Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams
Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm).
COFNODION:
Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg yn:-
·
Manylu
ar berfformiad blynyddoedd addysgu 2018-19 a 2019-20;
·
Crynhoi
ymateb yr Adran Addysg i’r Pandemig Covid-19;
·
Amlinellu
Blaenoriaethau’r Adran Addysg ar gyfer blwyddyn addysgu 2020-21.
Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun, gan
ddiolch i’r penaethiaid ac i staff yr ysgolion am eu holl waith caled a’u
hymrwymiad yn ystod cyfnod y pandemig, fu’n bosib’ gyda chefnogaeth yr Adran
Addysg, GwE, y llywodraethwyr a’r rhieni.
Ychwanegodd ei bod yn bwysig nodi, yng nghyd-destun lles, bod yna
gydweithio agos wedi bod gydag Adran Plant y Cyngor yn ogystal, heb anghofio
hefyd am y ffordd yr oedd y mwyafrif o blant a phobl ifanc wedi dygymod â’r
sefyllfa.
Ategodd y Pennaeth Addysg y sylwadau hyn
drwy nodi bod y cyfnod wedi bod yn her fel na welwyd o’r blaen, ac y bu’n rhaid
i’r Adran a’r ysgolion ymateb yn dra gwahanol i sicrhau parhad addysg i’r
plant, tra ar yr un pryd yn sicrhau bod sylw priodol yn cael ei roi i les y
dysgwyr a’r staff yn yr ysgolion. Nododd
ymhellach:-
·
Bod llythyr Prif Arolygydd Estyn at Brif Weithredwr
Cyngor Gwynedd (a anfonwyd ar wahân at aelodau’r pwyllgor) yn amlygu barn
gadarnhaol Estyn ynglŷn ag ymateb yr Adran wrth iddynt gefnogi ysgolion ac
unedau cyfeirio yn ystod y cyfnod clo cyntaf, a hefyd o fis Medi ymlaen. Ychwanegodd fod ymateb yr ysgolion, gyda
chefnogaeth yr Adran a GwE, yn amlwg yn y llythyr, a diolchodd o waelod calon i
bawb am y ffordd y bu iddynt ymdopi â’r newidiadau er mwyn parhau gydag addysg
a lles plant.
·
Bod
y cyfnod Covid wedi ceisio gosod cyfyngiadau ar addysg, ond bod y plant a’r
bobl ifanc a’u gwydnwch a’u brwdfrydedd tuag at barhad addysg wedi profi nad yw
addysg yn adnabod unrhyw ffiniau.
·
Bod
y cyfnod hefyd wedi gweld cryfhau pellach o ran y cydweithio rhanbarthol sydd
wedi digwydd mewn sawl maes ar draws chwe awdurdod y Gogledd, a gyda GwE yn
ogystal.
·
Y
ceisiwyd ar bob achlysur i symleiddio arweiniad Llywodraeth Cymru i’r ysgolion
fel ei fod yn briodol yng nghyd-destun asesiadau risg, mesurau lliniaru yn sgil
Covid, ayb.
·
Y
cynhaliwyd cyfarfodydd cyson gyda’r undebau hefyd, yn lleol ac yn rhanbarthol,
i’w diweddaru ar ein cynlluniau, a chafwyd cydsyniad a chefnogaeth yr undebau
i’r gwaith o gefnogi, nid yn unig y dysgwyr, ond y gweithlu addysg hefyd.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chyflwyno sylwadau. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
·
Ategwyd
diolchiadau’r Aelod Cabinet a’r Pennaeth Addysg i benaethiaid, staff a
llywodraethwyr yr ysgolion am ymateb mor arwrol i’r her enfawr oedd yn eu
hwynebu.
·
Croesawyd
y ffaith bod cynifer o chromebooks wedi’u dosbarthu i deuluoedd oedd heb
fynediad at dechnoleg.
·
Nodwyd
ei bod yn galonogol gweld faint o waith oedd wedi digwydd, a’i bod yn amlwg o
lythyr Estyn a chyflwyniad ac adroddiad y Pennaeth Addysg bod ein gwaith
partneriaethol yn cael ei gydnabod fel cryfder.
·
Nodwyd
bod llythyr Estyn hefyd yn amlygu bod gwaith Gwynedd yn flaengar drwy Gymru i gyd,
a bod hyn yn bwynt pwysig i’w gyfleu i’r athrawon.
Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau,
nodwyd:-
·
O
ran yr ymgysylltu gydag addysg o bell, roedd yr ysgolion yn cadw golwg i ba
raddau roedd y plant yn ymwneud â’r profiad ysgol, ac roedd trefniadau gwydn a
thrylwyr yn eu lle i sicrhau bod ysgolion yn cynnig arweiniad ac anogaeth
reolaidd i blant sy’n cael anawsterau, a’u teuluoedd. Hefyd, bu’r swyddogion lles yn cefnogi’r
ysgolion drwy wneud ymholiadau stepen drws dros y cyfnod clo cyntaf, mewn ymgais
i gynyddu’r ymgysylltiad gyda theuluoedd.
Yn ystod y cyfnod clo presennol, roedd llai o gyfeiriadau yn dod i’r
swyddogion lles, gan fod yr ysgolion yn gallu gweld y plant yn fyw ar y sgrin,
ond roedd yr achosion oedd yn cael eu cyfeirio atynt yn rhai fyddai angen mwy o
sylw.
·
Y
byddem yn debygol o weld rhai plant ychwanegol yn dod i’r categori ADY ar y
lefelau isaf o ran angen. Byddai’r grant
Carlam yn targedu’r plant yma oedd wedi disgyn ar ei hôl hi, ac angen yr hwb
ychwanegol oherwydd y cyfnod.
·
O
ran ymyrraeth gynnar, ceisiwyd parhau drwy gydol y cyfnod gyda’r trefniadau o
ran y cyfeirio, y cyswllt gyda’r ysgolion ac adnabod y plant mor fuan â
phosib’. Gan hynny, ni fu unrhyw oedi o
ran unrhyw drefn asesu statudol, ayb.
Gwelwyd yn ystod tymor yr Hydref nad oedd y naid mewn cyfeiriadau mor
sylweddol â’r disgwyl, a chredid bod hynny oherwydd y cyswllt gyda’r ysgolion
yn ystod tymhorau’r Gwanwyn a’r Haf a’r gwahoddiad i blant bregus fynychu’r
ysgol yn ystod y cyfnod clo.
·
Bod yr Adran wedi derbyn comisiwn i gydlynu gwaith
trawsadrannol ac amlasiantaethol i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â gagendor
lles a chyrhaeddiad ein holl blant a phobl ifanc, gan gynnwys plant ag
anghenion ADY a phlant sy’n agored i becynnau cynhwysiad, fel bod yr ymgysylltu
yn briodol a chywir, a’r gorau y gall fod.
Adnabuwyd tair ffrwd gwaith yn y maes yma, ac roedd hynny’n cynnwys dwyn
ynghyd yr holl waith oedd yn digwydd ym meysydd addysg, yr economi, plant,
iechyd cyhoeddus a GwE, er mwyn gweld sut y gellid lleihau’r gagendor ymhellach. Y ffrydiau a adnabuwyd oedd y ffrydiau
blynyddoedd cynnar, (gan fod tystiolaeth yn dangos po fwyaf yw cyfraniad yr
Adran a’r ysgolion i’r plant ieuengaf, gorau’n y byd maent yn gallu manteisio
ar eu profiadau addysgol wrth ddilyn eu gyrfa drwy’r ysgol), a’r maes ôl-16,
(er mwyn sicrhau nad yw’r cyfnod yma’n llesteirio eu gallu i symud ymlaen i’w
camau nesaf yn eu gyrfa). Comisiynwyd
gwaith i edrych ar waelodlin cyrhaeddiad er mwyn sicrhau data clir yn dangos
beth yw’r sefyllfa, a thros yr wythnosau nesaf byddai’r Adran yn cydlynu’r
gwaith o roi rhaglen waith gref yn ei lle i ymateb, hyd yn oed yn fwy, i’r
anghenion yma, fel y gellid adrodd i’r Bwrdd Cefnogi Llesiant Pobl ar y gwaith
y gallai’r Cyngor a’i bartneriaid ei wneud i gadw llygaid ar y gagendor, a’i
leihau gymaint â phosib’.
·
Bod dyletswydd ar y Cyngor, fel cyflogwr cyfrifol, i
gydnabod bod y cyfnod wedi creu straen mawr ar y gweithlu, ac i gyfarch
hynny. Roedd gwaith rhanbarthol wedi
digwydd i gynnig sesiynau lles ar gyfer y staff, ac ers cychwyn y cyfnod clo,
bu’r Adran Addysg, gyda chymorth y Gwasanaeth Adnoddau Dynol, yn rhagweithiol
yn cynnig sesiynau lles i’r holl staff.
Roedd systemau yn eu lle i alluogi i staff adrodd pryderon, ac roedd y gweithlu
wedi ymateb yn gadarnhaol iawn i’r sesiynau lles a ddarparwyd ar eu cyfer. Gan y bu’n rhaid i staff weithio ar rota yn
ystod gwyliau’r Pasg y llynedd er mwyn sicrhau parhad y ddarpariaeth ofal,
trefnwyd iddynt gael pythefnos o wyliau o fewn ffenestr bedair wythnos. Estynnwyd gwahoddiad yn unigol i bob athro
llanw gysylltu gyda’r Adran os oeddent wedi colli cyflogaeth oherwydd y
sefyllfa, ac roedd gan yr Adran gynlluniau a gweithdrefnau priodol yn eu lle er
mwyn digolledu’r bobl yma am y gwaith y byddent yn debygol o fod wedi’i gael mewn
sefyllfa fwy arferol.
·
O
ran y sefyllfa TG, rhoddwyd system mewn lle ar gyfer brocera dyfeisiadau o
ysgolion yn ystod y cyfnod clo cyntaf.
Roedd gan yr Adran stoc o chromebooks yn y sector gynradd, a llai
ohonynt yn yr uwchradd. Yn y don gyntaf,
rhannwyd ychydig dros 1,200 o ddyfeisiadau ar gyfer dysgwyr, ac roedd hynny’n
pontio’r cynradd a’r uwchradd. Roedd mwy
o ddyfeisiadau pen desg yn y sector uwchradd, a mwy o liniaduron yn y sector
cynradd, a bu’r cynradd yn benthyg i’r uwchradd, er mwyn sicrhau bod
dyfeisiadau ar gael i bawb oedd eu hangen.
Yn ystod y cyfnod clo diweddaraf, roedd mwy o ffocws ar addysg (o
gymharu â lles yn ystod y cyfnod clo cyntaf) ac roedd y don yma wedi bod yn
ychydig haws i’r Adran. Yn ystod tymor
yr Haf, fel rhan o’r Strategaeth Ddigidol, dosbarthwyd 2,700 o chromebooks
newydd, oedd yn darparu digon o stoc i’r cynradd ei rannu allan, gyda mwy o
stoc ar gael wedyn i’w rannu gyda’r uwchradd maes o law. Roedd y gwaith brocera’n parhau, a chynyddwyd
y niferoedd dros 300-400 yn ystod y mis diwethaf.
·
Bod
yr athrawon angen y dyfeisiadau a’r rhwydweithiau gorau posib’ i fedru dysgu o
bell, ond nid oedd hynny’n gweithio bob tro.
Dyma pam bod angen strategaeth ddysgu ddigidol. Roedd yn hysbys cyn y pandemig bod yna
wendidau, ond roedd y sefyllfa dros y flwyddyn ddiwethaf wedi amlygu hynny
fwy. Roedd yr Adran yn flaengar wedi
rhoi’r strategaeth mewn lle, ond yn rhwystredig bod Cofid wedi dod, ac wedi
arafu argaeledd dyfeisiadau.
·
Yn
ogystal â’r chromebooks a ddosbarthwyd eisoes, archebwyd dros 3,500 o
liniaduron, un i bob athro yn y sir, ac un i bob disgybl Blwyddyn 10 ac 11 yn y
sir. ‘Roedd 2,500 o chromebooks eraill
ar y ffordd hefyd, ynghyd â dros 1,000 o ipads.
·
O ran y gwahanol blatfformau, roedd Hwb yn ganolog i’r
strategaeth. Roedd angen i’r athrawon
gael yr hyblygrwydd i ddefnyddio’r platfform oedd yn gweddu orau i’r plant, yn
eu tyb hwy, yn ôl oedran a’u gallu a’u sgiliau TG. Roedd Hwb yn caniatáu iddynt wneud hynny, ond
nid oedd yn cyfyngu athrawon i fod yn defnyddio un meddalwedd dros y
llall. Roedd Hwb yn esblygu’n barhaus
hefyd. Gan hynny, ceisid annog yr
ysgolion i ddefnyddio’r meddalwedd oedd ar gael yn Hwb, a pheidio dargyfeirio
oddi ar hynny.
·
Bod
yr adroddiad cenedlaethol a ddarparwyd gan Estyn yn nodi bod y partneriaethau
ar draws y Gogledd yn gryf iawn. Nid
oedd yn briodol i gymharu gyda gweddill Cymru, ond roedd digon yn yr adroddiad
oedd yn peintio darlun eithaf clir.
Ar ddiwedd y cwestiynu, nododd y Pennaeth
Addysg ei ddymuniad i dynnu sylw at yr adran ynglŷn â’r Gymraeg yn yr
adroddiad. Nododd:-
·
Bod
y cameo o Adroddiad Thematig Estyn ar waith yr Awdurdod Lleol i gefnogi
hwyrddyfodiaid yn amlygu sut y llwyddodd yr Awdurdod i gydweithio gyda GwE a
staff y canolfannau iaith i ddarparu’n wahanol yn ystod y cyfnod hwn, gan
gyrraedd mwy o blant.
·
Bod cwestiynau wedi codi’n ddiweddar ynghylch i ba
raddau y gall rhieni di-gymraeg gefnogi eu plant. Roedd Swyddog Addysg Ardal Arfon a Swyddog
Addysg Uwchradd Gwynedd wedi bod mewn cyfarfod rhanbarthol â Swyddogion GwE yn
ddiweddar lle cododd hyn, ac o ganlyniad, bu penderfyniad i gronni’r arferion
gorau ar draws siroedd y Gogledd er mwyn rhoi pecyn at ei gilydd i gefnogi
gofalwyr di-gymraeg i fod yn gwneud eu gorau i gefnogi addysg eu plant.
Dogfennau ategol: