Agenda item

Red Lion, Porthmadog

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

Caniatáu y cais i wyro’r drwydded yn ddarostyngedig i gynnwys amodau’r Atodlen Weithredol

 

Cofnod:

CAIS AM DRWYDDED EIDDO – Y Llew Coch, Porthmadog

 

Ar ran yr eiddo:                     Darren Kelly   (Ymgeisydd – Admiral Taverns Ltd)

Peter Ashcroft (Cyfreithiwr  ar ran Admiral Taverns Ltd)

                       

Eraill a wahoddwyd:             Ffion Muscroft - Swyddog Iechyd yr Amgylchedd

Cyng. Nia Jeffreys - Aelod Lleol        

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 10 munud i gyflwyno eu sylwadau

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am amrywio trwydded eiddo ar gyfer Y Llew Coch, Porthmadog. Gwnaed y cais mewn perthynas ag addasiadau i gynlluniau mewnol y tŷ tafarn ac i gynnwys ardal allanol fel man trwyddedig. Adroddwyd, er bod yr ardd gwrw wedi ei thrwyddedu yn barod, gwnaed cais i ymestyn ardal drwyddedig yr eiddo i gynnwys strwythurau ar steil cytiau glan y môr gydag alcohol yn cael ei archebu a’i weini drwy’r ffenest yng nghefn yr eiddo.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Amlygwyd bod cais cynllunio diweddar (C20/0076/44/LL) i ddarparu 5 cwt glan y môr a drws ar ffurf 'hatch' i'r prif adeilad wedi ei ganiatáu yn unol ag amodau oedd yn cynnwys:

 

·         Ni chaiff y cytiau pren a ganiateir drwy hyn (ac eithrio'r gysgodfa ysmygu a ddangosir ar y cynlluniau safle presennol) fod yn agored i gwsmeriaid tu allan i amseroedd a ganlyn 9:00 y bore hyd at 21:00 yr hwyr mewn unrhyw un diwrnod.

·         Rhaid cau'r agoriad gweini newydd tu allan i amseroedd a ganlyn 9:00 y bore hyd 21:00 yr hwyr mewn unrhyw un diwrnod

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod un gwrthwynebiad wedi ei dderbyn gan aelod o’r cyhoedd yn mynegi pryder ar faterion gwrthgymdeithasol o ran sŵn, niwsans cyhoeddus, materion glanweithiol a throsedd ac anrhefn. Cefnogwyd y gwrthwynebiad gyda thystiolaeth gyfoes berthnasol a oedd yn cynnwys clipiau fideo byr yn ogystal â lluniau yn nodi’r amser a’r dyddiadau. Roedd yr Aelod Lleol yn amlygu pryder sŵn a niwsans cyhoeddus ar ran preswylwyr cyfagos a’r Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd yn nodi’r angen i werthiant alcohol tu allan a defnydd o’r cytiau traeth ddod i ben am 21:00. Nid oedd gan y Cyngor Tref, Yr Heddlu na’r Gwasanaeth Tân wrthwynebiadau.

 

Argymhellwyd fod y Pwyllgor yn ystyried yr angen i osod unrhyw ragofalon ychwanegol ar amodau’r drwydded os byddent yn penderfynu caniatáu’r cais yn unol â sylwadau Gwarchod y Cyhoedd a gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003. 

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

b)         Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno. Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Is-bwyllgor ynglŷn â rheolaeth y drws cefn, rheolaeth giât yr ardd gwrw ac uchafswm nifer yn defnyddio'r cabanau (angen rhagweld faint sydd yn ddiogel), amlygodd mai allanfa dân oedd y giât - nid oedd yn cael ei defnyddio fel mynedfa / allanfa i’r cyhoedd. Yng nghyd-destun niferoedd yn y cabannau nid oedd yn siŵr o’r cyfanswm posib, ond amlygodd y byddai’r sefyllfa yn cael ei monitro yn rheolaidd gydag asesiad canllawiau covid 19 yn cael ei gweithredu yn ystod yr argyfwng. Awgrymodd mai ymateb i reoliadau cadw pellter cymdeithasol yn ystod argyfwng covid 19 oedd defnydd y cabanau. Ategodd y byddai’n trafod y dystiolaeth fideo gyda thenant y dafarn.

 

Nododd Cyfreithiwr ar ran Admiral Taverns y byddai’r ardal allanol yn cael ei rheoli gyda theledu cylch cyfyng, gyda staff yn cerdded o gwmpas yr ardal a thrwy ddefnyddio’r agoriad gweini i gadw golwg o’r sefyllfa. Ategodd bod y cwmni yn gweithredu’n gyfrifol ac y byddent yn ystyried diogelwch cwsmeriaid drwy liniaru unrhyw risgiau posib. Nododd bod hawl gan yr is-bwyllgor i gynnig uchafswm defnydd cabannau neu y gellid ystyried cytundeb ymarferol. Awgrymodd nad oedd unrhyw reswm dilys dros wrthod y cais.

 

c)         Mewn ymateb, nododd yr Is-bwyllgor y byddai dymuniad ganddynt weld asesiad risg yn cael ei gwblhau wedi i’r cyfnod clo ddod i ben a’i bod yn annog y tenant i wneud defnydd da o’r teledu cylch cyfyng gan gadw recordiadau am gyfnod o 6 mis.

 

ch)       Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd trwy lythyr.

Swyddog Iechyd yr Amgylchedd,

 

·         Nad oedd modd ymchwilio i bryderon sŵn drwy osod monitor ar y safle  oherwydd rheoliadau covid 19

·         Bod angen rheolaeth effeithiol – cau drysau, cau ffenestri i leihau sŵn

·         Awgrym i gau'r ardd gwrw am 21:00

 

Y Cynghorydd Nia Jeffreys (Aelod Lleol)

·         Bod y dafarn wedi ei lleoli yng nghanol strydoedd o dai teras  - o ganlyniad byddai unrhyw sŵn yn cario yn bell

·         Bod cyfnod covid 19 wedi bod yn heriol i fusnesau lleol - ei bod yn datgan cefnogaeth i fusnesau lleol sydd wedi gwrthsefyll cyfnod anodd iawn

·         Edmygu’r cynllun arloesol o gynnig gwasanaeth drwy ddefnydd cabannau glan y môr

·         Bod dyletswydd arni fel Aelod Lleol i amlygu pryderon preswylwyr cyfagos o gwynion sŵn a niwsans cyhoeddus

·         Derbyn yr awgrym i ystyried rheoli niferoedd  fyddai’n defnyddio'r ardd gwrw

·         Angen sicrhau bod y giât i’r ardd gwrw wedi cau fel nad oes modd i’r cyhoedd fynd nôl ac ymlaen

·         Mewn ymateb i sylw nad oedd angen lle i hwyluso gwerthiant cyffuriau amlygodd nad oedd yr Heddlu yn gwrthwynebu’r cais

 

d)            Wrth grynhoi ei achos ac ymateb i’r sylwadau nododd yr ymgeisydd

·         Bod rheoli a goruchwylio gerddi cwrw yn anodd, ond ei fod yn hyderus bod Admiral Tavers yn gallu cyfarch y materion a godwyd

·         Buasai’r Heddlu wedi cynnig sylwadau pe byddent â phryderon

·         Bydd teledu cylch cyfyng yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol

·         Ni fydd cerddoriaeth yn cael ei chwarae tu allan

·         Bydd y drysau ar ffenestri yn cau ar ôl 21:00

·         Bydd y giât yn cael ei defnyddio fel allanfa dân yn unig

 

dd)       Ymneilltuodd yr ymgeisydd ynghyd a chynrychiolydd cyfreithiol y cwmni, yr ymgynghorai, y Rheolwr Trwyddedu a Swyddog yr Amgylchedd o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais

e)         Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu (gan gynnwys tystiolaeth fideo a lluniau), yn ogystal â sylwadau llafar a dderbyniwyd yn y gwrandawiad. Ystyriwyd hefyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

                       i.       Atal trosedd ac anhrefn

                      ii.       Atal niwsans cyhoeddus

                     iii.       Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                     iv.       Gwarchod plant rhag niwed

PENDERFYNWYD caniatáu y cais i wyro’r drwydded yn ddarostyngedig i gynnwys amodau’r Atodlen Weithredol isod;

 

Yn rhan (b) ychwanegir y canlynol:

·         “Bydd yr eiddo yn rhedeg a chynnal sustem TCC yn gwylio’r ardaloedd mewnol ac allanol. Bydd yr eiddo yn cadw recordiadau o’r sustem am hyd at 28 diwrnod. Bydd yr eiddo yn darparu copïau o recordiadau ar gais i’r Awdurdod Trwyddedu neu’r Heddlu.

·         Bydd yr eiddo yn cadw sensor ar y drws tân cefn a leolir yn yr ardal allanol fydd yn seinio rhybudd tu mewn i’r dafarn os agorir y drws heb ganiatâd.

·         Cymerir agwedd dim goddef tuag at ddefnyddio cyffuriau.”

Yn rhan (d) ychwanegir y canlynol:

·         “Bydd y bar ‘hatch’ tu allan yn cau am 21:00

·         Bydd y cytiau traeth tu allan ddim yn cael eu defnyddio gan gwsmeriaid o 21:00 ymlaen.

·         Bydd yr eiddo yn gosod arwyddion priodol yn gofyn i gwsmeriaid barchu eiddo cyfagos drwy beidio ag achosi unrhyw niwsans sŵn wrth ymadael â’r eiddo.

·         Bydd yr eiddo yn cynnal archwiliadau rheolaidd o’r safle er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r amodau trwydded.”

Yn rhan (e) ychwanegir y canlynol:

·         “Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn bob adeg.”

Nodwyd nad oedd angen ehangu'r ardal drwyddedig i gynnwys yr ardal allanol yn y cynllun gyda’r ffurflen gais, gan fod yr ardal honno wedi ei chynnwys fel ardal drwyddedig yn y drwydded sydd eisoes mewn bodolaeth.

Diolchwyd i’r holl bartïon â diddordeb am gyflwyno sylwadau ar y cais. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau. 

 

Nodwyd nad oedd Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd, Cyngor Tref Porthmadog, y Gwasanaeth Tan na’r Heddlu yn gwrthwynebu’r cais.

 

Wrth ystyried pryderon am faterion gwrthgymdeithasol o ran sŵn, materion glanweithiol a throseddu cyfeiriwyd at ddigwyddiadau o gwsmeriaid yn defnyddio’r cabanau glan môr, yn cadw sŵn ac yn yfed tan 22:00 gan honni bod hyn yn groes i amod cynllunio. Amlygwyd bod hyn wedi digwydd ar 5 achlysur (nos Wener 20/11/20 Sadwrn 21/11/20, Gwener 27/11/20, Sadwrn 28/11/20, Iau 03/12/20). Cyflwynwyd tystiolaeth ar ffurf recordiadau fideo ffôn symudol a lluniau ffôn i gefnogi’r sylwadau. Yn ogystal, derbyniwyd sylwadau gan yr Aelod Lleol yn lleisio pryder ar ran preswylwyr cyfagos o ran defnydd allanol yr ardd gwrw.

 

Tra bod yr Is-bwyllgor yn fodlon bod rhain yn bryderon diffuant, roeddynt yn cyfeirio at bryderon o ddefnydd y cabanau glan môr yn yr ardd gwrw tan 22:00 a hwyrach. Fodd bynnag, roedd y cais yn gofyn am gyfyngu defnydd o’r cabanau hyd at 21:00 yn unig. O ganiatáu y cais, ni ystyriwyd y bydd problemau sŵn yn hwyr yn y nos i’r dyfodol gan na fyddai’r cabanau i’w defnyddio ar ôl 21:00. O ganlyniad nid yw’r sylwadau gwrthwynebu ar sail sŵn mewn gwirionedd yn berthnasol i’r cais.

 

Gwyliwyd clipiau fideo tua 30-eiliad o hyd. Nid oedd ansawdd y fideos yn ddigon clir i amlygu pellter ac nid oedd yn glir pa ddyddiadau roedd y fideos yn berthnasol iddynt. Ni chafodd yr Is-bwyllgor gyfle i holi’r sawl a’u recordiodd gan nad oedd yn bresennol yn y gwrandawiad. O ganlyniad teimlai’r Is-bwyllgor bod y fideos yn gyfyngedig iawn o ran gwerth tystiolaeth.

 

Derbyniwyd bod posibilrwydd y gallai sŵn fyddai’n tarfu o’r eiddo arwain at niwsans cyhoeddus ond hyd yn oed, gyda sylwadau perthnasol, mae “niwsans cyhoeddus” yn derm technegol sydd ag ystyr arbennig iddo mewn cyfraith achos. O dderbyn cyngor cyfreithiol, daeth yr Is bwyllgor i ddeall na fyddai ychydig oriau o sŵn dim amlach na dwywaith mewn wythnos, mewn ardal breswyl ddwys ei phoblogaeth gydag ond un gwrthwynebiad uniongyrchol oedd wedi dod i law, yn debygol o groesi’r rhiniog angenrheidiol o’i ystyried fel “niwsans cyhoeddus”.

 

O ran y pryderon am drosedd ac anrhefn a glanweithdra, ni dderbyniwyd unrhyw dystiolaeth o ddigwyddiadau penodol i gefnogi’r sylwadau hyn.

 

O dan yr amgylchiadau roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais yn gydnaws â’r pedwar amcan trwyddedu, a chaniatawyd y cais i wyro.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn  derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

Dogfennau ategol: