Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas
Penderfyniad:
Cytunwyd i:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan
Thomas
PENDERFYNIAD
Cytunwyd i:
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y bu i’r
Cyngor llawn fabwysiadu Cynllun Asedau ar gyfer cyfnod o 10 mlynedd yn ôl ym
Mawrth 2019. Amlygwyd fod y cynllun yn rhagdybio’r adnoddau y buasai gan y
Cyngor ar gyfer y 10 mlynedd ac yn blaenoriaethu’r holl gynlluniau a gyflwynwyd
gan yr Adrannau. Pwysleisiwyd fod y Cynllun yn un byw a hyblyg ac bod y
sefyllfa adnoddau wedi newid rhyw ychydig ers i’r cynllun gael ei gymeradwyo.
Mynegwyd pan y bu i’r Cynllun gael ei
baratoi roedd ymwybyddiaeth o’r posibilrwydd y byddai yna gynlluniau ychwanegol
yn dod i’r amlwg a cytunwyd i roi £0.5m y flwyddyn o’r neilltu er mwyn cyfarch
y gofynion ar gyfer cynlluniau bychan yn bennaf. Ategwyd fod cynlluniau
sylweddol angen ystyriaeth ar gyfer 2021/22. Tynnwyd sylw at Ganolfan Dolfeurig yn Nolgellau gan esbonio pan ystyriwyd y cynllun
yn gyntaf gofynnwyd am £1.2m, ond yn dilyn gwneud gwaith pellach fod y costau
yn nes at £1.8m.
Amlygwyd y galw am unedau diwydiannol ar
draws sir dros y blynyddoedd diwethaf, ac er fod y Cynllun Twf Gogledd Cymru yn
sicrhau safleoedd strategol nodwyd yr angen am unedau llai i gyfarch y galw yn
lleol. Ar sail fod uned yn costio oddeutu £200,000 yr un heb gost am dir,
gofynnwyd am gefnogaeth y Cabinet i ychwanegu arian i’w sicrhau.
Mynegwyd yn wreiddiol fod y Cyngor wedi
rhagweld y buasai angen gwario £1.6m ar adfer promenâd yn Abermaw yn dilyn
difrod. Ychwanegwyd yn dilyn gwneud gwaith llawer mwy manwl amlygwyd fod y gost
o adfer yn debygol o fod rhwng £16m a 22.5m, a olygai y bydd angen i’r Cyngor
ddarganfod £3.75m fel cyfraniad er mwyn cyflawni’r gwaith.
Bu i’r Cabinet yn Hydref 2017 gytuno i brynu
darn o dir ger ysgol gynradd Llanrug rhag ofn y byddai ei angen at ddibenion
addysgol i’r dyfodol. Nodwyd erbyn hyn mai dim ond elfen o’r tir fyddai ei
angen a byddai modd ad-ennill elfen o’r gost drwy werthu’r tir a darnau o’r tir
ar gyfer tai fforddiadwy ond amlygwyd y byddai bwlch tebygol angen ei ariannu.
Esboniwyd ers cymeradwyo’r cynllun fod y
Cyngor wedi derbyn amrywiol grantiau fel bod modd eu defnyddio yn hytrach na’
defnyddio adnoddau o’r Cynllun Asedau, ac ynghyd a setliad cyfalaf uwch na’r
hyn y rhagdybiwyd mae dros £5.5m ar gael i’r Cabinet i ystyried sut i’w
ddefnyddio.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Rhoddwyd
cefnogaeth i Ganolfan Dolfeurig, gan fod wir angen
adeilad newydd ac yn ased wych ar gyfer de y sir.
¾
Nodwyd
cefnogaeth i adeiladau diwydiannol gan fod angen cefnogaeth benodol ar gyfer
busnesau bach.
¾
Mynegwyd
o ran Prom Abermaw yn dilyn gwaith pellach fod wir
angen gwneud y gwaith sicrhau fod y cyngor yn cadw y trigolion yn saff, ond
amlygwyd y pwysau ychwanegol sydd ar gynghorau arfordirol i ariannu y gwaith
o’r math hwn.
Awdur:Dilwyn Williams
Dogfennau ategol: