Adroddiadau llafar gan Kathy Bell (Cyfrifydd Grŵp Ysgolion) ar:-
·
COVID – costau ychwanegol / colled incwm 2020/21;
·
Grant Anghenion Dysgu Ychwanegol 2020/21
Cofnod:
Eitem 9 - Materion Ariannol COFID-19
Nododd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion:-
·
Yr
adroddwyd yn flaenorol ein bod wedi hawlio bron i £50,000 ar ran ysgolion
oherwydd costau ychwanegol yn sgil COFID, a bod cais pellach wedi’i gyflwyno i
Lywodraeth Cymru erbyn hyn am ychydig dros £100,000.
·
Yn
sgil cyflwyno adroddiad ar gyllideb refeniw’r Cyngor i’r Cabinet ar 26 Ionawr,
byddwn yn gwybod a ganiateir trosglwyddo’r grant i ysgolion, gan obeithio
gwneud hynny erbyn diwedd Ionawr.
Mewn ymateb i gais am ddiweddariad
ynglŷn â phrydau ysgol, eglurodd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion nad oedd
yr ysgolion unigol yn hawlio’r grant, ond bod hynny’n digwydd ar lefel
strategol gan yr Adran Addysg. Roedd
hynny eisoes wedi digwydd am dymor yr haf, ac roedd cais pellach wedi’i
gyflwyno erbyn hyn am y golled incwm prydau ysgol.
Eitem 11 – Cyllid Anghenion Dysgu
Ychwanegol (ADY)
Nododd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion, drwy
ymgynghori â’r penaethiaid, bod £160,000 o’r grant ADY ar gyfer cefnogi
disgyblion anghenus wedi ei rannu rhwng yr ysgolion uwchradd; 50% ohono yn
seiliedig ar y niferoedd sy’n derbyn cinio ysgol am ddim, a 50% ar sail
‘Behavioural, Emotional and Social Difficulties (BESD)’, sef categori anghenion
arbennig.
Pwysleisiwyd, os defnyddio’r data BESD ar
gyfer cyllidebu o hyn ymlaen, bod angen bod yn hollol siŵr bod y sail
honno’n gyson ar draws pob ysgol yng Ngwynedd.
Mewn ymateb, cytunodd y Pennaeth Cynorthwyol ADY a Chynhwysiad fod angen
cysondeb, a chadarnhaodd fod y gwasanaeth a’r swyddogion sy’n cefnogi’r
ysgolion yn rhoi sylw i hyn.
Croesawyd y grant unwaith ac am byth hwn,
ond nodwyd bod y dull o’i ddyrannu yn codi cwestiwn o ran sut mae’r dyraniad
sirol blynyddol o bron i £1,000,000 yn cael ei rannu rhwng ysgolion. Awgrymwyd y dylid edrych ar hyn eto, gan
ystyried faint o blant sydd angen cefnogaeth cynhwysiad cyson, fel bod yr arian
yn cael ei rannu mewn dull priodol i ymateb i anghenion y plant hynny.
Holwyd a oedd rheidrwydd i wario’r grantiau
addysg erbyn 31 Mawrth eleni, er bod yr ysgolion wedi cau. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Cyfrifydd
Grŵp Ysgolion bod rhaid gwario’r arian erbyn hynny. Byddai pob ysgol yng Nghymru yn yr un sefyllfa,
a debyg bod yna arweiniad cenedlaethol ar hyn.
Holwyd ymhellach a oedd Gwynedd yn trafod y
mater gyda Llywodraeth Cymru. Mewn
ymateb, nododd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion na fu’n rhan o unrhyw
drafodaethau hyd yma, ond y gallai godi’r mater yng nghyfarfod cyfrifwyr Cymru
yr wythnos nesaf.
Nododd y Pennaeth Addysg ein bod mewn tirwedd
nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen, ac roeddem yn gaeth i reoliadau Llywodraeth
Cymru. Yn ôl dehongliad y Llywodraeth,
nid oedd yr ysgolion wedi cau, ond yn hytrach yn agored ac yn dysgu o bell. Roedd y sefyllfa’n rhwystredig i ysgolion ac
awdurdodau addysg, ond fel y nodwyd, byddai hyn yn cael ei godi yn y cyfarfod
cyfrifwyr, ac roedd hefyd wedi ei godi gan awdurdodau ledled Cymru.
PENDERFYNWYD cynnal trafodaeth gyda’r
penaethiaid uwchradd ynglŷn â sail dyrannu dyraniad strategaeth cynhwysiad
yn y fformiwla, ac adrodd yn ôl i’r cyfarfod nesaf ar ganlyniadau’r
trafodaethau hynny.