Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.
Cofnod:
Cyflwynodd
y Pennaeth Cyllid adroddiad yn manylu
ar Strategaeth Ariannol y Cyngor am y pedair blynedd nesaf. Adroddwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi
eu cyllideb drafft ar 8 Rhagfyr,
a’r setliad amodol ar gyfer
ariannu llywodraeth leol ar 9 Rhagfyr.
Tynnwyd sylw at dabl oedd
yn manylu ar senarios posib
o ran y setliad y gallai’r Cyngor dderbyn gan Lywodraeth Cymru a greuwyd gan yr Adran
Gyllid mewn cydweithrediad efo’r Uned Ymchwil a Dadansoddeg. Nodwyd y disgwylir toriad mewn grant a bod y Cyngor wedi ymagweddu yn gyfrifol wrth
gynnal ymgynghoriad Her
Gwynedd ar y toriadau posib i wasanaethau.
Adroddwyd
bod y Cabinet wedi ystyried
yr adroddiad ar 24 Tachwedd 2015, cyflwynwyd y penderfyniadau canlynol i sylw’r
pwyllgor i’w craffu -
“Derbyn y diweddariad a’r crynodeb o Strategaeth Ariannol 2016/17 – 2019/20 a pharhau
gyda’r cynllun ymateb cyfredol, ‘Her Gwynedd’, ar gyfer 2016/17 – 2017/18, gan ddatgan –
a) Bod
Cabinet Cyngor Gwynedd yn gwrthwynebu’r toriadau yn ei dyraniad
grant sy’n cael ei orfodi ar
y Cyngor gan Lywodraethau San Steffan a Chymru.
b) Y
bydd Cabinet Cyngor Gwynedd
yn gwireddu ei chyfrifoldeb statudol i gytuno
ar gyllideb gytbwys rhag iddi,
yn y pen draw, redeg allan o arian a methu talu ei
gweithwyr a’i chyflenwyr.”
Nododd yr Aelod Cabinet Adnoddau bod oddeutu 75% o gyllid y Cyngor
yn ddibynnol ar grant. Amlygodd bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu
setliad fesul blwyddyn, heb unrhyw
ffigyrau mynegol ar gyfer y blynyddoedd
dilynol a oedd yn ei gwneud
yn anymarferol i’r Cyngor weithredu
strategaeth ariannol dros 4 blynedd.
Yn ystod
y drafodaeth ddilynol ymatebodd y swyddogion i ymholiadau’r
aelodau fel
a ganlyn:
·
Pe byddai adolygiad o fformiwla Barnett na fyddai sicrwydd o ran ei ganlyniad;
·
Bod cyhoeddiad y Canghellor George Osborne ar 25 Tachwedd y gosodir llawr ar fformiwla
Barnett, yn golygu y byddai’r arian a ddyrannir i Lywodraeth
Cymru o gwmpas faint y dyrannir yn bresennol;
·
Mai’r Cyngor Llawn yn
ei gyfarfod ar 3 Mawrth 2016 fyddai’n gosod Treth Cyngor ar
gyfer 2016/17. Nodwyd bod cwestiwn wedi ei
gynnwys yn ymgynghoriad Her Gwynedd ar gyfer casglu barn pobl Gwynedd ar gynnydd yn Nhreth
Cyngor;
·
Bod dyddiad cau ymgynghoriad Her Gwynedd wedi ei ymestyn
tan 4 Rhagfyr 2015 a gofyn i’r aelodau annog
eu hetholwyr i gymryd rhan;
·
Bod dros 2,000 o ymatebion i’r ymgynghoriad
wedi eu derbyn
hyd yn hyn
a bod yr ymateb ymysg yr
uchaf o ran ymgynghoriadau cyhoeddus a gynhaliwyd gan y Cyngor;
·
I gyfarch y sefyllfa ariannol byddai angen oddeutu
12% o gynnydd yn Nhreth Cyngor
2016/17 pe na fyddai’r Cyngor yn gwneud toriadau.
Nid oedd hyn am gael ei
ganiatáu.
·
Y trafodir efo’r Adrannau perthnasol o ran eu targedau incwm ar gyfer 2016/17 a byddai newidiadau i ffioedd yn
ystyriaeth wrth sefydlu cyllidebau.
Diolchodd
y Cadeirydd am yr holl waith a wnaed
gan y swyddogion ar Strategaeth Ariannol y Cyngor.
PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol
yng nghyswllt Strategaeth Ariannol y Cyngor.
Dogfennau ategol: