Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams
Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm).
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad, gan
nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.
COFNODION:
Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg yn manylu ar y broses ymgysylltu anffurfiol gyda rhan-ddeiliaid ar
Addysg Ôl-16 yn Arfon.
Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun drwy
egluro mai ei fwriad oedd bod y drafodaeth yn cael ei hagor yn gyhoeddus. Os bu cyhuddiad yn y gorffennol ynglŷn â
phenderfyniadau wedi’u gwneud ymlaen llaw, roedd yn awyddus bod y Cyngor yn
mynd allan gyda llechen lan, a bod y cyfarfodydd yn dryloyw, agored,
gwrthrychol ac efallai’n arloesol hefyd.
Roedd yn croesawu’r ffaith bod y drafodaeth yn cychwyn yn Arfon, ac
roedd yn croesawu’r syniadau oedd yn dod i law.
Roedd rhai ysgolion wedi ymuno mwy yn y drafodaeth nag eraill, ac roedd
cyfrifoldeb i sicrhau bod pob ysgol yn cymryd rhan. Cyfeiriodd yn benodol at fewnbwn aeddfed
disgyblion Ysgol Tryfan ac Ysgol Brynrefail i un cyfarfod, oedd wedi gadael
cryn argraff arno. Ychwanegodd y bu’r
ddarpariaeth yn fratiog yn hanesyddol, a bod cyfle nawr i geisio cael cysondeb
ar draws y sir, a sicrhau’r ddarpariaeth orau er lles y disgyblion.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chyflwyno sylwadau. Nodwyd bod pryder y
gallai unrhyw newid wanhau’r Gymraeg, a bod awydd i wella dysgu drwy Gymraeg
oherwydd y diffygion presennol.
Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau,
nodwyd:-
·
Mai cais y Cabinet oedd i’r gwasanaeth edrych ar y
ddarpariaeth yn Arfon yn y lle cyntaf.
Pwysleisiwyd bod dymuniad i adeiladu ar y cryfderau amlwg oedd yn y
gyfundrefn ôl-16, a bod ffocws y drafodaeth ar hyn o bryd ar ysgolion
Arfon. Roedd y cyfarfodydd anffurfiol
wedi bod yn ddiddorol iawn, a’r trafodaethau wedi bod yn aeddfed ar lawer o
opsiynau, yn amrywio o fân newidiadau i’r gyfundrefn bresennol i ganolfan
chweched dosbarth ar gyfer yr holl ddisgyblion.
Pwysleisiwyd nad oedd gan yr Adran gynlluniau pendant ar hyn o bryd, a
bod angen dadansoddi’r ymatebion cyn adrodd i’r Cabinet. Ychwanegwyd bod y dystiolaeth yn dangos yn
glir nad yw’r safonau yn gyson ar draws ysgolion Arfon. Roedd yna wahaniaethau yn bodoli o fewn
ysgolion unigol hefyd, e.e. ambell bwnc neu faes ddim yn perfformio cystal mewn
ambell ysgol, ac roedd dymuniad i gryfhau hynny. Yn fwriadol, ar gais y Cabinet, ni chynigwyd
opsiynau, gan mai’r nod oedd gweld beth oedd y cyhoedd yn feddwl oedd yr
opsiynau gorau. Derbyniwyd rhai cynigion
da, ac roedd yr Adran wrthi’n prosesu’r ymatebion cyn mynd yn ôl i’r Cabinet
gyda nifer o syniadau oedd yn haeddu trafodaeth bellach.
·
Nodwyd
mai ansawdd yr addysg oedd y brif flaenoriaeth a amlygwyd yn y sesiynau, ynghyd
â phwysigrwydd sicrhau bod y profiad hwnnw ar gael i bob dysgwr. Themâu eraill amlwg oedd y Gymraeg a
darpariaeth addysg Gymraeg a dwyieithog.
Hefyd, yn sgil y cyfnod yma, bu cryn drafod ynghylch technoleg. Mynegwyd y farn gyffredinol mai dysgu wyneb
yn wyneb yw’r profiad addysgol gorau y gall unrhyw ddysgwr ei gael, ond bod yr
elfen dysgu digidol yn gallu cefnogi’r cyswllt wyneb yn wyneb hwnnw.
·
Er
bod gennym gyfundrefn gadarn o ran y Gymraeg yng Ngwynedd, bod canfyddiad gan
garfan o ddysgwyr a’u rhieni bod y Gymraeg yn anfanteisiol fel cyfrwng i ddysgu
pynciau STEM, er nad oedd tystiolaeth i gefnogi hynny. Os rhywbeth, roedd y gwirionedd i’r gwrthwyneb,
ac roedd yr Adran yn awyddus i roi’r Gymraeg yn ganolog fel egwyddor drwy gydol
y trafodaethau. Cydnabyddid bod yna
anghysondebau yng Ngwynedd o ran cyrsiau academaidd a chyrsiau galwedigaethol
partneriaethol sy’n cael eu cynnig ar hyn o bryd, a chredid bod yna ddiffygion
o ran y Gymraeg hefyd, ond byddai’r adolygiad yn sicrhau bod gennym
ddarpariaeth briodol ar gyfer ein dysgwyr yn eu dewis iaith, boed hynny’n
Gymraeg neu Saesneg. Ychwanegwyd bod yr
Adran yn awyddus iawn i hyrwyddo safle amlwg y Gymraeg yn yr ôl-16, ynghyd ag
ansawdd a chysondeb ansawdd yr addysg a’r profiadau roedd y plant yn gael.
·
Y cydnabyddid bod amheuaeth a oedd yr Adran yn
ymgysylltu gyda llechen lan, ond pwysleisiwyd mai bwriad yr adolygiad yn ei
gyfanrwydd oedd edrych ar y ddarpariaeth drwy Wynedd gyfan, er mwyn dysgu
gwersi o’r hyn oedd wedi digwydd ym Meirionnydd a Dwyfor, a chryfhau’r
ddarpariaeth. Gwnaed hyn ar gais y
Cabinet oherwydd bod grym yr Awdurdod Addysg a’r Cyngor yn benodol dros yr
ysgolion hynny lle'r oedd y chweched dosbarth wedi ei leoli, sef yn Arfon, a’r
bwriad oedd edrych i gryfhau’r ddarpariaeth honno yn gyntaf. Yn sgil yr adolygiad, bwriedid edrych ar
unrhyw wersi a ddysgwyd oherwydd, er nad oedd yr Awdurdod yn uniongyrchol
gyfrifol am y ddarpariaeth drydyddol, roedd cyfrifoldeb moesol arnom i gyflawni
hyd eithaf ein gallu ar gyfer dysgwyr Gwynedd i gyd. Roedd y Llywodraeth wedi awdurdodi gwario £18
miliwn yn y maes, gyda rhan sylweddol o’r arian yma yn dod yn fuddsoddiad gan
Gyngor Gwynedd drwy gynllun rheoli asedau.
Roedd yn bwysig bod yr arian yma’n cael ei wario, a waeth beth fyddai’r
datrysiad, ystyrid bod modd gwneud defnydd effeithiol o’r arian i gryfhau’r
ddarpariaeth.
·
Ei bod yn anodd dweud yn bendant beth fydd amserlen y
broses hyd oni cheir cadarnhad ynglŷn ag Etholiad Llywodraeth Cymru ym mis
Mai. Pe na chynhelid etholiad, o bosib’
y gellid adrodd i’r Cabinet tua mis Ebrill gyda chanfyddiadau’r broses
ymgysylltu, ond fel arall, byddai’r amserlen yn llithro oherwydd y cyfnod cyn
etholiad.
PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a
gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.
Dogfennau ategol: