Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas

Penderfyniad:

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ym mis Mawrth fod Cyngor Gwynedd:

  • Yn caniatáu  dim disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
  • Yn caniatáu dim disgownt ac yn codi premiwm o 100% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
  • yn caniatáu dim disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn codi premiwm 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas  

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor llawn ym mis Mawrth fod Cyngor Gwynedd:

  • Yn caniatáu  dim disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
  • Yn caniatáu dim disgownt ac yn codi premiwm o 100% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
  • yn caniatáu dim disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn codi premiwm 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cyngor llawn ym mis Rhagfyr wedi penderfynu gohirio penderfynu ar y Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hir dymor. Nodwyd fod y Cyngor wedi gofyn i’r Cabinet gynnal ymgynghoriad ar y priodoldeb o gynyddu'r lefel i hyd ar 100% yn unol ag Adran 12, 12B a 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

 

Mynegwyd yn ôl Deddf 1992 fod rhaid gwneud unrhyw benderfyniad ar y Premiwm gan y Cyngor llawn cyn dechrau’r flwyddyn ariannol berthnasol ac felly nad oedd modd oedi’r penderfyniad. Amlygwyd y cyd-destun gan amlygu rheoliadau’r Dreth Cyngor ble mae ‘ail gartrefi’ wedi’u categoreiddio i ddau ddosbarth (A & B) ac fod dosbarth C yn cyfeirio at eiddo gwag. Adroddwyd ar y niferoedd o fewn Gwynedd – 811 o fewn dosbarth A, 4,718 o fewn Dosbarth B, a 1,130 yn y dosbarth C yn Nhachwedd 2020.

 

Nodwyd wrth roi grym i gynghorau i godi Premiwm o hyd at 100% fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau statudol ar gyfer gweinyddu’r Premiwm. Ategwyd fod y canllaw yn amlinellu’r hyn sydd angen ei ystyried gan y Cyngor pan yn bwriadau cyflwyno’r Premiwm.  Nodwyd wrth gyflwyno’r Premiwm yn ôl yn 2016 rhoddwyd sylw i ddau astudiaeth, dadansoddiad manwl a gynhaliwyd yn 2013, ynghyd â’r Strategaeth Dai 2013-16. Nodwyd fod y Cyngor wedi mabwysiadau Strategaeth Dai newydd, ynghyd â dau adroddiad allweddol Gwaith Ymchwil Tai Gwyliau a’r Cynllun Gweithredu Tai, yn y cyfnod ers hynny.

 

Amlinellwyd yr ymatebion a dderbyniwyd o’r ymgynghoriad, gan nodi fod yr ymgynghoriad wedi ei amlygu ar wefannau cymdeithasol ynghyd ag anfon llythyr at bob perchennog ail gartref ac eiddo gwag hirdymor yn eu hysbysu o’r ymgynghoriad. Derbyniwyd 6,227 o ymatebion i’r holiadur ac oddeutu 100 o lythyrau a negeseuon ar wahân. Mynegwyd o’r ymatebion fod 41% yn nodi nad oeddent yn berchen ail gartref, 53% yn nodi eu bod yn berchen ail gartref.

 

Nodwyd fod bron i 4 o bob 5 o’r ymatebwyr sydd yn berchen ail gartref yn credu eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned yn lleol, tra fod 3 o bob 5 o’r ymatebion sydd dim yn berchen ail gartref yn meddwl eu bod yn cael effaith negyddol ar gymunedau lleol. Amlygwyd fod gwahaniaeth barn glir yn cael ei amlygu gyda’r cwestiwn os yw cynyddu’r lefel yn briodol, gyda 61% o’r rhai oedd yn datgan nad oeddent yn berchen ar eiddo sy’n destun y Premiwm yn credu ei fod yn briodol, tra fod 95.5% o berchnogion ail gartrefi yn dagan ei fod yn amhriodol.

 

Tynnwyd sylw at un o’r dadleuon cyffredin gan berchnogion a oedd yn nodi eu bod yn cyfannu at fudd economaidd Gwynedd drwy siopa yn lleol a rhoi gwaith i fasnachwyr lleol. Amlygwyd gan rai ymatebwyr fod eu hail gartrefi wedi bod ym meddiant eu teulu ers nifer o flynyddoedd, ac fod eu hincwm yn gymharol ised ac nad yw’r Dreth Cyngor mor fforddiadwy iddynt ag y mae’r gred gyffredinol yn awgrymu. Amlygwyd fod y dystiolaeth yn amlygu fod bandiau Treth Cyngor ail gartrefi yn dueddol o fod yn uwch na rhai Gwynedd yn gyffredinol.

 

Nodwyd pan wnaethpwyd y penderfyniad gwreiddiol i godi Premiwm, adnabuwyd y risg o bosibilrwydd o nifer o eiddo yn trosglwyddo i fod yn unedau gwyliau hunan ddarpar, sy’n destun ardrethi annomestig. Amlygwyd risg y buasai cynyddu’r Premiwm yn cymell mwy o berchnogion i osod eu heiddo a’i drosglwyddo i’r rhestr ardrethi. Mynegwyd fod y ffigyrau diweddaraf yn dangos dos 2,106 o eiddo wedi trosglwyddo o’r rhestr Treth Cyngor i’r rhestr Ardrethi Annomestig, a bod 90% o’r rhain yn derbyn rhyddhad ardrethi llawn i fusnesau bychain sy’n golygu nad oes unrhyw drethiant lleol yn daladwy. Mynegwyd gan nifer uchel o ymatebwyr fod yr eiddo wedi ei etifeddu, ac nad oedd ganddynt awydd i ddechrau ei osod yn fasnachol.

 

Amlygwyd fod profiadau diweddar wrth weinyddu grantiau busnes Covid-19 y Llywodraeth wedi dangos fod nifer uchel o unigolion a chwmnïau yn prynu eiddo yng Ngwynedd yn benodol gyda’r bwriad o’u trosi i fod yn unedau gwyliau yn hytrach na’u defnyddio fel ail gartref. Nodwyd fod yr eiddo sydd wedi ei drosglwyddo i fod yn unedau gwyliau hunan-ddarpar ers 1 Ebrill 2018 mewn bandiau is, ac yn agosach i ddarlun cyffredin stoc dai Gwynedd. Pwysleisiwyd ar gyfartaledd fod dros 400 eiddo y flwyddyn wedi ei golli o’r bandiau Teth Cyngor, sydd yn golled o £286,000 o gynnych Premiwm y flwyddyn.

 

Wrth edrych ar anheddau gwag hirdymor, nodwyd fod rhai perchnogion ail gartrefi wedi nodi fod angen canolbwyntio i  gynyddu’r Premiwm ar eiddo gwag hirdymor, gan mai rhain sy’n achosi problemau cymdeithasol go iawn. Amlygwyd fod nifer eiddo gwag hir-dymor yn gymharol isel o’i gymharu ag ail gartrefi. Esboniwyd mewn cymhariaeth â’r ail gartrefi gwelir fod eiddo gwag hirdymor o fewn Gwynedd yn dueddol o fod mewn bandiau Treth Cyngor is na stoc tai cyffredinol yng Ngwynedd.

 

Nodwyd fod y Cyngor, yn unol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wedi mabwysiadu amcanion llesiant a pwysleisiwyd fod y Strategaeth Tai wedi cydblethu gyda’r amcanion. Amlygwyd yn ogystal fod y Cyngor yn hyderus fod Aelodau a swyddogion wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau fod unrhyw gamau sydd wedi eu cymryd wedi gwneud er mwyn cydymffurfio a gofynion deddfwriaethol.  Nodwyd hefyd fod Asesiad Ardrawiad Cydraddoldeb wedi ei baratoi  a fod angen rhoi sylw i’r canfyddiadau a dylestswyddau dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 wrth ddod i benderfyniad

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd fod 11% o stoc tai y sir bellach yn ail gartrefi ac fod y sefyllfa yn gwaethygu o ganlyniad i nifer o bobl yn gweithio o’i cartrefi, ac felly ddim yn gorfod byw yn y ddinasoedd mawr. Nodwyd fod angen darparu y sir orau i’n trigolion ac i dwristiaid, ac felly angen cefnogi codi’r Premiwm 100% i sicrhau tai a chefnogaeth i drigolion Gwynedd.

¾     Nodwyd fod yr Adroddiad ar Ail-Gartrefi yng Ngwynedd wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, ac mae’r Gweinidog wedi croesawu’r adroddiad ac am wneud ymchwil pellach ynghyd ag wedi atgoffa’r Cyngor o’r gallu i godi Premiwm ar Ail Gartrefi.

¾     Mynegwyd fod yr adroddiad yn ymateb i argyfwng tai, ond amlygwyd fod angen ymwelwyr i sicrhau fod yr economi yn ffynnu, er mwyn i gymunedau gael budd. Tynnwyd sylw at yr arsylwad fod ail gartrefi yn rhoi budd i’r economi, ond holwyd beth fuasai’r budd os y buasai’r annedd yn cael ei ddefnyddio llawn amser.

¾     Nodwyd fod y sefyllfa yn gymhleth gan amlygu, gydag eiddo gwag hir dymor, fod pob achos yn dueddol o fod yn unigryw ac efallai ei bod yn syniad cynnal sgwrs gyda’r perchnogion i drafod sut y bydd modd i’r anheddau gwag fynd yn ôl i ddefnydd.

¾     Diolchwyd am y gwaith a nodwyd fod rhai sylwadau gan unigolion yn honni fod hiliaeth, ond tynnwyd sylw at yr adroddiad cydraddoldeb sydd yn amlygu mai nodweddion yr eiddo yn unig sydd yn penderfynu ar y Premiwm, nid nodweddion unigolion.

¾     Diolchwyd am y nifer uchel o ymatebion ac amlygwyd cydymdeimlad gyda rhai unigolion, ond pwysleisiwyd fod argyfwng tai o fewn y sir. Pwysleisiwyd yr egwyddor fod y Cyngor yn awyddus i drigolion gael cartrefi yn eu cymunedau, i sicrhau cymunedau sydd yn ffynnu. Ategwyd fod tai yn flaenoriaeth ac fod gofyn i sicrhau adnoddau ychwanegol er mwyn gweithredu’r Strategaeth Dai.

¾     Cytunwyd i ganiatáu dim disgownt ac i godi premiwm o 100% ar ail gartrefi dosbarth B a dosbarth C, ac i ganiatáu dim disgownt ar ail gartrefi Dosbarth A.

 

 

Awdur:Dewi Morgan

Dogfennau ategol: