Cyflwynwyd gan:Cyng. Craig ab Iago
Penderfyniad:
Cymeradwywyd yr achos busnes dros fuddsoddi £15.4m i brynu
oddeutu 100 o dai i’w gosod i drigolion Gwynedd ar rent fforddiadwy gyda phob
pryniant i ddangos ei hyfywdra ariannol ei hun ar sail achos wrth achos.
Cytunwyd fod y Pennaeth Tai ac Eiddo mewn ymgynghoriad a’r
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Cyllid yn adolygu'r trefniadau
statudol ar gyfer gweithredu'r Cynllun yn dilyn cyhoeddi Canllawiau Diwygiedig
ar Gyfrif Refeniw Tai gan y Llywodraeth ac adrodd yn ôl i’r Cabinet petai angen
penderfyniadau ychwanegol.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab
Iago.
PENDERFYNIAD
Cymeradwywyd yr achos busnes dros fuddsoddi £15.4m i brynu
oddeutu 100 o dai i’w gosod i drigolion Gwynedd ar rent fforddiadwy gyda phob
pryniant i ddangos ei hyfywdra ariannol ei hun ar sail achos wrth achos.
Cytunwyd fod y Pennaeth Tai ac Eiddo mewn ymgynghoriad a’r
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Cyllid yn adolygu'r trefniadau
statudol ar gyfer gweithredu'r Cynllun yn dilyn cyhoeddi Canllawiau Diwygiedig
ar Gyfrif Refeniw Tai gan y Llywodraeth ac adrodd yn ôl i’r Cabinet petai angen
penderfyniadau ychwanegol.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Gwynedd
yng nghanol argyfwng tai ar hyn o bryd. Mynegwyd fod y Cyngor wedi bod yn
ceisio trio codi ymwybyddiaeth am y broblem a gofyn i’r ddwy Lywodraeth
weithredu. Nodwyd fod yr adran yn ymgeisio i ddod o hyd i atebion o fewn eu
gallu ac i weithredu. Amlygwyd fod y cynllun hwn yn rhan o’r Cynllun Gweithredu
Tai a'i fod yn enghraifft o beth mae’r adran yn ceisio ei wneud i gynorthwyo
trigolion. Mynegwyd pleser o gyflwyno'r cynllun gan ei fod yn bositif ac
arloesol ac yn dod o hyd i ffyrdd i gartrefu trigolion.
Ychwanegodd y Pennaeth Tai ac Eiddo fod y
cynllun yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai.
Amlygwyd pwrpas y cynllun o brynu cant o dai i’w uwchraddio a’i gosod
i’w trigolion. Nodwyd fod y buddsoddiad i’r Cynllun Gweithredu Tai oddeutu £77m
a nodwyd y cyfuniad o ffynonellau ariannu. Mynegwyd fod y Cabinet wedi amlygu eu
huchelgais ar gyfer y cynllun drwy nodi eu hawydd i gynllun benthyca ar gyfer y cynllun hwn yn
unol â chynllun busnes cadarn. Nodwyd fod yr adroddiad yn nodi’r costau a'i
ddull ariannu ac yn dangos ei fod yn
gynllun hyfyw. Esboniwyd fod risgiau yn cael eu hamlygu ond y bydd achos
busnes i bob pryniant unigol yn lleihau’r risgiau, ac os bydd risgiau yn rhy
uchel ni fydd y pryniant unigol yn cael ei wneud.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Diolchwyd am yr
adroddiad a amlygwyd balchder o droi’r cloc yn ôl a’r Cyngor yn buddsoddi
unwaith eto ar dai i bobl Gwynedd. Holwyd os oes gwahaniaeth rhwng tai ar y
farchnad agored a cyn dai cymdeithasol. Mynegwyd ei bod yn anodd prynu cyn dai
cymdeithasol ac felly angen bod yn weithredol i gael tai cymdeithasol yn ôl o
fewn y Cyngor.
¾
Croesawyd
y cynllun gan holi os y bydd modd teilwra y cynllun ar gyfer teuluoedd penodol
. Nodwyd fod angen am dai rhent o fewn y sir ac fod angen rhoi amrediad o
dai gyfarch rhai sydd angen cymorth ond
bydd yn rhaiod blaenoriaethu yn amlwg.
¾
Holwyd
os y bydd y cynllun yn llwyddiant os y bydd modd ehangu a prynu mwy na 100 o
dai. Mynegwyd fod modd ehangu y cynllun os yn gweithio yn rhwydd ac y byddant
yn dod yn ôl at y Cabinet i nodi os bydd achos dros newid i nifer y tai.
¾
Pwysleisiwyd
fod elfen o risg i’r cynllun, ond ar hyn o bryd fod y Cyngor yn cymryd gogwydd
mentrus i greu cyfle i bobl Gwynedd. Pwysleisiwyd y buasai modd menthyg mwy o
arian os yn gweithio, ac i ail ymweld os yw’n llwyddiant ond byddai angen profi
hynny dros gyfnod estynedig.
Awdur:Dafydd Gibbard
Dogfennau ategol: