gyllid, drwy daflen benderfyniad dyddiedig 18
Tachwedd 2020, wedi cymeradwyo cyfrifiad y symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn
2021/22 yn unol â’r rheoliadau a luniwyd dan Adran 33 (5) o Ddeddf Cyllid
Llywodraeth Leol 1992 (“Y Ddeddf”):-
(a) 51,885.56 yw’r swm a gyfrifwyd fel Sylfaen drethiannol
Gwynedd yn unol â’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth
Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i diwygiwyd fel ei sylfaen Dreth Cyngor am y
flwyddyn.
(b) Rhan o ardal y Cyngor – Sylfaen drethiannol Cymuned
–
Aberdaron |
542.74 |
|
Llanddeiniolen |
1,832.32 |
Aberdyfi |
980.22 |
Llandderfel |
496.58 |
|
Abergwyngregyn |
117.00 |
Llanegryn |
157.54 |
|
Abermaw
(Barmouth) |
1,148.25 |
Llanelltyd |
288.90 |
|
Arthog |
617.37 |
Llanengan |
2,105.34 |
|
Y Bala |
771.50 |
Llanfair |
311.58 |
|
Bangor |
3,844.96 |
Llanfihangel y
Pennant |
223.75 |
|
Beddgelert |
296.64 |
Llanfrothen |
224.08 |
|
Betws Garmon |
130.44 |
Llangelynnin |
407.39 |
|
Bethesda |
1,696.45 |
Llangywer |
137.01 |
|
Bontnewydd |
433.07 |
Llanllechid |
336.00 |
|
Botwnnog |
448.54 |
Llanllyfni |
1,407.84 |
|
Brithdir a
Llanfachreth |
426.50 |
Llannor |
905.46 |
|
Bryncrug |
325.38 |
Llanrug |
1,127.82 |
|
Buan |
224.84 |
Llanuwchllyn |
304.53 |
|
Caernarfon |
3,596.36 |
Llanwnda |
789.27 |
|
Clynnog Fawr |
446.26 |
Llanycil |
198.76 |
|
Corris |
296.99 |
Llanystumdwy |
864.34 |
|
Criccieth |
931.77 |
Maentwrog |
283.93 |
|
Dolbenmaen |
603.77 |
Mawddwy |
346.60 |
|
Dolgellau |
1,233.10 |
Nefyn |
1,458.93 |
|
Dyffryn Ardudwy |
831.65 |
Pennal |
215.54 |
|
Y Felinheli |
1,136.66 |
Penrhyndeudraeth |
779.36 |
|
Ffestiniog |
1,713.50 |
Pentir |
1,260.20 |
|
Y Ganllwyd |
86.79 |
Pistyll |
259.32 |
|
Harlech |
769.40 |
Porthmadog |
2,016.47 |
|
Llanaelhaearn |
449.24 |
Pwllheli |
1,729.10 |
|
Llanbedr |
336.30 |
Talsarnau |
325.03 |
|
Llanbedrog |
720.36 |
Trawsfynydd |
499.20 |
|
Llanberis |
768.82 |
Tudweiliog |
457.21 |
|
Llandwrog |
1,027.80 |
Tywyn |
1,624.58 |
|
Llandygai |
1,000.88 |
|
Waunfawr |
558.03 |
sef y symiau a gyfrifwyd fel symiau Sylfaen y Dreth
Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle
bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.
3.
Bod y symiau a ganlyn yn cael eu cyfrifo yn awr gan y Cyngor ar gyfer y
flwyddyn 2021/22 yn unol ag Adrannau 32 i 36 o’r
Ddeddf:-
|
|
|
|
|
(a)
|
£409,390,260 |
Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu
hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(2)(a)
i (e) o’r Ddeddf (gwariant gros). |
||
(b)
|
£131,672,530 |
Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu
hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(3)(a)
i (c) o’r Ddeddf (incwm). |
||
(c)
|
£277,717,730 |
Sef y swm sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng
cyfanswm 3(a) uchod a chyfanswm 3(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol
ag Adran 32(4) o’r Ddeddf, fel ei ofynion cyllideb ar gyfer y flwyddyn
(cyllideb net). |
||
(ch) |
£194,297,483 |
Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn
amcangyfrif y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i’w gronfa ar gyfer
cyfan o’r Dreth Annomestig Genedlaethol a Grant Cynnal Refeniw, llai
amcangyfrif o’r gost i’r Cyngor o ryddhad dewisol o’r dreth annomestig a
ganiateir. |
||
(d)
|
£1,532.26 |
Sef y swm yn
3(c) uchod llai’r swm yn 3(ch) uchod, y cyfan wedi ei rannu gan y swm a nodir
yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 33(1) o’r Ddeddf,
sef swm sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn (treth Cyngor Gwynedd a
threth gyfartalog cynghorau cymuned). |
||
(dd) |
£2,543,780 |
Sef cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir
atynt yn Adran 34(1) o’r Ddeddf (praeseptau’r cynghorau cymuned). |
||
(e)
|
£1,483.23 |
Sef y swm yn 3(d) uchod llai’r canlyniad a
geir wrth rannu’r swm yn 3(dd) uchod â’r swm yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y
Cyngor, yn unol ag Adran 34(2) fel swm sylfaenol ei Dreth Cyngor am y
flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle nad oes unrhyw
eitem arbennig yn berthnasol (Band D ar gyfer treth Cyngor Gwynedd yn unig). |
||
(f) Ar
gyfer rhannau o ardal y Cyngor –
Aberdaron |
1,510.87 |
|
Llanddeiniolen |
1,500.59 |
Aberdyfi |
1,521.33 |
Llandderfel |
1,501.35 |
|
Abergwyngregyn |
1,508.87 |
Llanegryn |
1,518.14 |
|
Abermaw
(Barmouth) |
1,535.48 |
Llanelltyd |
1,509.19 |
|
Arthog |
1,504.29 |
Llanengan |
1,509.35 |
|
Y Bala |
1,518.23 |
Llanfair |
1,534.58 |
|
Bangor |
1,584.18 |
Llanfihangel y
Pennant |
1,534.74 |
|
Beddgelert |
1,518.63 |
Llanfrothen |
1,524.73 |
|
Betws Garmon |
1,503.16 |
Llangelynnin |
1,507.29 |
|
Bethesda |
1,557.61 |
Llangywer |
1,514.25 |
|
Bontnewydd |
1,525.95 |
Llanllechid |
1,529.21 |
|
Botwnnog |
1,497.72 |
Llanllyfni |
1,518.75 |
|
Brithdir a
Llanfachreth |
1,511.37 |
Llannor |
1,503.29 |
|
Bryncrug |
1,522.75 |
Llanrug |
1,536.43 |
|
Buan |
1,499.91 |
Llanuwchllyn |
1,529.20 |
|
Caernarfon |
1,538.42 |
Llanwnda |
1,519.77 |
|
Clynnog Fawr |
1,523.57 |
Llanycil |
1,503.35 |
|
Corris |
1,514.65 |
Llanystumdwy |
1,504.06 |
|
Criccieth |
1,528.31 |
Maentwrog |
1,504.54 |
|
Dolbenmaen |
1,513.04 |
Mawddwy |
1,510.64 |
|
Dolgellau |
1,540.00 |
Nefyn |
1,536.18 |
|
Dyffryn Ardudwy |
1,543.35 |
Pennal |
1,512.74 |
|
Y Felinheli |
1,518.42 |
Penrhyndeudraeth |
1,536.48 |
|
Ffestiniog |
1,617.46 |
Pentir |
1,526.87 |
|
Y Ganllwyd |
1,517.80 |
Pistyll |
1,529.50 |
|
Harlech |
1,574.21 |
Porthmadog |
1,514.27 |
|
Llanaelhaearn |
1,538.88 |
Pwllheli |
1,530.08 |
|
Llanbedr |
1,527.83 |
Talsarnau |
1,550.92 |
|
Llanbedrog |
1,514.46 |
Trawsfynydd |
1,523.29 |
|
Llanberis |
1,524.85 |
Tudweiliog |
1,500.73 |
|
Llandwrog |
1,547.44 |
Tywyn |
1,538.83 |
|
Llandygai |
1,509.57 |
|
Waunfawr |
1,504.73 |
sef y symiau a
geir trwy ychwanegu symiau’r eitem neu eitemau arbennig sy’n berthnasol i dai
annedd yn y rhannau hynny o ardal y Cyngor y cyfeiriwyd atynt uchod, at y swm a
geir yn 3(e) uchod wedi’u rhannu ym mhob achos gan y swm yn 2(b) uchod, a
gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 34(3) o’r Ddeddf, fel symiau sylfaenol
ei Dreth Gyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal
lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.
(ff) Ar gyfer rhannau o ardal y Cyngor, y
ffigyrau a nodir yn Atodiad 1, sef y symiau a geir trwy luosi’r symiau yn 3(f)
uchod â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau a nodir yn Adran 5 (1) o’r Ddeddf, yn
berthnasol i dai annedd a restrir mewn band prisio arbennig wedi’i rannu â’r
rhif sydd yn ôl y cyfrannau hynny’n berthnasol i dai a restrir ym mand prisio
D, a gyfrifir gan y Cyngor, yn unol ag Adran 36(1) o’r Ddeddf, yn symiau sydd
i’w hystyried ar gyfer y flwyddyn ar gyfer y categorïau o dai annedd a restrir
yn y gwahanol fandiau prisio.
4. Nodi ar gyfer y flwyddyn 2021/22 fod Comisiynydd
Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi nodi’r symiau a ganlyn mewn praesept a
roddwyd i’r Cyngor, yn unol ag Adran 40 o’r Ddeddf ar gyfer pob un o’r
categorïau o dai annedd a ddangosir isod:
|
Band A |
Band B |
Band C |
Band D |
Band E |
Band F |
Band G |
Band H |
Band I |
|
203.70 |
237.65 |
271.60 |
305.55 |
373.45 |
441.35 |
509.25 |
611.10 |
712.95 |
5. Wedi pennu’r cyfanswm ym mhob achos o’r symiau
3(ff) a 4 uchod, bod y Cyngor, yn unol ag Adran 30(2) o’r Ddeddf trwy hyn, yn
pennu’r symiau a nodir yn Atodiad 2 ar gyfer y Dreth Gyngor yn y flwyddyn
2021/22 ar gyfer pob categori o dai annedd a ddangosir yn yr Atodiad.
Dogfennau ategol: