Agenda item

Ymestyn tymor gwyliau y maes carafanau o 8 mis i 12 mis i fod yn agored trwy'r flwyddyn ar gyfer defnydd gwyliau

 

AELOD LLOEL: Cynghorydd Gareth Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

Caniatáu

 

Amodau:

  1. Defnydd gwyliau a chadw cofrestr.

 

Cofnod:

Ymestyn tymor gwyliau'r maes carafanau o 8 mis i 12 mis i fod yn agored trwy'r flwyddyn ar gyfer defnydd gwyliau

 

            Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

 

a)    Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd i ymestyn y cyfnod meddiannu ar y safle carafanau gwyliau sefydlog fel bod yna dymor gwyliau o 12 mis. Adroddwyd bod caniatâd cynllunio ar gyfer 40 carafán sefydlog ar y tir ac mae’r caniatâd presennol yn cyfyngu amser meddiannu’r carafanau i rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref mewn unrhyw flwyddyn. 

 

Amlygwyd bod Asesiad Dyluniad a Mynediad wedi ei gyflwyno yn egluro cefndir y cais ac yn ymateb i alw gan berchnogion presennol y carafanau i gael aros ar y safle yn ystod y Nadolig, y Flwyddyn Newydd a hanner tymor mis Chwefror. Ategwyd y byddai  ymestyn y tymor hefyd yn fodd o uwchraddio’r safle.

 

Cyfeiriwyd at bolisi TWR 4 sydd yn gefnogol i gynigion i ymestyn y tymor gwyliau ar gyfer safleoedd carafanau sefydlog a sialetau presennol os gellid dangos bod y llety yn cael ei ddefnyddio at ddibenion gwyliau yn unig ac nad yw’n dod yn brif neu unig gartref y deilydd.  Dylid hefyd sicrhau fod y llety yn addas i fyw ynddynt yn ystod y gaeaf, na fyddai’r tymor estynedig yn cynyddu canlyniadau llifogydd eithriadol  a chael effaith andwyol ar yr amgylchedd lleol.

 

Ystyriwyd fod y cais, gydag amodau priodol i sicrhau defnydd y carafanau sefydlog ar gyfer gwyliau yn unig ac i gadw cofrestr, yn dderbyniol ar sail polisi. 

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

·         Bod y carafanau sefydlog i gyd mewn perchnogaeth breifat a bod rhai o’r ‘plotiau’ wedi bod ym meddiant yr un teulu ers y 70au

·         Y bwriad yw ymestyn y tymor i’r 40 carafán sefydlog i fod yn agored trwy’r flwyddyn i bwrpas gwyliau yn unig. Mae’r cais yn ymateb i ofynion cwsmeriaid i gael defnyddio'r garafán am gyfnodau byrrach trwy gydol y flwyddyn.

·         Bydd ymestyn y tymor yn gwella safon cyfleusterau llety twristiaid

·         Mewn ymateb i’r pryder ynglŷn â phwysau ar y Gwasanaeth Iechyd lleol, mae cytundeb gyda’r preswylwyr yn cadarnhau 2 amod sydd yn mynd i’r afael a’r broblem

                                                  i.    Mae’r carafanau ar gyfer defnydd gwyliau yn unig. Ni chaiff ein perchnogion fyw ar y safle yn barhaol . Fel rhan o’r cytundeb blynyddol , rhaid i’r perchennog ddarparu prawf o brif gyfeiriad, yn sgil hyn mae’r perchnogion wedi eu cofrestru gyda'u gwasanaeth iechyd lleol priodol

                                                 ii.    Mae’r maes carafanau eisoes wedi mabwysiadu model parc perchnogion yn unig; golygir fod y carafanau sefydlog i gyd mewn perchnogaeth breifat ac fel rhan o’r cytundeb dim ond y perchnogion a’u teuluoedd agos caiff ddefnyddio'r garafán . Golyga hyn fod llai o ddefnydd ar y carafanau na pe bydden yn gweithredu fel maes carafanau cymysg ble mae carafanau yn cael ei gosod

·           Yn cael eu cydnabod fel maes carafanau teuluol a distaw . Eu cwsmeriaid yn dod yma ar eu gwyliau i gael llonyddwch a thawelwch

·           Bod cynnau tan gwyllt yn erbyn rheolau'r maes carafanau. Y maes carafanau wedi ei leoli ar fferm da byw gyda’r rhan fwyaf o’r carafanwyr yn berchen ci

·           Ni fydd yna ddatblygiad ffisegol ar y safle a all fod yn fygythiad i gynefin ystlumod neu unrhyw anifail neu fywyd gwyllt tebyg

·           Bod y ffordd i’r safle yn cael ei chynnal a’i chadw

·           Bod polisi dwyieithog wedi ei fabwysiadu ar y Parc gyda pharodrwydd i ddefnyddio'r Gymraeg bob amser. Arwydd ‘residents only’ yn arwydd dros dro yn sgil pandemig COVID 19.

 

c)     Darllenodd y Cadeirydd sylwadau ysgrifenedig yr Aelod Lleol :

 

·         Nid yw’r ymgeiswyr yn gofyn am ganiatâd i ychwanegu mwy o garafanau at y 40 sydd ganddynt eisoes ar y tir.

·         Bod y cais wedi ei wrthwynebu gan Gyngor Cymuned Botwnnog oherwydd  amgylchiadau Covid. Teimlant fod y Gwasanaeth Iechyd Lleol o dan straen yn barod a byddai derbyn mwy o bobl ddieithr i ardal Botwnnog yn rhoi mwy o bwysau ar y gwasanaeth.

·         Fel Cynghorydd dros Ward Botwnnog, rwy’n awyddus iawn i gefnogi’r cais cynllunio.

·         Teimlaf fod Aelodau Cyngor Cymuned Botwnnog yn poeni’n ddiangen. O dan yr amgylchiadau presennol mae’r holl feysydd carafanau ym Mhen Llyn ar gau. Ni fyddai’r ffaith fod y maes carafanau hwn yn cael bod yn agored am bedwar mis ychwanegol ac yn rhoi mwy o straen ar y feddygfa oherwydd y covid yn bodoli o gwbl.

·         Y rheswm pennaf dros gefnogi’r cais yw’r ffaith mai teulu Cymraeg, sydd wedi eu geni a’u magu ym Motwnnog sy’n berchen ar y safle. Mae’n bleser gweld pobl leol yn llwyddo.

·         Rwyf wedi byw yn ardal Botwnnog erioed - rwyf wedi dod i adnabod llawer o berchnogion y carafanau yn Gelliwig. Mae llawer ohonynt yn Gymry Cymraeg neu gyda pherthnasau ym Mhen Llyn. Yn eu gweld yn aml yn siopa’n lleol, yn cymdeithasu yn nhafarn Tŷ Newydd Sarn yn rheolaidd ac yn cefnogi’r busnesau a’r economi leol yn hytrach na chario eu neges yma o’r trefi.

·         Braf iawn yw gweld y plant yn dod i’r pentref i gyd chwarae gyda phlant bach Botwnnog.

·         Un broblem fawr ym Mhen Llyn yw’r ffaith fod pobl ifanc lleol yn methu prynu tai sydd ar y farchnad gan nad yw eu cyflogau’n ddigon uchel i dalu amdanynt. Mae’n llawer gwell gennyf weld carafanwyr hapus yn ardal Botwnnog - pobl nad oes ganddynt ddiddordeb mewn prynu ein tai prin!

·         Os bydd y cais yn llwyddiannus, dymunwn weld amod nad oes hawl o gwbl gan y carafanwyr i adnabod eu carafán fel eu prif breswyl - byddai hyn yn hollol annerbyniol gan y byddent yn cael byw yma drwy’r amser ac yn sicr wedyn mi fyddai straen ar y feddygfa. Ni fyddent chwaith yn talu treth Cyngor.

·         Ni welaf unrhyw reswm dros beidio cefnogi a chymeradwyo’r cais hwn a dymunaf bob llwyddiant iddynt yn eu hymgais

 

ch)  Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

           

d)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·      Bod hwn yn faes carafanau sydd yn cael ei reoli yn gyfrifol

·     Bod y maes carafanau bellach yn rhan o’r tirlun

·     Croesawu’r mesur sydd gan yr ymgeisydd i berchnogion carafanau / ymwelwyr gyflwyno tystiolaeth eu bod wedi cofrestru gyda meddyg yn eu prif gyfeiriad - yn ystyriaeth i bob maes carafanau ei fabwysiadu

·     Anodd fyddai cyfiawnhau gwrthod – TWR4 yn gefnogol i geisiadau o’r fath

 

dd)  Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gofynion y Canllaw Cynllunio Atodol: Llety Gwyliau  (2011) i ddefnyddio amodau perthnasol i sicrhau defnydd (cadw cofrestr) ac i‘r awgrym bod angen i swyddogion o’r Cyngor ymweld a’r safle i weld y gofrestr, nodwyd mai arf gorfodaeth oedd y gofyn i gadw cofrestr sydd yn rhoi hawl i ymchwilio i’r defnydd. Mewn ymateb i sylw pellach y gellid gofyn i’r ymgeisydd anfon copi o’r gofrestr at swyddogion y Cyngor, nodwyd bod hyn yn bosib, ond mai cadw cofrestr ar yr eiddo oedd y broses arferol. Ategodd y Cyfreithiwr bod y broses yn unol â pholisi gorfodaeth y Cyngor.

 

Gwnaed sylw, er yn cefnogi’r cais, bod angen adolygu’r egwyddor o ganiatáu estyniadau i ymestyn y tymor gwyliau ar gyfer safleoedd carafanau sefydlog. Ystyriwyd bod y drefn yn faich ar wasanaethau ac adnoddau lleol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a’r rhesymeg dros gyflwyno’r cais i bwyllgor o ystyried  nad oedd sail i wrthod y cais, nodwyd bod Polisi TWR4 yn gefnogol i gynigion o ymestyn y tymor gwyliau ar gyfer safleoedd sefydledig ac anodd fyddai cyflwyno tystiolaeth fyddai’n cyfiawnhau gwrthod. Yn unol a Chynllun Dirprwyo Cynllunio Gwynedd bydd ‘unrhyw gais cynllunio am ddatblygiadau ar safle sydd yn 0.5 hectar neu fwy o ran maint’ yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio am benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu y cais

 

Amodau:

 

1.         Defnydd gwyliau a chadw cofrestr

 

Dogfennau ategol: