Cyflwynwyd gan:Cyng. Gareth Griffith
Penderfyniad:
Mabwysiadwyd yr addasiadau i’r Strategaeth Barcio drwy newid
trefniadau rheoli parcio a gweithredu’r strwythur ffioedd parcio yng Ngwynedd
fel bod modd ei weithredu o’r 1 Ebrill 2021. Cytunwyd addasiad hwyr ychwanegol
i’r adroddiad, yn cysoni oriau gorfodi Meysydd Parcio Band 1 i fod yn
weithredol rhwng yr oriau 10am a 4:30pm, ac i gadw’r lefel incwm dan adolygiad
yn ystod 2021/22, gyda golwg ar gynorthwyo’r Adran Amgylchedd pe bai’r gwir
incwm o ffioedd parcio yn is na’r targed yn y gyllideb oherwydd yr addasiad
hwyr yma. Awdurdodwyd y Pennaeth Amgylchedd i gymryd y camau statudol
angenrheidiol i roi’r gyfundrefn ffioedd diwygiedig ar waith erbyn 1 Ebrill
2021.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth
Griffith.
PENDERFYNIAD
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn
eitem sydd wedi cael ei drafod ers amser ond o ganlyniad i’r pandemig ei fod wedi ei ddal yn ôl. Mynegwyd nad yw
polisïau Cyngor heb newid ers rhai
blynyddoedd a bod y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi wedi gwneud penderfyniad
i greu tasglu i edrych ar drefniadau’r sir. Amlygwyd mai ffrwyth gwaith y
tasglu hwn yw’r adroddiad.
Ychwanegodd Pennaeth yr Adran Amgylchedd fod
y strategaeth bresennol wedi ei fabwysiadau yn ôl yn 2015. Esboniwyd fod nifer
o bethau newid ers hynny megis cynnydd mewn cerbydau trydan, llai o ddefnydd o
arian parod ynghyd a chynnydd mewn nifer ddigwyddiadau awyr agored. Tynnwyd
sylw yn ogystal at y cynnydd a welwyd yn ystod yr haf y llynedd mewn nifer o
“motor homes”. Pwysleisiwyd fod y rhain wedi amlygu
mwy o heriau o ran parcio.
Mynegwyd fod y Cabinet a’r Cyngor Llawn wedi
cytuno i gynyddu incwm yn maes fel rhan o’r cynllun arbedion. Amlygwyd gyda
chynnydd mewn chwyddiant ynghyd a’r targed arbedion y bydd angen cynnydd incwm
o tua £400k. Esboniwyd mai briff grŵp tasg oedd ceisio cyfarch y cynnydd
mewn incwm ond cadw’r effaith ar drigolion lleol i isafswm. Pwysleisiwyd fod y
gwaith a wnaethpwyd gan y Grŵp Tasg wedi bod yn hynod drylwyr.
Amlygwyd fod y grŵp tasg wedi amlygu
fod y drefn bandio meysydd parcio yn rhy gymhleth a'i
fod wedi ei symleiddio o fod yn 5 band i 3.
Nodwyd y buasai’r grŵp tasg wedi gallu codi pris 10% ar draws yr
holl leoliad ond fod y grŵp tasg wedi penderfynu edrych ar y maes yn
wahanol ac amlinellwyd y prif newidiadau.
Nodwyd yr angen i sicrhau fod
pris parcio arhosiad byr yn y prif ganolfannau yn aros yr un fath, ond fod yr
oriau rheolaeth yn cael ei addasu ym Mangor i 9am tan 5pm. Mynegwyd fod pris
arhosiad hir yn cael ei gynyddu yn benodol mewn ffioedd meysydd parcio yn band
2 a bod cynnydd mewn tocynnau tymor yn cydfynd gyda
chwyddiant.
Amlygwyd yr opsiynau am barcio dros gyfnod y
Nadolig ac yr awydd i gadw trefniadau parcio am ddim er mwyn cefnogi busnesau.
Nodwyd y bu ystyriaeth i breswylwyr ac unigolion a Thocyn Parcio Glas a bod
penderfyniad i’w gadw fel ac y mae ar hyn o bryd. Mynegwyd fod cyfnod yr haf y
llynedd wedi amlygu’r angen i gynyddu adnoddau gorfodaeth parcio ac i gryfhau’r
tîm. Nodwyd fod y newidiadau hyn nid yn unig yn cynyddu incwm ond i adnabod y
newidiadau sydd wedi amlygu dros 6 mlynedd a drwy wneud yr addasiadau yn diwallu anghenion trigolion ac ymwelwyr.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Amlygwyd
pwysigrwydd i gael y Pwyllgor Craffu yn rhan o greu’r penderfyniad ac edrych ar
yr effaith ar yr economi yn lleol.
¾
Nodwyd
diolch am waith y grŵp tasg ond nodwyd o ran newidiadau i Band 1 efallai y
bydd budd lleol o’r gadw 10am – 4:30pm ac y bydd ei gadw fel ac y mai yn cael
ei werthfawrogi gan y trigolion.
¾
O ran
‘Motor Homes’ holwyd sut oedd am reoli ac os oes ystyriaeth wedi ei wneud i
greu safleoedd penodol, ac pe bai modd creu incwm drwy wneud hyn. Mynegwyd fod
llawer o ystyriaethau ac angen edrych ar
drefniadau hir dymor. Amlygwyd dros yr haf fod nifer o gerbydau wedi parcio
mewn meysydd parcio dros nos sydd wedi creu llawer o broblemau. Nodwyd angen i
ymchwilio i mewn i’r maes ac i ddod i ganlyniad sut i’w reoli yn gyfrifol.
¾
Diolchwyd
am y gwaith ac yr ymgais i’w symleiddio gan yr aelodau craffu. Mynegwyd pryder
am y cynnydd yn Band 2 a 3 ac yr effaith y gellir bod ar fusnesau. Yn ogystal
nodwyd o ran parcio trigolion fod efallai angen ail edrych ar ba rannau o’r sir
sydd yn rhan o’r cynllun.
¾
Amlygwyd
pryder am godi cost tocyn tymor £15 gan ei fod am daro trigolion, a holwyd os
oes modd defnyddio’r incwm i ail fuddsoddi yn y meysydd parcio. Nodwyd fod gan
yr adran gyllideb ar gyfer buddsoddi yn y meysydd parcio a bod rhai Cynghorau
Tref a Chymuned wedi bod yn rhan o’r cynllun 10% ble maent yn codi 10% yn uwch
mewn rhai meysydd parcio ac yn derbyn y canran i ail-fuddsoddi yn eu cymunedau.
¾
Cytunwyd i addasiad hwyr ychwanegol i’r
adroddiad, yn cysoni oriau gorfodi Meysydd Parcio Band 1 i fod yn weithredol
rhwng yr oriau 10am a 4:30pm, ac i gadw’r lefel incwm dan adolygiad yn ystod
2021/22, gyda golwg ar gynorthwyo’r Adran Amgylchedd pe bai’r gwir incwm o
ffioedd parcio yn is na’r targed yn y gyllideb o ganlyniad i’r addasiad.
Awdur:Dafydd Wyn Williams
Dogfennau ategol: