Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd
oddi wrthi o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Siân Gwenllian yn
cynnig fel a ganlyn:-
“Mae’r Cyngor
hwn yn datgan gwrthwynebiad chwyrn i bolisïau ariannol y Trysorlys am eu bod nhw'n taro'r rhai mwyaf anghenus, yn chwalu'r gwasanaethau
cyhoeddus ac yn ein gorfodi ni fel pob Cyngor i wneud
toriadau enbyd fydd hefyd yn effeithio yn sylweddol ar yr economi leol. Nid
toriadau Cyngor Gwynedd yw'r toriadau ond toriadau'r Torïaid;
rydym yn erbyn yr ideoleg sy'n gyrru'r toriadau, ond rydym yn ceisio gweithredu
mor deg a thryloyw a phosib o dan amgylchiadau erchyll. Ar waetha hyn rydym yn
parhau i fod yn uchelgeisiol dros y sir ac yn awyddus i greu llwyddiant i’r
dyfodol.”
Cofnod:
(b) Cyflwynwyd
y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Siân Gwenllian, dan Adran 4.20 y
Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd.
“Mae’r Cyngor hwn
yn datgan gwrthwynebiad chwyrn i bolisïau ariannol y Trysorlys am eu bod nhw'n taro'r rhai mwyaf anghenus, yn chwalu'r gwasanaethau
cyhoeddus ac yn ein gorfodi ni fel pob Cyngor i wneud
toriadau enbyd fydd hefyd yn effeithio yn sylweddol ar yr economi leol. Nid toriadau Cyngor Gwynedd yw'r toriadau ond
toriadau'r Torïaid; ‘rydym yn erbyn yr ideoleg sy'n
gyrru'r toriadau, ond ‘rydym yn ceisio gweithredu mor deg a thryloyw a phosib’
o dan amgylchiadau erchyll. Ar waetha
hyn ‘rydym yn parhau i fod yn uchelgeisiol dros y sir ac yn awyddus i greu
llwyddiant i’r dyfodol.”
Cefnogwyd y cynnig.
Yn ystod y drafodaeth:-
·
Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet Adnoddau at gyhoeddiad y
Gweinidog y diwrnod cynt ynglŷn â setliad 2016/17 gan bwysleisio nad oedd
yna unrhyw le i ymhyfrydu yn y sefyllfa gan fod y Cyngor yn wynebu 2% o doriad
yn ei gyllideb yn 2016/17, ac felly’n parhau yn y
sefyllfa o orfod canfod tua £7m o doriadau yn y flwyddyn nesaf.
·
I’r gwrthwyneb, nodwyd bod y Gweinidog wedi datgan,
er y toriadau erchyll gan Lywodraeth San Steffan, na fyddai’r setliad i
gynghorau mor ddrwg ag a ragwelwyd ac y mawr hyderid na fyddai Addysg, y
Gwasanaethau Cymdeithasol nac adrannau eraill ar draws y Cyngor yn wynebu
cymaint o doriad.
·
Awgrymwyd nad ffigur ddoe oedd yr un pwysig, eithr y
ffigur cronnus, a bod llywodraeth leol wedi derbyn toriad o 16% yn ei gyllideb
ers 2009.
·
Nodwyd, yn ogystal â thoriadau, bod y Cyngor yn
wynebu newidiadau mawr, megis dyfodiad y Credyd Cynhwysol.
Cynigiwyd ac
eiliwyd i ychwanegu at y cynnig bod y Cyngor hwn hefyd yn condemnio Llywodraeth
y D.U. am allu canfod cyllid i’w roi at fomiau ac awyrennau rhyfel tra’n dadlau
nad oes arian ar gael ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus.
Cytunodd cynigydd
y cynnig gwreiddiol i ddiwygio’r cynnig ar y llinellau a nodwyd gyda chaniatâd
y Cyngor a’r eilydd.
Yn ystod y
drafodaeth:-
·
Nodwyd
bod y drafodaeth wedi mynd yn eang ac y byddai’n well petai’r holl fater o
effaith y setliad wedi’i godi fel mater brys o dan eitem 6 ar y rhaglen.
·
Mynegwyd y farn bod yr
ychwanegiad i’r cynnig yn cymylu’r holl fater ac na ellid cyplysu’r ddau beth
gyda’i gilydd mewn un cynnig.
·
Awgrymwyd bod yr ychwanegiad yn ddilys gan mai
datganiad mewn egwyddor ydoedd, sy’n condemnio arfogi a gwario ar arfau rhyfel.
Pleidleisiwyd ar y
cynnig diwygiedig, ac fe gariodd.
PENDERFYNWYD derbyn y cynnig gwreiddiol, wedi’i
addasu fel a ganlyn:-
“Mae’r Cyngor hwn
yn datgan gwrthwynebiad chwyrn i bolisïau ariannol y Trysorlys am eu bod nhw'n taro'r rhai mwyaf anghenus, yn chwalu'r gwasanaethau
cyhoeddus ac yn ein gorfodi ni fel pob Cyngor i wneud
toriadau enbyd fydd hefyd yn effeithio yn sylweddol ar yr economi leol. Nid toriadau Cyngor Gwynedd yw'r toriadau ond
toriadau'r Torïaid; ‘rydym yn erbyn yr ideoleg sy'n
gyrru'r toriadau, ond ‘rydym yn ceisio gweithredu mor deg a thryloyw a phosib’
o dan amgylchiadau erchyll. Ar waetha
hyn ‘rydym yn parhau i fod yn uchelgeisiol dros y sir ac yn awyddus i greu llwyddiant
i’r dyfodol.
Mae’r Cyngor hwn hefyd yn condemnio Llywodraeth y
D.U. am allu canfod cyllid i’w roi at fomiau ac awyrennau rhyfel tra’n dadlau
nad oes arian ar gael ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus.”