Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas
Penderfyniad:
Cytunwyd
i argymell i’r Cyngor Llawn ar y 4 Mawrth y dylid:
Nodwyd
byddai’r ffigyrau yn argymhelliad 1 uchod yn newid yn unol â’r ffigyrau yn
Atodiad 6 o’r adroddiad pe bai’r Cyngor llawn yn cynyddu’r Premiwm Treth Cyngor
o 50% i 100%.
COFNODION:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan
Thomas
PENDERFYNIAD
Cytunwyd
i argymell i’r Cyngor Llawn ar y 4 Mawrth y dylid:
Nodwyd
byddai’r ffigyrau yn argymhelliad 1 uchod yn newid yn unol â’r ffigyrau yn
Atodiad 6 o’r adroddiad pe bai’r Cyngor llawn yn cynyddu’r Premiwm Treth Cyngor
o 50% i 100%.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y
Cyngor eleni wedi derbyn cynnydd grant sydd yn cyfarch chwyddiant ac yn setliad
mwy teg na fu mewn blynyddoedd cyn 2020/21. Er hyn, mynegwyd gan fod angen
ariannu cynnydd anorfod mewn cost gwasanaethu craidd, rhaid codi’r Dreth 3.7%.
Pwysleisiwyd fod codi’r dreth yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn gwasanaethau
hanfodol i drigolion Gwynedd gan y bydd yn anymarferol i weithredu cynlluniau
arbedion ychwanegol eleni.
Tynnwyd sylw fod mwyafrif o aelodau’r Cyngor
wedi mynychu cyfres o weithdai ymgynghori, a bu trafodaeth gadarnhaol yn y
Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu. Nodwyd erbyn 2021/22 y bydd angen cynyddu
gwariant i £10.6m er mwyn sefyll yn llonydd, gan gynnwys £3.6m i gwrdd a
phwysau gyllidebau’r gwasanaethau. Esboniwyd i gyfarch y bwlch ariannol, y
gellid cynaeafu £725k yn 2021/22 o gynlluniau arbedion cytunedig, ond y bydd
angen cynyddu’r Dreth Cyngor 3.7%.
Ategwyd fod ffigyrau swyddogol Llywodraeth
Cymru yn dangos fod y Cyngor yn derbyn cynnydd grant o £6.4m erbyn y flwyddyn
nesaf sy’n gynnydd o 3.4%. Esboniwyd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r
setliad grant terfynol ar yr 2il Mawrth, ynghyd a chyllideb terfynol
Llywodraeth Cymru. Tywyswyd drwy’r gwariant refeniw gan amlygu fod yr
amcangyfrif o chwyddiant cyflogau yn £3.5m, er fod dyhead Canghellor
Llywodraeth y DU i rewi cyflogau, nodwyd y bydd cynnydd tal o £250 pro rata i staff ar gyflogau
£24,000 neu is ynghyd â darpariaeth darbodus i holl staff y Cyngor. Amlygwyd yn
ogystal y bydd cynnydd tal o 3.1% i athrawon ysgolion Gwynedd am y cyfnod
Ebrill – Awst 2021.
Mynegwyd fod chwyddiant arall yn £2.6m yn
cynnwys darpariaeth ar gyfer effaith y ‘cyflog byw’, ynghyd a chynnydd
chwyddiant ar gyllidebau tanwydd ac ynni
a chynnydd mewn prisiau yn dilyn ail-dendro. Pwysleisiwyd fod pwysau ar
wasanaethau ac argymhellwyd cymeradwyo gwerth £3.59m o geisiadau cyflwynwyd gan
adrannau am adnoddau parhaol ychwanegol. Nodwyd disgwylir bydd cyfanswm y
cymorth gan y Llywodraeth yn sgil argyfwng Covid19 oddeutu £20m erbyn diwedd
2020/21 a bod rhagdybiaeth fod y Llywodraeth am barhau i ddigolledu am gostau
ychwanegol a cholledion incwm yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Tynnwyd sylw at benderfyniadau’r Cabinet ar
26 Ionawr 2021 i ohirio neu dileu rhai arbedion hanesyddol nad oedd modd i’w
gwireddu, gan amlygu y bydd cyfanswm net o £725k o arbedion i’w defnyddio i
leihau bwlch ariannu cyllideb 2020/21.
Er mwyn sefydlu’r gyllideb nodwyd y bydd
angen cyfarch bwlch o £77m drwy godi’r Dreth Cyngor o 3.7%. Pwysleisiwyd fod y
dewis rhwng cynnal gwasanaethau a codi’r trethi yn un anodd, ond nodwyd fod
cyfartaledd o gynnydd treth yr awdurdodau lleol ar draws Cymru yn debygol o fod
tua 4.1%.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Amlygwyd
fod bid Addysg o ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd, a bod y Llywodraeth wedi
nodi byddai’n gost niwtral, ond amlygwyd fod risgiau o ganlyniad i’r
ddeddfwriaeth sydd angen eu hariannu.
¾
Nodwyd
nad oedd neb yn hoff o godi trethi, ond fod angen i’r arian fod ar gael i
gefnogi trigolion. Nodwyd fydd yr Adran Gyllid yn gydymdeimladol gyda
thrigolion, gan eu cyfeirio am gymorth drwy fudd-daliadau neu amser i dalu.
¾
Diolchwyd
i’r swyddogion am eu gwaith ac am fewnbwn yr aelodau.
Awdur:Dafydd Edwards
Dogfennau ategol: