Ystyried adroddiad
ar yr uchod (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynwyd – adroddiad Arweinwyr Craidd GwE
yn manylu ar sut roedd y consortiwm rhanbarthol, mewn partneriaeth â’r
Awdurdodau Lleol, wedi datblygu ac addasu er mwyn cefnogi ysgolion yn ystod y
Pandemig Covid-19.
Derbyniodd yr aelodau gyflwyniad sleidiau manwl
gan swyddogion GwE. Manylwyd ar:-
·
Gynnwys
y prif adroddiad
·
Y
gwaith i gefnogi’r Gymraeg
·
Yr
adnoddau ar Ganolfan Cefnogaeth GwE
·
Adnoddau
dysgu ac addysgu o bell
·
Dysgu
digidol
·
Dysgu
cyfunol
·
Dysgu
Carlam
·
Llyfrgell adnoddau ysgol i ysgol
·
Cyfleoedd
dysgu proffesiynol
·
Yr
hyn ddigwyddodd o ran y sectorau cynradd, uwchradd ac arbennig yn lleol
·
Y
camau nesaf
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am yr adroddiad
cynhwysfawr, oedd yn cyflwyno llawer o wybodaeth am waith GwE i gefnogi’r
ysgolion oedd wedi gorfod addasu’n llwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chyflwyno sylwadau. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
·
Nodwyd
bod yr adroddiad wedi rhoi darlun clir i’r aelodau o waith diweddar GwE o ran
cefnogi ysgolion, ac argymhellwyd y dylid pasio’r adroddiad ymlaen i holl
aelodau’r Cyngor.
Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau,
nodwyd:-
·
Y derbynnid bod yna agweddau cefnogi a monitro i waith
GwE. Cynhaliwyd trafodaethau gyda’r
penaethiaid o ran eu darpariaeth, ond yn amlwg roedd wedi bod yn fwy o her i
arfarnu ansawdd yr hyn oedd wedi bod yn digwydd, oherwydd yr amgylchiadau. Byddai’r rhaglen waith ar gyfer y ddau dymor
nesaf yn rhoi sylw i hynny, a gobeithid gwneud hynny ar y cyd â’r ysgolion, fel
y gellid asesu ansawdd y ddarpariaeth a chynnig cefnogaeth sydd wedi’i deilwrio
ar eu cyfer. Roedd hyn wedi’i gytuno ar
y cyd rhwng y chwe chyfarwyddwr yn y Gogledd o ran y ffordd ymlaen.
·
Y
cytunid bod y sefyllfa’n hynod rwystredig i rai rheini, yn enwedig os nad ydynt
yn y byd addysg. Gwelwyd enghreifftiau
arbennig o effeithiol o ganllawiau i rieni gan ysgolion, ac roedd GwE hefyd
wedi ceisio cefnogi hynny drwy lunio darpariaeth a chanllawiau cyffredinol i’r
ysgolion fedru eu defnyddio a’u haddasu yn ôl eu dymuniad.
Dogfennau ategol: