I ystyried cais Mr A
(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Penderfyniad:
Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat gyda Chyngor Gwynedd
Cofnod:
a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad
yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd
gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol. Amlygwyd nad oedd yr ymgeisydd wedi datgan fod ganddo
euogfarnau blaenorol ar ei gais ac yn awgrymu iddo ymhelaethu ar hyn. Roedd yr
Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais gan roi gwybodaeth am
gefndir y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Eglurodd bod digwyddiad 2018
wedi digwydd ar dir preifat a’i fod wedi derbyn cyngor nad oedd angen adrodd ar
y ddamwain. Ategodd bod Uned Iechyd a Diogelwch y Cyngor ac Uned Iechyd a
Diogelwch y Swyddfa Bost yng Nghibyn, Caernarfon wedi cofnodi’r digwyddiad.
Amlygodd, petai ei gais yn llwyddiannus, y byddai yn rhedeg cwmni Tacsi.
b)
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a
phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor
Gwynedd.
c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen
gais yr ymgeisydd
·
adroddiad
yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS
·
sylwadau ar lafar gan yr
ymgeisydd
·
Canllawiau'r Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
ch) Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Yn Gorffennaf 1980
cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Caernarfon a Gwyrfai ar un cyhuddiad
o ymosodiad oedd yn achosi gwir niwed corfforol yn groes i a47 Deddf Troseddau
Corfforol 1861. Derbyniodd ddirwy o £20.00
Ym Mehefin 2018
cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Gogledd Ddwyrain Cymru ar un
cyhuddiad o fethu ac adrodd ar ddamwain yn groes i a170 (4) Deddf Traffig
Ffyrdd 1988. Derbyniodd ddirwy o £325.00 ac ardystiwyd ei drwydded yrru.
Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â
chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a
phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o
drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt
hynny, ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall
hwnnw.
Ystyriwyd paragraff 4.5
sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio)
2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu
treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae paragraff 6.0 o’r
Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr
trwyddedig yn dod i gysylltiad agos gyda'r cyhoedd yn rheolaidd y byddai
is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn
ymwneud a thrais. Mae
paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei
wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried am ymosodiad cyffredin a/neu
ddifrod troseddol a /neu drosedd o dan Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986 sydd yn llai
na 3 blynedd cyn dyddiad y cais.
Mae rhan 12 o’r Polisi
yn ymwneud â chollfarnau moduro gyda pharagraff 12.2 yn rhestru troseddau traffig
difrifol at ddibenion y Polisi. Ymysg y troseddau mae AC20 (methu rhoi manylion
neu adrodd am ddamwain o fewn 24 awr). Mae paragraff 12.3 yn nodi y bydd cais
yn cael ei wrthod os oes collfarn yn erbyn yr ymgeisydd ac nad yw wedi bod yn
rhydd rhag collfarn am 6 mis o leiaf.
d)
Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad fod
collfarn Gorffennaf 1980 yn drosedd o drais, fodd bynnag, gan fod y gollfarn
wedi digwydd 40 mlynedd yn ôl (sydd tu hwnt i’r cyfnod 3 blynedd), nid oedd
paragraff 6.5 yn goroesi, ac felly nid yn sail i wrthod y cais
Daeth
yr Is-bwyllgor i gasgliad fod collfarn Mehefin 2018 yn ymwneud â throsedd
traffig difrifol, fodd bynnag, gan fod y gollfarn wedi digwydd 2 flynedd yn ôl
a’r ymgeisydd wedi bod yn rhydd rhag collfarn am o leiaf 6 mis, nid oedd paragraff
12.3 yn goroesi, ac felly nid yn sail i wrthod y cais.
e)
Wedi pwyso a mesur y dystiolaeth ar wybodaeth yn
ofalus, roedd yr Is-bwyllgor o blaid
caniatáu y cais a phenderfynwyd bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a
hurio preifat.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn
cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.