Agenda item

 

Craffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet argymell cyllideb 2021/22 i’r Cyngor llawn

Penderfyniad:

Derbyn y wybodaeth a chymeradwyo’r gyllideb y bwriedi’r ei argymell gan y Cabinet (16/02/21) i’r Cyngor Llawn

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid yn nodi fod y Cyngor eleni wedi derbyn cynnydd grant oedd yn cyfarch chwyddiant ac yn setliad tecach na fu yn y blynyddoedd diwethaf. Tynnwyd sylw at y penderfyniad a geisir gan y Cabinet yn ei gyfarfod (16/02/21) ar angen i’r Pwyllgor graffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet ei argymell i’r Cyngor Llawn ym mis Mawrth 2021. Ategwyd bod y penderfyniadau a geisir yn rhai fyddai’n caniatáu ariannu cynnydd anorfod mewn costau rhai gwasanaethau craidd ynghyd a chodi’r Dreth 3.7%. Pwysleisiwyd fod codi’r dreth yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn gwasanaethau hanfodol i drigolion Gwynedd gan y bydd yn anymarferol i weithredu cynlluniau arbedion ychwanegol eleni. Adroddwyd bod mwyafrif o aelodau’r Cyngor wedi mynychu cyfres o weithdai ymgynghori.

 

Nodwyd erbyn 2021/22 y bydd angen cynyddu gwariant i £10.6m er mwynsefyll yn llonydd’, gan gynnwys £3.6m i gwrdd â phwysau gyllidebau’r gwasanaethau. Esboniwyd i gyfarch y bwlch ariannol, y gellid cynaeafu £725k yn 2021/22 o’r cynlluniau arbedion ond y bydd angen cynyddu’r dreth Cyngor 3.7%.

 

Ategwyd fod ffigyrau swyddogol Llywodraeth Cymru yn dangos fod y Cyngor yn derbyn cynnydd grant o £6.4m erbyn y flwyddyn nesaf sy’n gynnydd o 3.4% ac y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r setliad grant terfynol ar yr 2il Mawrth 2021, ynghyd a chyllideb derfynol Llywodraeth Cymru. Amlygwyd y gwariant refeniw gan dynnu sylw bod chwyddiant cyflogau staff yn £3.5m, ynghyd a darparu cynnydd tal i staff ar gyflogau £24,000 neu is, a chynnydd tal o 3.1% i athrawon ysgolion Gwynedd am y cyfnod Ebrill - Awst 2021.

 

Mynegwyd fod chwyddiant arall yn £2.6m yn cynnwys darpariaeth ar gyfer effaith y ‘cyflog bywynghyd a chynnydd chwyddiant ar gyllidebau tanwydd ac ynni a chynnydd mewn prisio yn dilyn ail-dendro. Amlygwyd bod bidiau wedi ei derbyn gan adrannau’r Cyngor o £3.6m am adnoddau parhaol ychwanegol i gwrdd â phwysau anorfod ar wasanaethau.

 

Tynnwyd sylw at y cynllun arbedion gan egluro y  bydd cyfanswm net o £725k o arbedion i’w defnyddio i leihau bwlch ariannu cyllideb 2020/21. Golygai hyn byddai bwlch gweddilliol o £77m, ac argymhellwyd cyfarch y bwlch hwnnw drwy’r Dreth Cyngor. Bydd angen codi’r Dreth 3.7% er mwyn cynhyrchu incwm digonol gan osod cyllideb net o £271,751,360. Adroddwyd y byddai’r dreth a godir gan yr Awdurdod Heddlu (cynnydd o 5.14% ar gyfer 2021/22) a’r cynghorau cymuned (% amrywiol) yn ychwanegol i hyn. Mynegwyd, pe bai aelodau’r Cyngor awydd cynnydd llai na 3.7% yn lefel y Dreth, yna byddai rhaid gwario llai ar wasanaethau. Atgoffwyd yr Aelodau o’r opsiwn a drafodwyd yn y gweithdai aelodau lle mynegwyd peidio ariannu rhai o’r bidiau refeniw parhaol ‘Categori 2’ (oedd wedi ei rhestru yn yr adroddiad). Derbyniwyd bod y dewis rhwng cynnal gwasanaethau a threthu o hyd yn un anodd, ond o ran cymhariaeth, ar gyfer 2021/22 nodwyd bod cyfartaledd o gynnydd treth yr awdurdodau lleol eraill ledled Cymru yn debygol o fod tua 4.1%, gyda’r cynnig gerbron i godi’r dreth 3.7% yn lefel tebyg i fwyafrif yr awdurdodau yn y gogledd.

 

Ategodd y Pennaeth Cyllid ei ddiolch i’r Aelodau hynny a fynychwyd y gweithdai. Tynnwyd sylw at atodiad 10 o’r adroddiad oedd yn manylu ar gadernid yr amcangyfrifon oedd yn sail i’r gyllideb ynghyd a’r risgiau posib a’r camu lliniaru. Roedd y Pennaeth Cyllid o’r farn fod y gyllideb yn gadarn, digonol a chyraeddadwy

 

Mewn ymateb i gwestiwn yng nghyd-destun risg llog isel a datganiad gan Arlinglose na fydd angen gweithredu  llog negyddoler bod awgrym diweddar gan fanciau y bydd hyn mewn lle erbyn mis Gorffennaf, nododd y Pennaeth Cyllid bod trafodaethau pellach i’w cynnal gydag Arlingclose ac yn unol â Strategaeth Fuddsoddi’r’ Cyngor nid yw’r gyllideb yn dibynnu ar ddychweliadau rhy uchel er bod pob ymgais yn cael ei wneud i geisio gwell dychweliadau ar gronfeydd ecwiti ac eiddo sydd yn gweithredu’n well.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chategori 2 (sef bidiau sydd yn amodol ar gynnydd yn y dreth incwm o 3.7%), cadarnhawyd mai gwariant newydd oedd yma ac nid toriad ar y gwasanaeth. Ategwyd bod atodiad 2a yn amlinellu bidiau sydd eu hangen gan yr adrannau i gyflawni lefel gwasanaeth, ond bod bidiau categori 2 yn anorfod er yr angen amdanynt i barhau gyda lefel gwasanaeth cyfredol. Derbyniwyd bod y sefyllfa yn un anodd ond awgrymwyd wrth beidio cynnig mwy i’r gwasanaeth byddai’n arwain at elfen o dorri yn y dyfodol.

 

 

          PENDERFYNWYD

           

·         Derbyn y wybodaeth a chymeradwyo’r gyllideb y bwriedi’r ei argymell gan y Cabinet (16/02/21) i’r Cyngor Llawn

 

Dogfennau ategol: