Agenda item

 

I dderbyn yr wybodaeth, ystyried risgiau sy’n deillio o’r tafluniadau gwariant yn erbyn y gyllideb, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

Penderfyniad:

Derbyn y wybodaeth

Derbyn penderfyniad y Cabinet (26/01/21) yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor am 2020/21, a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol.

 

Nodwyd bod effaith ariannol Covid19 yn sylweddol i’r Cyngor -  yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion gan fod blaenoriaethau eraill dros gyfnod yr argyfwng. Ategwyd bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu cronfa caledi tuag at ddigolledu costau a cholledion incwm Awdurdodau Lleol. Amlygwyd yng Ngwynedd bod ceisiadau misol gwerth dros £7.1 miliwn wedi eu cyflwyno gan y Cyfrifwyr i Lywodraeth Cymru, i ddigolledu’r Cyngor am y gwariant ychwanegol am y cyfnod hyd at ddiwedd Tachwedd, gyda chyllid o bron i £6 miliwn eisoes wedi ei dderbyn.

 

Adroddwyd, o ran colledion incwm, roedd y ceisiadau am hanner cyntaf y flwyddyn ariannol dros £5.1 miliwn, gyda £4.8 miliwn eisoes wedi ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru. Mae gwaith ar chwarter 3 wedi ei gwblhau gan y Cyfrifwyr ac wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ganol Ionawr.

 

Amlygwyd bod pwysau amlwg ar yr  adrannau eleni ac fel sydd wedi ei rybuddio ym mhob adolygiad ers diwedd Awst 2019, mae problemau gwireddu arbedion yn cynyddu ac yn ffactor sydd yn cyfrannu at orwariant yn y meysydd megis Plant, Oedolion a Phriffyrdd a Bwrdeistrefol.

 

Tynnwyd sylw at dalfyriad o sefyllfa derfynol yr holl adrannau gyda’r rhagolygon wedi eu datgan gyda a heb y cymorth grant Covid19 gan y Llywodraeth, fel bod modd gweld yr effaith ar y gwahanol adrannau. Amlygwyd y prif faterion canlynol:

 

·         Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant - mae effaith Covid19 wedi cael ardrawiad sylweddol ar yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant eleni sydd werth dros £3 miliwn erbyn diwedd Tachwedd. Heb ystyried ardrawiad Covid19, rhagwelir gorwariant o £3.3 miliwn eleni gyda methiant i gyflawni arbedion gwerth £1.8 miliwn yn cyfrannu at y sefyllfa.

 

·         Adran Plant a Theuluoedd - rhagwelir gorwariant o £2.5 miliwn ar gyfer yr Adran. Mae methiant i wireddu £688k o arbedion yn cyfrannu at y sefyllfa. Mae’r ystadegau diweddaraf yn cadarnhau y bu cynnydd pellach yn y galw am wasanaethau, yn arbennig felly yn y maes lleoliadau ac Ôl-16. Mae’r sefyllfa o gynnydd yn y gwariant yn y maes plant yn bryderus.

 

·         Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol - problemau gorwariant yn y maes casglu a gwaredu gwastraff yn parhau. Trafferthion gwireddu arbedion mewn nifer o feysydd gwerth £811k. Mae’r adran hefyd wedi wynebu costau ychwanegol yn ymwneud â Covid19 i gydymffurfio efo’r rheolau, gyda Llywodraeth Cymru eisoes wedi digolledu am fisoedd cychwynnol a disgwyliad y byddant yn parhau i ddigolledu am weddill y flwyddyn.

 

·         Corfforaethol - rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb 2020/21 yn gyfrifol am gynnyrch treth ychwanegol ar Dreth Cyngor a hefyd yn cyfrannu at y tanwariant ar Ostyngiadau Treth Cyngor. Tanwariant net ar gyllidebau yn cynnwys costau cyfalaf a dychwelyd bidiau.

 

Cyfeiriwyd at benderfyniad, y Cabinet (26 Ionawr 2020)  i dderbyn yr argymhellion a diolchwyd i Lywodraeth Cymru am y gefnogaeth

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â gorwariant yr Adran Plant a Theuluoedd gyda rhagolwg am orwariant pellach, nododd y Pennaeth Cyllid bod nifer lleoliadau plant yn uwch gyda mwy o blant mewn gofal a’r nifer yn dwysau mewn argyfwng.  Amlygodd bod natur y gofal yn wahanol ac yn ddrutach ac felly anodd cyflawni arbediad. Ategodd mai’r gobaith, yn dilyn yr argyfwng, yw gweld llai o gyfyngiadau, y llysoedd yn ail agor a’r nifer achosion yn lleihau. Bydd hyn o ganlyniad yn arwain at welliant a lleihad yn y gwariant. Nododd bod trafodaethau hefyd yn cael eu cynnal gydag Awdurdodau tebyg i geisio datrysiadau i’r sefyllfa i’r dyfodol.

 

            Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y materion a ganlyn gan Aelodau:

·         Bod gorwariant rhai adrannau yn hanesyddol

·         Bod yr argyfwng yn gyfnod heriol ac anodd i blant a theuluoedd - problemau yn annhebyg  o ddiflannu dros nos

·         Ategu diolch i Lywodraeth Cymru am yr arian ychwanegol

·         Ategu diolch i holl staff yr adrannau am gwblhau’r ceisiadau am gymorth ariannol ychwnawegol

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â  phenderfyniad y Cabinet igael gwell dealltwriaetho’r materion sydd ynghlwm â gorwariant  sylweddol yr Adran Oedolion a Llesiant ac Adran Plant a Theuluoedd, ac os oedd amserlen wedi ei gosod ar gyfer hyn, nodwyd bod gwaith wedi dechrau ond wedi methu a pharhau oherwydd blaenoriaethau a godwyd yn sgil yr argyfwng. Ategwyd bod systemau newydd mewn lle sydd yn casglu gwybodaeth yn well ac felly ymwybodol o’r angen i gydweithio gyda’r adrannau i ystyried a dadansoddi’r ystadegau.

 

          PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn y wybodaeth

·         Derbyn penderfyniad y Cabinet (26/01/21) yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

 

 

Dogfennau ategol: