Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Penderfyniad:

Nodwyd cynnwys yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a materion gweithredol yr harbwr.

 

(1)     Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn diweddaru’r pwyllgor ar faterion yr Harbwr am y flwyddyn yn diweddu Mawrth 2021.

 

Gofynnwyd i’r aelodau anfon unrhyw sylwadau ar y Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd i’r gwasanaeth.

 

Nododd y Prif Swyddog Morwrol fod amcangyfrif o gyllidebau’r harbwr o 1/4/20 hyd at 31/3/21 wedi’i anfon at yr aelodau yn ddiweddar iawn, a manylodd ar y sefyllfa gyfredol gan nodi:-

 

·         Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, roedd gofyn bod y Cyngor yn ystyried lleihau ffioedd a chostau i dalwyr angorfeydd, gan fod balans i’w daro rhwng cadw cwsmeriaid at y dyfodol, neu eu colli yn gyfan gwbl i harbyrau eraill.

·         Y dymunai ddiolch i’r aelodau lleol am y gefnogaeth a gafwyd i leihau costau i’r cwsmeriaid 30% yn ystod y cyfnod Mai – Gorffennaf y llynedd.

·         Nad oedd yn opsiwn peidio codi unrhyw ffi o gwbl ar gwsmeriaid yn ystod y cyfnod yma, gan fod costau cynnal yr harbwr yn parhau.

·         Bod manylion y cyllidebau unigol fel a ganlyn:- 

 

Grŵp

Disgrifiad

Cyllideb

£

Gwariant hyd at 31/03/21

£

Gor(Tan) Wariant

£

Staff

Costau Staff

60,180

60,899

      719

Eiddo

Tiroedd ac Eiddo

23,140

10,907

(12,233)

Trafnidiaeth

Cwch a Cherbydau

      640

     640

          0

Offer a Chelfi

Offer a Chelfi

  9,930

12,252

   2,322

Incwm

Incwm Harbwr

(74,580)

(47,645)

 26,935

Cyfanswm

Cyfanswm

19,310

37,052

 17,742

 

·         Oherwydd y pandemig, a’r lleihad yn nifer y cychod yn angori yn yr harbwr llynedd, bod incwm yr harbwr tua £27,000 yn is na’r targed am y flwyddyn.

·         Mai’r targed ar ddiwedd y flwyddyn, gan gymryd incwm a gwariant i ystyriaeth, oedd bod Harbwr Porthmadog yn costio £19,000 i’r trethdalwyr, ond yn anffodus, oherwydd y diffyg incwm, roedd y gwahaniaeth yn £37,000 gan y byddai’r harbwr yn gorwario tua £18,000 yn y flwyddyn ariannol hon.

·         Mai dyma’r tro cyntaf ers blynyddoedd i’r gwasanaeth adrodd ar sefyllfa ariannol mor ddifrifol yn yr harbwr, ac roedd 2021 yn debygol o fod yn flwyddyn anodd hefyd, o ystyried yr ansicrwydd mawr yn y diwydiant morwrol.

·         Bod y pontwns yn gallu cynorthwyo’r sefyllfa gan eu bod yna drwy gydol y flwyddyn.

·         Bod Ffioedd a Thaliadau’r Harbwr 2021/22 bellach wedi’u hawdurdodi gan y swyddogion ac arweinyddion y Cyngor ar gyfer eu cyhoeddi.

 

(2)     Adroddiad yr Harbwrfeistr yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod rhwng Hydref 2019 a Mawrth 2021, gan gynnwys materion cynnal a chadw.

 

Nododd yr Harbwrfeistr fod staff yr harbwr yn dymuno anfon eu cofion at y Cynghorydd Alwyn Gruffydd, yn dilyn ei anhwylder diweddar.  Cytunodd y Cadeirydd i anfon neges at yr aelod, ar ran bawb, yn aelodau a swyddogion, yn dymuno iddo wellhad llwyr a buan.

 

Nododd yr Harbwrfeistr ymhellach:-

 

·         Bod y Bwi Tramwyo wedi mynd allan ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, a bod Bwi rhif 2 wedi’i newid am Fwi rhif 1, a Bwi rhif 3 wedi’i newid am Fwi rhif 2.

·         Y byddai trawsnewidydd arall yn cyrraedd yn 2023, a bod y Prif Swyddog Morwrol wedi cychwyn ar y trafodaethau gyda’r cwmni.

·         Bod deifwyr wedi bod yn gwneud archwiliad tanddwr o angorfeydd yr harbwr dros y dyddiau diwethaf, ac wedi newid tua 48 o ‘risers’ yn barod.  Roedd cost y gwaith yn sylweddol, ond enillwyd blwyddyn ychwanegol, gan na chyflawnwyd y math hwn o waith hwn llynedd, gan fod cyn lleied o ddefnydd o’r harbwr.

·         Bod angen gwario swm sylweddol ar gwch y ‘Dwyfor’.  Roedd y gwasanaeth yn chwilio am brisiau ar gyfer y gwaith ar hyn o bryd, a gobeithid y byddai’r cwch yn dychwelyd i Borthmadog ymhen tua phythefnos.

 

Diolchwyd i’r swyddogion ac i staff yr harbwr am eu holl waith yn cynnal y gwasanaeth yn ystod blwyddyn eithriadol o anodd, a gofynnwyd i’r swyddogion basio’r neges yma ymlaen i bawb. 

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Bod cludiant y trawsnewidydd o draeth Morfa Bychan i Drawsfynydd wedi gweithio’n arbennig o dda, ac wedi denu llawer o bobl yma, a bod y staff yn barod iawn i siarad gyda phobl a phlant, ac egluro beth oedd yn mynd ymlaen.  Yr unig anhawster fu’r methiant i dorri’r coed ymlaen llaw, ac i hynny orfod cael ei wneud ar y diwrnod.  Mewn ymateb, eglurwyd y bwriedid ymgynghori â’r pwyllgor harbwr a’r gymuned i sicrhau bod cludiant yr ail drawsnewidydd, fydd yn cyrraedd tua Mehefin 2023, yn mynd yn esmwyth, a’r tro nesaf, byddai’r gwaith o dorri’r coed yn digwydd tua wythnos ymlaen llaw.

·         Cyfeiriwyd at bryderon a gododd llynedd fod badau dŵr personol a chychod pŵer yn mynd yn rhy agos at y traethau, yn enwedig ym Mae Samson, lle'r oedd pobl yn nofio yn y dŵr.  Mewn ymateb, cytunwyd bod angen tynhau ar reolaeth cychod ym Mae Samson, ac ym Morfa Bychan a Chricieth, a rhoddwyd sicrwydd y byddai hynny’n digwydd yn 2021.  Nodwyd ymhellach y cafwyd cefnogaeth i benodi mwy o wardeiniaid yr haf yma, ac y byddai tîm o 3 yn gweithio ym Morfa Bychan o’r 1af Ebrill ymlaen, gyda 9-10 yn ymuno gyda’r tîm wrth i’r tymor brysuro.

·         Nodwyd bod y giât i atal y llanw rhag gorlifo dros faes parcio Borth y Gest yn gweithio’n dda, ond bod angen i bobl ddefnyddio synnwyr cyffredin, a pheidio cwyno ei bod wedi cau.  Mewn ymateb, nodwyd y byddai’r staff yn agor y giât unwaith y byddai’r tywydd yn gwella a’i bod yn ddiogel i wneud hynny.

·         Cyfeiriwyd at broblem a gododd llynedd gyda pharcio ar Lon Treflys yn achosi tagfeydd o Forfa Bychan yn ôl i Stryd Fawr, Porthmadog, a nodwyd bod trafodaethau ar y gweill gyda’r Adran Briffyrdd i gyflwyno llinellau melyn dwbl ar y darn yma o ffordd.  Mewn ymateb, eglurwyd petai tagfeydd yn ffurfio ym Morfa Bychan eto eleni, bod gan y Cyngor gynllun i leihau’r broblem i’r pentref drwy ganiatau mynediad di-dâl i draeth Morfa Bychan nes bydd y tagfeydd wedi clirio.  Nodwyd hefyd bod yr Heddlu wedi bod yn gefnogol iawn, yn gweithio fel rhan o’r tîm, ac yn dod i lawr i Forfa Bychan pan fyddai trafferthion yn codi.

·         Nodwyd bod y twyni tywod ym Morfa Bychan yn iach, a bod lefel y traeth wedi codi’n sylweddol, gan greu pant mawr yn y fynedfa.  Bwriedid clirio’r tywod cyn Gŵyl y Pasg er mwyn galluogi i draffig fynd ar y traeth.

·         Cyfeiriwyd at y cydweithio rhwng adrannau Economi, Amgylchedd a Phriffyrdd Cyngor Gwynedd i geisio dygymod â niferoedd ymwelwyr yr haf hwn, a gofynnwyd i’r aelodau adael i’r Cyngor wybod os ydynt yn rhagweld problemau.

·         Holwyd pa wersi a ddysgwyd o’r cyfnod anodd dros y flwyddyn ddiwethaf.  Mewn ymateb, nodwyd bod y cynllun rheoli cerbydau ym Morfa Bychan wedi gweithio’n dda, drwy gyfyngu cerbydau i un rhan o’r traeth yn unig, gan ryddhau gweddill y traeth i bobl gerdded, chwarae gemau, ac ati, yn ddiogel.  Roedd hyn wedi hwyluso’r gwaith o fonitro’r traeth hefyd, ac roedd wedi lleihau’r broblem o gerbydau yn mynd yn sownd yn y tywod, ac yn cael eu colli i’r môr.  Nid oedd cyfle i oryrru bellach chwaith, gan fod y cerbydau yn weddol agos at ei gilydd.  Ychwanegwyd bod technoleg wedi helpu hefyd a gobeithid datgysylltu’r ffôn 999 ger y fynedfa i draeth Morfa Bychan, a’i gysylltu i lein BT cyflym, fyddai’n gallu derbyn taliadau electronig.  Roedd y drefn o gofrestru cychod wedi newid hefyd, gyda chofrestriadau yn mynd ar lein yn unig, ac felly’n rhyddhau staff yn y canolfannau i wneud gwaith mwy ymarferol ar y traethau.  Hefyd, yn sgil cydweithio gyda’r Adran Briffyrdd, bu cynnydd yn nifer y casgliadau ysbwriel ar y traethau, ac edrychwyd ar ailgylchu hefyd.  Gwelwyd cynnydd hefyd yn nifer y staff, a bu hyn yn gyfle i gryfhau’r timau am y tymor i ddod.  Roedd y gwasanaeth yn gweithio ar dechnoleg hefyd i dynnu sylw at beryglon y môr.

·         Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd y byddai popeth yn barod ar gyfer codi tâl mynediad i draeth Morfa Bychan erbyn 1 Ebrill, ond bod hyn yn hollol ddibynnol ar beth fydd yn digwydd gyda’r cyfnod clo.  Gan hynny, byddai’n rhoi cyfle i dreialu cyn i’r prysurdeb mawr gychwyn ym mis Mai.

·         Nodwyd nad oedd criw Bad Achub Cricieth wedi cael y cyfle arferol i ymarfer dros y misoedd diwethaf, a bod angen i bobl sylweddoli na fydd y Bad Achub mor sydyn yn mynd allan gan fod rhaid dilyn y rheolau a gwneud yn siŵr bod y criw i gyd yn saff.

 

Erfyniodd y Cadeirydd ar yr aelodau i gysylltu â’r Cyngor os ydynt yn gweld unrhyw drafferthion yn codi dros yr haf, a nododd fod Gwynedd yn barod iawn i groesawu ymwelwyr sy’n dangos parch tuag at yr ardal.

 

 

 

Dogfennau ategol: